Agenda item

Strategaeth Cyfalaf 2023-24 Ymlaen

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn cyflwyno Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023-24 i’r Cabinet (yn Atodiad A yr adroddiad), a oedd yn cynnwys Dangosyddion Darbodus, a’r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw Blynyddol 2023-24 (Adran 7 o Atodiad A), cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, cadarnhaodd ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu Strategaeth Gyfalaf sy’n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd wrth wneud y penderfyniadau hyn.

 

Mae'r Strategaeth yn nodi cynllun y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, a sut y caiff hynny ei ariannu, dros y 10 mlynedd nesaf. Wrth wneud penderfyniadau buddsoddi hirdymor, mae'n hollbwysig bod penderfyniadau'n seiliedig ar wybodaeth glir, gan gynnwys cynllun hirdymor o gynlluniau rheoli. Lle mae angen buddsoddiad cyfalaf i gyflawni blaenoriaethau'r cyngor, y Strategaeth yw'r fframwaith y gall y Cyngor ddibynnu arno i ddatblygu proses glir, gyson a gwybodus wrth wneud penderfyniadau buddsoddi cyfalaf.

 

Mae'r ddogfen yn rhan annatod o gyllideb a fframwaith polisi'r Cyngor ac yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau'r Cyngor.

 

Roedd 13 egwyddor sy'n llywio penderfyniadau cyllideb a gwariant y Cyngor hwn, gyda thair ohonyn nhw’n cyfeirio'n benodol at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Y rhain oedd:

 

• mae penderfyniadau buddsoddi cyfalaf yn cyd-fynd â strategaeth gyfalaf y cyngor ac yn lliniaru unrhyw risgiau statudol gan ystyried adenillion ar fuddsoddiad a gwerthusiad cadarn o’r opsiynau;

 

• defnyddir benthyca darbodus i gefnogi'r rhaglen gyfalaf dim ond lle mae'n fforddiadwy ac yn gynaliadwy o fewn terfynau benthyca cyffredinol y cyngor a'r gyllideb refeniw dros y tymor hir;

 

• mae penderfyniadau ar drin asedau dros ben yn seiliedig ar asesiad o'r cyfraniad posibl i'r gyllideb refeniw a'r rhaglen gyfalaf.

 

Roedd y Strategaeth Gyfalaf hefyd yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn, ychwanegodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid :

 

• mae buddsoddiad cyfalaf yn canolbwyntio ar gyflawni amcanion a blaenoriaethau lles y Cyngor.

• sicrhau llywodraethu cadarn wrth wneud penderfyniadau.

• sicrhau bod cynlluniau cyfalaf yn fforddiadwy, cynaliadwy a darbodus

• hyrwyddo'r defnydd gorau o'r cyllid sydd ar gael.

 

Roedd y Cynllun yn manylu ar sut y bydd unrhyw fuddsoddiadau arfaethedig mewn tir ac adeiladau yn gofyn am gwblhau astudiaeth ddichonoldeb lawn i werthuso ymarferoldeb y prosiect cyfalaf, ac i asesu pa mor ymarferol ydy cyflawni hyn cyn i'r Cyngor fuddsoddi amser ac arian yn y prosiect hwnnw.

 

Nododd y Strategaeth fod nifer o feysydd arwyddocaol y bydd angen eu hariannu yn y dyfodol, gan gynnwys adferiad economaidd, datgarboneiddio a digartrefedd, digideiddio ac amddiffynfeydd arfordirol. Fel yr adroddwyd i’r Cyngor drwy gydol y flwyddyn hon, mae pwysau ariannol eraill hefyd yn codi o ganlyniad i’r pandemig a Brexit, sydd i’w gweld mewn cynlluniau presennol, a rhagwelir y bydd hyn yn parhau am beth amser wrth symud ymlaen. Mae’r pwysau’n cynnwys anawsterau yn y gadwyn gyflenwi ac mae hyn yn arwain at brisiau uwch ac oedi cyn cwblhau cynlluniau.

 

Mae'r Strategaeth hefyd yn cyfeirio at y newidiadau o ran y gallu i fenthyca gan y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus mewn perthynas â benthyca i fuddsoddi yn bennaf ar gyfer enillion ariannol. Wrth geisio benthyca gan y PWLB, gofynnir i awdurdodau gadarnhau nad oes unrhyw fwriad i brynu asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer elw yn y flwyddyn gyfredol na'r ddwy flynedd ariannol nesaf. Er nad oedd hyn yn atal y Cyngor rhag buddsoddi mewn gweithgareddau masnachol, byddai buddsoddi mewn asedau ar gyfer elw yn unig yn atal yr awdurdod rhag cael mynediad at fenthyciadau PWLB. Gan y bydd angen i'r Cyngor fenthyca i gefnogi rhaglen band B Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a'r rhaglen gyfalaf ehangach, bydd hyn yn ei atal rhag buddsoddi mewn tir neu eiddo, dim ond er mwyn sicrhau elw ariannol.

 

Yn adran tri o'r Strategaeth, ceir manylion sy'n amlinellu'r broses gadarn sydd yn ei lle i gymeradwyo, rheoli a monitro prosiectau cyfalaf. Fel y g?yr y Cabinet, mae adroddiadau monitro cyfalaf chwarterol yn cael eu paratoi ar gyfer y Cabinet a'r Cyngor, sy'n cynnwys manylion unrhyw amrywiadau rhwng prosiectau yn ogystal â rhagamcanion o wariant tebygol diwedd blwyddyn.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, fod y Cyngor yn cynllunio gwariant cyfalaf o £69 miliwn yn 2023 - 2024 a chrynhoir hyn yn Nhabl Dau yn y Strategaeth Gyfalaf. Roedd y prif brosiectau cyfalaf i’w cyflawni yn y cyfnod hwnnw wedi’u manylu yn y Strategaeth, gyda’r rhaglen gyfalaf 10 mlynedd arfaethedig fanwl i’w gweld yn Atodiad 2.

 

Roedd gan y Cyngor nifer o ffrydiau ariannu ar gael i gefnogi buddsoddiad cyfalaf a manylwyd ar y rhain yn Atodiad un y Strategaeth Gyfalaf. Derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru tuag at gost cyfalaf ac mae’r cyllid hwn yn cael ei flaenoriaethu tuag at fuddsoddiad sydd ei angen i gwrdd â gofynion iechyd a diogelwch.

 

Roedd dau brif fath o fenthyca i dalu am fuddsoddiad cyfalaf, sef:

 

• Benthyca â chymorth - mae costau gwasanaethu’r ddyled wedi’u cynnwys yn y grant cynnal refeniw blynyddol a dderbynnir yn bennaf gan y  llywodraeth, a

 

• benthyca digymorth - y mae'n rhaid talu'r gost hon o gyllideb refeniw'r Cyngor

 

Yn olaf, dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid, fod yn rhaid i'r Cyngor yn flynyddol roi o'r neilltu ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu dyled allanol. Gelwir hyn yn isafswm darpariaeth refeniw. Mae angen i'r MRP gael ei gymeradwyo gan y Cyngor cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a dangoswyd y datganiad polisi mewn perthynas â hyn yn Adran 7 o'r Strategaeth Gyfalaf.

 

Wrth gytuno ar Raglen Gyfalaf y Cyngor, roedd angen i Aelodau fod yn ymwybodol o effaith cynlluniau cyfalaf ar y gyllideb refeniw a fyddai’n cynnwys:

 

• Costau gweithredu neu gynnal ased newydd;

 

• costau cyllido cyfalaf gwasanaethu unrhyw fenthyca sydd ei angen i dalu am fuddsoddiad;

 

• costau refeniw paratoi a chyflawni prosiectau.

 

Gorffennodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid drwy gadarnhau bod y canran o gyllideb refeniw'r Cyngor sydd wedi'i ymrwymo i gostau cyllido cyfalaf yn cynyddu yn y tymor hir o ystyried y pwysau ar gyllidebau refeniw. Roedd hyn yn cyfyngu ar fforddiadwyedd blaenoriaethau eraill yn y blynyddoedd i ddod a dylai fod yn ffactor a ystyrir gan y Cabinet wrth benderfynu ar y Rhaglen Gyfalaf.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Adnoddau fod adroddiad ar y Strategaeth Gyfalaf wedi’i ystyried drwy broses Trosolwg a Chraffu’r Cyngor. Croesawodd y gwerthusiad o brosiectau wrth symud ymlaen a gofynnodd a fyddai’n ofynnol i’r Awdurdod fenthyca arian ar gyfer unrhyw un o brosiectau cyfalaf arfaethedig y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn debygol y byddai’n rhaid i’r Cyngor fenthyca er mwyn cefnogi rhai prosiectau dros y 3 blynedd nesaf, er bod hyn yn dibynnu ar gyflawni’r Rhaglen o fewn amserlenni strwythuredig. Fodd bynnag, byddai lefel unrhyw fenthyca yn cael ei fonitro'n ofalus ac ni fyddai benthyca o'r fath yn cael ei wneud oni bai bod angen gwneud hynny.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet - Addysg bod lefel y gwariant sy’n cael ei ymrwymo i raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain y Cyngor yn sylweddol. Teimlai fod y rhaglen yn seiliedig ar les ac yn un a oedd yn cefnogi'r rhai llai ffodus mewn cymdeithas.

 

Cydnabu'r Aelod Cabinet – Cymunedau y gwaith sy’n cael ei gynllunio yn caniatáu mynediad ar gyfer chwarae i bob plentyn mewn meysydd chwarae/mannau a blaenoriaethu gwaith strwythurol ar y priffyrdd.

 

Canmolodd yr Arweinydd ymagwedd y Cyngor at astudiaethau dichonoldeb a gynhaliwyd mewn perthynas â phrosiectau gwariant cyfalaf mawr fel dull cadarnhaol o flaengynllunio ar gyfer cynlluniau yr ymgymerwyd â nhw o flaen llaw. Cydnabu hefyd fod angen i’r Cyngor ystyried ‘unrhyw wersi a ddysgwyd’ o brofiadau blaenorol wrth fabwysiadu prosiectau cyfalaf yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn argymell bod Strategaeth Gyfalaf 2023-24 hyd at 2032-33 gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2023-24 hyd at 2025-26 a Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw Blynyddol (MRP) 2023-24 yn Atodiad A, yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor i’w gymeradwyo.

Dogfennau ategol: