Agenda item

CYNLLUN CORFFORAETHOL 2023-28

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi diweddariad ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2023-28, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 1 Mawrth 2023.

 

Esboniodd fod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2023-2027 y Cyngor yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor i’w chymeradwyo ar 1 Mawrth 2023 ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol 2023-28 sydd wedi’i ddiweddaru. Mae’r ddwy ddogfen yn cyd-fynd â’i gilydd, gan alluogi’r darllenydd i wneud cysylltiadau amlwg rhwng amcanion llesiant y Cyngor a’r adnoddau a gyfeirir atyn nhw i’w cefnogi.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn datgan bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, a bod angen cymryd camau penodol er mwyn cyflawni hynny.

 

Roedd paragraff 3.3 yr adroddiad yn cadarnhau bod 7 nod llesiant ar gyfer Cymru yn cael ei nodi yn y Ddeddf uchod ai bod  hi’n ofynnol i’r Cyngor ddangos ei gyfraniad at bob un o’r nodau hyn. Rhestrwyd y nodau llesiant hyn yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai’r Cynllun Corfforaethol oedd prif gyfrwng y Cyngor ar gyfer arddangos a chyfathrebu’r blaenoriaethau i bobl a busnesau lleol. Roedd hefyd yn rhan bwysig o'r fframwaith sicrwydd ar gyfer ei rheoleiddwyr. Mae Archwilio Cymru yn bwriadu sefydlu dulliau o brofi sut mae’r Cynllun Corfforaethol yn cael ei weithredu (yn enwedig felly'r amcanion llesiant) ledled Cymru dros y 6 mis nesaf, a dyna pam y mae’r Cynllun mor greiddiol bwysig.

 

Roedd yr adborth ymchwil a’r cysylltu cynnar a wnaed wedi cyfuno set o egwyddorion drafft ac amcanion llesiant. Roedd y rhain yn rhan o’r ymgynghoriad cyllideb blynyddol a’r arolwg staff, a thrafodwyd y rhain ag Aelodau’r Cabinet, a’r grwpiau gwleidyddol.

 

Roedd yr egwyddorion a'r amcanion lles hyn wedi'u dwyn ynghyd yn y Cynllun Corfforaethol drafft sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Corfforaethol drafft yn gryno ac yn hygyrch gydag iaith syml. Roedd defnydd eang o ffeithluniau (er y bydd y rhain yn cael eu paratoi gan y dylunwyr yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor) gyda ffocws ar egwyddorion / ffyrdd o weithio yn ogystal â'r amcanion o ran lles. Mae ffocws trwy gydol yr adroddiad ar y sefyllfa ariannol a'r angen am newid, rhoi’r trigolion yn gyntaf a gwella atebolrwydd a chyfathrebu yn ogystal â  sefydlu cyfrifoldeb personol / cymunedol ochr yn ochr â gwasanaethau'r Cyngor. Yn fyr, roedd y Cynllun wedi’i osod yn gliriach; yn gryno ond yn amlygu’r wybodaeth berthnasol ac felly'n haws ei ddarllen a'i ddeall na'r fersiynau blaenorol.

 

Byddai manylion am yr amcanion a'r dangosyddion perfformiad (neu ganlyniadau allweddol) sy'n deillio o'r Cynllun Corfforaethol, yn rhan o Gynllun Cyflawni'r Cynllun Corfforaethol, i'w baratoi ochr yn ochr â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ym mis Mawrth ac Ebrill 2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod newidiadau sylweddol wedi’u gwneud i’r Cynllun Corfforaethol ers y cysylltu cychwynnol â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol er mwyn adlewyrchu safbwyntiau’r Pwyllgor a safbwyntiau staff a phreswylwyr. Manylwyd ar y rhain ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad.

 

Yn eu tro, canmolodd Aelodau’r Cabinet y Cynllun Corfforaethol, yn enwedig o ran yr elfen o gysylltu â phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y ddarpariaeth o fewn y Cynllun. Darpariaeth oedd yn cyflwyno dosbarthiadau fel hyfforddiant hunanamddiffyn i ferched, cefnogi gofalwyr di-dâl, rhoi cyhoeddusrwydd i’n hawliau tramwy cyhoeddus. Roedd hefyd yn sôn am y ddarpariaeth i hyrwyddo ymarfer corff am resymau iechyd a lles, hyrwyddo cynlluniau i leihau newid hinsawdd, gwella mannau chwarae i blant a cheisio buddsoddi ymhellach mewn cynlluniau ailgylchu. Roedden nhw hefyd yn cefnogi'r cysylltu â fu gyda rhanddeiliaid allweddol a thrigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bartneriaid y Cyngor am gyfrannu at y Cynllun a'i siapio, gan gynnwys yr Aelodau hynny a gyfrannodd trwy broses Trosolwg a Chraffu'r Awdurdod.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, y byddai Cynllun Cyflawni yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Cyngor, gyda’r nod o fonitro a mesur canlyniadau ac amcanion Cynllun Gweithredu’r Cynllun Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2023-28 ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad a’i argymell i’r Cyngor i’w gymeradwyo ar 1 Mawrth 2023.

Dogfennau ategol: