Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2023-24 hyd at 2026-27

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, er mwyn cyflwyno i'r Cabinet y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod 2023-24 i 2026-27. Roedd hyn yn cynnwys:

 

• Rhagolwg ariannol ar gyfer 2023 i 2027;

• Cyllideb refeniw fanwl ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod; a

• y rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2022 - 2023 hyd at 2032 - 2033

 

Mae’r Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn nodi blaenoriaethau gwasanaeth ac adnoddau’r Cyngor ar gyfer y pedair blynedd ariannol nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar 2023-2024.

 

Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu’r egwyddorion a’r rhagdybiaethau manwl sy’n llywio penderfyniadau’r gyllideb a gwariant y Cyngor. Mae’n amlinellu’r cyd-destun ariannol y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddo ac yn ceisio lliniaru unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen tra ar yr un pryd yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd sy’n codi.

 

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sut mae’r cyngor yn bwriadu ymateb i’r pwysau cynyddol ar wasanaethau’r sector cyhoeddus, a waethygwyd yn ystod y pandemig COVID-19, ac yn syth ar ôl hynny, gan yr argyfwng costau byw presennol. Mae’n nodi’r dulliau a’r egwyddorion y bydd y cyngor yn eu dilyn i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ariannol gynaliadwy ac yn cyflawni’r amcanion llesiant corfforaethol

 

Mae’r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid yn adrodd yn ôl yn chwarterol i’r Cabinet yn ystod y flwyddyn ariannol hon ar y sefyllfa refeniw sy’n cael ei ragamcanu ar gyfer 2022/2023. Bydd yn amlinellu’n fanwl yr effaith ar y gyllideb o’r pwysau o ganlyniad i’r costau ychwanegol a wynebir gan y Cyngor drwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i amodau economaidd sy'n gwaethygu, chwyddiant cynyddol a chyfraddau llog yn cynyddu. Adlewyrchwyd y rhain gan gynnydd mewn prisiau, codiadau cyflog uwch na’r disgwyl a chynnydd sylweddol mewn prisiau tendro am nwyddau a gwasanaethau.

 

Nid oedd y setliad ariannol terfynol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru i fod i gael ei gyhoeddi tan ddiwedd y mis hwn. O ganlyniad, mae'r gyllideb hon yn cael ei chynnig ar sail y setliad dros dro a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2022. Er nad ydym yn rhagweld unrhyw newid sylweddol yn y cyllid rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol, bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor yn ddiweddarach.

 

Paratowyd y gyllideb ar ôl ymgynghori ag aelodau etholedig, fforwm cyllideb ysgolion a rheolwyr gwasanaethau. Yn amodol ar y risgiau a nodwyd, roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer rheoli adnoddau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024 a thu hwnt.

 

Roedd Atodiad 3 yr adroddiad yn cynnwys y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fanwl.

 

Roedd adran un o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys trosolwg ariannol o'r Cyngor. Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, y bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod y Cyngor wedi gorfod gwneud gostyngiadau yn y gyllideb yn y blynyddoedd blaenorol ac mae Siart 1 yn y rhan hon o’r adroddiad yn nodi bod gostyngiadau cyllidebol o £73 miliwn wedi’u canfod ers 2010 - 2011. Roedd y rhain yn cynrychioli bron i 23% o gyllideb net y Cyngor yn y flwyddyn gyfredol.

 

Derbyniodd y Cyngor y rhan fwyaf o'i gyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru drwy'r grant cynnal refeniw a chyfran o'r trethi annomestig. Roedd yn bwysig nodi mai dim ond 27% o'r incwm y bydd y Cyngor yn ei dderbyn yn y flwyddyn ariannol gyfredol fydd yn cael ei gyllido drwy Dreth y Cyngor.

 

Ar gyfer 2023 - 2024, roedd hyd yn oed mwy o bwysau o ran costau uwch yn fwy amlwg nag a brofwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae llai o gyfleoedd i dorri gwasanaethau mewn cyfnod ble roedd angen mwy o gymorth i’n haelodau h?n a’r rhai oedd yn fwy agored i niwed yn ein cymdeithas. Yn ogystal, mae disgwyliadau uwch ar y cyngor i fynd i’r afael â digartrefedd wedi cynyddu ac i gyflawni hynny ar sail gynaliadwy dros gyfnodau hirach. Roedd mwy o bwysau hefyd i gryfhau a chefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a hynny mewn cyfnod o gostau cynyddol yn ogystal ag achosion mwy cymhleth ym maes oedolion a gofal cymdeithasol. gwasanaethau plant

 

Yn adran dau o'r MTFS darperir cyd-destun pellach, gwybodaeth sy'n manylu ar y wybodaeth ariannol ac anariannol sydd nodi sefyllfa ariannol y cyngor. Mewn termau real mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2012-2013 gydag elfen gynyddol o’r gyllideb yn gorfod cael ei hariannu gan y dreth y cyngor.

 

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaed ymdrechion pellach i sicrhau mwy o gyfranogiad gan rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r strategaeth hon a'r cynllun corfforaethol. Mae hyn wedi cynnwys:

 

• Ymgymryd ag ymgynghoriad 5 wythnos gyda thrigolion Pen-y-bont ar Ogwr. Pwyslais yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar y meysydd hynny sy’n flaenoriaeth i drigolion, er mwyn galluogi'r Cyngor i adolygu a blaenoriaethu'r gyllideb. Manylwyd ar ganlyniad y broses ymgynghori hon yn Nhabl 5 yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

• Mae'r Cabinet a'r bwrdd rheoli corfforaethol wedi bod yn gweithio gyda'r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (BREP) dros y chwe mis diwethaf i hwyluso'r broses o gynllunio'r gyllideb.

• Roedd yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Ionawr 2023, ac wedi dilyn proses graffu wedyn gan bwyllgorau trosolwg a chraffu'r Cyngor gan arwain at lunio nifer o argymhellion. Mae'r Cabinet wedi ystyried y rhain a rhai argymhellion gan y Panel Ymchwilio a Gwerthuso Cyllideb. Darparwyd ymateb i'r rhain yn Atodiad A i'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Roedd yr ymatebion a dderbyniwyd o’r ymgynghoriad gyda’r cyhoedd yn ogystal a thrafodaethau a gafwyd ac argymhellion gan BREP a Gorolwg a Chraffu wedi cael eu hystyried. Mae’r gyllideb sy’n cael ei argymell wedi’i selio ar y sylwadau a’r argymhellion a dderbyniwyd.

 

Wrth ystyried y sefyllfa ariannol mae’r egwyddorion canlynol bellach yn ffurfio sail i’r gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod:

 

• Bydd y Cyngor yn ceisio amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau;

• Bydd y Cyngor yn ceisio cyfyngu ar dwf gwasanaethau yn y flwyddyn ariannol i ddod;

• Dylid adolygu holl gyllidebau'r Cyngor i adnabod arbedion ar gyfer y flwyddyn i ddod;

• Lle bo modd, bydd gwasanaethau cefn swyddfa yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gostyngiadau mewn gwasanaeth;

• Dylai'r Cyngor ystyried a yw ysgolion yn gallu cyfrannu at yr arbedion cyffredinol sydd eu hangen yn y flwyddyn i ddod; a

• Wrth osod y gyllideb ar gyfer 2023-2024 mae angen ystyried y pwysau a ragwelir ar y gyllideb yn y blynyddoedd ariannol dilynol.

 

Gan ystyried yr uchod, mae’r gyllideb arfaethedig:

 

• Yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed o fewn ardaloedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy gynyddu cyllid i gefnogi gofal cymdeithasol a chynyddu cyllid i gefnogi'r digartref;

• lleihau’r lefel o ostyngiadau yn y gwasanaethau sydd eu hangen yn y flwyddyn i ddod o £600,000;

• lleihau'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o 6% i 4.9% i gydnabod effaith unrhyw gynnydd costau byw ar drigolion y Fwrdeistref Sirol.

 

Wrth gynnig hyn, mae ysgolion wedi cael y dasg o ddod o hyd i ostyngiadau cyllidebol o gyfanswm o 2% o'u cyllideb, i'w canfod cyn belled ag y bo modd o arbedion effeithlonrwydd, er mwyn helpu i fantoli cyllideb y Cyngor. Dylid nodi y bydd y cyngor yn ariannu'r codiadau cyflog a phrisiau y bydd ysgolion yn cwrdd â nhw yn y flwyddyn i ddod yn llawn a byddai hyn yn sylweddol fwy na'r gostyngiad hwn yn y gyllideb. Bydd y risg o ran cyflogau a phrisiau felly yn nwylo'r Cyngor yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

 

Rhoddwyd manylion y cyllidebau ar gyfer gwasanaethau unigol yn adran 2.4 o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, tra bod y drydedd adran  o'r MTFS yn amlinellu sefyllfa ariannol bresennol ar gyfer y Cabinet.

 

O ran y setliad llywodraeth leol dros dro, y prif elfen oedd y cynnydd cyffredinol o 7.9% ledled Cymru. Roedd lledaeniad y cynnydd ledled Cymru yn amrywio o 6.5% i 9.3% ac, ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, roedd cynnydd o 7.7% ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

 

Mae’r setliad yn cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau lleol i barhau i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol wedi dod i ben, ond mae dyraniadau ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf i gefnogi’r cynnydd yn yr hawl i brydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd.

 

Mae'r MTFS hefyd yn modelu sefyllfa ariannol yr awdurdod am y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu setliad dros dro ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod ac yna bydd cynnydd dangosol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol o 3.1%.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rhagolwg ariannol ar gyfer 2023 i 2027 yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch rhagamcanion demograffig, cynnydd mewn chwyddiant, effaith deddfwriaeth a pholisïau newydd a chostau staffio uwch. Wrth ddatblygu'r amcangyfrifon hyn, mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cynnwys rhagdybiaethau o ran cynnydd posibl yn y dreth gyngor wrth symud ymlaen. Oherwydd y pwysau a amlinellwyd eisoes, cynigir cynyddu’r dreth gyngor i 4.9% yn 2023-2024. Mae hyn yn sylweddol is na’r gyfradd chwyddiant bresennol er mwyn gallu cefnogi dinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr i ddelio â chostau byw cynyddol, fel cynnydd mewn biliau ynni a bwyd, cynnydd o ganlyniad i ffactorau chwyddiannol eraill a chynnydd mewn llog morgeisi. At ddibenion cynllunio, rhagdybir y bydd y dreth gyngor yn cynyddu 4.5% yn 2024 – 2025 i 2026 - 2027. Mae'r ffigurau hyn at ddibenion cynllunio yn unig a chânt eu hadolygu bob tro y caiff y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ei diweddaru.

 

Ynghyd â’r cyllid dangosol gan Lywodraeth Cymru, amcangyfrifir y bydd gofyniad cyllideb net o £17 miliwn yn ystod y cyfnod hwn. Manylwyd ar y senarios hyn yn Nhabl 7 yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Mae Adran 4 o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn amlinellu’n fanylach sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2023/2024. Manylir ar y gofyniad cyllideb net ar gyfer y flwyddyn nesaf yn Nhabl 10 yr adroddiad hwn sy'n dangos cyllideb net o £342 miliwn.

 

I grynhoi, mae’r elfennau allweddol yn cynnwys:

 

Mae gofynion ariannol ychwanegol o dros £25 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn cynnwys:

 

• £14 miliwn i gwrdd â chwyddiant cyflogau a phrisiau

• £2.4 miliwn  i ariannu'r cynnydd yn y RLW ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol

• £8.6 miliwn o gostau anochel ar gyfer gwasanaethau oedd yn cynnwys :

 

o Mwy o arian i gwrdd â phwysau ariannol ychwanegol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys cynnydd ar gyfer gwasanaethau a chymorth i bobl h?n;

 

o Cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu oherwydd effeithiau hirdymor pandemig Covid-19;

 

o Capasiti ychwanegol i gefnogi gwasanaethau plant i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu bodloni'r gofynion i ddiogelu plant;

 

o Costau cynyddol gwasanaethau a gomisiynir yn y sector gofal cymdeithasol;

 

o Cynnydd yn y nifer o aelwydydd ac unigolion sy’n cyflwyno eu hunain fel rhai sy’n ddigartref.

 

Mae'n anochel y bydd pwysau ychwanegol yn codi yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i newidiadau o ganlyniad i ddeddfwriaethol newydd neu ddigwyddiadau nas rhagwelwyd. Mae dyraniad dros dro o £1.3 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y rhain, tra bod gwaith pellach yn cael ei wneud. Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn ystod y flwyddyn yn amodol ar gymeradwyo achos busnes lle bo angen.

 

Ers i gynigion y gyllideb ddrafft gael eu hystyried gan y Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu ym mis Ionawr, mae’r newidiadau canlynol wedi bod o ran gwasgedd ar y gyllideb:

 

• Mwy o ddyraniad ariannol i gwrdd â chodiadau cyflog posibl;

• Mwy o ddyraniad ariannol i gwrdd â chynnydd mewn prisiau nad ydyn nhw’n gyflogau; a

• Cynnydd yn y dyraniad ariannol ar gyfer y Cyngor cyfan i gwrdd â gofynion ariannol newydd sy’n ein hwynebu.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y dylid nodi na fu'n bosibl ariannu'r holl ofynion ariannol ychwanegol a nodwyd gan y gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod wrth fantoli'r gyllideb hon. O'r £20 miliwn a nodwyd, dim ond £11 miliwn a ariannwyd yn y gyllideb arfaethedig.

 

Gall aelodau dderbyn mwy o fanylion am y pwysau ariannol ar y costau yn Atodiad C y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Er mwyn mantoli'r gyllideb, mae gostyngiadau wedi'u nodi sy'n dod i gyfanswm o £2.6 miliwn. Mae manylion y rhain ar gyfer yr aelodau i’w gweld yn Atodiad D i'r MTFS. Mae'r rhain wedi'u newid ers i'r cynigion gael eu hystyried gan y Cabinet a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr, gyda'r arbedion y mae angen eu cyflawni, gyda gostyngiad o £648,000.

 

 

Roedd yr Aelodau'n ymwybodol bod awdurdod Tân ac Achub De Cymru yn cael ei ariannu drwy godi ardoll ar y cynghorau perthnasol,  swm oedd yn seiliedig ar eu poblogaeth. O fewn yr MTFS cyfeirir at hyn ym mharagraff 4.1.21 yr adroddiad. Yr ardoll a oedd yn daladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod oedd £8.5 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o £698,000 neu 9.25% yn uwch na ffigur 2022 – 2023.

 

Cododd y Cyngor incwm drwy ffioedd a thaliadau a chaiff y rhain eu hadolygu'n flynyddol. Roedd taliadau neu daliadau newydd sydd wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2023-24, ac sy’n uwch na’r cynnydd cyffredinol i’w gweld yn Atodiad E yr adroddiad.

 

Yn ogystal â'r gyllideb Refeniw, roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig hefyd yn ymdrin â'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2022-23 i 2032 - 2033. Mae'r rhaglen 10 mlynedd hon wedi'i diwygio yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’i diweddaru er mwyn ystyried ystyriaethau newydd a chynlluniau cyfalaf wrth iddyn nhw gael eu paratoi.

 

O fewn setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, roedd £8.008 miliwn ar gael i gefnogi gwariant cyfalaf.

 

Oherwydd y cyllid cyfalaf cyfyngedig sydd ar gael, cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid na ofynnwyd i wasanaethau gyflwyno bidiau am gyllid ar hyn o bryd, er y cydnabuwyd bod nifer o agweddau cyfalaf y bydd angen eu hariannu yn y dyfodol. Ystyriaethau oedd yn cynnwys adfywio, datgarboneiddio, digartrefedd a digideiddio. Yn ogystal, mae pwysau ariannol hefyd o ganlyniad i effaith y rhyfel yn yr Wcrain a’r argyfwng costau byw, sydd i’w gweld yn y prisiau tendro presennol ac a fydd yn parhau am beth amser i’r dyfodol, gan roi pwysau ychwanegol ar y Rhaglen Gyfalaf yn gyffredinol.

 

Roedd y Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys nifer o ddyraniadau blynyddol a delir o gyfanswm cyllid cyfalaf cyffredinol y Cyngor. Dangoswyd dyraniad arfaethedig y rhain ar gyfer 2023 – 2024 yn nhabl 13 yr adroddiad.

 

Yn yr adroddiad heddiw, cynigiwyd rhai newidiadau i’r Rhaglen Gyfalaf bresennol gan gynnwys cynlluniau newydd i’w hariannu. Roedd y rhain yn cynnwys agweddau fel adnewyddu priffyrdd, adnewyddu meysydd chwarae i blant a chanolfan ddata TGCh. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu rhai diwygiadau arfaethedig i gynlluniau presennol o fewn y rhaglen, yn ogystal â chynnwys cynlluniau cyllid grant newydd eu cymeradwyo.

 

Byddai unrhyw gynigion newydd pellach ar gyfer cyllid cyfalaf yn cael eu hystyried yng ngoleuni, ac yn unol â'r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer y cyfnod hyd at 2032 - 2033 a byddant yn cael eu dwyn yn ôl i'r Cyngor i'w cymeradwyo yn ddiweddarach.

 

Roedd y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig i'w gweld yn Atodiad G yr adroddiad.

 

 

Cynhaliwyd trosolwg o gronfeydd wrth gefn y Cyngor ddiwedd Rhagfyr 2022 yn unol â phrotocol cronfeydd wrth gefn a balansau y Cyngor. Roedd dadansoddiad o'r symudiadau yn y cronfeydd wrth gefn bryd hynny yn Atodiad H yr adroddiad. Rhagwelir symudiadau pellach eisoes yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol hon a dangoswyd y rhain yn 4.3.2 y ddogfen MTFS.

 

Yn unol â’r protocol cronfeydd wrth gefn, cynhelir adolygiad pellach ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol a gwneir trosglwyddiadau ar yr adeg hon gan ystyried sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor, gan gynnwys yr alldro terfynol, incwm treth gyngor cronedig gwirioneddol, lefelau wrth gefn a glustnodwyd, lefel Cronfa'r Cyngor ac unrhyw bwysau neu risgiau newydd y mae angen darparu ar eu cyfer.

 

O ran Treth y Cyngor, gellir mantoli'r gyllideb arfaethedig o £342.047 miliwn a ddangosir yn nhabl 10 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gyda chynnydd o 4.9% yn y dreth gyngor ar gyfer 2023-2024. Mae'r cynnydd hwn yn is na chyfradd chwyddiant ond mae ei angen i alluogi'r Cyngor i gwrdd â'r pwysau cyllidebol sylweddol a digynsail y mae'n ei wynebu gan gynnwys pwysau uwch na'r disgwyl o ran cyflogau, prisiau a gwasanaethau. Mae'n cymryd i ystyriaeth y setliad gwell na'r disgwyl, ond mae'n ymwybodol o'r pwysau parhaus sy'n wynebu'r Awdurdod o hyd.

 

Daeth y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid â'i chyflwyniad i ben, drwy nodi bod adran olaf y Strategaeth, yn rhoi gwybodaeth am ragolygon ariannol tymor hwy y Cyngor. Ni fwriedir i hon fod yn Strategaeth Gyllideb 10 mlynedd oherwydd nifer y newidynnau sy’n effeithio ar sefyllfa ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, darparodd fframwaith ariannol i gyfeirio ato wrth baratoi cynlluniau ariannol blynyddol a thymor hwy.

 

Canmolodd yr Aelod Cabinet - Adnoddau y cynigion ar gyfer yr MTFS ac estynnodd ei ddiolch i’r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a’i Swyddogion Cyllid am yr holl waith caled yr oedden nhw wedi’i wneud, er mwyn darparu cyllideb gytbwys. Roedd hyn wedi bod yn wyneb blynyddoedd o gyfyngiadau ariannol parhaus a ddaeth yn sgil Brexit, Covid a’r argyfwng Costau Byw, ymhlith eraill. Roedd hyn i gyd yn ychwanegol i’r cynnydd mewn chwyddiant o 10%. Ychwanegodd fod Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gael i drigolion ar incwm isel os ydyn nhw’n canfod eu bod yn cael anhawster i dalu eu biliau Treth y Cyngor. Ychwanegodd ymhellach fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi'i llunio'n ofalus am y 12 mis diwethaf ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y Cyngor wedi lobïo Llywodraeth Cymru am fwy o gyllid ar bob cyfle posib. Ychwanegodd hefyd fod y Cyngor wedi edrych ar arfer dda mewn Awdurdodau eraill.

 

Canmolodd yr Arweinydd y mewnbwn gan drigolion ar y gyllideb yn ystod y cyfnod ymgynghori. Tynnodd sylw at y pwysau yr oedd y Cyngor yn ei wynebu oherwydd cynnydd mewn cyflogau a chwyddiant nad oedd modd eu hosgoi gan eu bod wedi'u pennu'n genedlaethol ac y bu'n rhaid eu bodloni. Cydnabu'r cyfraniadau trawsbleidiol a wnaed, drwy Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a BREP, gan gynnwys bod y Cabinet wedi ystyried rhai o argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol. Yn anffodus, ni fu'n bosibl darparu ar gyfer yr holl argymhellion hyn ychwanegodd, gan y byddai hyn wedi golygu na fyddai'r gyllideb yn parhau'n gytbwys. Roedd £68 miliwn wedi’i ddyrannu i Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor yn ogystal â £2.4 miliwn er mwyn darparu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i’n gofalwyr, i ddiogelu recriwtio a chadw staff yn y swyddi hynod bwysig hyn.

 

Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y gefnogaeth ariannol a roddwyd i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, rhywbeth a amlygwyd gan drigolion, hynny yw, y gefnogaeth hanfodol barhaus i drigolion h?n. Ychwanegodd fod angen ystyried y gyllideb gan gofio'r toriadau y mae awdurdodau lleol wedi parhau i'w hwynebu ers 2012, sydd gryn amser yn ôl. Sicrhaodd y byddai unrhyw gymorth pellach y gellid ei ddarparu i ysgolion yn cael ei ystyried yn ofalus trwy unrhyw gyfleoedd ariannu a/neu Raglen Gyfalaf y Cyngor.

 

Yn eu tro, cymeradwyodd Aelodau Cabinet eraill eu cefnogaeth yn y gyllideb ar gyfer y meysydd gwasanaeth allweddol canlynol:-

 

• Gorfodaeth gwastraff;

• Ail wynebu priffyrdd

• Gwella mannau chwarae

• Agenda Net Zero Carbon

• Cyfleoedd adfywio

• RNLI

• Cefnogaeth i'r digartref

• Llyfrgelloedd

• Canolfannau Hamdden (hybu iechyd a lles)

• Mwy o dai

• Gwelliannau ysgol

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo MTFS 2023-24 hyd at 2026-27, gan gynnwys cyllideb refeniw 2023-24 a Rhaglen Gyfalaf 2022-23 hyd at 2032-33 ac argymell y rhain i'r Cyngor eu mabwysiadu. Cymeradwyodd hefyd fod yr elfennau penodol canlynol yn cael eu hanfon ymlaen i’r Cyngor i’w cymeradwyo:

 

• MTFS 2023-24 hyd at 2026-27 (Atodiad 3 yr adroddiad).

• Gofyniad Cyllideb Net o £342,047,227 yn 2023-24.

• Treth y Cyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn £1,675.26 ar gyfer 2023-24 (Tabl 15 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig).

• Cyllidebau 2023-24 fel eu dyrannwyd yn unol â Thabl 10 ym mharagraff 4.1.3 o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

• Rhaglen Gyfalaf 2022-23 hyd at 2032-33, sydd ynghlwm yn Atodiad G y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

 

 

Dogfennau ategol: