Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – DirprwyArweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Jacqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant
Andrew Thomas - Rheolwr Grwp – Atal a Lles
Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth – Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth
Kathy Proudfoot – Swyddog Datblygu Gofalwyr
Sophie Moore - Rheolwr Lles - Byw'n Iach
Ryan Statton - Rheolwr Cymunedau Egnïol, Halo Leisure
Ceri Evans - Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau, Awen
Gareth Howells - Prif Swyddog Gweithredu, TuVida
Jenny Park – Cyfarwyddwr Gofal a Gwasanaethau, TuVida
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol –
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben
oedd hysbysu’r Pwyllgor am ofynion Siarter y Gofalwyr yng
Nghymru a’r meysydd ffocws cysylltiedig a all gefnogi
gofalwyr di-dâl i gynnal eu llesiant a disgrifio’r
gwaith sy'n cael ei wneud ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i
gefnogi gofalwyr di-dâl, er mwyn galluogi'r Pwyllgor i
ystyried pa mor dda y mae'r Cyngor, a'i bartneriaid, yn cefnogi
gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Y gefnogaeth sydd ar gael i alluogi gofalwyr ifanc i barhau â'u haddysg ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu.
· Polisïau Gofalwyr Ifanc Ysgolion a chymorth ymarferol mewn ysgolion gan gynnwys cymorth gyda gwaith a cheisiadau am amser ychwanegol ar gyfer arholiadau.
· Yr heriau a wynebwyd gan ofalwyr ifanc yn ystod y pandemig, yn aros adref gyda holl aelodau'r teulu heb unrhyw ofal seibiant.
· Dywedodd y gofalwr ifanc wrth yr Aelodau ei bod yn gweld cadw at drefn, mynd am dro a chymryd rhan mewn gwersi ar-lein yn ddefnyddiol. Teimlai hefyd, ers y pandemig, fod buddion y Cerdyn Gofalwr Ifanc wedi gwella pethau’n wirioneddol a’i bod wedi canfod gwerth gwirioneddol yn y Rhwydwaith.
· Unrhyw welliannau angenrheidiol i gefnogi gofalwyr ifanc yn dangos pwysigrwydd eu canfod a mewnbwn gan Gr?p Llywio’r Gofalwyr Ifanc.
· Datblygiad cymorth dementia a gwaith ymgysylltu gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gyda mewnbwn gan Gydlynydd Dementia i lywio cynlluniau a gwasanaethau lleol a rhanbarthol.
· Nifer a ffynhonnell yr atgyfeiriadau i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, canran y gofalwyr oedd yn derbyn cyngor a chymorth a nifer a chanlyniadau asesiadau llawn o anghenion gofalwyr.
· Nifer asesiadau gofalwyr ifanc a faint oedd yr Awdurdod yn gwybod amdanynt eisoes.
· Gweithredir cyllid ar gyfer y cymorth drwy Whitehead Ross a'i ffocws ar anghenion unigol gofalwyr ifanc.
· Argaeledd Cardiau Gofalwyr i oedolion drwy’r gwasanaeth newydd a gomisiynwyd o 1 Ebrill 2023, TuVida.
· Nifer ac amrywiaeth y gofalwyr oedd yn gwneud sylwadau cadarnhaol am y rhaglenni Lles Gofalwyr a Seibiant a Theimlo'n Dda am Oes.
· Diweddariad ar fenter lwyddiannus Croeso Cynnes a'r ystod eang o adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael.
· Canfod mwy o ofalwyr a rôl cymunedau a Chydlynwyr Cymunedol.
· Maint y cymorth cymunedol yn ystod y pandemig a phwysigrwydd gwasanaethau ataliol a gwasanaethau statudol amserol, pan fo angen.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr Eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion
ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
1. Trosolwg ar y cymorth sydd ar gael i ofalwyr ifanc yn yr ysgol a’r coleg a’r cymorth sydd ar gael i’w galluogi i barhau â’u haddysg ochr yn ochr â gofalu.
2. Y DigiStory a’r astudiaeth achos y cyfeiriwyd ati gan Hamdden Halo, sy’n disgrifio rhai o heriau a phrofiadau gofalwyr di-dâl.
3. Dadansoddiad (mewn niferoedd yn hytrach na chanrannau) o'r camau a gymerwyd/canlyniadau'r 362 o gysylltiadau a wnaed â gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar ran gofalwyr yn 2021-22.
O’r 96 o asesiadau gofalwyr ifanc a gynhaliwyd ers Ebrill 2022, dangosai dadansoddiad faint oedd yn asesiadau gofalwyr newydd a faint o’r achosion oedd y gwasanaeth yn gwybod amdanynt eisoes.
Dogfennau ategol: