Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant
Iain McMillan – Dirprwy Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant
Raeanna Grainger - Rheolwr Gr?p, IAA a Diogelu
Tracey Shepherd - Uwch Reolwr - Tim Arolygu Awdurdodau Lleol - Arolygiaeth Gofal Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am eu hymweliad gwirio gwelliant â Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod mis Tachwedd 2022 a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig wedi’i ddiweddaru.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Diolch i Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ystod ei gyfnod gyda’r Awdurdod.
· Nifer y meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen gweithredu pellach a'r gyllideb angenrheidiol i gefnogi'r gwelliannau gan amlygu cost staff asiantaeth a gweithrediad parhaus model yr Arwyddion Diogelwch.
· Gellid disgwyl ymweliadau gyda rhybudd ac ymweliadau dirybudd gan AGC i fonitro cynnydd a dylai ymarfer fod o’r safon a ffefrir p'un a oedd y Gwasanaeth yn cael ei arolygu ai peidio.
· Mae taith gwella'r Gwasanaeth yn gofyn am arweiniad strategol â ffocws a buddsoddiad cynaliadwy dros amser a'r angen i gael y model ymarfer yn gywir.
· Meysydd o bwysau sy’n nodweddiadol ar draws yr holl awdurdodau megis heriau recriwtio, a meysydd sy’n annodweddiadol, megis y cynnydd mewn atgyfeiriadau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol plant, ar lefel y nododd dadansoddiad gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus fyddai’n debygol o barhau am 2 flynedd o leiaf.
· Niferoedd a rheolaeth achosion agored o fewn pob un o'r canolfannau lleol a chofnodi atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA).
· Mentrau i wella recriwtio gan gynnwys prentisiaethau, recriwtio rhyngwladol, buddsoddi mewn Tyfu ein rhai ni ein hunain a gweithredu rolau Swyddogion Cymorth Gwaith Cymdeithasol a phryderon ynghylch bylchau mewn rhai gwasanaethau a dibyniaeth ar staff asiantaeth sydd angen gweithredu parhaus.
· Y cyd-destun o amgylch y statws glas, coch, ambr, gwyrdd (BRAG) a briodolir i bob ‘maes i’w wella’ yng Nghynllun Gweithredu’r Gyfarwyddiaeth.
· Digonolrwydd lleoliadau gan gynnwys yr agenda dileu elw a defnyddio lleoliadau heb eu cofrestru a lleoliadau y tu allan i'r sir.
· Y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â mater blaenoriaeth camfanteisio ar blant, gan gynnwys gwaith rhanbarthol a gweithio mewn partneriaeth.
· Yr adolygiad cyflym a mesurau i wella cyswllt dan oruchwyliaeth rhwng plant sydd â phrofiad o ofal a'u teuluoedd.
Diolchodd y Pwyllgor i Ddirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Plant am ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ystod ei amser gyda’r Awdurdod a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor oedd yn dymuno gofyn cwestiynau i gyd wedi siarad, ac felly gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd iddynt am fod yn bresennol a dywedodd eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1.
Mynegwyd pryder ynghylch cynaladwyedd y gyllideb i gynnal y pwysau
cyllidebol yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac
argymhellodd y Pwyllgor y dylid dechrau'r broses o osod y gyllideb
yn gynt er mwyn cael mewnbwn trawsbleidiol i gynorthwyo'r Cabinet
yn yr hyn a allai fod yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
heriol.
2. Rhoi cyngor i bob Cyfarwyddiaeth ynghylch safoni’r Statws BRAG a ddefnyddir mewn Adroddiadau a Chynlluniau Gweithredu i sicrhau ymagwedd ac ystyr cyson.
a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
3. Mewn perthynas â’r cynnydd o 32% mewn cysylltiadau/atgyfeiriadau yn ystod y cyfnod Ebrill i Awst 2022, nifer y cysylltiadau y mae’n cyfeirio atynt.
4. Copi o’r Offeryn Sgrinio am Gamfanteisio sy’n cael ei dreialu yn y Ganolfan Ddiogelu Aml-Asiantaeth, copi o’r cyflwyniad a roddwyd i benaethiaid ynghylch camfanteisio ac unrhyw ddiweddariad gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen Cwm Taf yn ymwneud ag arfer gorau yn y dull o ymdrin â chamfanteisio.
Crynodeb o'r argymhellion a'r mecanweithiau tymor byr a gychwynnwyd yn dilyn adolygiad cyflym o gyswllt dan oruchwyliaeth.
Dogfennau ategol: