Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er mwyn rhoi diweddariad ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor a gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2023-28, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod datblygu a chyhoeddi Cynllun Corfforaethol yn ofyniad statudol ac mae'n debyg mai dyma un o'r dogfennau pwysicaf y byddent yn ei hystyried, gan ei bod yn nodi cyfeiriad y sefydliad a blaenoriaethau'r Cyngor dros y pum mlynedd nesaf. Rhaid i’r cynllun gyfateb i'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Cydnabu waith aruthrol y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a'i thîm, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori, ac mae’r manylion wedi eu nodi yn yr adroddiad ac yn yr atodiad. Ychwanegodd y gallai o bosibl newid cyn ei gyhoeddi o ran diwyg a ffeithluniau. Cyfeiriodd at yr amcanion llesiant newydd a ffyrdd newydd o weithio a oedd wedi'u datblygu o gymharu â fersiynau blaenorol. Roedd y ddogfen yn canolbwyntio ar y pethau hynny a gafodd yr effaith fwyaf ar lesiant trigolion lleol. Ymdrechwyd i gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol mewn arddull haws ei deall ac mewn Saesneg clir oedd felly'n fwy hygyrch. Ychwanegodd y byddai cynllun gweithredu blynyddol yn cyd-fynd â'r prif Gynllun Corfforaethol a byddai'r holl ddangosyddion perfformiad manwl, y cerrig milltir a'r elfennau craff yn cael eu cynnwys yn y cynllun gweithredu blynyddol.
Amlinellodd y Prif Weithredwr yr elfennau amlwg yn yr adroddiad gan gynnwys y cysondeb rhwng y Cynllun Corfforaethol a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a'r cysylltiadau penodol rhwng amcanion llesiant y Cyngor a'r adnoddau oedd angen eu cyfeirio atynt i'w cefnogi. Eglurodd mai'r Cynllun Corfforaethol oedd prif gyfrwng y Cyngor ar gyfer dangos a chyfathrebu'r blaenoriaethau i bobl leol a busnesau a'i bod yn ddogfen hollbwysig i reoleiddwyr megis Archwilio Cymru. Cyfeiriodd at waith ymgysylltu, yn enwedig gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a diolchodd i'r pwyllgor am eu mewnbwn a'u hadborth. O ran yr adborth a roddwyd, roedden nhw wedi ystyried yr awgrym i ddangos cost gwasanaethau'r Cyngor fesul dydd drwy ffeithlun, sy'n ffordd llawer mwy ystyrlon o wneud hynny.
Esboniodd y Prif Weithredwr fanteision gweithredu blynyddol gan gynnwys mwy o hyblygrwydd a chaniatáu ar gyfer ymgysylltu ychwanegol a pharhaus, gan gynnwys gyda phobl ifanc. Nodwyd yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn llawn yn Atodiad 2 i'r adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai Cynllun Cyflawni yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu y Cyngor, gyda'r nod o fonitro a mesur canlyniadau ac amcanion Cynllun Gweithredu'r Cynllun Corfforaethol.
Diolchodd yr Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a'r Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus a'i thîm am eu gwaith ar y cynllun gan groesawu lefel yr ymgysylltu ar draws y Siambr a arweiniodd at newidiadau i'r cynllun. Cawsant eu calonogi gan lefel yr ymgysylltu â phobl ifanc a phartneriaid. Roedd y Cynllun Corfforaethol yn ddogfen hawdd i'w darllen a'i dilyn ac yn dangos sut oedd yr awdurdod yn cynnig gwerth am arian.
Dywedodd Aelod fod y ffeithluniau yn gweithio'n dda a holodd sut y byddai'r boblogaeth sy'n heneiddio a'r rhai heb gyfrifiaduron yn gallu gweld y ddogfen.
Yn nhermau cyflwyno'r cynllun, atebodd y Prif Weithredwr ei fod yn rhagweld fersiynau a ffyrdd gwahanol o ddarllen y cynllun, fel fersiynau print bras ac ati. Roedden nhw wedi cydnabod y mater hwn a byddent yn ystyried y ffordd orau i sicrhau bod y ddogfen yn hygyrch.
Cyfeiriodd Aelod at y sylwadau a'r beirniadaethau y dylid canolbwyntio mwy ar Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a thwristiaeth gan ofyn am sicrwydd y byddai llawer mwy o bwyslais ar hyn ac ar dref Porthcawl.
Atebodd y Prif Weithredwr fod amcan llesiant penodol yn sôn am drefi ffyniannus a bod pwyslais ar daro cydbwysedd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod pawb yn rhannu'r uchelgais honno ar gyfer holl drefi'r fwrdeistref. Cyfeiriodd yr aelod Cabinet dros Adfywio at gampws newydd y coleg yng nghanol y dref, sef y buddsoddiad unigol mwyaf erioed yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac y byddai'n helpu o ran bywiogrwydd y dref ac yn darparu campws addysg uwch o'r radd flaenaf i fyfyrwyr yn y Fwrdeistref Sirol.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2023-28 ac Atodiad 1 i'r adroddiad.
Dogfennau ategol: