Cofnodion:
Diolchodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid i'r Dirprwy Bennaeth Cyllid a'i thîm am eu gwaith caled wrth ddod â'r adroddiad hwn gerbron yr Aelodau.
Esboniodd mai pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 tan 2026-27 i'r Cyngor, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2023-27, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2023-24 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022-23 tan 2032-33. Ychwanegodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cyfateb i Gynllun Corfforaethol newydd y Cyngor a'r amcanion llesiant oedd wedi'u cynnwys ynddo. Roedd y dogfennau hynny'n nodi blaenoriaethau gwasanaethau ac adnoddau'r Cyngor dros y pedair blynedd ariannol nesaf, gan ganolbwyntio'n benodol ar y flwyddyn ariannol nesaf a datblygiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig sydd wedi'i lywio gan y blaenoriaethau hynny.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi rheoli gwariant gros blynyddol o tua £485 miliwn ac mai dyma'r cyflogwr mwyaf yn y fwrdeistref sirol. O ganlyniad, roedd y Cyngor yn rhan sylweddol o economi leol yr ardal hon. Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
yn amlinellu'r egwyddorion a'r rhagdybiaethau manwl sy'n llywio cyllideb a phenderfyniadau gwario'r Cyngor. Amlinellodd y cyd-destun ariannol yr oedd y Cyngor yn gweithredu ynddo a cheisiodd leihau unrhyw risgiau a phwysau ariannol wrth symud ymlaen, gan hefyd fanteisio ar unrhyw gyfleoedd sy'n codi. Esboniodd fod y strategaeth yn canolbwyntio ar sut roedd y Cyngor yn bwriadu ymateb i'r pwysau cynyddol ar wasanaethau'r sector cyhoeddus, a gynyddodd yn ystod pandemig COVID-19 ac yn syth wedi hynny gan yr argyfwng costau byw presennol. Mae'n nodi'r dulliau a'r egwyddorion y byddai'r Cyngor yn eu dilyn i sicrhau ei fod yn parhau'n gynaliadwy yn ariannol ac yn cyflawni'r amcanion lles corfforaethol.
Ychwanegodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a gosod y cyfraddau treth cyngor ar gyfer y fwrdeistref sirol, yn unol â'r gofyniad cyfreithiol dan ddarpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 92. Roedd yr adroddiad yn nodi cynigion i gyflawni'r amcan hwnnw a chyfrannu at sefyllfa ariannol gynaliadwy wrth symud ymlaen i'r tymor canolig.
Esboniodd y Prif Swyddog - Cyllid Perfformiad a Newid fod cynaliadwyedd ariannol hirdymor y Cyngor yn fater pwysig. Mae’r adroddiadau chwarterol i'r Cabinet ar ragolygon refeniw ar gyfer 2022-2023 wedi amlinellu'n fanwl yr effaith mae pwysau’r costau ychwanegol a wynebai'r Cyngor gydol y flwyddyn yn ei chael ar y gyllideb, o ganlyniad i'r hinsawdd economaidd sy'n gwaethygu, a’r chwyddiant a’r cyfraddau llog cynyddol. Cafodd hyn ei adlewyrchu wrth i brisiau godi’n uwch na'r codiadau cyflog disgwyliedig a chynnydd sylweddol mewn prisiau tendro ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Er nad oedd rhai o'r pwysau ychwanegol hynny yn digwydd drosodd a throsodd, roeddent yn bwysau craidd i'r Cyngor wrth symid ymlaen, ac mae'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn adlewyrchu hyn. Nid oedd disgwyl i'r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru gael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach y mis hwnnw, felly roedd y gyllideb yn cael ei chynnig ar sail y setliad dros dro a gafwyd ym mis Rhagfyr 2022. Ni ragwelwyd unrhyw newidiadau sylweddol mewn cyllid rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol, a byddai unrhyw newidiadau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor maes o law.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid ei bod hi'n credu bod lefel cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn ddigon i amddiffyn y Cyngor yn sgil galwadau neu argyfyngau anhysbys a'r lefelau cyllido presennol. Roedd yn hanfodol cynnal balans cronfa'r Cyngor yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, sef y dylai'r cronfeydd fantoli a bod ar lefel ddarbodus ond nid gormodol. Felly, roedd yn hanfodol hefyd fod refeniw, gwariant gwasanaethau a gwariant cyfalaf wedi'u cynnwys o fewn eu cyllidebau penodol ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid at Atodiad 3 sef y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig manwl a thynnu sylw at ychydig o'r wybodaeth allweddol o fewn y ddogfen. Roedd y Cyngor wedi gorfod gwneud gostyngiadau yn eu cyllideb mewn blynyddoedd blaenorol, ac mae siart 1 yn dangos bod gostyngiadau o £73 miliwn wedi eu canfod ers y flwyddyn ariannol 2010 - 2011. Defnyddiwyd ystod o ddulliau gwahanol i annog y cyhoedd i ymateb i'r ymgynghoriad hwn ac adroddwyd canlyniad y broses hon i'r Cabinet ar 7 Chwefror ac fe'i manylwyd yn nhabl pump y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Hefyd, roedd y Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi bod yn gweithio gyda'r Panel Cyllideb, Ymchwil a Gwerthuso (BREP) dros y chwe mis diwethaf i hwyluso'r broses o gynllunio'r gyllideb. Daeth adroddiad drafft y gyllideb gerbron y Cabinet ym mis Ionawr a bu pwyllgorau craffu'r Cyngor yn pori drwyddo, gan arwain at adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i'r Cabinet ar 31 Ionawr a oedd yn amlinellu nifer o argymhellion. Cafodd yr argymhellion hyn eu hystyried gan y Cabinet a darparwyd yr ymateb i'r rhain yn Atodiad A y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Esboniodd fod y Cabinet wedi myfyrio ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellion BREP, a'r pwyllgorau craffu, ac wedi llunio'r gyllideb ar sail y sylwadau a'r ymatebion a ddaeth i law.
Amlinellodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid yr egwyddorion a fyddai'n sail i'r gyllideb derfynol ar gyfer y flwyddyn i ddod a bod y gyllideb o'u blaenau yn darparu cyllid ychwanegol i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr drwy gynyddu cyllid i gefnogi gofal cymdeithasol a thrwy gynyddu cyllid i gefnogi unigolion digartref. Hefyd, roedd yn lleihau lefel y gostyngiadau mewn gwasanaethau sydd eu hangen yn y flwyddyn i ddod o gymharu â'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y gyllideb ddrafft, ac fe ostyngodd y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 6% i 4.9% i gydnabod effaith unrhyw gynnydd ar drigolion y fwrdeistref sirol. Roedd ysgolion wedi cael y dasg o ganfod 2% o ostyngiad yn eu cyllideb cyhyd ag y bo modd o arbedion effeithlonrwydd er mwyn helpu i gydbwyso cyllideb y Cyngor. Gofynnodd i'r Aelodau nodi y byddai'r Cyngor yn ariannu'n llawn y codiadau cyflog a phrisiau y byddai'r ysgolion yn talu yn y flwyddyn i ddod, ac y byddai hynny'n drech na'r gostyngiad yn y gyllideb. Felly, mae'r risg o ran cyflogau a phrisiau yn disgyn ar ysgwyddau'r Cyngor yn achos ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf. Rhoddwyd manylion y cyllidebau ar gyfer gwasanaethau unigol yn adran 2.4 y strategaeth.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y sefyllfa ariannol bresennol wedi'i hamlinellu yn adran 3 yr adroddiad. O ran y setliad llywodraeth leol dros dro, y prif bennawd oedd cynnydd cyffredinol o 7.9% ledled Cymru. Roedd lledaeniad y cynnydd hwnnw'n amrywio o 6.5% i 9.3% ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr roedd cynnydd o 7.7% yn y flwyddyn ariannol i ddod. Y cynnydd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr oedd y 13eg cynnydd uchaf ym mhob awdurdod lleol. Nid oedd yn bosibl cael y manylion am grantiau penodol ar lefel awdurdod unigol. Fodd bynnag, roedd llawer o'r grantiau heb newid ers ffigurau'r flwyddyn gyfredol ar gyfer Cymru gyfan.
Roedd y strategaeth hefyd yn modelu'r sefyllfa ariannol i'r awdurdod am y pedair blynedd nesaf yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, roedd modd edrych ar wahanol senarios ar gyfer yr adnoddau a allai fod ar gael wrth symud ymlaen.
Cafodd y strategaeth ei hadolygu'n rheolaidd wrth i fwy o wybodaeth fod ar gael, ac roedd hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr ansicrwydd economaidd sylweddol ar hyn o bryd. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagdybiaethau o ran codiadau posib yn y dreth gyngor oherwydd y pwysau a amlinellwyd eisoes. Roedd y model yn cynnwys cynnydd o 4.9% yn y dreth Gyngor ar gyfer 2023-2024. Roedd hyn gryn dipyn yn is na'r gyfradd chwyddiant bresennol er mwyn gallu helpu dinasyddion Pen-y-bont ar Ogwr, i ymdrin â'r cynnydd mewn costau byw, er enghraifft, costau ynni a biliau bwyd a chynnydd eraill yn sgil chwyddiant.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod adran 4 y strategaeth yn amlinellu sefyllfa'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a manylwyd ar y gofyniad cyllideb net ar gyfer y flwyddyn nesaf yn Nhabl 10, a ddangosai gyllideb net o £342 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Amlinellodd rai o brif bwyntiau'r pwysau ariannol o dros £25 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'n anochel y byddai pwysau costau yn cynyddu yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i newidiadau newydd neu ddigwyddiadau nas rhagwelwyd ac felly, roedd dyraniad dros dro o £1.3 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y rhain yn y gyllideb refeniw tra bod gwaith pellach yn cael ei wneud. Wrth bennu'r gyllideb hon, gofynnodd i'r Aelodau gofio nad oedd modd ariannu'r holl bwysau a nodwyd gan wasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. O'r £20 miliwn a nodwyd, dim ond £11 miliwn oedd wedi'i ariannu yn y gyllideb arfaethedig hon fel y gwelir yn Atodiad C yr adroddiad. Er mwyn mantoli'r gyllideb, nodwyd gostyngiadau gwerth £2.6 miliwn fel y nodir yn Atodiad D yr adroddiad. Ariannwyd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru trwy godi ardoll ar ei gynghorau cyfansoddol, a oedd yn seiliedig ar boblogaeth. Yr ardoll sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yw £8.5 miliwn, cynnydd o 9.25% yn yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid bod ffioedd a thaliadau yn cael eu hadolygu'n flynyddol ac y byddai amserlen o'r ffioedd a'r taliadau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cael eu cyhoeddi ar y wefan. Cafodd ffioedd/taliadau newydd neu daliadau a oedd wedi'u cynnwys yng nghyllideb 2023-2024 ac a oedd yn uwch na'r cynnydd cyffredinol, eu dangos yn Atodiad E yr adroddiad.
Roedd y strategaeth hon hefyd yn ymdrin â'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer y cyfnodau 2022-2023 hyd at 2032-2033. Cafodd y rhaglen 10 mlynedd hon ei diwygio yn ystod y flwyddyn ariannol er mwyn ei diweddaru ac er mwyn ystyried cynlluniau cyfalaf newydd wrth iddynt gael eu datblygu. Oherwydd y cyllid cyfalaf cyfyngedig oedd ar gael, gofynnwyd i wasanaethau beidio â chyflwyno ceisiadau am arian ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod llawer o bwysau cyfalaf i’w cyllido wrth symud ymlaen, gan gynnwys adfywio, datgarboneiddio, digartrefedd a digidoleiddio. Ar ben hynny, roedd pwysau ariannol hefyd yn codi o ganlyniad i effaith y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw a welwyd ym mhrisiau tendrau presennol. Bydd hynny'n parhau am beth amser eto, gan roi pwysau ar y Rhaglen Gyfalaf bresennol. Dangoswyd y Rhaglen Gyfalaf yn Atodiad G yr adroddiad.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid mai £10.1 miliwn oedd cronfa'r Cyngor ar ddiwedd mis Mawrth 2022. Yn wyneb ansicrwydd parhaus ynghylch yr economi a chyllid cyhoeddus ac effaith y pandemig ac yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, argymhellodd fod y Cyngor yn cynnal balans cronfa'r Cyngor ar y lefel hon. Cynhaliwyd trosolwg o gronfeydd wrth gefn ddiwedd Rhagfyr yn unol â'r protocol ac roedd dadansoddiad o'r symudiad ar y cronfeydd wrth gefn hynny bryd hynny yn Atodiad H yr adroddiad. Byddai adolygiad pellach yn cael ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol a byddai trosglwyddiadau'n cael eu gwneud bryd hynny, gan ystyried y sefyllfa ariannol gyffredinol i'r Cyngor - gan gynnwys yr alldro terfynol, incwm gwirioneddol y dreth gyngor, lefelau'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, lefel cronfa'r Cyngor ac unrhyw bwysau neu risgiau newydd yr oedd angen darparu ar eu cyfer. Rhagwelwyd na fyddai digon o arian ar gael i neilltuo arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Gellid defnyddio cronfeydd wrth gefn i gefnogi'r gyllideb refeniw, ond dim ond unwaith y gellid defnyddio cronfeydd wrth gefn, felly dylid cyfyngu'r defnydd ohonynt i feysydd gwariant untro ac ni ddylid byth eu defnyddio i ariannu gofynion sylfaenol a pharhaus. O ran y dreth gyngor, esboniodd y gallai'r gyllideb arfaethedig gael ei mantoli gyda chynnydd o 4.9% yn y dreth gyngor ar gyfer 2023-2024. Roedd y cynnydd hwn yn is na chyfradd chwyddiant ac yn ofynnol er mwyn helpu'r Cyngor i gwrdd â'r pwysau cyllidebol sylweddol a digynsail yr oedd yn ei wynebu, gan gynnwys costau cyflog uwch na'r disgwyl a'r pwysau ar wasanaethau.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod adran olaf y strategaeth yn rhoi gwybodaeth am agwedd ariannol tymor hwy y Cyngor.
Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau i'r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid a'r Dirprwy Bennaeth Cyllid am eu gwaith wrth gyflwyno cyllideb wedi’i mantoli a oedd yn her aruthrol.
Bu mwy o alw am lawer o wasanaethau'r Cyngor eleni, a bu'n rhaid mynd i'r afael â'r rheiny ynghyd â’r pwysau chwyddiant eithriadol. Fel Aelodau etholedig roedd ganddyn nhw gyfrifoldeb i daro cydbwysedd rhwng darparu gwasanaethau effeithiol a sicrhau tegwch i'r trethdalwr ac roedd dyletswydd gyfreithiol i gytuno ar gyllideb gytbwys. Rhannwyd arferion gorau a chydnabuwyd yr angen am ddull Cymru gyfan o fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu pob cymuned ar lawr gwlad. Eglurodd eu bod wedi gweithio ochr yn ochr â Fforwm Cyllideb Ysgolion, BREP, a'r pwyllgorau craffu, a diolchodd i'r holl Aelodau a gymerodd ran, yn enwedig y Cynghorydd Alex Williams a'r Cynghorydd Penhale Thomas. Llwyddwyd i ymgorffori llawer o'r argymhellion craffu yn y gyllideb. Diolchodd hefyd i aelodau'r cyhoedd am roi o'u hamser i lenwi'r arolwg cyllideb yn ystod yr ymgynghoriad pum wythnos. Eglurodd fod y gyllideb wedi buddsoddi mwy o arian mewn ysgolion, mwy o arian ym maes gofal cymdeithasol a rhagor o arian i'r priffyrdd, a oedd yn ei farn ef yn deg i drethdalwyr y Cyngor. Byddai hyn yn amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn y cymunedau gan ddal gafael ar bwysau twf. Roedd yn lleihau'r effaith ar wasanaethau rheng-flaen, a gofynnwyd i ysgolion graffu ar eu cyllidebau dirprwyedig er mwyn ysgafnhau'r baich ar wasanaethau eraill y Cyngor. Byddai'r Cyngor yn gwarchod ysgolion drwy dalu unrhyw bwysau cyflog neu brisiau newydd, a byddai pob ysgol yn derbyn cefnogaeth lwyr y Cyngor. Roedd Aelod wedi cael cais i gymeradwyo cynnydd o tua £1.50 yr wythnos yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo band D. Byddai'r cynnydd cymedrol hwn yn amddiffyn rhai o wasanaethau gwerthfawr iawn y cyngor. Byddai'r gyllideb hon yn adeiladu ar lwyddiannau'r gorffennol, 2 ysgol gyfun newydd, 6 ysgol gynradd newydd a saith uned Dechrau'n Deg a buddsoddiad o tua £200,000,000.
Byddent yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf dros y pedair blynedd nesaf er mwyn rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i genedlaethau'r dyfodol.
Esboniodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn ymwybodol bod costau byw yn effeithio ar gyllid, ac yn deall beth fyddai effaith ariannol y gyllideb hon ar deuluoedd y fwrdeistref. Ni feddyliodd ddwywaith cyn cefnogi cynigion y gyllideb gan mai dyma'r opsiwn gorau oedd ar gael i warchod y trigolion mwyaf bregus. Roedd yr argyfwng costau byw hefyd yn effeithio ar yr holl staff ac roedd hawliad yr Undebau Llafur ar gyfer cyflogau staff yn annheg. Roedd y dyfarniad cyflog i lywodraeth leol ymhell y tu ôl i'r farchnad lafur ehangach, a gyda'r cynnydd cyflym mewn costau chwyddiant, mae mwy a mwy o'r staff sy'n cyflenwi gwasanaethau yn disgyn i dlodi. Ychwanegodd fod arian wrth gefn yn cael ei gadw ar lefel briodol yn unol â chyfarwyddyd Archwilio Cymru.
Wrth i Aelodau bleidleisio ar y gyllideb hon, dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n credu y byddai angen miliynau o bunnoedd i gyflawni eu dyletswyddau statudol mewn gwasanaethau plant oherwydd yr holl alw. Gofynnodd i'r holl Aelodau a fu'n rhan o'r broses graffu, i roi eu cefnogaeth i lefelau’r cronfeydd wrth gefn.
Dywedodd yr Arweinydd mai hon oedd y gyllideb unigol fwyaf heriol iddo erioed fod yn rhan o'i llunio. Ei nod oedd cefnogi teuluoedd, hyrwyddo llesiant a diogelu'r dinasyddion mwyaf bregus yn y fwrdeistref sirol. Datblygwyd y gyllideb yn dilyn ymgynghoriad cynhwysfawr gyda'r cyhoedd, rhanddeiliaid allweddol a phroses ymgysylltu eang â'r holl aelodau drwy'r broses Trosolwg a Chraffu. Diolchodd i'r Cadeiryddion Craffu am eu hymdrechion yn y broses honno ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau a’u hargymhellion adeiladol. Roedden nhw wedi gwrando, ac mae'r gyllideb derfynol yn adlewyrchu hynny.
Esboniodd yr Arweinydd fod pob Aelod yn y Siambr yn rhannu'r flaenoriaeth o warchod ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. O ystyried y galw cynyddol ar wasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant a brofwyd ym mhob awdurdod lleol yn y wlad, byddai'n rhaid iddynt fuddsoddi mwy yn y gwasanaethau hanfodol hyn. Esboniodd y cynigion ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Oedolion a Phlant ac i'r digartref. Byddai'r rheini, ynghyd â phwysau anochel chwyddiant, a chodiadau cyflog cenedlaethol sydd wedi eu trafod a’u cytuno, yn creu cyfanswm o dros £14 miliwn.
Esboniodd yr Arweinydd y byddai’r bartneriaeth â Llywodraeth Cymru yn mynd i’w galluogi i gychwyn ar gam mawr ac uchelgeisiol dros ben y Rhaglen ar gyfer Moderneiddio Ysgolion yr 21ain ganrif, a’r hyn roedd hynny'n ei olygu i CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn hapus i gefnogi'r gyllideb fel cyllideb llesiant sy'n parhau'n uchelgeisiol.
Holodd Aelod am yr arbedion arfaethedig yn sgil cael gwared ar hawl deiliaid Bathodyn Glas i barcio'n ddi-dâl ym meysydd parcio CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Gofynnodd faint fyddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn ei gostio ac a oedd costau'r ymgynghoriad hwn yn y gyllideb arfaethedig, a beth oedd yr amserlen ar gyfer cyflawni hyn er mwyn arbed £40,000 yn y gyllideb. Atebodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y cynnig hwn i arbed arian ac y byddent yn ystyried hynny ac yn gweithredu yn unol â hynny. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau taw'r bwriad oedd cynnwys yr holl arbedion a gynigiwyd yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, mewn un pecyn, ar gyfer ymgynghoriad. Ychwanegodd mai CBS Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr unig awdurdod yng Nghymru sy'n caniatáu parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas ar hyn o bryd. Hwyrach na fyddai arbediad amcangyfrifedig o £40,000 yn cael ei wireddu'n llwyr y flwyddyn honno oherwydd bod yn rhaid cynnal ymgynghoriad yn gyntaf.
Gofynnodd yr Aelod sut oedd y gyllideb yn cydymffurfio â seithfed egwyddor strategaeth gyllideb fabwysiedig y Cyngor sef, bod cynigion arbedion wedi'u datblygu'n llawn a bod ganddynt amserlenni cyflawni realistig cyn y gellid eu cynnwys yn y gyllideb flynyddol. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid bod y cynnig arbed costau wedi'i feintioli a bod ganddyn nhw ffigur yn ei erbyn. Pe bai'r gyllideb yn cael ei chytuno, bydden nhw'n dechrau'r broses honno a byddai'r newid polisi hwnnw ar waith cyn diwedd y flwyddyn ariannol heb os. Dylen nhw weld rhywfaint o'r incwm hwnnw'n dod i mewn yn ystod y flwyddyn ariannol a byddai'n cael ei wireddu’n llawn erbyn 2024/25.
Gofynnodd Aelod faint oedd cost hysbysebu ar orsaf radio leol, oedd yn sôn wrth drigolion am orfodi tipio anghyfreithlon a faint o arian a godwyd trwy orfodi. Atebodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau nad oedd ganddo'r wybodaeth honno wrth law ond cydnabu fod angen gwneud mwy o waith ar hyn gan eu bod wedi bod yn canolbwyntio ar ymgysylltu ac ailgylchu o'r blaen. Roedd cyfraddau ailgylchu yn dda iawn felly gallent fforddio canolbwyntio mwy ar dipio anghyfreithlon ac ychydig llai ar ymgysylltu. Cytunodd y byddai’n darparu'r wybodaeth ofynnol y tu allan i'r cyfarfod.
Gofynnodd Aelod a fydden nhw'n dychwelyd yn ôl i chwe swydd yn y cabinet ar ôl ei gynyddu i 7 y llynedd, sy'n costio £17,000 y flwyddyn i'r awdurdod mewn codiad/cynnydd. Gofynnodd am sicrwydd gan y cyhoedd na fyddai unrhyw gyfarfodydd Cabinet/uwch swyddogion yn cael eu cynnal mewn gwestai lleol gyda lluniaeth, ond yn hytrach yn y Ganolfan Ddinesig, gan arbed arian. Atebodd yr Arweinydd nad oedd cynlluniau i gynyddu nifer Aelodau'r Cabinet a bod gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr un o'r cabinetau lleiaf o ran maint yng Nghymru.
Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ac i'w thîm bach am wneud gwaith rhagorol gyda llai o adnoddau. Cyfeiriodd at yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gwerth eu gwaith. Amlinellodd y newyddion da am arian cyfalaf a'r agenda datgarboneiddio a datblygiadau eraill o fewn ei bortffolio.
Gofynnodd Aelod sut y byddai unrhyw ddiswyddiadau, o ganlyniad i'r toriad o 2% i ysgolion ac addysg, yn cael eu talu gan ei fod yn deall mai dim ond ychydig o arian oedd yn y pot diswyddo. Ydyn nhw'n ddigon bodlon na fyddai costau diswyddo yn fwy na'r arbedion a wnaed trwy dorri ar wasanaeth addysg, o gofio taw'r staff hynaf a fyddai'n fwy tebygol o ddewis diswyddo gan gostio mwy o arian i'r awdurdod? Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Gwasanaethau Teulu, fel yn Atodiad D y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, fod yr arbediad yn cynrychioli 2% ac 1% wrth symud ymlaen. Roedd niferoedd disgyblion ysgolion ac ati yn effeithio ar gyllidebau ysgolion hefyd, ac felly ar hyn o bryd, roedd hi'n anodd iawn pennu effaith y 2% ar gyllidebau ysgolion unigol. Nid oeddent yn awyddus i weld unrhyw ddiswyddiadau mewn ysgolion ac roedden nhw'n edrych ar ystod o fesurau i weld sut gallen nhw gyflawni'r arbedion heb ddiswyddiadau. Rhoddodd rai enghreifftiau o'r mesurau sy'n cael eu hystyried, gan roi sicrwydd i’r Aelod na fyddai'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig i ysgolion o reidrwydd yn arwain at ddiswyddo athrawon.
Gofynnodd Aelod i'r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid gadarnhau y gallai'r taliadau CCRD gael eu cymryd o'r cyllidebau refeniw a chyfalaf a chronfeydd wrth gefn cyfatebol? Gofynnodd hefyd ble roedd y taliad yn y gyllideb hon. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod ganddynt gyllideb refeniw roedden nhw'n ei defnyddio i gyfrannu at gostau rhedeg swyddfa CCR. Hefyd, gwnaed taliad ychwanegol i gefnogi'r gwariant cyfalaf ar gyfer CCR. Roedd cronfa wrth gefn a oedd yn derbyn ychwanegiadau, cronfa fyddai’n angenrheidiol am gyfnod byr. Nid oeddent yn creu unrhyw gostau refeniw hirdymor o ganlyniad i weithredu fel hyn. Holodd yr Aelod faint o refeniw a ddefnyddiwyd i dalu'r taliad CCRD eleni? Nid oedd gan y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid y wybodaeth honno wrth law, a chytunodd i'w darparu ar ôl y cyfarfod.
Esboniodd Aelod ei fod yn pryderu am y sefyllfa o gael llai o staff, a chynnydd posib yn nifer y disgyblion ar y gofrestr a’r ymateb a roddwyd iddo mewn cyfarfod craffu y gellid unioni hynny trwy ystyried dysgu ar y cyd ar-lein. Roedd yn poeni am effaith hyn ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol a namau gwybyddol, a chafodd sicrwydd y byddai darpariaethau yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer hyn. Gofynnodd faint yn union fyddai'r cymorth hwnnw'n ei gostio a lleoliad y dyraniad yn y gyllideb? Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod dau faes wedi eu nodi, cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chymorth i ddysgu digidol hefyd. O ran y gwasanaeth cynhwysiant neu'r gr?p Cymorth i Ddysgwyr o fewn y Gyfarwyddiaeth bresennol, roedd amrywiaeth o gymorth ar gyfer dysgwyr â namau gwybyddol, namau dysgu ac aml-namau echddygol. Roedd amryw o gefnogaeth hefyd i'r maes seicoleg addysg, cymorth i ddysgwyr, y timau synhwyraidd a hefyd dysgwyr ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol - y cyfan yn costio £7.5 miliwn. O ran dysgu ar-lein, roedden nhw wedi elwa'n sylweddol ar grant gan lywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf. Roedd pob ysgol bellach yn elwa ar gysylltedd Wi-Fi ar raddfa fawr a oedd ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion. Roedden nhw hefyd wedi rhoi dyfeisiau Chromebook i bob dysgwr chweched dosbarth ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roedd hynny'n bodloni'r gofyniad cynllun gweithredu ôl-16 ôl-arolwg. Ar ben hynny, roedden nhw wedi helpu ysgolion cyfrwng Cymraeg i ddarparu dyfeisiau Chromebook i bob dysgwr yn yr ysgolion Cymraeg.
Gofynnodd Aelod a oedd ffigur refeniw a oedd yn deillio o'r cyfalaf? Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid bod yr elw ar gyfalaf yr arian refeniw a fuddsoddwyd yn codi ar hyn o bryd oherwydd bod cyfraddau llog wedi codi. Nid oedd ganddi’r ffigur wrth law, ond roedden nhw'n rhagweld cynnydd eleni ers mis Ionawr pan aeth y gyfradd sylfaenol i fyny.
Cyfeiriodd Aelod at swyddogion mewn awdurdodau lleol cyfagos sy'n gweithio nid yn unig gyda'r pwyllgor gwaith, ond hefyd gyda grwpiau'r gwrthbleidiau i lunio cyllidebau amgen. Gofynnodd a oedd y Cabinet a swyddogion yn cytuno y dylid helpu grwpiau'r gwrthbleidiau i weithio gyda'r swyddogion i gyflwyno cyllidebau amgen? Atebodd y Swyddog Monitro bod rheidrwydd ar bob swyddog i gefnogi pob aelod o fewn yr awdurdod gan gynnwys y Cabinet, aelodau meinciau cefn a Chadeiryddion Craffu ac Arweinwyr yr Wrthblaid. O'i safbwynt hi, roedden nhw'n bodloni hynny trwy fynychu Pwyllgorau Craffu, BREP a chynnig cyfarfod yn unigol ag Aelodau fel y dangoswyd gan y gwahoddiad agored a estynnwyd dros y penwythnos diwethaf. Atebodd yr Arweinydd y byddai'n hoffi iddyn nhw gydweithio fel Aelodau ar un gyllideb, yn union fel yr oedd rhai o'u blaenau wedi elwa ar dros chwe mis o ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y Cabinet. Gallen nhw edrych ar ffyrdd o wella'r broses y flwyddyn nesaf. Roedd aelodau a swyddogion wedi treulio cannoedd o oriau'n ystyried y cynigion oedd o'u blaenau.
Cyfeiriodd Aelod at fater uwchraddio safle Waterton yn y gyllideb a oedd bellach wedi'i dynnu o'r Cynllun Datblygu Lleol yn dilyn adroddiad diweddaru gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod yr ardal bellach mewn perygl o lifogydd. Byddai angen adleoli neu newid cwmpas y prosiect hwn, a gofynnodd pam oedd yn parhau yn y gyllideb gyfalaf. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ei bod hi'n amlwg nad oedden nhw am aros safle’r depo. Roeddent yn chwilio am fan arall i gymryd lle'r depo hwnnw, yn benodol Stad Ddiwydiannol Brynmenyn. Byddai'n heriol iawn cael cyfalaf ar gyfer hynny, ond mae'n gwbl amlwg bellach fod yr ysgubor halen a'r depo gweithredol mewn ardal lle mae perygl o lifogydd, ac nad oedd modd aros yno. Roedd gwaith ar y gweill i ddod o hyd i leoliad arall gyda chyllideb lai.
Cyfeiriodd Aelod at ymateb a roddwyd yng nghyfarfod Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 2 Chwefror 2023 a oedd yn awgrymu bod arian wrth gefn cudd ar gael yn nhabl y gyllideb y tu hwnt i’r £116 miliwn a nodwyd yn y gronfa wrth gefn. Efallai y bydd mwy o arian ar gael i ddiogelu addysg plant na'r hyn a gyflwynwyd yn y gyllideb, ac mae'n rhoi'r argraff nad oedden nhw, fel sefydliad, yn bod yn gwbl glir a thryloyw.
Gofynnodd faint o arian wrth gefn ychwanegol oedd yn y gyllideb yn ogystal â'r cronfeydd wrth gefn, ble roedd y cyllid hwnnw a sut gallai hyn basio'r prawf o fod yn gyllideb gytbwys, gadarn a diffiniedig os oedd arian wrth gefn ychwanegol yn rhan ohoni. Atebodd yr Arweinydd nad oedd cronfeydd wrth gefn heb eu datgelu. Roedden nhw wedi gwneud darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer chwyddiant cyflog a phrisiau. Roedd yn cyfeirio at chwyddiant cyflogau a'r pwysau a oedd o'u blaenau, a bod hynny wedi'i nodi o fewn y gyllideb oedd o'u blaen.
Cyfeiriodd Aelod at un o egwyddorion sylfaenol y Cyfansoddiad sef bod un Cyngor yn cydweithio er budd y trigolion. Roedd y gyllideb a graffwyd yn seiliedig ar flaenoriaethau gwleidyddol y weinyddiaeth nid blaenoriaethau pob aelod na gr?p. Roedd ei gr?p hithau wedi cyflwyno'r hyn roedden nhw’n ei gredu a oedd yn gyllideb amgen gredadwy, cytbwys a chyfreithiol a oedd yn cynnwys argymhellion y broses graffu yn ogystal â gwrando ar flaenoriaethau'r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd hi'n siomedig na chafodd y cynigion eu hystyried yn unol â’r egwyddor o un Cyngor, ac nad oedd Arweinwyr Gr?p wedi cael cyfle i drafod hyn ymhellach. Gofynnodd a fyddai'r Arweinydd yn fodlon gwrando ar 25 o aelodau gwrthblaid y Cyngor hwn a'r farn gyhoeddus, a thynnu'r Gyllideb yn ôl a'i chyflwyno eto gerbron y Cabinet er mwyn ystyried eu pryderon. Atebodd yr Arweinydd ei fod yn siomedig nad oedd, ar adeg mor hwyr yn y broses, wedi gweld y cynigion amgen hyn. Roedd dyletswydd gyfreithiol arnyn nhw i osod cyllideb a chyfrifoldeb i anfon y biliau, gosod yr ardoll a'r praesept ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru a'r Cynghorau Tref a Chymuned. Dyfynnodd yr Aelod adran 16, pwynt 2.3 o'r Cyfansoddiad nad dyna oedd yn ofynnol arnyn nhw'n gyfansoddiadol ar y diwrnod hwnnw. Roedd cyfle i gynghorwyr anfon y mater yn ôl i'r Cabinet am bum niwrnod, ac roedd angen gwneud hynny o fewn yr 11 diwrnod nesaf. Nid yw'r gyfraith yn mynnu eu bod nhw'n gorfod pennu cyllideb heddiw dan y Cyfansoddiad. Gofynnodd yr Arweinydd i'r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid rannu ei dehongliad a'i hymateb gyda'r Siambr. Eglurodd y gallai'r Aelodau gyflwyno cyllideb amgen os nad oedden nhw'n fodlon gyda'r gyllideb arfaethedig. Cadarnhaodd ei bod wedi derbyn cyllideb amgen ychydig cyn y dyddiad cau. Yn ei rôl fel swyddog Adran 151, fe wnaeth adolygu'r cynigion i sicrhau eu bod yn gadarn ac y byddent yn arwain at gyllideb gytbwys.
Doedd hi ddim yn credu eu bod yn bodloni'r meini prawf ac yn benodol, y gofyniad sydd ar y Cyngor i fod yn gadarn o safbwynt cynllunio ariannol hirdymor ac felly ar y sail honno, ni chyflwynwyd hwy i'r Cyngor. Atgoffodd yr Arweinydd yr Aelodau fod un gyllideb i'w hystyried ger eu bron. Esboniodd y Swyddog Monitro ei bod hi'n gywir bod paragraff 6.2, pwynt 3 yn dweud y byddai'r Cyngor yn ystyried y cynigion ac y gallai eu mabwysiadu, eu diwygio, eu cyfeirio'n ôl i'r Cabinet i'w hystyried ymhellach neu eu hamnewid am ei gynigion ei hun. Fodd bynnag, ni ddylid darllen hynny ar wahân yn ei barn hi - ond ei ddarllen ar y cyd â pharagraff 16 pwynt 2.4, a oedd yn nodi'n glir bod unrhyw welliannau i'r cynnig yn gorfod bod gyda'r Prif Swyddog Cyllid erbyn y dyddiad cau a bod hynny'n cynnwys unrhyw atgyfeiriad yn ôl i'r Cabinet.
Esboniodd Arweinydd Gr?p ei fod yn cydnabod bod cefndir a chyd-destun y gyllideb hon yn gwbl ddigynsail. Er bod y cynnydd cymharol sylweddol yn y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu, mewn gwirionedd roedd yn cuddio realiti'r sefyllfa ar lawr gwlad, lle'r oedd cyllidebau ar draws yr awdurdod lleol dan bwysau aruthrol. Rhannodd bryderon ei gydweithwyr yngl?n â'r lefel isel iawn o arbedion a ragwelwyd mewn newidiadau polisi. Roedd yn credu bod angen ffocws clir a chadarn ar hyn, ar draws gweddill y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Roedd gweithio mewn ysbryd o gydweithio gwirioneddol wedi arwain at newidiadau, a diolchodd i Aelodau'r Cabinet am adolygu rhai o'u cynigion cychwynnol er mwyn cyrraedd y pwynt hwn. Roedd yn credu yn hanfodion addysg ac yn teimlo bod torri 2% ar gyllidebau ysgolion unigol yn annealladwy ac anymarferol. Roedd wedi siomi’n arw nad oedden nhw wedi llwyddo i wneud rhywfaint o gynnydd o ran lleihau lefel y toriadau hyn yn ystod sawl cyfres o drafodaethau, drwy BREP a chraffu. Croesawodd ymrwymiad y Cabinet i fanylion cyllidebau'r dyfodol ac edrychodd ymlaen at archwiliad mwy trylwyr a manwl o'r broses o osod y gyllideb yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd Aelod ei fod yn credu eu bod yn wir wedi gweithio fel un Cyngor dros y misoedd diwethaf. Roedd wedi eistedd ar bwyllgor BREP, gan edrych yn fanwl ar gynigion y gyllideb ac ar yr hyn fyddai’n cael ei effeithio gan yr arbedion costau ac yn gyffredinol roedd consensws cryf ymhlith y pwyllgorau hynny yngl?n â'r pethau oedd angen eu newid. Roedd y Cabinet wedi nodi llawer o'r newidiadau ac roedd hyn yn enghraifft o gydweithredu ledled y Cyngor. Credai eu bod wedi cadw lefelau isel iawn o arian wrth gefn i'r sefydliad, a phe bai digwyddiad argyfyngus arall yn eu taro, fe allai adael y sefydliad mewn lle bregus iawn ac yn methu darparu'r gwasanaethau statudol a hanfodol hynny i drigolion. A oedd swyddogion yn gwbl sicr bod ganddyn nhw ddigon yn y cronfeydd wrth gefn, ac a oedden nhw’n barod i Ben-y-bont ar Ogwr allu codi'n ôl ar ei thraed cyn gynted â phosib? Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod cronfa'r Cyngor yn ddigon ar gyfer argyfyngau ac na ddylai fynd yn is ar unrhyw gyfrif. Dylai cronfa'r Cyngor fod yn 5% o'r gyllideb refeniw net ond roedd ychydig is na hynny ac felly'n cyfateb i'r hyn y byddai Archwilio Cymru yn ei ystyried yn dderbyniol. Roedd ganddyn nhw gronfeydd wrth gefn a oedd wedi'u clustnodi i gyflawni'r rhwymedigaethau roedden nhw’n gwybod eu bod yn mynd i’w bodloni, neu i fodloni penderfyniadau polisi a wnaed nad oedd modd eu cyflawni mewn un flwyddyn, i'w helpu i gyflawni rhai o'r polisïau hynny dros gyfnod o amser. Roedd hi'n credu bod lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn iawn a'u bod yn rheoli'r risgiau wrth symud ymlaen drwy'r polisi wrth gefn hwnnw. O ran buddsoddi i helpu yn y dyfodol, amlinellodd waith drwy'r rhaglen gyfalaf i'w galluogi i wneud hynny, megis paneli solar ac ati.
Nododd Aelod fod lefelau chwyddiant rhwng 10% a 12% a'u bod yn wynebu cefnogi cynnydd yn y gyllideb sy'n llai na hanner hynny. Roedd felly'n dueddol o gefnogi'r un gyllideb a welodd ac a gafodd gyfle i helpu i graffu arni ac roedd yn ei chefnogi fel rhywbeth angenrheidiol dan yr amgylchiadau presennol.
Holodd un Aelod am gymorth i ysgolion wrth symud ymlaen. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd, lle'r roedd gan ysgolion ddiffyg yn eu cyllideb, y byddai angen iddynt eu cefnogi a byddai'r ystod o gefnogaeth sydd ar gael yn dod o ffynonellau amrywiol - nid dim ond cyllid, ond hefyd cymorth gan weithwyr proffesiynol gwella ysgolion ac arbenigwyr awdurdodau lleol. Hefyd, roedd amryw o weithgarwch i helpu teuluoedd er mwyn sicrhau bod anghenion plant sy'n ymuno ag ysgolion yn lleoliadau'r blynyddoedd cynnar, yn cael eu cefnogi hefyd.
Yn dilyn cais a gyflwynwyd gan Aelod ac a eiliwyd, cynhaliwyd pleidlais wedi ei chofnodi ar argymhellion yr adroddiad. Dyma'r canlyniadau:
O blaid: Y Cynghorwyr S Aspey, H Bennett, JP Blundell, E Caparros, R Collins, HJ David, Colin Davies, P Davies, M Evans, N Farr, P Ford, J Gebbie, R Goode, RM Granville, H Griffiths, S Griffiths, M Hughes, M Jones, M Kearn, W Kendall, JC Spanswick, JH Tildesley, G Walter, H Williams, R Williams, E Winstanley = 26 pleidlais
Yn erbyn: Y Cynghorwyr A Berrow, F Bletsoe, S Bletsoe, N Clarke, Chris Davies, S Easterbrook, D Harrison, D Hughes, P Jenkins, M John, R Smith, I Spiller, R Penhale-Thomas, T Thomas, A Wathan, Alex Williams, Amanda Williams, I Williams, M Williams, T Wood = 20 pleidlais
Ymatal: RM James a JE Pratt
Cafodd argymhellion yr adroddiad eu derbyn.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Ariannu Tymor Canolig 2023-24 tan 2026-27, gan gynnwys cyllideb refeniw 2023-24 a Rhaglen Gyfalaf 2022-23 tan 2032-33. Yn benodol, cafodd yr elfennau penodol canlynol eu cymeradwyo gan y Cyngor:
• Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 (Atodiad 3).
• Y gofyniad cyllideb net o £342,047,227 yn 2023-24.
• Treth Gyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £1,675.26 ar gyfer
2023-24 (Tabl 15 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig).
• Cyllidebau 2023-24 fel y'u dyrannwyd yn unol â Thabl 10 ym mharagraff 4.1.3 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
• Rhaglen Gyfalaf 2022-23 tan 2032-33, ynghlwm wrth Atodiad G y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Dogfennau ategol: