Agenda item

Strategaeth Gyfalaf 2023-24 a thu hwnt

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023-24 tan 2032-33 (Atodiad A i'r adroddiad) i'r Cyngor ei chymeradwyo, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus a'r Datganiad Darpariaeth Refeniw Isafswm Blynyddol 2023-24.

 

Esboniodd fod gofyn i awdurdodau lleol benderfynu ar Strategaeth Gyfalaf a oedd yn dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb ariannol, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd yn briodol wrth wneud y penderfyniadau hyn. Cafodd y Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2023 - 2024 tan 2032 - 2033 ei hatodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y strategaeth yn nodi cynllun y Cyngor ar gyfer gwariant cyfalaf, a sut oedd hynny i'w ariannu dros y 10 mlynedd nesaf. Wrth ddatblygu penderfyniadau buddsoddi hirdymor, roedd yn hanfodol bod penderfyniadau'n seiliedig ar wybodaeth glir, gan gynnwys cynllun rheoli hirdymor. Cafodd y ddogfen ei chyflwyno fel rhan annatod o fframwaith cyllideb a pholisi'r Cyngor. Roedd yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau'r Cyngor.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid yr egwyddorion a oedd yn llywio penderfyniadau cyllideb a gwariant y Cyngor fel y cânt eu hadlewyrchu yn y strategaeth gyfalaf. Roedd y cynllun yn manylu ar sut y byddai angen cwblhau astudiaeth ddichonoldeb lawn ar gyfer unrhyw fuddsoddiadau arfaethedig mewn tir ac adeiladau er mwyn gwerthuso ymarferoldeb y prosiect cyfalaf, ac asesu'r elfennau cyflawni cyn i'r Cyngor fuddsoddi amser ac arian i'r prosiect hwnnw.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid y byddai llawer o feysydd sylweddol angen eu cyllido wrth symud ymlaen, gan gynnwys adfer yr economi, datgarboneiddio a digartrefedd, digidoleiddio ac amddiffynfeydd arfordirol. Fel yr adroddwyd i'r Cyngor gydol y flwyddyn, roedd pwysau ariannol eraill hefyd yn codi yn sgil y pandemig a Brexit - pwysau a welwyd mewn cynlluniau cyfredol - a rhagwelir y byddai hyn yn parhau am gryn amser eto. Roedd y pwysau'n cynnwys trafferthion y gadwyn gyflenwi gan arwain at brisiau uwch ac oedi o ran cwblhau cynlluniau.

 

Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y strategaeth hefyd yn cyfeirio at y newidiadau yn y gallu i fenthyca gan y bwrdd benthyciadau gwaith cyhoeddus o ran benthyca i fuddsoddi'n bennaf ar gyfer adenillion ariannol. Roedd angen rheoli prosiectau cyfalaf mawr yn ofalus i liniaru'r risgiau posibl a allai godi. Roedd monitro, rheoli a lliniaru'r risgiau hyn yn rhan allweddol o reoli'r strategaeth gyfalaf yn effeithiol.

 

Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod yr adroddiad yn amlinellu'r broses gadarn ar waith i gymeradwyo, rheoli a monitro prosiectau cyfalaf a pharatowyd adroddiadau monitro cyfalaf chwarterol ar gyfer y Cabinet a'r Cyngor gyda manylion unrhyw amrywiannau rhwng prosiectau yn ogystal â rhagamcanion o wariant tebygol diwedd blwyddyn.

 

Yn ôl y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid, yn 2023 - 2024, roedd y Cyngor yn cynllunio gwariant cyfalaf o £69 miliwn a chrynhowyd hyn yn nhabl 2 y ddogfen strategaeth gyfalaf. Roedd sawl ffrwd ariannu ar gael i'r Cyngor tuag at fuddsoddiad cyfalaf, ac mae'r manylion yn atodiad un y strategaeth gyfalaf. Cafodd y Cyngor gymorth gan Lywodraeth Cymru tuag at gost cyfalaf a chafodd yr arian hwn ei flaenoriaethu ar fuddsoddiad oedd ei angen i fodloni gofynion iechyd a diogelwch. Nid oedd unrhyw gyfyngiadau cenedlaethol ar hyn o bryd ar lefelau benthyg y gallai'r Cyngor eu defnyddio ar gyfer fuddsoddiadau cyfalaf. Cymeradwyodd y Cyngor ei derfyn benthyca fforddiadwy ei hun.

Roedd canran cyllideb refeniw y Cynghorau a oedd wedi ymrwymo i gostau ariannu cyfalaf yn cynyddu yn y cyfnod hir dymor o ystyried y pwysau ar gyllidebau refeniw, roedd hyn yn cyfyngu ar fforddiadwyedd blaenoriaethau eraill mewn blynyddoedd i ddod a dylai fod yn ffactor i aelodau ei ystyried wrth benderfynu ar y rhaglen gyfalaf.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y strategaeth a oedd yn rhoi fframwaith clir i Aelodau ei dilyn gan ddarparu ymrwymiad clir ar gyfer gwerthuso ôl-brosiect. Roedd yn cefnogi cais y Pwyllgor Craffu am sesiwn hyfforddi ar gyfer aelodau er mwyn sicrhau bod gan bob Aelod yn y dyfodol ddealltwriaeth dda a chlir o'r strategaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwysau sylweddol prisiau uwch ar y rhaglen gyfalaf o ganlyniad i chwyddiant gan ofyn i'r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid amlinellu'r newidiadau i'r strategaeth neu'r ystyriaethau ychwanegol a oedd wedi'u cynnwys yn y strategaeth er mwyn darparu ar gyfer rhain yn y dyfodol. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod hyn yn ymwneud â diogelu'r Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol. Roedd yn arferiad cyffredin i gynnwys arian wrth gefn mewn cynlluniau unigol. Roedden nhw'n ymwybodol bod pwysau o fewn y cynlluniau presennol y tu hwnt i reolaeth swyddogion a bod problemau chwyddiant yn effeithio ar gymaint o gynlluniau cyfalaf ar hyn o bryd. Roedd tendrau'n cyrraedd uwchlaw'r amcangyfrifon disgwyliedig ac nid oeddent yn dyrannu'r holl arian cyfalaf er mwyn eu galluogi i ymateb i bwysau o'r fath.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd y byddai'r Swyddogion Gweithredol yn ystyried manteision buddsoddi mewn ynni solar a phwyntiau gwefru EV i ddarparu refeniw angenrheidiol i'r Cyngor. Atebodd yr Arweinydd eu bod yn buddsoddi mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan fel yr adroddwyd i'r Cyngor ac y byddant yn ystyried syniadau ar sut i wella effeithlonrwydd ynni mewn ysgolion i leihau costau. Gofynnodd i Aelodau gefnogi a chydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud ar Rwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n brosiect arloesol a'r unig un o'i fath sy'n cefnogi agenda ynni adnewyddadwy'r awdurdod.

 

Gofynnodd Aelod a oedd ffordd well yn y dyfodol o riportio risg ar lefel prosiectau, fel bod ganddyn nhw'r darlun cyflawn wrth wynebu penderfyniadau anodd. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid ei bod yn hapus i edrych ar y modd y caiff gwybodaeth ei hadrodd. Er nad oeddent am ddatgelu gwybodaeth fasnachol, bydden nhw'n ystyried a oedd modd mynd i'r afael â'r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2023-24 tan 2032-33 gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2023-24 tan 2025-26 a Datganiad Darpariaeth Refeniw Isafswm Blynyddol (MRP) 2023- 24 yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: