Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-24 (Atodiad A i'r adroddiad), gan y Prif Swyddog Cyllid Perfformiad a Newid, a oedd yn cynnwys Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, ar gyfer 2023-24 tan 2025-26.
Esboniodd fod swyddogaethau Rheoli Trysorlys y Cyngor wedi'u rheoleiddio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Roedd hyn yn rhoi'r pwerau i'r awdurdodau fenthyg a buddsoddi yn ogystal â darparu rheolaethau a chyfyngiadau ar y gweithgaredd hwn. Bu'n rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, sy'n nodi cyfrifoldebau, dirprwyaethau a threfniadau adrodd y Cynghorau a'r Prif Swyddog Ariannol.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi cyflawni ei weithgareddau i reoli'r trysorlys yn unol â chod darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn amgylchedd sy'n gynyddol gymhleth ac i ategu'r newidiadau i reoliadau. Roedd Strategaeth Rheoli'r Trysorlys integredig gan y Cyngor lle rheolwyd benthyca a buddsoddiadau yn unol â'r arferion proffesiynol gorau. Byddai'r Cyngor yn disgwyl benthyg arian os byddai angen, naill ai i ddiwallu anghenion llif arian yn y tymor byr neu i ariannu cynlluniau cyfalaf a gymeradwywyd o fewn y rhaglen gyfalaf. Felly, nid oedd unrhyw fenthyciadau gwirioneddol yn gysylltiedig ag eitemau penodol o wariant neu asedau.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod y Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli arian a fuddsoddwyd ac effaith refeniw'r newidiadau mewn cyfraddau llog. Felly, roedd adnabod, monitro a rheoli'r risg yn llwyddiannus yn ganolog i Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Pe bai unrhyw newid sylweddol, byddai strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo. Ychwanegodd y byddai effaith barhaus rhyfel Wcráin ar y DU, yn ogystal â chwyddiant uwch, cyfraddau llog uwch, polisi ansicr gan y llywodraeth a rhagolygon economaidd sy'n dirywio, yn gryn ddylanwadau ar Strategaeth y Cyngor ar gyfer Rheoli'r Trysorlys yn 2023-2024.
Yn ôl y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid roedd gan y Cyngor £99.8 miliwn o fenthyciadau a £94.05 miliwn o fuddsoddiadau ar 31 Rhagfyr 2022. Rhagwelwyd y gallai fod angen i'r Cyngor fenthyg yn ystod y tair blynedd nesaf fodd bynnag, ond y gallai'r sefyllfa hon newid os na fydd cynlluniau cyfalaf yn mynd rhagddynt fel y rhagwelwyd, neu gynlluniau newydd heb eu hariannu'n llawn gan grant yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gyfalaf, neu ychwanegu cynlluniau newydd sydd angen cyllid dyled ychwanegol. Wrth fenthyg arian, prif amcan y Cyngor oedd taro cydbwysedd risg priodol o isel rhwng sicrhau costau llog isel a sicrhau sicrwydd o'r costau hynny dros y cyfnod ariannu. Roedd y strategaeth yn amlinellu prif amcanion y Cyngor o ran benthyca yn 2023-24.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid eu bod wedi newid y strategaeth yn seiliedig ar sylwadau a gawsant gan Aelodau etholedig. Roedd y strategaeth newydd yn cynnig llai o gyfyngiad ar yr hyn y gallen nhw ei osod gydag awdurdodau lleol eraill a chynnig lleihau'r amser y gellid buddsoddi'r arian hwnnw. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddai'r Cyngor yn derbyn adroddiadau sy'n ofynnol yn y Cod Ymarfer. Mae'r rhain yn cynnwys Strategaeth flynyddol i Reoli'r Trysorlys, adroddiad monitro canol blwyddyn ac adroddiad Alldro blynyddol gan y Trysorlys.
Soniodd Aelod fod rhai cynghorau o gwmpas y wlad yn cymryd lefel uwch o risg ac yna’n wynebu trafferthion, a gofynnodd a oedd yr awdurdod yn hyderus bod y newidiadau a wnaed i'r strategaeth yn ddigonol i ddiogelu rhag y sefyllfaoedd hynny. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod risg gynhenid yn rhan o weithgareddau rheoli'r Trysorlys a bod y strategaeth yn ceisio lleihau hynny gymaint â phosibl. Nod y newidiadau a gynigiwyd oedd ceisio lleihau'r risg honno.
Cyfeiriodd Aelod at y benthyciad o £8 miliwn i Gyngor Thurrock a bod £5 miliwn ohono i fod i gael ei ad-dalu ym mis Mai - gofynnodd a allai'r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid egluro'r sefyllfa. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid mai dyma un o'r risgiau roedden nhw'n eu hwynebu, ond bod proses gadarn iawn ar waith i sicrhau eu bod wedi gwneud yr holl archwiliadau diwydrwydd dyladwy perthnasol cyn adneuo'r arian hwnnw yn unrhyw le, ac y byddai ganddynt ddiweddariadau rheolaidd mewn perthynas â'r buddsoddiad penodol hwnnw. Roedd disgwyl rhywfaint o ad-daliad yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a chafwyd sicrwydd y byddai'r ddau daliad hynny'n cael eu gwneud ar y dyddiad dyledus.
Gofynnodd Aelod a oedden nhw'n adolygu yn rheolaidd pa raglenni fyddai'n symud ymlaen o fewn y ddwy flynedd nesaf ac os na, pa arian y gellid ei ddychwelyd i'r gyllideb prif ffrwd er mwyn lleddfu'r problemau eraill roedden nhw'n eu hwynebu.
Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid bod y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei chyflwyno'n rheolaidd ac felly'n cael ei hadolygu'n rheolaidd. O ran cynlluniau unigol, roedden nhw'n gofyn am ddiweddariadau rheolaidd iawn gan reolwyr prosiect o safbwynt y gwariant tebygol a phroffil y gwariant hwnnw. Ni fyddai cynlluniau'n rhan o'r Rhaglen Gyfalaf pe bai problem gyda nhw neu os nad oedd cynllun am gael ei gyflawni, a byddai unrhyw gyllid gafodd ei glustnodi i'r cynllun wedyn yn cael ei ryddhau. Gallan nhw ailddyrannu'r arian hwnnw wedyn, os oedden nhw'n fodlon na fyddai'r cynllun yn dwyn ffrwyth, er mwyn cefnogi cynlluniau cyfalaf eraill sy'n dod yn weithredol. Dim ond unwaith y gellid defnyddio cronfeydd wrth gefn, felly ni ellid eu defnyddio i gynnal cyllideb refeniw dros gyfnod o amser.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2023-24 gan gynnwys dangosyddion Rheoli'r Trysorlys 2023-24 tan 2025-26 (Atodiad A o'r adroddiad).
Dogfennau ategol: