Cofnodion:
Cyflwynwyd i'r Cyngor gan y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid adroddiad yn cynnwys manylion y dreth gyngor ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol, ynghyd â gofynion Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a’r Cynghorau Tref a Chymuned, gan ofyn i’r Cyngor gymeradwyo Band D y Dreth Gyngor ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r ardaloedd cymunedol ar gyfer 2023-24.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod yn rhaid i'r Cyngor gyfrifo ei ofyniad cyllideb a chymeradwyo'r Dreth Gyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hefyd, fel awdurdod bilio, roedd yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfrifo swm sylfaenol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau'r ardal, a oedd yn ymwneud ag un neu ragor o eitemau arbennig. Y Cyngor hwn sy'n casglu'r Dreth Gyngor ar ran Cynghorau Tref a Chymuned yr ardal yn ogystal â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Roedd y Cyngor wedi cytuno ar ofyniad cyllideb net o £342 miliwn i'r Cyngor am y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd hyn gyfystyr â threth gyngor o £1675.26 ar eiddo band D.
Esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi rhoi gwybod i'r Cyngor bod y praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod wedi'i gytuno, ac y byddai eu praesept ar eiddo band D yn cynyddu i £324.47. Roedd hyn yn gynnydd o 7.4% ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd gofyniad cyllideb Cynghorau Tref a Chymuned ar gyfer y flwyddyn i ddod yn gynnydd o .92% ar gyfartaledd ar gyfer 2023-2024. Mae cyfanswm gofyniad treth gyngor band D ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn i ddod ar gyfer pob ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dadansoddiad pellach o'r dreth ar gyfer pob ardal sy'n dangos y swm sy'n daladwy i'r Cyngor hwn, i'w gweld yn nhabl 7 yr adroddiad.
Gofynnodd Aelod a ellid cael pleidlais ar hyn o gofio bod y gyllideb eisoes wedi'i phasio, ac a ddylai'r Aelodau hynny sy'n eistedd ar Gynghorau Tref a Chymuned ddatgan buddiant. Atebodd y Swyddog Monitro nad oedd angen datgan buddiant rhagfarnus. Roedd y Cyngor wedi pasio'r gyllideb, a'i chyngor hi oedd os nad oedd y dreth gyngor wedi'i chymeradwyo ar y cam hwn, y byddent felly’n llesteirio ewyllys y Cyngor.
Soniodd yr Aelod am yr argyfwng costau byw a gofyn beth oedd y broses ar gyfer adennill taliadau a fethwyd ac a oedd yr awdurdod yn hyblyg dan yr amgylchiadau hyn. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid fod sawl proses ar waith i helpu pobl oedd yn cael trafferth talu'r bil treth gyngor. Os oedd pobl eisiau talu mewn rhandaliadau, roedd modd gwneud hynny dros 12 mis yn hytrach na 10, a oedd yn gymorth i rai pobl. Hefyd, dylid gwirio a oedd ganddyn nhw hawl i unrhyw fudd-daliadau nad oedden nhw'n ymwybodol ohonynt. Roedd cynllun gostyngiadau'r dreth Gyngor hefyd, gyda £16 miliwn yn y gyllideb refeniw yn helpu pobl pe baen nhw'n cael trafferth talu’r dreth gyngor, ac yn y blynyddoedd diwethaf roedd y Cyngor wedi rhoi mwy o arian ar gyfer hynny am yr union reswm hwnnw.
Gofynnodd Aelod i'r Arweinydd a oedd yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu awdurdodau Cymru. Atebodd yr Arweinydd fod y Prif Weinidog wedi dweud ar gofnod ei fod yn poeni am effaith cynyddu'r dreth incwm ar rai o'r bobl incwm isaf yng Nghymru, ac effaith niweidiol bosib cynyddu cyfradd sylfaenol y dreth incwm. O ran cyfradd uwch y dreth incwm, roedd sylfaen lawer llai yma yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU ac nid oedd y refeniw a fyddai'n cael ei gynhyrchu o hynny yn cael ei ystyried yn sylweddol. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried eu dewisiadau o ran codi incwm ac roedden nhw'n sicr yn edrych ar system y dreth gyngor. Byddai canlyniadau’r ymgynghoriad ar system y dreth gyngor yn cael eu hadrodd yn ôl a byddai rhai newidiadau yn dilyn o ganlyniad i hynny.
Nododd Aelod nad oedd yr adroddiad yn cynnwys cymhariaeth â'r awdurdodau lleol eraill, ac mai CBS Pen-y-bont ar Ogwr oedd â'r 4ydd lefel uchaf o blith 22 o awdurdodau lleol Cymru. Gofynnodd a oedd dadansoddiad wedi'i wneud ar lefelau fforddiadwyedd a beth fyddai effaith y cynnydd ar gyfraddau casglu. Atebodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid fod y gyfradd gasglu yn cael ei hadolygu'n flynyddol, a'i bod wedi gostwng yn ystod y pandemig. Mae'n gyfuniad o edrych ar y gyfradd gasglu a pha fesurau y gellid eu rhoi ar waith i gefnogi trigolion. O ran fforddiadwyedd, esboniodd y Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid eu bod bob amser yn monitro cyfraddau casglu, ac wedi adlewyrchu hynny pan gyflwynwyd sylfaen y dreth gyngor i'w gymeradwyo yn ôl ym mis Rhagfyr. Ni fyddai byth yn cael ei osod ar lefel anghyraeddadwy.
Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau eu bod, wrth ddefnyddio cyfartaleddau, yn gallu rhoi rhyw fath o arweiniad o'r cyfartaledd ledled Cymru i gyfeirio at sut roedd awdurdodau yn cael eu hariannu. O fewn yr ystod honno, roedd llawer o eiddo yn is na band D a rhai yn uwch. Roedd y rhan fwyaf o eiddo CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn is na band D, gan effeithio ar y safle cyfartalog cyffredinol yn y tabl hwnnw. Byddai awdurdod mwy cyfoethog lle’r oedd yno fwy o eiddo uwchben band D mewn sefyllfa wahanol, ac felly nid oedd eu safle yn y tabl hwnnw mewn gwirionedd yn berthnasol. Atebodd yr Aelod fod ganddo dabl StatsCymru o'i flaen a bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr gryn dipyn yn uwch na'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ar draws y bwrdd.
Yn dilyn cais Aelod, cynhaliwyd pleidlais wedi ei chofnodi, a dyma'r canlyniad:
O blaid: Y Cynghorwyr S Aspey, H Bennett, JP Blundell, E Caparros, R Collins, HJ David, Colin Davies, P Davies, M Evans, N Farr, P Ford, J Gebbie, R Goode, RM Granville, H Griffiths, S Griffiths, M Hughes, RM James, M Jones, M Kearn, W Kendall, JC Spanswick, G Walter, H Williams, R Williams, E Winstanley = 26 pleidlais
Yn erbyn: Y Cynghorwyr A Berrow, F Bletsoe, S Bletsoe, N Clarke, Chris Davies, S Easterbrook, D Harrison, D Hughes, P Jenkins, M John, R Smith, I Spiller, R Penhale-Thomas, J Pratt, T Thomas, A Wathan, Amanda Williams, I Williams, M Williams, T Wood = 20 pleidlais
Cafodd argymhellion yr adroddiad eu derbyn.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo:
• treth Gyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £1,675.26 ar gyfer 2023-24, a
• taliadau Treth Gyngor ar gyfer eiddo Band D ar gyfer 2023-24 ar gyfer pob un o'r ardaloedd cymunedol fel yr amlinellir yn Nhabl 7 yr adroddiad.
Dogfennau ategol: