(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)
(ii) Aelodau’r Cabinet
(iii) Prif Weithredwr
Cofnodion:
Y Maer
Cefais yr anrhydedd yn ddiweddar o gwrdd â derbynwyr Gwobrau'r Maer eleni. Roedd gormod o bobl i’w crybwyll, ond hoffwn ddweud bod y rhain yn bobl onest, weddus yn mynd o gwmpas eu busnes beunyddiol, i helpu’r rhai sy’n llai ffodus na nhw eu hunain.
Ynghyd ag aelodau allweddol eraill, cyfarfûm yn ddiweddar â’r aelod o’r Senedd, Huw Irranca Davies i groesawu’r Prif Weinidog i gwmni o Faesteg sy’n arbenigo mewn atal tân, sef Sideris, un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes technoleg atal tân mewn adeiladau uchel. Mae'r cwmni wedi ehangu, â buddsoddiad o £6m, gan ddyblu eu gallu cynhyrchu yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n si?r y bydd yr aelodau’n ymuno â mi i longyfarch y cwmni ac i ddymuno’n dda iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi mynychu nifer o gyngherddau G?yl Dewi, gan wrando ar y corau amrywiol o fewn ein hysgolion a'n neuaddau cyngerdd, a oedd yn fraint. Roedd y Dirprwy Arweinydd a minnau hefyd yn bresennol yn seremoni Gwobrwyo’r Uchel Siryf ym Mhencoed gyda phwysigion eraill, lle’r oedd hefyd yn fraint gweld cyflawniadau anhygoel pobl ifanc, â’r brif wobr yn mynd i Ofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ogystal, casglodd ein Dirprwy Faer Ieuenctid Gwynllian Williams wobr yn ddiweddar am godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo LHDT+ a hoffwn ei longyfarch am hyn.
Y Sul diwethaf mynychais Eglwys Nolton, Pen-y-bont ar Ogwr, i dystio bendith y Faner newydd i Gangen Ogwr o'r Gwarchodlu Cymreig. Yn bresennol roedd cynrychiolydd Kings ar gyfer yr Uchel Siryf, yr Athro Peter Vaughan, yr Arglwydd Raglaw, ynghyd â Maer Tref Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Tim Wood.
Yn olaf, a gaf i ddiolch i chi i gyd am gefnogi Elusen y Maer. Mae'r Ddraig Unig yn eistedd yn lolfa'r Aelodau yn aros i gael ei henwi. Mae angen i'r rhai sy'n dymuno dyfalu ei henw ymrwymo £1 i'r Elusen, at y diben hwn.
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Roeddwn yn ddigon ffodus i weld ein gweithlu gofal cymdeithasol plant y bore yma, wrth inni lansio ein model ymarfer, Arwyddion Diogelwch. Hoffwn roi sicrwydd i’r aelodau ein bod yn cymryd camau breision i fynd i’r afael â’n heriau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr a byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am hyn maes o law.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn nodi Wythnos Maethu a Mabwysiadu Teuluoedd Cymdeithasol Newydd a LHDT+ unwaith eto drwy annog aelodau o'r gymuned leol sy'n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol neu arall i ystyried mabwysiadu neu faethu plant yn y fwrdeistref sirol.
Y tro hwn, rydym wedi bod yn annog pobl i ystyried faint o blant y gallent eu mabwysiadu, ac a allant dderbyn grwpiau o frodyr a chwiorydd.
Yng Nghymru y llynedd, roedd mwy na 7,000 o blant sy’n derbyn gofal, ond gall gymryd amser maith i ddod o hyd i fabwysiadwyr a gofalwyr maeth i blant sydd hefyd yn frodyr a chwiorydd.
Mae’r gwasanaeth yn parhau i groesawu ymholiadau ar faethu a mabwysiadu gan y gymuned LHDTC+, ac yn 2022, daeth un o bob pedwar cais gan barau o’r un rhyw.
Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â ffigur 2017 o un o bob wyth, ac mae’n dda gweld bod rhagor o blant sy’n aros i gael eu mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd parhaol.
Mae Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr a Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin ill dau yn darparu gwybodaeth helaeth am bwy all fabwysiadu a maethu, yn ogystal â'r broses o fabwysiadu a maethu yn y fwrdeistref sirol.
Rydym yn chwilio am bobl 21 oed a throsodd nad oes ganddynt unrhyw rybuddion neu euogfarnau yn eu herbyn yn ymwneud â phlant, a all ddangos ymrwymiad i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, ac sy'n gallu cynnig amgylchedd cariadus a diogel.
Gyda digon o gymorth a chyngor ar gael, trwy weithredu fel gofalwr maeth neu fabwysiadwr, gallwch hefyd helpu i gadw plant lleol o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hytrach na gorfod adleoli i ardal arall yn rhywle arall.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i faethu neu fabwysiadu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i WWW Dot Bridgend Foster Care Dot Cymru, neu WWW Dot Western Bay Adoption Dot Org.
Hoffwn hefyd ddweud da iawn i Ollie Malin, Ffion Jenkins a Charley Evans am eu llwyddiant yng Ngwobrau Ieuenctid blynyddol Uchel Siryf Morgannwg Ganol.
Fel llysgenhadon ar gyfer Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr, enwebwyd y tri yn y categori gr?p gan ennill prif wobr o £1,000.
Yn ogystal â bod yn llawer o hwyl, mae’r wobr wedi cydnabod yr holl waith caled y maent wedi’i wneud i hyrwyddo’r rhwydwaith, a’i yrru ymlaen.
O ganlyniad i'w hymdrechion, mae nifer y llysgenhadon gofalwyr ifanc wedi cynyddu o dri i un ar ddeg mewn llai na blwyddyn.
Mae mwy na 280 o ofalwyr ifanc hefyd wedi cael cymorth a cherdyn adnabod Cenedlaethol Gofalwyr Ifanc.
Mae’r wobr hefyd yn tynnu mwy o sylw at y rôl y mae gofalwyr ifanc yn ei chwarae o fewn y gymuned leol, ac rwy’n si?r y bydd yr aelodau am ymuno â mi i’w llongyfarch a dymuno’n dda iddynt.
Yn seremoni Gwobrau Ieuenctid yr Uchel Siryf hefyd cyflwynwyd Gwobr Gymunedol Ann Morgan i'r Dirprwy Faer Ieuenctid G.
Dewiswyd G i dderbyn y wobr hon am ei waith gwych ar ddatblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth traws, a’i ymroddiad tuag at wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwell, mwy diogel a mwy cynhwysol.
Roedd hwn yn anrhydedd haeddiannol, ac mae'n si?r y bydd yr aelodau unwaith eto am gynnig eu llongyfarchiadau.
Yn olaf, hoffwn ddiolch yn ddiamod i’n staff sy’n cynorthwyo ein Gofalwyr Ifanc a Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, sydd yn eu tro, yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn bwrw ymlaen â’u hagendâu eu hunain.
Aelod Cabinet – Cymunedau
Gall fod yr Aelodau am roi gwybod i'w hetholwyr fod gwasanaeth casglu gwastraff gardd dewisol y cyngor bellach ar agor i'w gofrestru.
Eleni, bydd y gwasanaeth yn rhedeg rhwng dydd Llun 13 Mawrth a dydd Gwener 17 Tachwedd, gyda chasgliadau'n digwydd bob pythefnos.
Bydd y rhai sy'n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn dwy sach werdd gadarn y gellir eu defnyddio i waredu gwastraff gardd nodweddiadol fel planhigion, blodau, chwyn, toriadau gwair, dail a thoriadau gwrychoedd.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd gyfleus o gael eich gwastraff gwyrdd wedi’i gasglu a’i waredu o ymyl y ffordd, ac mae’n costio £46.01 y cartref neu £41.73 i bensiynwyr.
Eleni, bydd Kier hefyd yn cynnig tanysgrifiad am ddim i'r gwasanaeth i ddetholiad ar hap o gyfranogwyr, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers ei lansio gyntaf yn 2013.
Y llynedd, ymunodd bron i 8,000 o drigolion â'r gwasanaeth a chafodd mwy na 13,000 tunnell o wastraff gardd ei ddargyfeirio a'i ailgylchu yn hytrach na'i waredu fel safle tirlenwi.
Mae gan breswylwyr hefyd yr opsiwn o gael gwared â gwastraff gardd am ddim trwy ddefnyddio canolfan ailgylchu gymunedol.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefannau'r cyngor a Kier.
Aelod Cabinet – Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol
Gall fod yr aelodau am roi gwybod i’w hetholwyr am ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n cael ei gynnal yfory sydd â’r nod o gynnig cyngor a chymorth arbenigol ar sut y gall preswylwyr ddelio â’r argyfwng Costau Byw parhaus.
Mae’r digwyddiad ‘Help i Aelwydydd’, wedi’i drefnu gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a bydd ar gael rhwng 10am a 2pm yfory ym Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd amrediad eang o sefydliadau partner yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth, Caffi Atgyweirio Pen-y-bont ar Ogwr, D?r Cymru, y Tîm Gofal Plant, a Phantrïau Cymunedol Baobab Bach.
Mae enghreifftiau o’r math o gyngor sydd ar gael yn cynnwys cymorth â biliau’r cartref, awgrymiadau ar y bargeinion ynni gorau, awgrymiadau ar gyfer ffyrdd o arbed arian ar fwyd, cyngor ynghylch a allai pobl fod yn gymwys i gael budd-daliadau a chymorth ychwanegol, a llawer mwy.
Bydd pob cyfranogwr sy'n galw i mewn i'r digwyddiad hefyd yn derbyn bag am ddim sy'n cynnwys eitemau arbed costau, a fydd yn cael eu teilwra i anghenion pob unigolyn.
Mae’r digwyddiad yn cynrychioli ein hymrwymiad fel cyngor tuag at helpu trigolion i gwrdd â heriau’r Argyfwng Costau Byw parhaus, ac mae’n rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyngor arbenigol sy’n berthnasol iddyn nhw a’u hamgylchiadau personol eu hunain.
Rwy’n gobeithio y bydd yn cael effaith gadarnhaol, ac y bydd yr aelodau’n helpu i roi gwybod i bobl ei fod yn digwydd.
Aelod Cabinet – Adnoddau
Rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau o’r blaen ynghylch sut yr oedd Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i wneud mwy na 15,000 o daliadau i aelwydydd cymwys ac wedi darparu cymorth yr oedd mawr ei angen gwerth cyfanswm o tua thair miliwn o bunnoedd.
Tra bod y cynllun hwnnw bellach wedi cau, mae cynllun cymorth Biliau Ynni Llywodraeth y DU yn dal i redeg a bydd yn parhau i fod yn agored i geisiadau hyd 31 Mai.
Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n gwneud cais am y cymorth hwn yn parhau i fod yn isel iawn ledled Cymru, felly hoffwn ofyn i’r aelodau am eu cymorth i sicrhau bod cymaint o drigolion lleol â phosibl yn ymwybodol o’r cynllun.
I fod yn gymwys, mae'n rhaid i ymgeiswyr fodloni nifer o feini prawf. Mae'n rhaid i’r annedd lle maent yn gwneud cais am y cymorth fod yn unig neu’n brif gyfeiriad, ac mae'n rhaid iddynt fod yn gyfrifol am dalu am ynni a ddefnyddir yn yr annedd fel rhan o dâl gwasanaeth, rhent neu ryw drefniant arall.
Mae'n rhaid i’r aelwyd beidio â bod yn gymwys i gael taliadau gan y cynllun cymorth ynni neu eisoes yn cael taliadau o’r cynllun hwnnw, ac mae'n rhaid i’r aelwyd beidio â dyblu fel mangre busnes neu fath arall o eiddo annomestig.
Byddai hyn yn berthnasol, er enghraifft, i drigolion safleoedd cartrefi mewn parciau fel yr un yn Happy Valley.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol drwy gronfa Taliad Tanwydd Amgen. Mae hyn yn darparu taliad o £200 i aelwydydd sy'n defnyddio ffynonellau tanwydd amgen ar gyfer eu gwresogi yn lle prif gyflenwad nwy.
Unwaith eto, mae meini prawf yn berthnasol, ond mae wedi'i anelu at rywun sy'n defnyddio olew neu nwy potel fel eu prif ffynhonnell wresogi neu nad yw'n talu am drydan trwy ddebyd uniongyrchol, fel y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu mewn mannau anghysbell yn y fwrdeistref sirol. .
Mae'n rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer y ddau gynllun ar-lein yn GOV DOT UK, ac mae rhif ffôn rhadffôn hefyd ar gyfer unrhyw un na allant gael mynediad i’r rhyngrwyd – 0808 1753 287.
Rwy'n sicr y bydd yr aelodau am helpu i wneud pobl yn fwy ymwybodol bod y cynlluniau hyn ar gael, ac rwy'n ddiolchgar am eich cymorth wrth wneud hynny.
Rwy'n ymwybodol o ohebiaeth ddiweddar rhwng y Maer ac eraill, felly os caf gynnig sylw ychwanegol yngl?n â safle Pen-y-bont ar Ogwr o fewn tabl StatsCymru ar gyfer y dreth gyngor
Yng Nghymru, mae 9 band Treth y Cyngor (A – I). Mae bandiau treth y cyngor yn seiliedig ar werth eiddo ym mis Ebrill 2003. O dan y system bresennol, dim ond ar gyfer eiddo Band D y gall awdurdodau lleol osod eu lefelau treth gyngor - a bandiau is ac uwch yn cael eu codi am gyfran sefydlog o hynny.
O ran Pen-y-bont ar Ogwr, mae gennym ganran uwch o eiddo mewn bandiau is na chyfartaledd Cymru gyfan.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi dweud bod cynghorau sydd â mwy o dai band isel yn tueddu i osod eu cyfraddau Band D yn uwch i wneud yn iawn" am eu sylfaen drethu is.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae 68.14% o’n heiddo preswyl ym Mandiau Treth y Cyngor A – D gyda 50% ym Mandiau A – C. Felly, bydd 50% o’r holl aelwydydd sy’n talu Treth Cyngor llawn yn talu llai na lefel Band D yn y flwyddyn ariannol i ddod.
Aelod Cabinet – Addysg
Rwy'n si?r y bydd yr aelodau’n ymwybodol bod yr Undeb Addysg Cenedlaethol wedi gohirio’r ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol a oedd i fod i ddigwydd ar 15 a 16 Mawrth.
Mae’r undeb wedi cyhoeddi bod trafodaethau adeiladol â Llywodraeth Cymru wedi arwain at gynnig cyflog newydd, a bod ei aelodau ar hyn o bryd yn ystyried y fargen sy'n cael ei chynnig.
Os bydd y cynnig diweddaraf hwn yn cael ei wrthod ac y cyhoeddir rhagor o weithredu diwydiannol, bydd y cyngor unwaith eto yn gweithio’n agos gydag ysgolion lleol i wneud y paratoadau angenrheidiol, a bydd yn blaenoriaethu iechyd, diogelwch a lles disgyblion.
Mewn newyddion arall, rwy’n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is dros wyliau ysgol y Pasg a’r Sulgwyn.
Mae mwy na £9m wedi’i fuddsoddi i helpu cynghorau ledled Cymru i gynnig prydau maethlon i ddisgyblion cymwys hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai.
Mae hyn yn cynnwys yr holl wyliau banc yn ystod y cyfnod hwn, a dof â rhagor o fanylion i chi maes o law.
Hoffwn atgoffa’r aelodau’n fyr fod gan drigolion hyd at 24 Mawrth i wneud cais am leoedd meithrin amser llawn mewn pryd ar gyfer dechrau’r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, tra bod rhaid cyflwyno ceisiadau am leoedd rhan-amser erbyn 31 Awst.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar-lein drwy wasanaeth Fy Nghyfrif y cyngor, sydd ar gael drwy fynd i'r wefan gorfforaethol.
Aelod Cabinet – Adfywio
Mae dau ddigwyddiad ymgynghori anffurfiol i'w cynnal ym mis Mawrth a fydd yn gofyn i bobl sut maen nhw'n meddwl y dylid defnyddio mannau agored cyhoeddus newydd sydd wedi'u cynllunio fel rhan o waith adfywio parhaus Porthcawl.
Gyda’r sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn y Grand heddiw hyd 7pm ac eto rhwng 9am-5pm ddydd Iau 23 Mawrth, bydd y sesiynau’n arddangos nifer o opsiynau posibl yn ogystal â chynlluniau ar gyfer datblygu mannau agored cyhoeddus er budd trigolion ac ymwelwyr. fel ei gilydd.
Mae syniadau posibl yn amrywio o barciau sglefrio, traciau pwmpio a chyfleusterau d?r fel 'parc sblash' i erddi cymunedol, llwybrau cerdded gwyrdd a champfa awyr agored a pharthau gemau amlddefnydd.
Rydym eisoes wedi derbyn nifer o syniadau rhagorol, megis amffitheatr awyr agored a lleoliad perfformio, neu ofod sy’n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau tymhorol megis ymweld â marchnadoedd arbenigol, llawr sglefrio Nadolig a mwy.
Rydym am gasglu'r holl safbwyntiau hyn fel y gellir eu dadansoddi a'u hymchwilio'n briodol.
Unwaith y bydd y sesiynau galw heibio wedi'u cwblhau, bydd y byrddau arddangos ar gael i'w gweld ar-lein ar wefan y cyngor, a gofynnir am sylwadau dros gyfnod arall o dair wythnos.
Bydd yr holl adborth a dderbynnir erbyn 7 Ebrill yn helpu i lunio a llywio dyluniad cysyniad mannau agored, ac i gipio gweledigaeth a rennir ar gyfer edrychiad, naws a defnydd mannau agored allweddol yn yr ardal adfywio.
Wedi’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn unol â Siarter Creu Lleoedd Cymru, mae busnesau a thrigolion yn cael eu hannog i ymweld ag un o’r sesiynau galw heibio, gweld byrddau arddangos, siarad â staff adfywio a rhoi eu barn ar y cynigion.
Rydym am sicrhau bod y mannau agored o fewn yr ardal adfywio arfaethedig yn ymateb i anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol fel ei gilydd, a gobeithiaf y bydd trigolion ac ymwelwyr yn manteisio’n llawn ar y cyfle hwn i ddweud eu dweud.
Yn olaf, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddymuno’r gorau i Sean Warrington, o’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau, ar ei swydd newydd – roedd wedi cael ei hela am ei arbenigedd – bydd yn golled fawr i CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Hoffwn ddiolch yn bersonol iddo am y cymorth a roddodd i mi fel aelod cabinet newydd.
Prif Weithredwr
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod wedi cynnal arolwg staff 2022 yn ddiweddar, sy’n darparu gwybodaeth werthfawr am farn ac agweddau ein gweithwyr ar draws amrediad eang o faterion sy’n ymwneud â gwaith.
Mae arolygon o’r fath yn rhan bwysig o’n hymagwedd at ymgysylltu â staff ac adeiladu gweithlu llawn cymhelliant, maent yn helpu i lywio ein harferion gwaith, ac yn ein galluogi i wneud cynnydd fel sefydliad.
Rydym bellach wedi cwblhau’r dadansoddiad o’r canlyniadau, a hoffwn rannu rhai o’r canlyniadau allweddol yn fyr ag aelodau.
Yn gyffredinol, ymatebodd 42 y cant o holl staff y cyngor i'r arolwg a rhannu eu barn ar draws saith thema benodol. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 9 y cant ar arolwg staff blaenorol 2021.
Ar 85 y cant, dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr eu bod yn mwynhau eu rôl, a 66 y cant yn ychwanegu eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y gwaith.
Dywedodd chwe deg saith y cant o ymatebwyr wrthym eu bod yn fodlon ar y cyngor fel cyflogwr a'u bod hefyd yn ymwybodol o'n blaenoriaethau, a dywedodd 88 y cant eu bod yn fodlon â'n saith amcan newydd arfaethedig.
Dywedodd wyth deg pedwar y cant o ymatebwyr fod cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu dwy ffordd lle gellir codi a thrafod syniadau a materion.
Mewn perthynas â llesiant staff, dywedodd 68 y cant o ymatebwyr eu bod yn gyfforddus â'u gofynion gwaith, a dywedodd 73 y cant eu bod yn ymwybodol o'r cymorth y mae'r cyngor yn ei roi i'r gweithlu mewn perthynas ag iechyd a lles.
Roedd saith deg tri y cant yn cytuno eu bod yn fodlon ar y cynllun amser hyblyg oriau gwaith Flexitime staff newyddau. Dywedodd 83 y cant y gallant weithio'n gynhyrchiol yn eu hamgylchedd gweithio o bell.
Gofynnwyd i staff rannu eu barn ar draws saith thema benodol: Diwylliant, blaenoriaethau'r cyngor, perfformiad gwaith, cyfathrebu, gwybodaeth a sgiliau, lles gweithwyr, a gweithio hybrid.
Ar draws pob un o'r saith thema, cafwyd canlyniad cadarnhaol gan 65 y cant o staff, roedd 25 y cant yn parhau i fod yn niwtral, a 10 y cant yn negyddol.
Un maes yr oedd gennym ddiddordeb arbennig ynddo oedd sut yr oedd staff wedi derbyn y trefniadau gweithio hybrid newydd. Roedd yn braf nodi bod 76 y cant o'r holl ymatebwyr wedi rhoi ymatebion cadarnhaol ac wedi nodi eu bod yn fodlon â'r polisi Gweithio Hybrid dros dro newydd.
Er i 71 y cant ddweud eu bod yn cael y newyddion diweddaraf am y cyngor trwy eu e-bost gwaith, dim ond 35 y cant a ddywedodd eu bod bob amser yn darllen e-bost wythnosol Pen-y-bont ar Ogwr, a nododd 25 y cant y byddant bob amser yn darllen y cylchlythyr staff chwarterol ar yr amod ei fod yn cynnwys rhywbeth o ddiddordeb.
Yn amlwg, dim ond blas o ganlyniadau’r arolwg staff yw hyn, ond credaf ei fod yn amlwg wedi amlygu nifer o safbwyntiau calonogol ac wedi helpu i dynnu sylw at rai o’r meysydd y bydd angen inni edrych arnynt wrth symud ymlaen.
Bydd gwaith yn cael ei wneud nawr i astudio'r canlyniadau'n fanylach, ac i weld sut y gellir eu cymhwyso orau i gyflwyno rhagor o welliannau i'r cyngor, fel sefydliad ac fel cyflogwr da.