Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Rwy’n falch iawn o allu hysbysu’r aelodau bod y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Jane Gebbie, wedi cael gwobr genedlaethol fawreddog gan Sefydliad Ron Todd.

 

Wedi'i sefydlu yn dilyn gwaith yr arweinydd undeb llafur Ron Todd, mae'r sefydliad yn cynorthwyo pobl sy'n byw mewn tlodi ac yn gweithio i atal ei achosion sylfaenol, hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i gydnabod unigolion sy'n gwneud gwaith rhagorol yn y meysydd hyn.

 

Bob blwyddyn, mae’n cyhoeddi enillwyr yn ei ddarlith goffa flynyddol, ac eleni mae wedi datgan mai’r Cynghorydd Gebbie yw enillydd Gwobr Ron Todd am Gydraddoldeb.

 

Enillodd y Cynghorydd Gebbie y wobr ar ôl iddi gael ei henwebu gan ddim llai nac un ar ddeg o wahanol sefydliadau ac unigolion.

 

Mae gan y Dirprwy Arweinydd ymrwymiad dwfn tuag at gydraddoldeb cymdeithasol, mae’r wobr hon yn cydnabod hynny, ac rwy’n si?r y bydd yr aelodau’n ymuno â mi yn awr i gynnig ein llongyfarchiadau cynhesaf iddi.

 

Roeddwn hefyd yn falch iawn o fynychu Canolfan Chwaraeon Maesteg lle mae ei phen-blwydd yn 40 oed wedi’i nodi gan fuddsoddiad o £400,000 ac agorwyd y cyfleusterau diweddaraf yn swyddogol gan y Maer ym mhresenoldeb yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau’r Dyfodol, aelodau Cabinet a lleol.

 

Mae'r uwchraddiad yn cynnwys campfa fwy â pheiriannau cardio newydd, gofod cryfder a chyflyru pwrpasol, parth lles, stiwdio ymarfer corff newydd, ystafell ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a gweithdai, a man newid hygyrch newydd.

 

Mae'r ganolfan chwaraeon wedi bod yn gyfleuster poblogaidd a ddefnyddir yn aml yng Nghwm Llynfi ers Mawrth 1983, ac ers i'r cyngor weithio mewn partneriaeth â Halo Leisure yn 2012, mae wedi cofnodi ymhell dros un pwynt pum miliwn o ddefnyddwyr a mwy na miliwn o ymarferion campfa.

 

Mae gwelliannau ychwanegol yn yr arfaeth, gan gynnwys y parth cryfder a chyflyru sydd i'w orffen yn fuan, ac rfwy'n gwybod bod pob aelod lleol yn edrych ymlaen at y manteision ychwanegol y bydd cyfnodau buddsoddi yn y dyfodol yn eu sicrhau.

 

Bydd y gwaith o ddymchwel hen orsaf heddlu canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau ddydd Llun 20 Mawrth wrth i baratoadau ddechrau ar gyfer clirio'r safle a ddarllenwyd ar gyfer datblygu campws newydd arfaethedig Coleg Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gyda disgwyl i waith gymryd hyd at ddeuddeg wythnos, bydd mynediad i Cheapside a busnesau lleol yn cael ei gynnal drwy gydol y broses ddymchwel.

 

Bydd angen rhywfaint o gulhau’r ffordd gerbydau dros dro a mân newidiadau i fannau croesi i gerddwyr, ac mae’r contractwr wedi bod yn cysylltu’n uniongyrchol â busnesau lleol i sicrhau eu bod yn ymwybodol.

 

Fel y gwyddoch, mae’r safle’n rhan sylweddol o’n cynlluniau adfywio ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn bwriadu ei brydlesu i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr a galluogi campws Heol y Bont-faen i adleoli yno.

 

Mae’r coleg yn bwriadu creu adeilad di-garbon net, â chyfleusterau dysgu ac addysgu’r 21ain ganrif ar gyfer addysg bellach ac uwch ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, â buddion cymunedol yn cynnwys gofod theatr â 200 o seddi, gweithdai dylunio a mannau cyfarfod hyblyg.

 

Mae'n cynrychioli buddsoddiad o £50 miliwn mewn sgiliau a hyfforddiant ar gyfer pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn darparu ar gyfer o leiaf 1,000 o staff a myfyrwyr.

 

Rydym hefyd am iddo weithredu fel catalydd ar gyfer adfywio ehangach drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol.

 

Byddwn yn dod â rhagor o newyddion i chi am hyn wrth i'r datblygiad ddechrau datblygu.

 

Yn olaf, roeddwn yn drist o glywed gan ei mab fod cyn Faer y Fwrdeistref Sirol Mari Jones wedi marw’n ddiweddar yn 92 oed.

 

Yr aelod dros Langynwyd, ymroddodd Mari i flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus. Gwasanaethodd Mari ar lawer o bwyllgorau o fewn yr awdurdod ac roedd yn is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu.

 

Y tu allan i’r cyngor, bu’n gwasanaethu fel llywodraethwr ar gyfer ysgolion cynradd Cwmfelin a Llangynwyd, ac fel cyfarwyddwr gyda Tai Cymoedd i’r Arfordir a Neuadd y Dref Maesteg.

 

Bu Mari hefyd yn weithgar iawn o fewn nifer o grwpiau cymunedol, megis Gweithgor Neuadd Bentref Llangynwyd, fel is-gadeirydd pwyllgor celfyddydau a hamdden Sefydliad y Merched Morgannwg, ac fel cyn-lywydd SyM Tir Larll.

 

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, roedd Mari yn frwd dros y Gymraeg, ac rwy’n si?r nad fi yw’r unig aelod sy’n bresennol yma heddiw sy’n ei chofio fel cydweithiwr ymroddgar iawn, un oedd yn gwbl ymroddedig i’w rôl fel aelod etholedig, a thuag at helpu i wella ei chymuned leol.

 

Cynhelir gwasanaeth angladd Mari yn Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Tregaron, y pentref lle cafodd ei magu, ddydd Mercher 29 Mawrth.

 

Yna safodd yr Aelodau a'r Swyddogion mewn munud o dawelwch fel arwydd o barch at Mari Jones, cyn Faer CBSP.