Agenda item

I dderbyn y Cwestiynau canlynol oddi wrth:

Cynghorydd Richard Collins i'r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Croesewais y cyfle i weld y gwaith cyffrous sydd ar y gweill i adnewyddu a gwella Canolfan Chwaraeon Maesteg. A all yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar gynnydd i gwblhau’r cynllun.”

 

Cynghorydd Steven Easterbrook i'r Arweinydd

 

Mae cwmnïau rheoli sy'n gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer trigolion ystadau tai newydd wedi bod yn cymryd ffi reoli ers nifer o flynyddoedd, ond eto wedi methu â gwneud y gwaith cynnal a chadw. Mae'r materion sydd wedi codi ac y mae angen eu datrys yn amrywio o oleuadau stryd, atgyweirio ffyrdd, ysgubo sbwriel dail o gylïau a chynnal a chadw ffiniau cloddiau. Nid yn unig codir Treth y Cyngor ar breswylwyr ar yr un gyfradd â phob deiliad t? arall ond maent hefyd yn destun y ffi ychwanegol hon i gwmni cynnal a chadw trydydd parti, yn aml mae problemau i breswylwyr sy’n cysylltu â’r cwmnïau hyn â chysylltiadau o fewn y cwmni nad ydynt yn ymateb i e-byst, ac eto mae disgwyl o hyd i drigolion dalu'r ffi bob blwyddyn sy'n amrywio o d? i d?. A yw'r Arweinydd yn teimlo bod hyn yn dderbyniol bod trigolion yn y Fwrdeistref hon yn cael eu codi ddwywaith am yr un gwasanaeth a gynigir gan ddau endid ar wahân, pan ymddengys nad yw'r naill na'r llall yn darparu gwasanaeth y mae trigolion yn talu amdano.

 

Cynghorydd Martin Williams i'r Arweinydd

 

Mae cyffordd 36 yr M4 yn dagfa ddrwg-enwog sy’n achosi tagfeydd, yn cyfyngu ar gyfleoedd datblygu a buddsoddi i ogledd ein sir ac yn achosi trallod i drigolion mewn cymunedau cyfagos, sy’n cael eu defnyddio fel rhedfeydd llygod mawr cynyddol beryglus. A allai'r Arweinydd amlinellu pa ymdrechion y mae'r awdurdod hwn wedi'u gwneud i wella cyffordd 36 a'r rhwydwaith priffyrdd cyfagos (gan gynnwys ailystyried ffordd osgoi Bryncethin a oedd unwaith yn cael ei chynnig) i liniaru'r problemau traffig unwaith ac am byth.

 

Cynghorydd Freya Bletsoe i'r Aelod Cabinet dros Adfywio

 

Yn sgil y cyhoeddiad diweddar y bydd Pafiliwn y Grand Porthcawl yn gweld buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth Ganolog yn “lefelu cyllid” a’r gwelliannau parhaus i Neuadd y Dref Maesteg, pa ymrwymiad fydd yr aelod cabinet dros adfywio yn ei roi i holl drigolion pob cornel o’n Bwrdeistref y byddwn yn gweld ein sir gyfan yn “gwastatáu” a fydd yn sicrhau buddsoddiad llawn a theg ym mhob rhan o dreftadaeth ddiwylliannol ein Bwrdeistrefi?

Cofnodion:

Cynghorydd RC Collins i'r Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Croesewais y cyfle i weld y gwaith cyffrous sydd ar y gweill i adnewyddu a gwella Canolfan Chwaraeon Maesteg. A all yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd i gwblhau’r cynllun?

 

Ymateb

 

Diolch am y cwestiwn yngl?n ag adnewyddu canolfan Chwaraeon Maesteg a hefyd Llyfrgell Pencoed. Yn gyntaf, ym Maesteg, mae hwn yn brosiect cyffrous ac yn ganlyniad nifer o flynyddoedd o waith y tu ôl i'r llenni i gael mynediad at gyllid i gefnogi'r datblygiad hwn trwy arian Cyfalaf CBSP, Halo a Chwaraeon Cymru. Helpodd y ganolfan i gefnogi'r rhaglen frechu covid ac mae wedi bod yn nodi sut y gall gynyddu defnydd y ganolfan ymhellach ers llacio'r cyfyngiadau ar y sector hamdden.

 

Agorwyd cam cyntaf y gwaith yn swyddogol ar 1 Mawrth 2023 gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Martyn Jones, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David a minnau hefyd yng nghwmni aelodau lleol a wahoddwyd. Roedd y ganolfan hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed ers iddi agor fel lleoliad hamdden.

 

Mae’r gwaith diweddaraf wedi gweld dechrau creu’r mannau ffitrwydd a lles newydd o fewn y safle a fydd yn tyfu i fod yn ardal ffitrwydd a lles newydd â 54 gorsaf sydd ddwywaith cymaint â’r gofod blaenorol. Mae'r dyluniad wedi cynnwys darpariaeth toiledau newydd gan gynnwys toiled hygyrch a system awyru newydd. Mae'r gwaith hwn wedi digwydd o fewn ardal o hen lyfrgell gyfeirio Y Llynfi y bwriedir ei symud Neuadd y Dref Maesteg. Mae'r ardal hon bellach yn cael ei defnyddio gan y cyhoedd ac yn derbyn sylwadau cadarnhaol.

 

Bydd cam nesaf y gwaith yn gweld ailgynllunio’r gampfa wreiddiol a llai o faint i ddod yn ardal ffitrwydd ymarferol erbyn canol mis Ebrill a’r llawr mesanîn i fod yn faes llesiant â ffocws ar amrediad o raglenni iechyd a chymunedol yn cael eu darparu i drigolion.

 

Bydd y gwaith hwn wedyn yn parhau drwy'r adeilad gyda'r ardaloedd newid yn cael eu hailaddurno á chyfleusterau cawod, goleuadau a lloriau newydd. Bydd hyn yn cael ei ategu gan newid i’r ddarpariaeth deuluol bresennol gan ei wneud yn ofod arddull “lleoedd newid” â gwell hygyrchedd a pharhau i ganiatáu mynediad i deuluoedd ochr yn ochr tuag at ddiwedd Mai.

 

Bydd camau olaf y gwaith dros y misoedd nesaf yn gweld adeiladu 2 ystafell hyblyg aml-ddefnydd mewn hen ofod swyddfa ac ardal arall ochr yn ochr â'r adran chwarae meddal flaenorol tua diwedd mis Mehefin. Bydd hyn yn caniatáu digwyddiadau partner lluosog megis hyfforddiant, cyfarfodydd a darparu cymorth wedi'i dargedu megis y Rhaglen Gofal ar y Cyd a gefnogir gan y bwrdd iechyd ymhlith eraill wrth i'r ganolfan ddatblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau.

 

Mae'r gwaith hwn hefyd wedi'i ategu gan fuddsoddiadau ynni mewn elfennau newydd o ran goleuo a lleihau ynni fel rhan o'n hymrwymiad i'r cyngor leihau'r ôl troed carbon.

 

Bydd cost y gwaith ar ôl ei gwblhau yn fwy na £400,000 a phan fydd wedi'i gyflawni bydd yn golygu bod dros £500,000 wedi'i fuddsoddi yn safle Maesteg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gysylltiedig ag ailddatblygu'r maes chwarae meddal a gwelliannau i'r cwrt sboncen.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd RC Collins

 

Gyda’r cyhoeddiad diweddar gan Tennis Cymru a CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer darparu cyrtiau tennis mewn 3 ardal o’r Fwrdeistref Sirol, a gaf i ofyn am rywfaint o sicrwydd y bydd yr Awdurdod yn mynd ar drywydd cyfleoedd ychwanegol i ddarparu rhagor o gyfleusterau a fydd yn hybu iechyd a lles unigolion ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ymateb

 

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi ar gyfer yr uchod. Bûm yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg yn ddiweddar gydag aelodau Ward o ardal Maesteg i weld rhywfaint o’r gwaith adnewyddu a oedd wedi’i wneud yn y Ganolfan ac yn wir a oedd yn dal i fynd rhagddo. Yn y Cabinet ddoe fe wnaethom hefyd gymeradwyo’r cynigion ar gyfer cyfleusterau tennis ym Mharc Lles Maesteg, Parc Griffin Porthcawl, ac yng Nghwm Ogwr a Heol-y-Cyw hefyd, Roedd hyn yn rhan o raglen dreigl o ran buddsoddiad ychwanegol ar gyfer cyfleusterau iechyd a lles arfaethedig ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Hughes

 

Mae angen arbennig am ragor o ddarpariaeth iechyd a lles yn ardaloedd cymoedd Ogwr a Garw. Beth sy'n cael ei gynnig yno i wella'r sefyllfa bresennol.

 

Ymateb

 

Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor sydd newydd ei gymeradwyo yn nodi buddsoddiad yn ardaloedd ein cymoedd fel blaenoriaeth allweddol i'r BCB a fydd yn cael ei wireddu. Mae Canolfan Fywyd Ogwr wedi elwa dros y blynyddoedd diwethaf o rywfaint o fuddsoddiad ac yng Nghwm Garw fe wnaethom gydleoli’r llyfrgell yng Nghanolfan Hamdden Cwm Garw a fu’n llwyddiant. Cynigiwyd cynlluniau hefyd i ddatblygu darpariaeth ieuenctid yn y Ganolfan Fywyd hon, fel bod cymorth ar gael i bob gr?p oedran a phob cefndir. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyflwyno Dechrau'n Deg ym Mlaengarw a Nant-y-moel.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd S Easterbrook i'r Arweinydd

 

Mae cwmnïau rheoli sy'n gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer trigolion ystadau tai newydd wedi bod yn cymryd ffi reoli ers nifer o flynyddoedd, ond eto wedi methu â gwneud y gwaith cynnal a chadw. Mae materion sydd wedi codi ac sydd angen eu datrys yn amrywio o oleuadau stryd, atgyweirio ffyrdd, ysgubo sbwriel dail o gylïau a chynnal a chadw ffiniau cloddiau. Nid yn unig y codir Treth y Cyngor ar breswylwyr ar yr un gyfradd â phob deiliad t? arall ond maent hefyd yn destun y ffi ychwanegol hon i gwmni cynnal a chadw trydydd parti, yn aml mae problemau i breswylwyr sy’n cysylltu â’r cwmnïau hyn â chysylltiadau o fewn y cwmni nad ydynt yn ymateb i e-byst, ac eto mae disgwyl o hyd i drigolion dalu'r ffi bob blwyddyn sy'n amrywio o d? i d?. A yw'r Arweinydd yn teimlo bod hyn yn dderbyniol bod tál yn cael ei godi ddwy waith ar drigolion yn y Fwrdeistref hon am yr un gwasanaeth a gynigir gan ddau endid ar wahân, pan ymddengys nad yw'r naill na'r llall yn darparu gwasanaeth y mae trigolion yn talu amdano.

 

Ymateb

 

O ran y ffi reoli y cyfeirir ati yn eich cwestiwn. Mae'r ffïoedd hyn yn berthnasol pan fydd ystâd newydd wedi'i hadeiladu a bydd y cwmni tai yn codi ffi rheoli am gynnal a chadw ardaloedd cymunedol nad ydynt o dan reolaeth y cyngor. Byddai hyn yn talu am gostau cynnal, adnewyddu ac atgyweirio’r amwynderau a’r mannau cymunedol a rennir nad yw’r cyngor lleol wedi’u mabwysiadu – mannau gwyrdd yn bennaf. Mae'r cytundeb hwn rhwng y landlord, neu ei asiant, a pherchennog y cartref. Ni fydd y gwasanaeth a ddarperir hefyd yn cael ei ddarparu gan y Cyngor yn yr ardal hon. Nid wyf yn ystyried ei bod yn dderbyniol bod preswylwyr yn talu ffi i gwmni cynnal a chadw trydydd parti ac nad yw'n derbyn gwasanaeth; fodd bynnag, nid yw'r Cyngor yn ymwneud â'r trefniant hwn a dylid delio ag unrhyw bryderon yngl?n â hyn yn uniongyrchol â'r asiantiaid.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw o’r blaen am dystiolaeth ar effaith yr arfer hwn ac mae mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch deddfwriaeth newydd bosibl ar gyfer Cymru a Lloegr i roi’r un hawliau i rydd-ddeiliaid â lesddeiliaid i herio ffioedd rheoli a hyd yn oed orfodi newid cwmnïau. Rwyf wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cais hwn am dystiolaeth.

 

O ran Treth y Cyngor, gallaf gadarnhau y bydd hwn yn cael ei godi cyn gynted ag y bydd yr eiddo wedi'i gwblhau a'r tâl llawn am yr eiddo yn cael ei godi, oni bai bod rhai eithriadau yn berthnasol. Hoffwn hefyd dynnu eich sylw at y wybodaeth a gynhwyswyd yn y Cynllun Corfforaethol a gymeradwywyd yn ddiweddar sy'n dangos sut y caiff cyllideb y Cyngor ei gwario.  Fel y gwyddoch, dim ond 27% o gyfanswm gwariant y Cyngor hwn y mae Treth y Cyngor yn ei ariannu. Gan ddefnyddio cyfanswm y cyllid sydd ar gael, mae'r Cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau i drigolion yr ardal hon ac nid yw'r dreth gyngor yn cael ei rhannu'n ardaloedd cydrannol ar gyfer pob cartref.

 

Cwestiwn atodol gan S Easterbrook

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw o’r blaen am dystiolaeth ar effaith yr arfer hwn ac mae mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch deddfwriaeth newydd bosibl i Gymru a Lloegr i roi’r un hawliau i rydd-ddeiliaid â deiliaid prydles herio ffioedd rheoli a hyd yn oed orfodi newid i’r cwmnïau hyn. Byddwn yn croesawu’r wybodaeth hon pan ddaw i law. Sylwaf na wnaethoch gynnwys rôl yr Awdurdod ar ddechrau’r broses gynllunio a sut y caniateir i gwmnïau rheoli godi’r ffi reoli hon o gwbl. Credaf fod yn rhaid i ddatblygwyr rhai datblygiadau newydd a ystyriwyd gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu roi’r amod hwn o gwmnïau rheoli yn eu cynlluniau a’u cynigion, cyn iddynt gael eu cymeradwyo. Oni ddylai'r Cyngor felly fod yn caniatáu'r arfer hwn yn y lle cyntaf a rhoi'r gorau i osod yr amod hwn ar ddatblygwyr a fydd yn y pen draw yn costio ein trigolion, hynny yw math o drethu dwbl. Mae etholwyr wedi dweud wrthyf, nad ydynt yn cael llawer o’r gwasanaethau rheoli hyn y maent yn gorfod talu amdanynt. Rwy’n deall bod rhagor o ffïoedd rheoli’n cael eu gosod ar feddiannydd fflat mewn cyfadeilad, oherwydd er enghraifft, cynnal a chadw ardaloedd cymunedol a rennir ac ati.

 

Ymateb

 

Mae gennym sefyllfa lle nad yw pob datblygwr yn dymuno i'r Cyngor fabwysiadu eu hardaloedd adeiladu ac nid yw hyn yn rhywbeth trwy statud y gallwn ddeddfu ar ei gyfer. Felly, ar adegau, felly, mae datblygwyr newydd bellach yn debyg iawn i fod eisiau i'r awdurdod lleol fabwysiadu ffyrdd a mannau chwarae mewn datblygiadau newydd. Fodd bynnag, mae adegau pan na fydd datblygwyr, pan fyddant yn adeiladu ystadau newydd, yn dymuno trosglwyddo'r math hwn o gyfleusterau drosodd i'r Cyngor i'w cynnal gan fod hyn yn dod ag ymrwymiad cytundeb A106 a ffi cyfalaf gohiriedig. Felly, mae rhai datblygwyr yn hytrach yn dewis gosod ffi reoli y gellir ei gosod ar feddianwyr y datblygiad. Mae preswylwyr yn ymwybodol o’r sefyllfa hon fel rhan o brynu eu heiddo a bod y ffi hon ar gyfer cynnal a chadw ystadau ac yna mater i’r preswylydd/preswylwyr yw a fyddent yn dymuno talu’r gost hon wrth symud ymlaen, neu drefnu cynnal a chadw, er enghraifft, ardaloedd â gwair/agored, cynnal a chadw ffyrdd ac ati eu hunain. Gall y rhai sy’n derbyn hyn ffurfio Pwyllgor Rheoli (yn cynnwys trigolion ymroddedig), er mwyn iddynt gael cyfarfodydd â’r Cwmni Rheoli, er mwyn iddynt allu ffurfio perthynas â’r cwmni wrth symud ymlaen er mwyn cynllunio’r fath waith cynnal a chadw. Ychydig iawn o allu sydd gan awdurdodau lleol i atal datblygwyr rhag herio cwmnïau rheoli at y diben hwn. Nid oes gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu unrhyw ran o gwbl yn hyn, ychwanegwyd.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd M Williams i'r Arweinydd

 

Mae cyffordd 36 yr M4 yn dagfa ddrwg-enwog sy'n achosi tagfeydd, yn cyfyngu ar ddatblygiad a chyfleoedd buddsoddi yng ngogledd ein sir ac yn achosi diflastod i drigolion mewn cymunedau cyfagos, sy’n cael eu defnyddio fel llwybrau llygod mawr cynyddol beryglus. A allai'r Arweinydd amlinellu pa ymdrechion y mae'r awdurdod hwn wedi'u gwneud i wella cyffordd 36 a'r rhwydwaith priffyrdd cyfagos (gan gynnwys ailystyried ffordd osgoi Bryncethin a oedd unwaith yn cael ei chynnig) i liniaru'r problemau traffig unwaith ac am byth.

 

Ymateb

 

Nodir gwelliannau i Gyffordd 36 fel prosiect trafnidiaeth strategol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr.  Gan fod y gyffordd yn rhan o'r system cefnffyrdd mae'n dod o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru, sydd i bob pwrpas yn berchen ar yr ased.  Mae LlC wedi comisiynu astudiaethau WelTAG (Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) ar gyffyrdd traffordd yr M4 gan gynnwys y rhai ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad diweddar gan y Panel Adolygu Ffyrdd, mae’n amlwg na fydd unrhyw welliannau i’r gyffordd i leddfu tagfeydd traffig nac i hwyluso teithio mewn car yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.  At hynny, nid yw polisi cynllunio cenedlaethol yn ffafrio atebion trafnidiaeth ceir.  O ran unrhyw brosiectau adeiladu ffyrdd yn y dyfodol, nid oes unrhyw ddyraniad penodol ar gyfer ffordd osgoi newydd ym Mryncethin yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol na'r un fydd yn ei ddilyn.  Mae'n annhebygol y bydd unrhyw brosiect o'r fath yn cael caniatâd a bydd yn rhaid i unrhyw ateb i broblemau capasiti yn yr ardal fod yn seiliedig ar deithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Williams

 

O ystyried sefyllfaoedd fel symud depo Y Bont a Highways Yard i Fryncethin a Datblygiad Kenning ond yn mynd i waethygu, ynghyd â moratoriwm Llywodraeth Cymru yn mynd i atal teithio gweithredol ac ati, rydym yn awr mor bell i ffwrdd ag erioed o gael rhywfaint o fuddsoddiad difrifol wedi'i ymrwymo i’r problemau yng Nghyffordd 36, ynghyd â rhagor o dai yn cael eu cynnig yn yr ardal hon a’r ardaloedd cyfagos a fydd ond yn gwaethygu’r broblem bresennol, pa ymyriadau tactegol neu fforddiadwy y gellir eu gwneud neu sydd wedi’u hystyried, a allai helpu cymunedau fel pentref Coety a Bryncethin ac ati, i ymdopi ag effeithiau'r gyffordd hon. Hefyd, a allai'r Arweinydd gytuno i gyfarfod â'r Swyddogion perthnasol a'r aelod Cabinet ac aelodau lleol Coety a Sain Ffraid, er mwyn ystyried rhai opsiynau i wella'r sefyllfa yma i'r dyfodol.

 

Ymateb

 

Byddwn yn trefnu'r cyfarfod ag aelodau'r Ward ar y llinellau a awgrymwch. Pan wnaed y cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd trefnais gyfarfod ag ef am yr adolygiad a dywedais yn glir y byddem yn dymuno i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd eraill o wella Cyffordd 36 i gynnwys gwelliannau i lwybrau Teithio Llesol a chyhoeddus. coridorau blaenoriaeth trafnidiaeth a byddaf yn sicrhau y gwneir gwaith dilynol ar hyn fel rhan o seilwaith cyffredinol ein rhwydwaith traffyrdd a thrafnidiaeth. Byddai angen i hyn hefyd gael ei ariannu gan LlC. Byddaf yn rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad hyn yn unol â hynny.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd T Thomas

 

O ran gwelliannau ffyrdd yn y maes hwn, a allem gael yr wybodaeth ddiweddaraf am addasrwydd y ddarpariaeth bysiau a threnau o fewn Porth y Cymoedd ac yn y datganiad hwnnw a allai hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddolen Tondu, sy’n darparu gwasanaeth bob hanner awr i ddyffryn Llynfi.

 

Ymateb

 

Mae’r diwydiant bysiau yn profi cyfnod anodd iawn ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru bellach yn gorfod darparu cyllid ychwanegol drwy’r Grant Cymorth Argyfwng Bysiau, sy’n becyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd. Fodd bynnag, mae'r cymorth hwn yn debygol o ddod i ben yn y misoedd nesaf. Yn wyneb hyn, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant er mwyn eu cefnogi wrth iddynt wneud y cyfnod pontio anodd iawn hwn. Mae'r rheswm dros y gostyngiad yn nifer y teithwyr yn deillio o'r pandemig ac yn anffodus nid yw hyn wedi gwella'n llwyr na'r incwm a gynhyrchwyd yn flaenorol cyn y pandemig. Rydym yn trafod ffyrdd o ddatrys y sefyllfa orau y gallwn, gyda First Cymru. Byddaf yn darparu ymateb i ran Dolen Tondu o'r cwestiwn, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd F Bletsoe i'r Aelod Cabinet – Adfywio

 

Yn sgîl y cyhoeddiad diweddar y bydd Pafiliwn y Grand Porthcawl yn gweld buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth Ganolog mewn “cyllid ffyniant bro” a’r gwelliannau parhaus i Neuadd y Dref Maesteg, pa ymrwymiad fydd yr aelod cabinet dros adfywio yn ei roi i holl drigolion pob cornel o’n Bwrdeistref y byddwn yn gweld ein sir gyfan yn “gweld ffyniant bro” a fydd yn sicrhau buddsoddiad llawn a theg ym mhob rhan o dreftadaeth ddiwylliannol ein Bwrdeistrefi?

 

Ymateb

 

Mae'r newyddion diweddar am gais llwyddiannus y cyngor hwn i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen (AWEN), ar gyfer Pafiliwn y Grand, Porthcawl wedi'i groesawu gan y Cabinet, aelodau a'r cyhoedd ar draws y fwrdeistref sirol. Ni fydd buddiolwyr y buddsoddiad hwn mewn ased diwylliannol fel Pafiliwn y Grand yn gyfyngedig i Borthcawl ond bydd yn cael ei deimlo gan bobl ar draws y fwrdeistref sirol ac yn wir y rhanbarth ehangach. Mae defnyddwyr a chynulleidfaoedd o ardal ehangach yn ystyried Pafiliwn y Grand fel eu cartref creadigrwydd / diwylliannol. Mae'n rhy syml i awgrymu bod lleoliad y theatr yn pennu bod effaith buddsoddiad yn cael ei gyfyngu i'r ardal gyfagos.

 

Er mwyn cadw a gwella dyfodol gwasanaethau diwylliannol a chyfleoedd seiliedig ar weithgareddau yn y tymor hwy, cefnogodd y Cyngor ddatblygiad y bartneriaeth ddiwylliannol ag AWEN yn 2015. Roedd hyn am gyfnod o 20 mlynedd a cheisiodd gynnal ystod o weithgareddau diwylliannol. asedau a chyfleoedd ar adeg pan mai’r unig ddewis arall fyddai lleihau’r ddarpariaeth er mwyn cyflawni effeithlonrwydd strategaeth ariannol tymor canolig. Mae’r model partneriaeth wedi dychwelyd dros £800k o arbedion i’r cyngor ers 2015, ar yr un pryd â gwella’r ddarpariaeth ag a drosglwyddwyd yn 2015.

 

Mae Pafiliwn y Grand wedi'i gynnwys yn y portffolio ac mae'n cyflawni rôl strategol ar gyfer trigolion y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt gan gynnwys anghenion ymwelwyr. Bydd yr ailddatblygiad cyffrous hwn yn arwain at fannau perfformio gwell, orielau a gofodau digwyddiadau – oll â’r hyblygrwydd i ymgorffori gweithgareddau ehangach a ffurfiau celfyddydol, ased mwy ecogyfeillgar a chynnig mwy cynhwysol a hygyrch â gwelliannau seilwaith cysylltiedig i gefnogi defnyddwyr cyfleusterau ag anghenion amrywiol.

 

Mae’r buddsoddiad Ffyniant Bro wedi’i sicrhau drwy broses gystadleuol a thrwy lywodraeth y DU ac mae angen dangos tystiolaeth o rôl strategol a diwylliannol yr ased. Y cyflwyniad oedd y sgôr uchaf yng Nghymru ac roedd llawer o geisiadau eraill ledled Cymru yn aflwyddiannus. Wedi'i agor ym 1932, mae Pafiliwn y Grand yn adeilad rhestredig Gradd II ac yn un o asedau diwylliannol a threftadaeth mwyaf gwerthfawr y Fwrdeistref Sirol. Bydd cyllid ffyniant bro yn sicrhau y bydd y gwaith a nodwyd ers amser maith sydd ei angen i ddiogelu ffabrig yr adeilad yn y tymor hir yn cael ei gwblhau yn ogystal â'r ychwanegiadau cyffrous a restrir uchod.

 

Prosiect Pafiliwn y Grand yw'r diweddaraf mewn nifer o fuddsoddiadau yn ystâd ddiwylliannol y Cyngor dros y degawd diwethaf. Yn 2014 cwblhawyd Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr, adnewyddwyd Llyfrgell y Pîl yn 2019 ac mae Llyfrgell Pencoed yn y broses o gael adnewyddiad gwerth £400K ar hyn o bryd. Yng Nglyn Llynfi mae’r Cyngor, unwaith eto gan weithio gydag Awen, bron â chwblhau’r gwaith o ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg, a fydd, fel Pafiliwn y Grand, o fudd i ardal ehangach y dyffryn a hefyd yn rhoi hwb i fywyd economaidd-gymdeithasol canol y dref.  Mae cydleoli gwasanaethau llyfrgell o fewn asedau presennol Pontycymer a Chwm Ogwr mewn partneriaeth â Halo Leisure wedi cynnal gwasanaethau llyfrgell ar gyfer y cymunedau hyn a buddsoddiad cyfalaf wedi’i sicrhau i ddatblygu’r cyfleuster ym Mhontycymer.

 

Mae Awen hefyd wedi buddsoddi yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw ac wedi ailsefydlu rhaglen o ddigwyddiadau a chymunedol i gefnogi bywyd diwylliannol yng Nghwm Garw. Eleni gosodwyd llwyfan, sinema a chyfarpar digwyddiadau newydd i hybu gallu'r Neuadd i gefnogi'r gymuned leol, a gweithgarwch diwylliannol yn y Cwm.

 

Mae Parc Bryngarw yn ased diwylliannol arall sy'n gwasanaethu'r fwrdeistref sirol gyfan ac yn denu mwy na 220, 000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r parc wedi elwa o bron i £700, 000 o fuddsoddiad drwy gyfranogiad y Cyngor yn rhaglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru. Caniataodd y buddsoddiad hwn i Awen ddatblygu canolfan addysg newydd, ailddatblygu'r ganolfan ymwelwyr, gwella cyfleusterau hygyrch a gwella cyfleusterau parcio, cerdded a thoiledau. Mae’r parc bellach yn cael ei ystyried yn un o’r goreuon yn ardal De Cymru am ei gyfleusterau a’i raglen, gydag ymrwymiad i chwarae hygyrch a’r amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau y mae’n eu cynnig, sy’n cynnwys teithiau cerdded darganfod, digwyddiadau adrodd straeon, arddangosfeydd, theatr awyr agored a cyngherddau.

 

Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i ddod â champws addysgu a dysgu modern newydd i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd TG, stiwdios amlbwrpas, ceginau arlwyo, stiwdios recordio a dawns, gweithdai dylunio, ardaloedd perfformio a rhagor. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys theatr 200 sedd yn cynnig amrediad eang o gyfleoedd ar gyfer defnydd cymunedol ac ymgysylltu, a bydd yn darparu budd mawr i economi’r nos yn y dref.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Ddiwylliannol Genedlaethol yn ystod 2023 a bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn awyddus i nodi unrhyw gyfleoedd a all gadw neu wella asedau a chyfleoedd lleol ymhellach.

 

Mae cwmpas y strategaeth ddiwylliannol yn cynnwys lleoliadau fel Pafiliwn y Grand ond hefyd gwasanaethau fel llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau. Bydd prosiect Neuadd y Dref Maesteg yn gallu cefnogi amrediad eang o weithgarwch diwylliannol yn y tymor hwy ac eto mae ganddo rôl strategol wrth gefnogi anghenion diwylliannol ein poblogaeth breswyl. Yn ogystal â chefnogi perfformiadau, bydd y ddau leoliad a nodir yn ehangu eu potensial i gefnogi grwpiau celfyddydau cymunedol a sefydliadau trydydd sector. Bydd y lleoliad ym Maesteg wedi gwneud y defnydd gorau o adnoddau drwy gydleoli llyfrgell y dref, y llyfrgell gyfeirio a gwasanaeth hanes teulu’r sir mewn un lle.

 

Y tu hwnt i wasanaethau llyfrgell sy'n seiliedig ar gyfleusterau bu llwyddiant o ran y gwasanaeth llyfrgell symudol Llyfrau ar Glud sy'n cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed gartref; gan amlygu’r potensial i gefnogi pobl mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol leoedd. Cynyddodd mynediad digidol i adnoddau’n sylweddol hefyd yn ystod y pandemig ac nid yw’r duedd hon wedi newid o ran cyrchu llyfrau, cylchgronau a cherddoriaeth o bell. Mae cymorth penodol ar gael i gynorthwyo pobl â namau synhwyraidd hefyd a rhaglenni allgymorth sy'n cysylltu ag ysgolion a phartneriaid eraill i ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau. Mewn partneriaeth ag Awen byddwn yn parhau i gynorthwyo'r rhai sydd angen mynediad o bell. Bydd hefyd yn bwysig nodi dulliau arloesol o gyrraedd pobl a gwella hygyrchedd y tu hwnt i ddefnyddio asedau ffisegol yn y dyfodol hefyd.

 

Mae Awen hefyd bellach yn gweithredu rhaglen Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn uniongyrchol ac mae mewn sefyllfa i sicrhau bod cyfleoedd ar gael ar draws y Sir. Yn ogystal, mae'r gallu i ddatblygu mynediad at gyfleoedd mewn mannau llai traddodiadol trwy raglenni allgymorth a chyfleoedd dros dro mewn lleoliadau llai yn cael ei ddilyn yn weithredol. Enghreifftiau diweddar fyddai defnyddio dulliau rhith-wirionedd mewn cartrefi gofal, sinema dros dro mewn gwasanaethau dydd, a digwyddiadau cyfeillgar i ofalwyr, i enwi dim ond rhai.

 

Mae cyfrifoldeb am ein treftadaeth a’n hasedau diwylliannol yn cael ei gymryd yn wirioneddol o ddifrif. Mae Strategaeth Treftadaeth Adeiledig ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd, a'i nod yw diogelu, gwarchod a gwella treftadaeth adeiledig Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd dirprwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig a ddyfarnwyd yn ddiweddar i'r awdurdod hwn yn cynorthwyo â nodau'r strategaeth ac effeithlonrwydd penderfynu ar geisiadau i hwyluso diogelu a gwella sicrwydd a hyder perchnogion adeiladau hanesyddol. Yn y Fwrdeistref Sirol, mae 374 o Adeiladau Rhestredig, 60 o Henebion Rhestredig, 16 o Ardaloedd Cadwraeth, 6 o Barciau a Gerddi Hanesyddol a 2 Dirwedd o Eithriadol. / Diddordeb Hanesyddol Arbennig. Mae prosiect ar y gweill ar hyn o bryd yng Ngwaith Haearn Bedford, sy’n cynnwys clirio llystyfiant sylweddol, atgyweirio gwaith maen a gwaith iechyd a diogelwch i hwyluso ei ailagor i’r cyhoedd, a ariennir gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr, â’r bwriad o sefydlu cytundeb partneriaeth treftadaeth posibl â Cadw ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol. .

 

Ar wahân i'r ddarpariaeth gwasanaethau diwylliannol ffurfiol, mae ffyrdd eraill sy'n cael eu gweithredu a'u harchwilio i gefnogi treftadaeth ddiwylliannol Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys llwybr Treftadaeth ar gyfer Tref Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddwyn ynghyd hanes a phwyntiau o ddiddordeb ar hyd llwybr tywys. Mae cymorth parhaus hefyd yn cael ei ddarparu i Gwt 9, i symud ymlaen â gwaith dichonoldeb ar gyfer y safle, cynnal digwyddiadau ac archwilio cyfleoedd ariannu gyda Cadw i warchod y safle a phaentiadau.

 

Yn gynharach eleni fe wnaethom gomisiynu cyfres o arolygon o eglwysi a chapeli gwag ar draws ein tri chwm i ddiweddaru arolwg blaenorol o gapeli 2014. Mae hyn â'r bwriad o gwblhau asesiad o'u cymeriad hanesyddol a phensaernïol, a gwerth diwylliannol ochr yn ochr â nodi cyllid posibl, cymorth ac arfer gorau ar gyfer trosi posibl i ddefnyddiau newydd.

 

Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r aelodau bod buddsoddi ym mhob rhan o dreftadaeth ddiwylliannol ein Bwrdeistref Sirol yn broses barhaus ac yn cael ei cheisio a'i chyflawni'n barhaus.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd F Bletsoe

 

Mae nifer o drydydd partïon fel Ymddiriedolaeth Arwen, Cadw, Halo a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud gwaith gwych yn darparu treftadaeth ddiwylliannol a chyfleoedd hamdden yn y Fwrdeistref Sirol. Gan fod Pen-y-bont ar Ogwr yn adnabyddus am gynhyrchu rhai bandiau a deuawdau gwych fel Bullet for my Valentine, Funeral for a Friend, Sex Clone Utopia, Dave and Griff a Those Damn Crows ymhlith eraill, a gaf i ofyn pa gymorth mae i CBSP (ac nid y 3ydd partïon a grybwyllir uchod) yn ei roi, ac wedi'i roi, i gefnogi’r sîn gerddoriaeth gynyddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel rhan o gyrhaeddiad diwylliannol a threftadaeth.

 

Ymateb

 

Rhoddir ymateb manwl i'r cwestiwn hwn i aelodau y tu allan i'r cyfarfod. Ychwanegodd yr Arweinydd fod Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Arwen wedi'i chreu gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a dim ond oherwydd y cymorth blynyddol y mae'r awdurdod lleol yn ei ddarparu drwy drefniant partneriaeth y gall gefnogi sefydliadau sy'n darparu celfyddydau a diwylliant ledled y Fwrdeistref Sirol. O ran canol y dref, buom yn allweddol wrth sicrhau Cheapside ar gyfer Campws Coleg newydd a fydd yn gallu cynnwys digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn y dyfodol.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd M Lewis

 

O ran Etifeddiaeth Ddiwylliannol y Fwrdeistref, pa mor llwyddiannus oedd y dathliadau diweddar o ben-blwydd tri canmlwyddiant geni Dr. Richard Price, Llangeinwyr, y bu i mi ei golli yn anffodus oherwydd salwch.

 

Ymateb

 

Roedd hwn yn achlysur boddhaol iawn lle cafwyd cyfranogaeth gan Arwen, Cyngor Cymuned Cwm Garw a Chymdeithas Richard Price a darlledwr y BBC Huw Edwards sy’n hanu o Gwm Garw. Dadorchuddiodd blac glas yn Llundain lle'r oedd Dr. Price yn byw ac yn y lleoliad hwn cafwyd presenoldeb ardderchog ar gyfer Dr. Price oherwydd ei ddylanwad ar y chwyldro yn Ffrainc ac America. Roedd hyn yn cynnwys disgyblion o Flaengarw a fynychodd yno i ddathlu treftadaeth ryfeddol y cymoedd.