CYNNIG AR GYFLOGAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL I’R CYNGOR: CODIAD CYFLOG PRIODOL WEDI’I ARIANNU’N LLAWN I WEITHWYR Y CYNGOR A GWEITHWYR YSGOL
Mae’r cyngor hwn yn nodi:
Mae’r cyngor o’r farn:
Mae’r cyngor hwn wedi penderfynu:
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniadau llafar gan yr aelodau uchod yn eu tro, yn amlinellu eu rhesymau dros gefnogi'r Rhybudd canlynol o Gynnig:-
“CYNNIG AR GYFLOG LLYWODRAETH LEOL I’R CYNGOR: CODI CYFLOG PRIODOL WEDI’I ARIANNU’N LLAWN I WEITHWYR Y CYNGOR A GWEITHWYR YSGOLION
Mae’r cyngor hwn yn nodi:
· Mae llywodraeth leol wedi dioddef toriadau cyllid llywodraeth ganolog o fwy na 50% ers 2010. Rhwng 2010 a 2020, collodd cynghorau 60c o bob £1 maen nhw wedi'i dderbyn gan lywodraeth ganolog San Steffan.
· Mae ymchwil newydd gan UNSAIN wedi dangos bod cynghorau ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban yn wynebu diffyg cyllid cyfunol o £3bn erbyn y flwyddyn ariannol 2023/24 a bwlch ariannu cronnol o £5bn erbyn 2024/25.
· Ar lefel leol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud cyfanswm o bron i £73m o arbedion ers 2010 / 2011. Mae hyn yn cynrychioli bron i 23% o gyllideb refeniw net cyfredol y Cyngor
· Arweiniodd cynghorau’r ffordd mewn ymdrechion yn erbyn pandemig Covid-19, gan ddarparu amrediad enfawr o wasanaethau a chymorth i’n cymunedau. Mae llywodraeth leol wedi dangos yn fwy nac erioed pa mor anhepgor ydyw. Ond mae Covid wedi arwain at gynnydd aruthrol mewn gwariant a cholli incwm, ac wrth inni ddod allan o’r pandemig, mae angen llawer rhagor o gymorth ar awdurdodau lleol ac ysgolion gan San Steffan. Ni wnaeth cyhoeddiadau ariannu diweddar gan Lywodraeth San Steffan yn ymwneud ag ysgolion ddim i helpu.
· Cadwodd gweithwyr cyngor ac ysgolion ein cymunedau’n ddiogel drwy’r pandemig, gan roi eu hunain mewn perygl sylweddol yn aml wrth iddynt weithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd, darparu tai o safon, sicrhau bod ein plant yn parhau i gael eu haddysgu, a gofalu am bobl h?n a bregus. Ers 2010, mae gweithlu llywodraeth leol wedi dioddef blynyddoedd o gyfyngiadau cyflog â mwyafrif y pwyntiau cyflog yn colli o leiaf 25 y cant o’u gwerth ers hynny. 2009/10. Mae staff bellach yn wynebu’r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth, a chwyddiant yn taro 10% a llawer yn gorfod gwneud dewisiadau amhosib rhwng bwyd, gwres, a hanfodion eraill. Mae hon yn sefyllfa ofnadwy i unrhyw un gael ei hun ynddi.
· Ar yr un pryd, mae gweithwyr wedi profi llwythi gwaith cynyddol ac ansicrwydd swyddi parhaus. Ledled y DU, mae 900,000 o swyddi wedi’u colli mewn llywodraeth leol ers mis Mehefin 2010 – gostyngiad o fwy na 30 y cant. Gellir dadlau bod llywodraeth leol wedi’i tharo gan golledion swyddi mwy difrifol nac unrhyw ran arall o’r sector cyhoeddus.
· Mae effaith anghymesur wedi bod ar fenywod, gyda menywod yn cyfrif am fwy na thri chwarter y gweithlu llywodraeth leol.
· Mae ymchwil diweddar yn dangos pe bai Llywodraeth San Steffan yn ariannu hawliad cyflog 2023 yr undebau’n llawn, byddai tua hanner yr arian yn cael ei adennill diolch i refeniw treth uwch, llai o wariant ar fudd-daliadau a chredydau treth, a rhagor o wariant gan ddefnyddwyr yn yr economi leol.
Mae’r cyngor hwn yn credu:
1. Mae ein gweithwyr yn archarwyr gwasanaeth cyhoeddus. Maent yn cadw ein cymunedau yn lân ac yn ddiogel, yn gofalu am y rhai mewn angen ac yn cadw ein trefi a'n dinasoedd i redeg.
2. Heb broffesiynoldeb ac ymroddiad ein staff, ni fyddai modd darparu gwasanaethau'r cyngor y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.
3. Mae gweithwyr llywodraeth leol yn haeddu codiad cyflog cywir mewn termau real. Mae angen i Lywodraeth San Steffan gymryd cyfrifoldeb ac ariannu’r cynnydd hwn yn llawn; ni ddylai roi’r baich ar awdurdodau lleol y mae eu cyllid yn dal i ysgwyddo’r pwysau ar wasanaethau yn sgil pandemig Covid-19.
Mae’r cyngor hwn yn penderfynu:
Roedd y Cyngor yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig hwn, yn amodol ar ychwanegu pwynt B yn union uchod (a ddangosir mewn print trwm), a gytunwyd yn unfrydol hefyd.