Agenda item

Cynllun Busnes a Ffioedd yr Amlosgfa

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd cymeradwyo Cynllun Busnes ac Adroddiad Ffioedd yr Amlosgfa ar gyfer 2023-2024.

 

Dywedodd fod y Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyd-bwyllgor i’w gymeradwyo, gan ei fod yn pennu amcanion gwasanaethau a phrosiectau cynnal-a-chadw/gwella arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo at Atodiad 1, sef y Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth, a thynnodd sylw’r pwyllgor at wobr y Faner Werdd a enillwyd gan yr Amlosgfa unwaith eto 2022 a’r ffaith bod y Gwasanaeth yn dal i fod yn hunangynhaliol mewn termau ariannol. Soniodd hefyd am y strwythur staffio, am fanylion yr oriau busnes ac am y mathau o seremonïau coffa a gynigir. Tynnodd sylw at gynnwys yr adroddiad, gan grybwyll y gwahanol ffyrdd a ddefnyddir gan yr Amlosgfa i’w marchnata’i hun ac i gyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth, a chyfeiriodd hefyd at y gwahanol ffyrdd y mae’r amlosgfa’n dal i fod yn amgylcheddol gynaliadwy.

 

Rhestrodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo y llwyddiannau hollbwysig dros y 10 mlynedd diwethaf, a chyfeiriodd yn arbennig at osod goleuadau allanol yn 2021 ac at y gwaith o adnewyddu cyfleusterau cerddoriaeth ddigidol yn y ddau gapel, yn cynnwys gosod sgriniau teyrnged. Soniodd am y gwaith adeiladu a ddechreuwyd yn 2022 a’r estyniad sydd ar y gweill ar gyfer allanfa’r prif gapel a’r cwrt blodau. Tynnodd sylw’r pwyllgor at ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â’r 5 mlynedd flaenorol – deilliodd y canlyniadau o holiaduron yn ymwneud â’r gwasanaeth. Bydd y targedau presennol gogyfer bodlonrwydd â lefel y gwasanaeth yn cael eu hymestyn i flynyddoedd 2023-2024.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo at bwynt 4 yn adroddiad y Clerc a’r Swyddog Technegol, lle ceir manylion am ystadegau blynyddol. Aeth ati i dywys y pwyllgor trwy’r ystadegau. Dywedodd fod y ffigurau ar gyfer 2020 yn gysylltiedig â’r pandemig a bod ffigurau 2022 yn ymdebygu i’r ffigurau a gafwyd cyn y pandemig. Yna, aeth yn ei blaen i dywys y pwyllgor trwy is-adrannau pwynt 4, lle nodir manylion y sefyllfa a’r cynigion presennol.

 

Mewn perthynas â pharagraff 4.4, ailddatganodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y cynnydd ymddangosiadol yn y ffi ar gyfer llogi’r capel i gynnal gwasanaethau coffa (sef cynnydd o £82 i £220) yn gynnydd mewn gwirionedd; yn hytrach, ceid anghysondeb yn y ffi wreiddiol a nodwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaeth rhwng un o’r aelodau, Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth / Cofrestrydd Amlosgfa Llangrallo a’r Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol yngl?n â sail resymegol y CPI.

 

Esboniwyd bod y ffioedd wedi’u cydweddu â’r cynnydd cyffredinol mewn prisiau trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r amlosgfa’n defnyddio llawer o ynni ac mae’r prisiau’n adlewyrchu’r cynnydd cenedlaethol mewn ynni a nwyddau a gwasanaethau eraill a ddefnyddir yn ei gweithrediadau safonol. Nodwyd bod y cynnydd wedi’i gyflwyno fel y gellir parhau i gynnal gwasanaethau o safon uchel yn unol ag enw da’r amlosgfa.

 

Canmolwyd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth gan y cadeirydd a chan un o’r aelodau am gynnwys yr adroddiad ac am y cynnydd a wnaed.

 

PENDERFYNIAD: Cytunodd y Cyd-bwyllgor i gymeradwyo’r Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2023-24.

 

                                        Cytunodd y Cyd-bwyllgor i gymeradwyo’r ffi amlosgi ar gyfer 2023-24, sef £824.00, a chytunwyd ar gynnydd cyffredinol o 10.5% ar gyfer pob ffi.

 

                                        Cytunodd y Cyd-bwyllgor i gymeradwyo’r ffi ar gyfer llogi capel yr amlosgfa ar gyfer gwasanaethau coffa 30 munud, sef £220.000 ar gyfer 2023-24. Bydd y swm hwn yn dyblu ar ddydd Sadwrn.

 

Dogfennau ategol: