Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2023-28

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus adroddiad, er mwyn rhoi diweddariad ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor a cheisio cefnogaeth gan Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned i rannu Cynllun Corfforaethol 2023-28, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd hwn i fod i gael ei adrodd i'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Cadarnhaodd fod 7 nod llesiant ar gyfer Cymru, wedi eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a bod angen i’r Cyngor, fel awdurdodau lleol eraill, ddangos ein cyfraniad at bob un o’r nodau hyn, sef –

       Cymru lewyrchus

       Cymru gydnerth

       Cymru iachach

       Cymru fwy cyfartal

       Cymru o gymunedau cydlynol

       Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

       Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

 

Ychwanegodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus fod yn rhaid i'r Cyngor hefyd ystyried y 5 ffordd o weithio wrth iddo ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol newydd. Y rhain oedd –

 

       Hirdymor - cydbwyso anghenion tymor byr gyda'r angen i ddiogelu'r gallu i ateb anghenion hirdymor hefyd

       Atal - gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu rhag gwaethygu er mwyn helpu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion

       Integreiddio – meddwl am sut y bydd ei nodau llesiant yn cyfrannu at y 7 nod genedlaethol, at ei amcanion eraill ac at amcanion partneriaid.

       Cydweithio – gweithio ar draws gwahanol rannau o'r Cyngor a phartneriaid i gyflawni ei amcanion

       Cynnwys – cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth ei ardal.

 

Y Cynllun Corfforaethol yw prif gyfrwng y Cyngor ar gyfer dangos a chyfleu’r blaenoriaethau i bobl a busnesau lleol. Roedd hefyd yn rhan bwysig o'r fframwaith sicrwydd ar gyfer ei reoleiddwyr. Roedd Archwilio Cymru yn bwriadu rhoi prawf ar ddulliau o ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol (yn enwedig yr amcanion llesiant) ledled Cymru dros y 6 mis nesaf. Amlinellwyd yr Amcanion hyn ym mharagraff 3.5 o'r adroddiad.

 

Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd diddordeb mawr yn natblygiad amcanion llesiant, yn unol ag esblygiad y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a’r canllawiau. Maent yn awyddus i weld tystiolaeth fod y Cyngor yn gweithio gyda staff ac Undebau Llafur ar ddatblygu ei amcanion a'i gynllun llesiant.

 

Yna amlinellodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus rywfaint o’r gwaith oedd wedi cael ei wneud neu oedd yn ofynnol, megis mewn perthynas â: 

 

       Defnyddio ymchwil, data a gwybodaeth i gasglu manylion ar gyfer y Cynllun Corfforaethol;

       Defnyddio ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori i gasglu'r wybodaeth ar gyfer y Cynllun Corfforaethol.

 

Eglurwyd rhagor o fanylion am y gwaith a wnaed yn y meysydd hyn yn yr adroddiad, gan gynnwys adborth gyda golwg ar ymgynghori’n fewnol, er enghraifft drwy’r broses Trosolwg a Chraffu, ac yn allanol gyda rhanddeiliaid, megis etholwyr, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Cyngor Ieuenctid.

 

Yn dilyn y broses ymgynghori, gwnaed rhai newidiadau i’r Cynllun Corfforaethol yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, megis:

 

       Ailysgrifennu'r egwyddorion, a newid yr eiconau sy'n eu cynrychioli, fel eu bod yn fwy cadarnhaol, uchelgeisiol a blaengar.

       Ychwanegu adran fach ar gyd-destun i bob amcan llesiant i ddangos y cysylltiad â gwasanaethau penodol yn y cyngor

       Ailgyflunio’r diagram ar gyllid y Cyngor i adlewyrchu’r costau fesul diwrnod (fesul cartref)

       Ychwanegu cyfeiriadau at ganol trefi a Phorthcawl

       Ychwanegu gwybodaeth yn Amcan Llesiant 2 i ganolbwyntio ar les, recriwtio a chyflogau staff.

       Ychwanegu gwybodaeth yn Amcan Llesiant 6 i ganolbwyntio ar wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi

       Ychwanegu gwybodaeth am gyflogaeth ieuenctid, a'r gwasanaeth cerdd.

 

Cafwyd cyflwyniad PowerPoint gan y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus i gefnogi'r adroddiad.

 

Gofynnodd aelodau'r Fforwm yn ddiolchgar am i'r Cynllun Corfforaethol gael ei rannu gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chadarnhaodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus y byddai'n trefnu hyn ac, os oedd angen, y gallai naill ai ei hun neu aelodau o'i thîm ddod draw i siarad ar hyn er budd yr Aelodau.

 

Teimlai Aelod hefyd y byddai'n fanteisiol defnyddio'r Cynllun Corfforaethol fel cyfle i ganiatáu, lle'n briodol, i Gynghorau Tref a Chymuned ddarparu rhai o'r gwasanaethau oedd wedi eu cynnwys yn y Cynllun, trwy drefniadau gweithio ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD:         Bod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi Cynllun Corfforaethol 2023-28 a gyflwynwyd i'w gymeradwyo i'r Cyngor ar 1 Mawrth fel oedd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: