Cofnodion:
Cyflwynodd Cydlynydd Costau Byw (Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr) adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned am y gweithgarwch ynghylch cymorth costau byw, a Chanolfannau Cynnes yn fwyaf penodol, oedd yn cael eu darparu i gymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Fel rhywfaint o wybodaeth gefndir, dywedodd fod effaith y cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar bawb ond bod yna grwpiau oedd yn debygol o gael eu taro galetaf. Roedd y bobl hyn yn gwario cyfran uwch o gyfanswm eu hincwm ar fwyd, tai a chostau ynni ac felly bod ganddynt lai o hyblygrwydd i gwrdd â chostau oedd yn cynyddu. Roedd y rhai oedd yn arfer gallu rheoli eu cyllidebau bellach yn dechrau cael trafferth neu'n cael eu hunain mewn argyfwng.
Roedd problemau gyda stoc tai h?n yn golygu bod llawer o gartrefi yn llai ynni-effeithlon. Mewn ardaloedd gwledig roedd cartrefi yn fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar danwydd solet, olew, neu LPG ar gyfer eu gwresogi. Roedd y rhain i gyd yn ffactorau oedd yn cynyddu costau ynni.
Cadarnhaodd y Cydgysylltydd Costau Byw fod y cap ar brisiau ynni domestig wedi codi i £1,971 y flwyddyn ym mis Ebrill 2022, gan arwain Llywodraeth Cymru i amcangyfrif y gallai hyd at 45% o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd ac y gallai hyd at 8% o aelwydydd fod mewn tlodi tanwydd difrifol. Gan fod 1 o bob 5 cartref yng Nghymru yn peri risg annerbyniol i iechyd cyn yr argyfwng costau byw, roedd y cynnydd yn yr aelwydydd yr oedd tlodi tanwydd wedi effeithio arnynt yn debygol o gynyddu marwolaethau ychwanegol y gaeaf yn gyffredinol.
Ym mis Medi 2022, mewn ymateb i’r argyfwng costau byw cynyddol, costau uwch ynni yn benodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai miliwn o bunnau ar gael i gynorthwyo cymunedau i ddatblygu Canolfannau Cynnes neu ehangu a gwella darpariaeth Canolfan Gynnes.
Yna ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd y câi’r cyllid ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol fyddai’n gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu a darparu Canolfannau Cynnes. Dyrannwyd £44,590 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynorthwyo Canolfannau Cynnes drwy gynllun grant i’w wario erbyn 31 Mawrth 2023.
Eglurodd fod Canolfannau Cynnes wedi eu bwriadu fel lleoedd mewn cymunedau lleol lle gallai pobl ddod o hyd i amgylchedd diogel a chynnes yn ystod y dydd i gynorthwyo i leihau cost gwresogi eu cartrefi eu hunain ac i helpu pobl oedd yn wynebu tlodi tanwydd eithafol y gaeaf hwn. Yn dibynnu ar eu lleoliad a’u cyfleusterau, roedd Canolfannau Cynnes yn cynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys lluniaeth a byrbrydau sylfaenol o leiaf, ac ymestyn i bryd o fwyd mwy sylweddol lle bo modd, gweithgareddau cyfoethogi fel celf a chrefft, ymarfer corff a gweithgaredd diwylliannol a darparu cyngor a gwasanaethau cymorth fel iechyd a lles, materion ariannol, a hygyrchedd digidol i’r rhai oedd yn mynychu.
Nod cronfa’r Canolfannau Cynnes oedd darparu mannau diogel, hygyrch, cyfeillgar, rhad ac am ddim i gynnig cymorth gyda chostau byw cynyddol tra’n helpu cymunedau i fod yn iach ac aros felly.
Er mwyn hwyluso'r broses o ddyrannu’r cyllid grant, cynhaliwyd ymarfer cwmpasu ar draws y Fwrdeistref Sirol. I adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau lleol ar draws y Fwrdeistref Sirol a chynorthwyo i fynd i'r afael â'r heriau unigryw mewn gwahanol ardaloedd, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd lleol. Trefnwyd 11 o gyfarfodydd, ac ymdrechwyd i wahodd cynrychiolwyr o grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, canolfannau cymunedol, Cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a sefydliadau Trydydd Sector gan gynnwys Halo ac Awen.
Pwrpas y cyfarfodydd cwmpasu oedd trafod atebion cymunedol i gostau cynyddol ynni domestig, gan nodi a chasglu gwybodaeth am y cymorth a'r gweithgareddau oedd eisoes ar gael er mwyn osgoi dyblygu yn y dyfodol a chreu sefyllfa i adeiladu arni. Yn dilyn y cyfarfodydd, crëwyd rhestrau cylchredeg ar gyfer pob ardal i gynorthwyo gyda chyfathrebu yn y dyfodol gyda chynrychiolwyr lleol a rhyngddynt. Roedd y grwpiau postio wedi bod yn ffordd effeithiol o gasglu gwybodaeth bellach a rhannu gwybodaeth leol a gwybodaeth ddiweddar am Ganolfannau Cynnes.
Dywedodd y Cydgysylltydd Costau Byw fod cyllid yn cael ei dynnu i lawr oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a bod cytundeb wedi ei wneud wedi hynny â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) ym mis Ionawr 2023 i weinyddu'r arian. Roedd rôl BAVO yn ymestyn i hysbysebu cynllun ariannu Canolfannau Cynnes a choladu ceisiadau, gyda CBS Pen-y-bont yn gyfrifol am wneud penderfyniadau drwy Banel Grantiau, a monitro ac adrodd i CLlLC.
Roedd Panel Grantiau CBSP yn cynnwys y Rheolwr Cyflogadwyedd a Menter, Rheolwr Gr?p – Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Atal a Lles a Chydlynydd Costau Byw. Llwyddodd y Panel Grantiau i gytuno ar geisiadau’n gyflym, gan gyfarfod ddwywaith yr wythnos ers agor y gronfa grant. Roedd ceisiadau i’r gronfa bellach wedi mynd y tu hwnt i’r cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac roedd dros 30 o dderbynwyr wedi derbyn cyllid Canolfannau Cynnes. Roedd arian ychwanegol i gael ei ddarparu drwy Gronfeydd Cost Byw yn ôl Disgresiwn CBSP.
Wedyn, ymatebodd swyddogion Cyflogadwyedd i gwestiynau gan Aelodau a gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma (dolen y cyfarfod i gael ei roi i mewn ar ôl cyfieithu)
PENDERFYNWYD:: Bod Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned yn nodi’r adroddiad.
Dogfennau ategol: