Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg
Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Nicola Echanis - Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd
Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion)
Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De
Louise Blatchford - Dirprwy Reowr Gyfarwyddwr - ConsortiwmCanolbarth y De
Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De
Kathryn John – Prifathro - Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr
Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun Bryntirion
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Addysg a Chymorth i Deuluoedd y Cynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De (CSC) a chyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr CSC yr adroddiad, a'i bwrpas oedd rhoi trosolwg ar waith CSC a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cyfraniad yr oedd CSC yn ei wneud, gan weithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol, i godi safonau mewn ysgolion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Rheolwr Gyfarwyddwr CSC a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Y fformiwla ar gyfer y cyfraniad blynyddol oedd yn cael ei wneud i CSC, y defnyddio o gronfeydd a sut yr oedd yr awdurdod yn mesur canlyniadau pendant mewn perthynas â'r buddsoddiad refeniw.
· Digonolrwydd cefnogaeth gan CSC o ystyried y gostyngiad mewn cyllid ac arbedion effeithlonrwydd yng nghyllidebau ysgolion, effaith llai o gyllid ar bartneriaid gwella CSC o fewn Pen-y-bont ar Ogwr a thargedu blaenoriaethau awdurdodau lleol unigol i leihau effaith unrhyw newidiadau.
· Systemau i olrhain a dadansoddi perfformiad disgyblion er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gwella, a oedd ysgolion yn ddigon tryloyw drwy hunanasesu, a data cyson arall o brofion a gynhaliwyd, yn unol â'r fframwaith asesu yr oeddent yn ei ddatblygu i gyd-fynd â'r cwricwlwm i Gymru.
· Ffynonellau cyllid cydweithredu/clystyrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys cyllid grant a grantiau dysgu proffesiynol sy'n mynd i mewn i CSC, a roddir i ysgolion yn lwmp swm i'w ddefnyddio'n ystyrlon ar unrhyw fath o gydweithrediad.
· Themâu allan o werthusiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn a gyflwynwyd gan y 9 clwstwr, yn cadarnhau system o hunan-wella a'r clwstwr yn cytuno ynghylch yr hyn yr hoffai ganolbwyntio arno, e.e. asesu a dilyniant gyda dull cyson yn unol â'r cwricwlwm ar gyfer Cymru.
· Rhesymau pam yr ystyriwyd bod 16% o glystyrau yn aneffeithiol, pryderon nad oedd pob ysgol yn cymryd rhan yng nghefnogaeth CSC a dysgu proffesiynol a rôl y Gr?p Gwella Ysgolion wrth bennu blaenoriaethau strategol mewn ysgolion penodol.
· Partneriaid Gwella sy'n gweithio gydag ysgolion i integreiddio argymhellion allan o arolygiadau Estyn i'w cynlluniau datblygu ysgolion a'r posibilrwydd y bydd Estyn yn cynyddu rheoleidd-dra eu harolygiadau.
· Nid yw Ysgol yr Archesgob McGrath bellach yn cael ei hadolygu gan Estyn ar ôl gwneud cynnydd priodol yn erbyn pob argymhelliad a wnaed yn yr arolygiad gwreiddiol.
· Rhoddodd cynrychiolwyr yr ysgolion yr adborth canlynol am yr agweddau allweddol o'u profiad o weithredu a pharhau i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru;
- Y dysgwyr a llais dysgwyr wrth wraidd yr hyn y maent yn ei wneud.
- Pwysigrwydd sefydlu’r pedwar pwrpas yng nghyfnod allweddol 5, cyn eu bod yn orfodol
- Ymreolaeth staff i benderfynu ar y dulliau gweithredu gorau ynghyd ag addysgeg addysgu a dysgu
- Sicrhau bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn rhan annatod o wersi
- Rhannu ymarfer ag ysgolion eraill.
- Gwella mewn canlyniadau meddal - meddwl, datrys problemau, sgiliau llythrennedd a rhifedd
- Cyfraddau presenoldeb yn uwch na'r flwyddyn flaenorol
a rhai heriau, yn cynnwys:
- Y Model yn gwrthdaro yn erbyn strwythurau mewn mannau eraill yn yr ysgol
- Adeiladau ysgol ddim yn addas i’r diben o ran dull arloesol
· Canlyniad astudiaeth achos Ysgol Gynradd Corneli ar ymwybyddiaeth ariannol.
· Meysydd ffocws / blaenoriaeth allweddol i ysgolion:
- Llythrennedd
- Gweithredu a Mireinio'r Cwricwlwm ar gyfer Cymru
- Y fframwaith asesu y cytunwyd arno gan gyrff llywodraethu fel rhan o fabwysiadu'r cwricwlwm i Gymru
- Datblygu prosesau hunanarfarnu effeithiol i sicrhau eu bod yn cael effaith ar addysgu a dysgu
- Rhwydweithiau a dderbyniodd gyllid o £30,000 ychwanegol i gynllunio a hwyluso dysgu proffesiynol er mwyn cwrdd ag anghenion yr ysgolion
- Ysgolion Cyfrwng Cymraeg ac Arbennig
· Y lefelau isaf o gefnogaeth a mesurau i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi a bod ysgolion a Phartneriaid Gwella yn cyfranogi’n effeithiol yn unol â'r Rhwydwaith Gwella Ysgolion.
· Gwybodaeth am y gefnogaeth a ddarperir i'r ddwy ysgol na chawsant gefnogaeth bwrpasol a'r gefnogaeth pwnc-benodol a ddarparwyd gan CSC.
· Sefydlu Tîm Cymorth Gr?p Bregus a’i rolau allweddol, gan gynnwys cynnal archwiliadau diogelu gan ddefnyddio'r Offeryn Archwilio Diogelu a gymeradwywyd gan Estyn.
· CSC yn gweithio ar arweinyddiaeth a diogelu drwy wneud y canlynol:
- Cynyddu lefel yr hyfforddiant diogelu i staff;
- Datblygu strwythurau llywodraethu mewnol;
- Symleiddio'r ffordd yr oeddent yn gwneud cynlluniau busnes er mwyn rhyddhau capasiti;
- Parhau â'r bartneriaeth waith dda rhwng Cyfarwyddiaethau Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, er mwyn sicrhau bod pwysau a llwyddiannau yn cael eu rhannu a gwersi a ddysgwyd;
- Darparu gweledigaeth glir a chodi cyrhaeddiad pobl iau ddifreintiedig a sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posibl ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gynllun peilot y cymerodd Coleg Cymunedol y Dderwen ran ynddo;
- Datblygu proffiliau un dudalen, pecynnau cymorth ar gyfer addysgu a dysgu a pholisïau ysgolion cyfan; ac
- Olrhain llythrennedd, rhifedd a chyfranogiad.
· Cyllid Grant Datblygu Disgyblion a'r effaith ar gyllid os nad oedd disgyblion cymwys yn hawlio’r prydau ysgol am ddim yr oedd ganddynt hawl iddynt.
· Diweddariad ynghylch yr 11 blaenoriaeth a’r cynnydd a wnaed gan ysgolion nad oeddent ar y trywydd iawn yn ystod cyfnod adrodd 2021-22 a diwedd y flwyddyn academaidd.
· Y cryfderau niferus y dylid llongyfarch y Gyfarwyddiaeth a'r Ysgolion arnynt a meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach.
· Yr adborth gan awdurdodau lleol eraill ac a roddwyd ystyriaeth i ailsefydlu Cyd-bwyllgor Craffu neu beidio i ychwanegu gwerth o bosibl at gynllun busnes drafft 2023-24 CSC.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1. Tynnodd y pwyllgor sylw, er ei bod yn ddefnyddiol adolygu adroddiad blynyddol 2021-2022, y byddai'r cyd-destun wedi newid rhywfaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan fod gwerth ystyriaeth y Pwyllgor yn gorwedd mewn craffu ar y sefyllfa fel yr oedd ar y pryd, argymhellwyd y dylid rhoi cyfle i’r Pwyllgor graffu ar Gynllun Busnes Drafft Consortiwm Canolbarth y De 2023-2024 cyn i benderfyniadau gael eu gwneud.
2. Cydnabu aelodau fod Consortiwm Canolbarth y De yn cyflawni agweddau ar wasanaethau gwella ysgolion: herio a chefnogi ar ran y pum awdurdod lleol, sy'n cael ei lywodraethu drwy Gyd-bwyllgor Aelodau'r Cabinet o bob Awdurdod. Yn hanesyddol, fodd bynnag, buasai Gweithgor Craffu anffurfiol ar y cyd rhwng y pum awdurdod hyn nad oedd yn bodoli mwyach yn anffodus. Felly argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r adran Graffu archwilio'r posibilrwydd o ailsefydlu rhyw fath o Graffu ar y cyd i ystyried materion strategol cyfannol lefel uchel sy'n ymwneud â Chonsortiwm Canolbarth y De a nodi blaenoriaethau awdurdod lleol unigol.
a gofynnodd y Pwyllgor:
3. am ddadansoddiad manwl o’r cyfraniadau cyllido craidd a ddyrannwyd i'r gwahanol swyddogaethau a restrwyd ar dudalen 41 o'r adroddiad a beth oedd cyfraniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar bob un.
4. Roedd cydweithrediadau dysgu proffesiynol yn cynnwys naw clwstwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd i gyd yn cyflwyno gwerthusiad canol blwyddyn a diwedd y flwyddyn. Gofynnodd yr aelodau am fanylion pa themâu oedd wedi codi o adroddiadau gwerthuso canol a diwedd blwyddyn y clystyrau hynny.
5. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn hydref 2022, archwiliwyd pedair ysgol gan Estyn a gofynnwyd i Ysgol Gynradd Corneli gynhyrchu ‘Astudiaeth Achos Ymarfer Diddorol neu Arloesol’ oedd ar waith yn yr ysgol oedd yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o ymwybyddiaeth ariannol. Gofynnodd yr aelodau am i'r astudiaeth achos hon gael ei chylchredeg ymhlith y Pwyllgor.
6. Yn ystod 2021-22, darparodd Consortiwm Canolbarth y De gefnogaeth bwrpasol yn dilyn 155 o geisiadau gan ysgolion yn y rhanbarth. Roedd y rhain yn cynnwys 20 ar gyfer ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr; roedd 18 a ddarparwyd gan Gwricwlwm Consortiwm Canolbarth y De a’r tîm Dysgu Proffesiynol yn gysylltiedig â'r cwricwlwm. Gofynnodd y pwyllgor am fanylion am yr hyn a ddarparwyd yn bwrpasol i'r ddwy ysgol arall ym Mhen-y-bont ar Ogwr nad oedd yn ymwneud â'r cwricwlwm.
7. Roedd diogelu wedi cael ei nodi fel rhan o'r blaenoriaethau strategol blaenorol yn y Gyfarwyddiaeth ac o ganlyniad cafwyd Tîm Ymgysylltu ag Addysg, a'i rôl allweddol oedd ymgymryd ag ystod o archwiliadau diogelu gydag ysgolion gan ddefnyddio'r offeryn archwilio diogelu ysgolion cymeradwy. Cynigiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd grynodeb ysgrifenedig o'r archwiliadau diogelu a gynhaliwyd gan y Tîm Ymgysylltu ag Addysg i'w gylchredeg i aelodau.
8. Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol mai'r adroddiad dan sylw oedd yr adroddiad blynyddol o 2021-22 ac felly gofynnodd am ymateb ysgrifenedig ar feysydd oedd wedi gwneud cynnydd penodol, ynghyd â meysydd a allai fod angen sylw yn ysgolion yr ardal sirol, ers y cyfnod adrodd. Roedd ganddynt ddiddordeb hefyd i ddeall sut yr oedd yr Awdurdod yn cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yn y rhanbarth a'r hyn y gellid ei ddysgu oddi wrth arfer gorau.
9. Cytunodd y Pwyllgor i ddatblygu gyda Chonsortiwm Canolbarth y De y cyfle i fonitro a derbyn diweddariadau ar amrywiol feysydd o fewn eu cylch gwaith, gan nodi'r rhai isod i ddechrau, i allu craffu'n llawn ar anghenion ac effeithiolrwydd y gwasanaeth a'r gefnogaeth i ysgolion:
- Tegwch, dysgwyr agored i niwed a grantiau
- Diogelu
Cymorth i Lywodraethwyr
Dogfennau ategol: