Agenda item

Isadeiledd Priffyrdd a Reolir yn Dda, Cod Ymarfer 2016 - Grŵp Cyswllt Ffyrdd y DU a Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru (CSSW) Ymagwedd at Reoli Priffyrdd sy’n Seiliedig ar Risg.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau adroddiad i gael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer sefydlu trefn ddiogelwch ddiwygiedig newydd yn seiliedig ar argymhellion diweddariad Gr?p Cyswllt Ffyrdd y DU o’r Cod Ymarfer, yn ogystal ag adolygiad a safoni ar gyfer Cymru gyfan gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru (CSSW) i gyd-fynd a threfn ar gyfer Cymru gyfan ar Gynnal a Chadw Priffyrdd.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau yr ased o briffyrdd yr oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel yr Awdurdod Priffyrdd, y ddyletswydd i gynnal yr ased hwnnw. Cynhaliwyd archwiliadau rheolaidd i sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod yr ased priffyrdd yn ddiogel i'w ddefnyddio. Er mwyn hwyluso ymateb sy'n gyson yn genedlaethol, adolygodd CSSW y Cod Ymarfer a chyhoeddodd fethodoleg yn seiliedig ar y risg i awdurdodau ei dilyn ac a oedd yn cyd-fynd â'r arferion a nodir yn y cod. Fe asesodd y swyddogion  fethodoleg CSSW sy’n seiliedig ar risg a'r dulliau asesu cysylltiedig. Fe gynhaliwyd adolygiad yn seiliedig ar risg o hierarchaeth asedau priffyrdd presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â threfniadau archwilio a thrwsio.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y gwahaniaethau rhwng yr hierarchaeth bresennol, y trefniadau archwilio a thrwsio a'r dull seiliedig ar risg, gan nodi lle y gellid gweithredu newidiadau i gyd-fynd â methodoleg CSSW. Esboniodd y lefelau ymyrraeth diffygiol fel y dangosir yn atodiad A i'r adroddiad ac eglurodd, er y byddai gan y cod diwygiedig oblygiadau ar gyfer arolygiadau ychwanegol, yr ystyrid y byddai'r strwythur staffio presennol yn gallu rheoli'r cynnydd mewn amleddau ac ni ragwelwyd y byddai'r amlder diwygiedig a'r meini prawf ymyrryd yn cynyddu'r galw am y lefelau o waith atgyweirio sydd ei angen ar lwybrau troed a lonydd cerbydau dros yr adnoddau presennol, fodd bynnag byddai hyn yn cael ei fonitro.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau at y 799 km o ffyrdd yn y Fwrdeistref a chroesawodd y trefniant i safoni'r drefn archwilio ledled Cymru. Credai fod anghysondeb gyda'r categori CH5 newydd lle'r oedd archwiliadau'n adweithiol o gymharu â llwybrau troed gwledig nad oedd llawer o ddefnydd ohonyn nhw a oedd yn cael eu harolygu'n flynyddol. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod hwn yn bwynt dilys ac y bydden nhw’n archwilio'r ddau yn flynyddol.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd pa gamau fyddai'n cael eu cymryd pe na bai gwaith a wneir gan gontractwyr o safon dderbyniol. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y byddai archwiliad yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau'r gwaith i gymeradwyo'r gwaith. Bu achlysuron pan nad oedd y gwaith i'r safon ofynnol ac fe ofynnir i'r contractwr ail-wneud y gwaith. Roedd yna hefyd gyfnod penodol ar gyfer bod yn atebol am unrhyw ddiffygion lle byddai unrhyw ddiffygion yn dod i’r amlwg o fewn y 3 mis cyntaf ac y gellid gofyn i'r contractwr atgyweirio’r broblem. Byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud heb unrhyw gost ychwanegol i'r awdurdod.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Addysg sut oedd y llif dyddiol cyfartalog o lif traffig yn cael ei gyfrifo. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau eu bod yn defnyddio gwifren ar draws y ffordd wedi'i gysylltu â bocs wedi'i gadwyno i olau stryd.

 

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyodd y Cabinet weithredu'r amlder newydd ar gyfer archwilio diogelwch a'r meini prawf ymyrraeth ar gyfer unrhyw cywiro diffygion.

Dogfennau ategol: