Agenda item

Ail-ddatblygu Cosy Corner

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i addasu contract gwaith adeiladu Cosy Corner yn unol â rheol 3.3.6 o Reolau Gweithdrefn Contract y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau at ohebiaeth a dderbyniwyd oddi wrth Mr Mike Clarke, cyn Ymgynghorydd ac aelod o’r elusen Credu a ddiddymwyd, a oedd yn egluro nad oedd gan Credu brydles ar gyfer y safle, ond bod ganddyn nhw gytundeb i brydlesu gydag amodau amrywiol ynghlwm wrthyn nhw. . Daeth y cytundeb hwn i ben gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pan aeth Credu i ddwylo'r gweinyddwyr ac adlewyrchwyd hyn yn gywir yn yr adroddiad ym mharagraff 3.1. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau mai'r cytundeb i brydlesu oedd y prif naratif o fewn yr adroddiad. Fodd bynnag, roedd cymal hepgor ym mharagraff 4.2 a oedd yn datgan “ lease relinquishment” a dylai ddarllen “agreement to lease relinquishment”. Cymerodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr feddiant yn ôl o safle Cosy Corner ar 5 Tachwedd 2020 pan gawsant wybod bod Credu wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ac mae hyn wedi’i nodi ym mharagraff 3.1 yr adroddiad. Roedd adroddiad y Cabinet yn ymdrin â digwyddiadau ar ôl i Credu fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, o 5 Tachwedd ymlaen pan oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfrifoldeb.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau y sefyllfa bresennol a bod hyn yn hollbwysig oherwydd yr angen i sicrhau eu bod wedi cwblhau'r adeilad yn ymarferol erbyn diwedd Mai 2023 gan eu bod wedi sicrhau £1 miliwn o arian grant WEFO yn erbyn cwblhau’r gwaith. Amlinellodd y gwaith a oedd wedi'i gwblhau, yr addasiad i'r contract presennol, oedi oherwydd yr amser a dreuliwyd yn profi ac egluro union natur yr halogiad ac oedi llawer hirach na'r disgwyl wrth dderbyn cymeradwyaeth gan D?r Cymru a newidiadau dylunio cysylltiedig gan adael Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atebol am gostau contractwr am 12 wythnos ychwanegol. Yn ogystal, roedd y strategaeth adfer er mwyn trin â'r halogi yn nodi bod angen tua 2000 tunnell o bridd ar gyfer y safle i sicrhau’r lefel briodol ac ar gyfer adnewyddu deunyddiau ar y safle a ystyriwyd yn anaddas o ganlyniad i halogi posib gan asbestos. Fe wnaethon nhw addasu'r contract gwaith adeiladu er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn cael ei gwblhau a’i flaenoriaethu i alluogi darpar denantiaid i gael mynediad a threfnu’r lle yn gyflymach. Byddai hyn hefyd yn ymateb i ofynion y rhai sy’n cyllido’r gwaith gan sicrhau y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 31 Mai.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio ei bod yn bwysig gwneud y gwaith mewn pryd a gofynnodd o ble y daeth y pridd halogedig. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod yr arolwg cyntaf wedi archwilio'r safle a chanfod asbestos a bod yr asbestos hwnnw wedi’i gymryd i ffwrdd. Yna cafodd y cabanau ym mhen deheuol y safle eu symud ac fe ddaethon nhw o hyd i fwy o asbestos a gafodd ei waredu hefyd. Oherwydd swm yr asbestos a ganfuwyd a'r ffaith ei fod yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r safle, bu'n rhaid iddyn nhw liniaru’r broblem trwy gael gwared ar 2000 tunnell o bridd a dod â phridd ffres i’r safle i sicrhau bod y cyfan o’r halogion oedd yn bresennol ar y safle wedi’u gwaredu.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a oedd y contractwyr a oedd ar y safle cyn mis Hydref 2020 wedi cynnal arolygon ac wedi methu â gwneud unrhyw waith oedd angen ei wneud. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau ei bod yn credu bod arolygon wedi'u cynnal a oedd yn nodi 2 ardal lle'r oedd halogiad posibl. Pan ddaeth contractwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i'r safle, cawsant gyfarwyddyd i wneud arolwg mwy manwl a dod o hyd i fwy o dir wedi’i halogi. Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd pryd y gosodwyd caban y Cadetiaid Môr ar y safle. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y gwaith arolwg a wnaed gan Credu yn ôl yn 2016 a rhwng 2016 a 2019, roedd y caban wedi'i leoli ar y safle hwnnw cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau gan Credu ar y safle.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cenedlaethau’r Dyfodol ei fod yn ddiolchgar bod yr arolygon wedi’u cynnal ac y gallan nhw fod yn sicr bod y safle’n ddiogel. Gofynnodd am esboniad o'r gyllideb yn hytrach na bod dros y gyllideb ac o fewn y gyllideb a glustnodwyd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod yna ddyraniad cyfalaf o fewn y Rhaglen Gyfalaf sef tua £3 miliwn ar gyfer Cosy Corner. Roedd y cyllid ar gyfer y contract yn £2.8 miliwn felly roedd digon o arian o hyd i allu fforddio'r prosiect. Roedd y gyllideb ariannol gyfredol yn cwmpasu'r hyn y credir y gallai'r prosiect ei gostio ynghyd â chynlluniau wrth gefn a chostau ar gyfer dichonoldeb a chyngor arbenigol.

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet Adnoddau, fel Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch, yr adroddiad a oedd yn brosiect cyffrous iawn i dref Porthcawl ac roedd yn bwysig bod gan y trigolion yr hyder bod y problemau wedi cael eu trin mewn dull priodol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod hwn yn brosiect blaenllaw mewn safle amlwg. Roedd yn falch o glywed bod cryn ddiddordeb wedi bod yn y 5 uned manwerthu gan greu swyddi newydd. Gofynnodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol gadarnhau bod y gwaith adeiladu ar y trywydd iawn ac y byddai’r cyfan yn barod i’w hagor o fewn yr amserlen. Atebodd eu bod ar y trywydd iawn i gwblhau'r adeilad a gosod yr unedau erbyn 31 Mai.

 

Diolchodd yr Arweinydd yn bersonol i'r Arweinydd Tîm Rheoli Cyrchfan a Gweithrediadau Arfordirol, Sean Warrington am ei waith caled yn cyflawni hyn yn ogystal â datblygiadau cyffrous eraill. Fe ddymunodd yn dda iddo hefyd ar ei swydd newydd.

 

PENDERFYNWYD: Awdurdododd y Cabinet i addasu’r contract ar gyfer gwaith adeiladu Cosy Corner a bod hyn i gynnwys y gwaith a’r gwasanaethau ychwanegol gan y contractwr a oedd wedi bod yn angenrheidiol, ac yn parhau i fod yn angenrheidiol, ers y caffaeliad cychwynnol i werth ariannol sydd dim mwy na £265,790 a chynyddu gwerth y contract i werth o £2,804,394 yn unol â rheolau 3.3.6 o Reolau Gweithdrefn Contract y Cyngor.

Dogfennau ategol: