Agenda item

Cartref dros dro i’r rhai sy’n ddigartref

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i atal Rheolau Gweithdrefn Contractau (CPRs) y Cyngor er mwyn sicrhau llety dros dro ar gyfer achosion o ddigartrefedd er mwyn cwrdd â dyletswydd tai statudol y Cyngor.

 

Darparodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid wybodaeth gefndirol ar y mater gan gynnwys gwybodaeth am fis Hydref 2022 a ddaeth a chategori newydd o anghenion i’w blaenoriaethu i rym. O dan y categori hwn, byddai person digartref yn cael llety dros dro. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am lety dros dro. Ym mis Mawrth 2020 roedd 83 o aelwydydd mewn llety dros dro, ond erbyn canol Chwefror 2023 roedd y niferoedd hynny wedi cynyddu i 253 o aelwydydd. Er mwyn bodloni'r gofyniad cynyddol hwn, roedd y Cyngor yn defnyddio ystod o wahanol leoliadau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y darparwyr yn tueddu i fod yn fusnesau bach neu'n endidau unigol, a oedd wedi arwain at greu sefyllfa lle roedd cynhaliaeth hirdymor y gwasanaeth hwn yn eithaf heriol. Er mwyn galluogi'r trefniadau presennol i barhau, cynigiwyd cytundeb lefel gwasanaeth pellach am 12 mis gyda darparwyr oedd yn cynnig llety ar hyn o bryd. Byddai Strategaeth Digartrefedd newydd, Prosbectws Tai a Chynllun Trosiannol Ailgartrefu Cyflym yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn fuan, a fyddai'n amlinellu cynigion i leihau lefel y llety dros dro a ddefnyddir ac yn edrych i ehangu ar y llety presennol a'r prosiectau cymorth cysylltiedig â thai a hefyd i weithio. gyda landlordiaid preifat i ddarparu llety ychwanegol lle bo’n bosibl, a hefyd i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a’r trydydd sector eraill i sicrhau bod cymorth cysylltiedig â thai ar gyfer aelwydydd yn cael ei gynnal a’i ehangu pan fo anghenion yn nodi bwlch yn y ddarpariaeth.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cenedlaethau’r Dyfodol eu bod wedi trafod yr argyfwng tai yn helaeth a’i bod yn mynd yn fwy anodd dod o hyd i lety ac fe wnaeth gydnabod nad oedd y systemau sydd ar waith yn bodloni ei ddisgwyliadau ond eu bod o ganlyniad i amgylchiadau anodd iawn. Roedd yr adroddiad hwn yn blastr dros dro yn unig. Fodd bynnag, roedden nhw’n chwilio am ateb mwy hirdymor gan gynnwys fframwaith caffael i weithio'n fwy effeithiol gyda pherchnogion tai haf ac Airbnb’s. Diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith caled a sicrhaodd y Cabinet eu bod yn chwilio am atebion tymor hir a gwahanol ffyrdd o liniaru'r argyfwng hwn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn fwy tawel ei meddwl ar ôl gwrando ar yr Aelod Cabinet. Roedd ganddi bryderon ynghylch gwerth cymdeithasol y gwariant yn enwedig mewn perthynas â landlordiaid preifat. Roedd yn rhaid iddyn nhw fonitro RSLs yn glos gan eu bod yno i gyflawni’r gwaith. Gofynnodd am sicrwydd ynghylch yr her sydd ar gael mewn perthynas â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Atebodd y Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid eu bod yn gweithio'n agos gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a landlordiaid preifat ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a bod yr angen wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y 3 blynedd diwethaf.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd mai’r cyd-destun oedd popeth a'u bod i gyd yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru ond nad oedden nhw’n gallu creu llety ychwanegol dros nos. Roedd hi’n sobri rhywun i weld cymaint o bobl mewn llety dros dro. Diolchodd i'r tîm am eu hymrwymiad i sicrhau llety i bobl heb unman arall i fynd.

 

PENDERFYNWYD:         Cabinet:

 

  • Atal y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contractau'r Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i dendro am gontract a'i ddirprwyo i'r Rheolwr Gr?p - Tai i ymrwymo i Gytundebau Lefel Gwasanaeth gyda darparwyr llety am gyfnod o 'hyd at' 12 mis, er mwyn parhau i ddarparu llety dros dro ychwanegol, yn ôl yr angen i gyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

• Dirprwyo awdurdod i'r Rheolwr Gr?p - Tai i gymeradwyo telerau terfynol y Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar ran y Cyngor ac i drefnu gweithrediad y cytundebau ar ran y Cyngor.`

Dogfennau ategol: