Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad, a’i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2023 2024.
Dywedodd fod y Datganiad Polisi Tâl yn darparu fframwaith i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg ac yn wrthrychol heb wahaniaethu a'i fod yn cydnabod pwysigrwydd cael polisi ysgrifenedig eglur ar gyflog gweithwyr.
Aeth ymlaen i gadarnhau bod gan y Cyngor ofyniad statudol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i baratoi Datganiad Polisi Tâl yn flynyddol. Roedd y datganiad cyntaf mewn grym yn 2012, ac maent wedi’u cynhyrchu’n flynyddol ers y flwyddyn honno. Datblygir y datganiad yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ychwanegodd y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol.
Roedd y ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar dryloywder cyflog i Brif Swyddogion a sut mae eu cyflog yn cymharu â gweithwyr ar gyflogau is yn y Cyngor. Fodd bynnag, er budd tryloywder ac atebolrwydd roedd Datganiad Polisi Tâl y Cyngor yn cwmpasu pob gr?p o weithwyr, ac eithrio athrawon (gan fod eu tâl yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru ac felly nid yw o dan reolaeth yr awdurdod lleol).
Roedd y Datganiad Polisi Tâl hefyd yn eithrio Aelodau'r Cyngor, gan nad ydynt yn weithwyr cyflogedig a'u bod yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth ar wahân drwy Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y gofynnir i’r Aelodau nodi paragraffau 4.5 i 4.7 o’r adroddiad, a oedd yn crynhoi’r newidiadau sydd wedi’u hadlewyrchu yn natganiad eleni, gan gynnwys fel a ganlyn:
Roedd y Datganiad Polisi Tâl ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad, a oedd yn nodi’r holl drefniadau tâl gan gynnwys yr holl raddfeydd cyflog, polisïau cysylltiedig a’r cytundeb Statws Sengl ar y cyd, yn ogystal ag atodiadau dilynol i’r cytundebau cyfunol.
Gofynnodd Aelod a oedd Polisi arall o fewn y Cyngor ar fudd-daliadau yn ychwanegol at y rhai a gynhwyswyd yn yr adroddiad, er enghraifft, lwfansau ceir.
Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fuddion car ar gael i unrhyw un o Swyddogion y Cyngor, o ganlyniad i Gytundeb Cyfunol a wnaed yn 2013 pan roddodd yr Awdurdod Statws Sengl ar waith.
Cyfeiriodd Aelod at dudalen 51 o'r adroddiad a pharagraff 7.5.1 a thaliadau cysylltiedig â chyflogau perfformiad. Nododd nad oedd y Cyngor yn gweithredu tâl ar sail perfformiad ar unrhyw lefel staffio. Fodd bynnag, roedd nifer o brosesau rheoli ar waith i fonitro, gwerthuso a rheoli perfformiad. Gofynnodd a allai'r Swyddog ymhelaethu ar y rhain a'u heffeithiolrwydd.
Dywedodd y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod nifer o brosesau ar waith i reoli lefelau perfformiad staff a gynhaliwyd ar lefel cyflogai/rheolwr. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau fel 1 : 1, cyfarfodydd tîm a gwerthusiadau staff, lle'r oedd amcanion wedi'u gosod allan ar gyfer staff ac yn cael eu rheoli trwy drefniadau gwasanaeth.
Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Cyngor i’w fynychu gan y Rheolwr Gr?p – Adnoddau Dynol a Datblygiad Sefydliadol, talodd yr Arweinydd a’r Maer ynghyd ag Aelodau eraill, deyrnged i’w gyrfa weithgar, oherwydd ei hymddeoliad o CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd y mis hwn.
Ategwyd hyn gan bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, a dymunodd y gorau iddi yn ei hymddeoliad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl2023/2024 ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Dogfennau ategol: