Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 - Cais i Amrywio Trwydded Safle o dan Adran 34

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch cais a gafwyd gan Axa Trading Limited i amrywio'r drwydded mangre sydd mewn grym yn Domino's, Uned 1, Safle Somerfield, Heol Tremaen, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1TZ. 

Dywedodd fod gan y safle drwydded mangre; BCBCLP565 sy’n awdurdodi’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol yn ystod yr oriau a nodir:

 

-           Darparu Lluniaeth Gyda'r Hwyr

             Dydd Llun i Ddydd Sul: 23:00 o'r gloch tan 03:00 o'r gloch

Roedd copi o'r drwydded mangre bresennol ynghlwm yn Atodiad A yr adroddiad.

Cadarnhaodd y Swyddog Polisi Trwyddedu fod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn cais i amrywio'r drwydded mangre. Roedd y cais wedi'i atodi yn Atodiad B yr adroddiad.

Roedd paragraff 4:2 yr adroddiad yn cynnwys manylion yr amrywiad i'r cais, fel y'i cyflwynwyd gan yr ymgeisydd.

Eglurodd nad oedd yr ymgeisydd yn manylu ar unrhyw fesurau ychwanegol i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu a'i fod yn nodi yn y cais “mae’r fangre hon eisoes wedi'i thrwyddedu, a chanddi gyfres gadarn o amodau a fydd yn parhau i fod yn weithredol ar y drwydded mangre wedi i'r amodau gael eu haddasu."

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn un sylw gan breswylydd lleol yn ystod y cyfnod ymgynghori. Ceir copi o'r sylw yn Atodiad C yr adroddiad.

Gan fod sylw sy'n berthnasol i'r amrywiad wedi dod i law, roedd yn rhaid i'r Is-bwyllgor ddod i benderfyniad ynghylch y cais yn unol â Deddf Trwyddedu 2003.

Yn olaf, gofynnodd y Swyddog Polisi Trwyddedu i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod nodi bod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law gan yr ymgeisydd ar ôl i'r rhaglen a'r papurau atodol gael eu dosbarthu, a bod yr wybodaeth honno wedi cael ei hanfon at bob parti drwy e-bost.

Rhoddodd cynrychiolydd yr ymgeisydd wedyn grynodeb o'r cais yn unol â manylion yr adroddiad, ac ar ôl hynny gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau, a atebwyd ganddo.

Ymneilltuodd yr aelodau wedyn i ystyried y cais ymhellach, ac ar ôl hynny daeth yr Is-bwyllgor i

 

BENDERFYNIAD: Bod yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried cais Axa Trading Limited i amrywio trwydded mangre ar gyfer Domino's yn uned 1 Safle Somerfield, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1TZ.

Roedd y cais yn gofyn am y canlynol:

Disgrifiad o natur yr amrywiad (fel y nodwyd gan yr ymgeisydd):

“Addasu amod 1, fel a ganlyn, o dan Atodiad 2, Atal Niwsans Cyhoeddus:

           Dim ond tan 01:00 o'r gloch, o ddydd Llun i ddydd Sul, y bydd y gwasanaeth cownter ar agor i'r cyhoedd. Wedi hynny, ni chaniateir mynediad i'r cyhoedd at Luniaeth Hwyr y Nos drwy'r gwasanaeth danfon.

I'r canlynol:

          Bydd yr eiddo'n parhau i fod ar gau i'r cyhoedd rhwng 01:00 a 03:00 o'r gloch ac eithrio er mwyn caniatáu gwasanaeth danfon a mynediad i unigolion awdurdodedig.

Dileu’r amodau canlynol o dan Atodiad 3:

           Ni fydd mopedau yn cael eu defnyddio fel cerbydau danfon

           Bydd gan bob gyrrwr label yn ei gar yn datgan "peidiwch â chau drysau'r car yn glep, refio'r injan na chwarae cerddoriaeth uchel".

           Ni cheir defnyddio mwy na 2 gerbyd danfon ar ôl 23:00.

Byddai holl delerau ac amodau eraill y drwydded mangre yn aros yr un peth; dim newid arall."

Mae'r fangre yn elwa ar drwydded mangre BCBCLP565 sy’n awdurdodi’r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol yn ystod yr oriau a nodir:

 

Darparu Lluniaeth Hwyr y Nos

Dydd Llun i Ddydd Sul: 23:00 o'r gloch tan 03:00 o'r gloch

Rhoddwyd y drwydded yn 2011

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Trwyddedu.  Drwy ei gynrychiolaeth gyfreithiol, cyflwynodd yr Apelydd sylwadau i’r Pwyllgor, gan gynnwys y canlynol:-

1.         Mae'r gwrthwynebydd yn y mater hwn wedi gwneud cwynion parhaus am yr ymgeiswyr ers sawl blwyddyn, bob amser i'r Cyngor a byth i'r ymgeisydd. Roedd hyn yn gyfystyr ag aflonyddu.   Mae’r Ymgeisydd yn ymchwilio i bob cwyn a wneir yn erbyn ei fusnesau. Mae'n gwmni mawr o fusnesau, a phe bai'r cwynion yn cael eu gwneud yn uniongyrchol iddo, byddai wedi ymchwilio iddynt heb i'r Cyngor orfod ymwneud â'r mater.  

2.         Nid yw Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor, sef yr Awdurdod cyfrifol sy'n ymdrin â niwsans s?n, wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i'r cais hwn, felly nid oes ganddi bryderon am hynny.

3.         Nid yw'r Heddlu wedi gwneud unrhyw sylwadau am y cais, gan ddangos unwaith eto nad oes ganddynt hwythau unrhyw bryderon.

Yn ôl pwysau tebygolrwydd, canfu'r Is-bwyllgor nad oedd hi'n ymddangos bod problem niwsans s?n yn yr eiddo, gan nad yw'r Heddlu nac Iechyd yr Amgylchedd wedi gwneud unrhyw sylwadau ynghylch y mater. Yn ogystal â hynny, canfu'r Is-bwyllgor fod amgylchiadau'r diwydiant bwyd cyflym wedi newid ers pan roddwyd y drwydded wreiddiol, ac nad dros y ffôn yn unig y bydd bwyd yn cael ei archebu bellach.  Cwblheir archebion drwy apiau gyda llawer o wahanol gwmnïau.  Canfu’r Is-bwyllgor nad oedd hi mwyach yn briodol nac yn ymarferol mynnu bod gan bob gyrrwr label ar ei gerbyd yn datgan "peidiwch â chau drysau'r car yn glep, refio'r injan na chwarae cerddoriaeth uchel".  Nid oes gan yr Ymgeisydd unrhyw reolaeth dros gerbydau danfon cwmnïau eraill, felly nid yw'r amod yn ymarferol bellach.   Nid yw'r amod sy'n cyfyngu ar nifer y cerbydau i ddau ar ôl 23:00, na'r amod yn gysylltiedig â mopedau, ychwaith yn ymarferol ym marn yr Is-bwyllgor, a hynny am yr un rhesymau.

Ar sail yr wybodaeth uchod, caniataodd yr Is-bwyllgor y cais.

 

 

Dogfennau ategol: