Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu'r sawl sy'n llywyddu)

(ii) Aelodau'r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Gobeithio i chi i gyd fwynhau gwyliau’r Pasg gyda theulu a ffrindiau.

 

Mae’n adeg arbennig o braf o’r flwyddyn i mi fy hun lle rydw i’n hoffi gweld golau’r haul a chennin Pedr yn ffynnu ar draws ein holl gymunedau. Nodyn amserol i'n hatgoffa y bydd yr haf gyda ni cyn bo hir.

 

Ers ein cyfarfod llawn diwethaf o’r Cyngor, cefais y pleser unwaith eto o gwrdd â rhai pobl anhygoel a nodedig yn ein Bwrdeistref Sirol.

 

Roedd rhai enghreifftiau yn cynnwys, dathliadau pen-blwydd Mrs Helena Charles BEM, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 105 yn ei chymuned enedigol ym Mlaengarw. Gwraig wirioneddol ryfeddol a rannodd atgofion am oes yng Nghwm Garw. Mae’n debyg mai Mrs Charles yw’r person hynaf yn ein Bwrdeistref Sirol, ond rydw i’n si?r y caf fy nghywiro os nad ydy hyn yn iawn.

 

Cyfarfûm â Gr?p Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad Cwm Ogwr a chefais y pleser o ddyfarnu Tystysgrif y Maer i’w aelodau am eu gwasanaeth i’r gymuned. Enwebwyd y gr?p ar gyfer gwobr o’r fath gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr.

 

Roedd yn brofiad gostyngol cwrdd ag aelodau'r gr?p, rhai ohonynt hwy eu hunain wedi profi trawma o ganlyniad i hunanladdiad. Roedd gwrando ar eu profiadau a gweld â’m llygaid fy hun eu ffocws anhygoel a’u hagwedd gadarnhaol tuag at helpu eraill sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn anhygoel.

 

Roedd hi hefyd yn foment arbennig o falchder i fynychu Seremoni Cyhoeddi ein Huchel Siryf newydd ar gyfer Morgannwg Ganol, yr Athro Jean White.

 

Roedd hwn yn achlysur braf iawn i fod yn dyst i'r Cyhoeddiad. Rydw i’n si?r y bydd y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau i’r Athro White yn ei thymor o ddeuddeng mis yn y swydd.

 

Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Uchel Siryf Maria Thomas, sydd wedi dod i ddiwedd ei thymor, am ei chefnogaeth i'r Fwrdeistref Sirol yn ystod ei thymor yn y swydd. Roedd yn bleser cael mynd gyda Maria a gweithio gyda hi mewn llawer o ddigwyddiadau dinesig yn y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt.

 

Cefais y fraint hefyd o groesawu’r Dywysoges Anne, Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, i gyfleuster Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn Stryd y Parc Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd y digwyddiad, dan arweiniad Helen Pitt, rheolwr Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, yn dangos pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth mae Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ei roi i ofalwyr di-dâl. Roedd yn amlwg bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n cymunedau, yn aml mewn sefyllfaoedd anodd iawn. Roedd yr egni a'r balchder yn y ganolfan i’w deimlo.

 

Diolch yn fawr iawn i holl dîm Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Rydw i’n si?r y bydd y siambr gyfan yn parhau i gefnogi eich ymgysylltiad a’ch gwasanaeth hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed.

 

Profiad eithaf unigryw a’r tro cyntaf i mi, oedd bod yn westai anrhydeddus ar ymweliad â Mosg Dar-Ui-Isra yn Heol Wyeverne yng Nghaerdydd i rannu Pryd o Fwyd Ramadan.

 

Roedd hwn yn brofiad anhygoel, yn enwedig pan ofynnwyd i mi annerch y gynulleidfa.

 

Cyfarfûm â chymaint o bobl hyfryd a mwynhau’r cyflwyniadau amrywiol ar ystyr Ramadan sy’n amser cysegredig ac yn ddathliad allweddol yn y calendr Islamaidd.

 

Hoffwn ddiolch yn bersonol i Dr Yasim Khan am ei chroeso a’i chwmni yn ystod ein pryd gyda’r nos.

 

Yn olaf, mae rhai enwau yn dal ar goll o Restr y Dreigiau. Mae’n £1 i enwebu enw ar gyfer y Ddraig, a bydd yr holl elw a dderbynnir yn mynd tuag at Elusen y Maer.

 

Fel eich Maer a Chadeirydd y Cyngor llawn, gofynnaf ichi gyfrannu os gallwch.

 

 

Y Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r – Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Bydd yr Aelodau’n gwybod bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hanes cryf o hybu pwysigrwydd gofal maeth, ac am ein hymdrechion ers amser maith, ac sy’n parhau, i recriwtio gofalwyr maeth newydd.

 

Rydym ar fin mynd â hyn i'r lefel nesaf drwy geisio cael yr achrediad o fod yn Gyflogwr Cyfeillgar i Faethu.

 

Wedi’i chreu gan brif elusen faethu’r DU, Rhwydwaith Maethu, mae hon yn safon sy’n cael ei chyflwyno i sefydliadau sy’n gallu dangos eu cefnogaeth i faethu a phobl sy’n gweithredu fel gofalwyr maeth.

 

I gefnogi hyn, maent wedi datblygu rhaglen fydd, ar ôl ei chwblhau, yn gweld sefydliad oedd yn cymryd rhan yn mabwysiadu polisi Cyfeillgar i Faethu.

 

Mae hyn yn sicrhau bod staff, sydd hefyd yn gweithredu fel gofalwyr maeth, yn gallu gweithio’n hyblyg lle bo’n bosibl ac yn gallu cael hyd at bum niwrnod o absenoldeb ar gyfer materion gofal maeth, megis cynorthwyo plentyn i setlo yn ei gartref newydd, neu fynychu hyfforddiant perthnasol sy’n eu cefnogi yn eu rôl o faethu.

 

Mae hwn yn gam pwysig i'r Cyngor ei gymryd gan fod angen inni arwain drwy esiampl a dangos i gyflogwyr a sefydliadau eraill ei bod yn bosibl bod yn weithiwr effeithiol ac yn ofalwr maeth effeithiol yr un pryd. Mae arnom hefyd eisiau helpu i dorri’r myth na chaniateir i unigolion weithio os ydynt yn dod yn ofalwyr maeth.

 

Bydd y symudiad hwn yn cefnogi ein hymdrechion ni ein hunain i recriwtio gofalwyr maeth newydd a all gynnig cefnogaeth hanfodol o ddydd i ddydd, cariad a sefydlogrwydd i blant, a gweithredu fel model rôl cadarnhaol.

 

Os oes ar aelodau eisiau gwybod mwy, mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Hoffwn hefyd ailadrodd y cynnig i’r Aelodau a fynychodd yr hyfforddiant mewn perthynas â Gofal Maeth, y cewch chi i gyd grys-T i’w wisgo i’r gampfa ac ati, gan y bydd hyn yn hyrwyddo ac yn hysbysebu Gofal Maeth Cymru. Mae rhoi Gofal Maeth yn brofiad gwerth chweil a byddwn hefyd yn annog unrhyw aelod o'r cyhoedd i edrych i mewn i gyfle o'r fath. Rwyf yn ei gael yn brofiad hynod o braf 35 mlynedd yn ddiweddarach ers ymgymryd â rôl o'r fath.

 

 

Aelod o’r Cabinet - Adfywio

 

Bydd yr Aelodau wedi sylwi ar y newyddion diweddar am Lywodraeth Cymru yn prynu darnau allweddol o dir ym Mhorthcawl sy’n hanfodol i’r Cyngor i adfywio ardal y glannau.

 

Mae’r gwerthiant wedi cynnwys buddiant rhydd-ddaliadol yn safle Parc Adloniant Traeth Coney a’r buddiant llesddaliadol mewn darn o dir cyfagos a adwaenir yn lleol fel ‘parc yr anghenfilod’ gan iddo gael ei ddefnyddio gynt  i arddangos cerfluniau o ddinosoriaid.

 

Arwyddocâd hyn, wrth gwrs, yw ei fod wedi rhyddhau amser ac adnoddau'r Cyngor ac wedi ein galluogi i ganolbwyntio mwy o'n hadnoddau ar wneud y gorau o fanteision yr adfywiad.

 

O ganlyniad, rydym yn ceisio cynyddu nifer y tai fforddiadwy a fydd ar gael fel rhan o'r prosiect hwn.

 

Mae caffael y ddau safle yn golygu bod y parth 20 hectar cyfan sydd ei angen ar gyfer y cam hwn o'r adfywiad bellach wedi cael ei ddatgloi.

 

Mae hwn yn arwydd mawr o hyder gan Lywodraeth Cymru, ym Mhorthcawl fel lleoliad a chymuned, ac yng nghynlluniau adfywio’r Cyngor.

 

Byddwn yn awr yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i adfywio’r ardal yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a hefyd y Strategaeth Creu Lleoedd ar gyfer Porthcawl.

 

Byddaf yn dod â mwy o newyddion ichi wrth i hyn ddatblygu ymhellach.

 

 

Aelod o’r Cabinet – Addysg

 

Efallai y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gwybod bod nifer o ysgolion lleol wedi cael eu hasesu’n ddiweddar gan arolygwyr Estyn ac wedi cael eu canmol am gefnogi dysgwyr lleol.

 

Mae ysgolion cynradd Afon y Felin, Brynmenyn a Chorneli wedi cael eu harolygu, a barnwyd bod pob un ohonynt yn llwyddiannus am ddangos cynnydd digonol ac nad oes angen unrhyw gamau dilynol.

 

Yn ystod pandemig Covid-19, cafodd pob ysgol ei heithrio o arolygiadau Estyn am gyfnod o ddwy flynedd, oedd yn ymestyn o fis Mawrth 2020 hyd fis Chwefror 2022.

 

Tra roedd hynny mewn grym, datblygodd Estyn weithdrefnau arolygu newydd sy’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae darparwyr yn cynorthwyo plentyn i ddysgu, yn hytrach na defnyddio graddau crynodol fel a ddefnyddid gynt.

 

Mae'r fformat adrodd presennol bellach yn defnyddio un o bedwar categori wrth arolygu ysgol, sef dim dilyniant, adolygiad Estyn, angen gwelliant sylweddol, ac angen mesurau arbennig.

 

Rwyf yn si?r y bydd ar yr aelodau eisiau ymuno â mi i longyfarch y tair ysgol ar eu llwyddiant yn yr arolygu.

 

Mae arnaf hefyd eisiau llongyfarch Harri Evans, naw oed, o Ysgol Gynradd Plasnewydd, ar ei ddyluniad poster llwyddiannus sy’n cael ei ddefnyddio fel canolbwynt yr ymgyrch Caru a’i Chadw’n lân ym Maesteg.

 

Mae dyluniad Harri yn cael ei ddangos ar bosteri, arwyddion bin a physt lampau ledled Cwm Llynfi i gefnogi’r ymgyrch gwrth-sbwriel. Mae ei boster yn dangos Neuadd y Dref rhestredig Gradd II Maesteg, ac Afon Llynfi, gyda neges glir i beidio â thaflu sbwriel yn anghyfrifol, ond ei roi yn un o finiau’r dref.

 

Fel rhan o’r ymgyrch, mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol a gyflwynwyd gan Ailgylchu ADA yn ogystal â sesiynau codi sbwriel a gweithdai seiliedig ar wyddoniaeth a hwyluswyd gan NatureQuest.

 

Mae’r ymgyrch ‘Caru a’i Chadw’n lân!’ eisoes wedi bod yn llwyddiant mawr mewn ardaloedd fel Porthcawl, Bracla, Cwm Ogwr, Cwm Garw a’r Pîl, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr.

 

Rwy’n si?r y bydd hyn yr un mor llwyddiannus yn ardal Maesteg, yn enwedig gyda phoster Harri i’w chynrychioli.

 

 

Aelod o’r Cabinet – Cymunedau

 

Yn ddiweddar, cwblhawyd gwaith glanhau gennym ar ran 10 milltir o’r A48 i gael gwared ar sbwriel oedd wedi cael ei daflu o geir wrth fynd heibio, ac oedd wedi cronni ar hyd ymyl y ffordd, mewn coed a llwyni ar ochr y ffordd.

 

Casglodd ein staff fwy na 550 o fagiau yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf o gasglu yn unig.

 

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd cyfanswm o 1,200 o fagiau wedi cael eu llenwi â sbwriel oedd wedi'i daflu, sy'n cyfateb i 120 o fagiau am bob milltir o'r ffordd a lanhawyd.

 

Fe wnaeth ein staff hefyd dynnu bron i dair tunnell a hanner oddi ar y llwybr o bethau oedd wedi eu tipio’n anghyfreithlon. Roedd hyn yn cynnwys soffas, cadeiriau ac eitemau eraill, o ddodrefn i deiars treuliedig, paledi pren a gwastraff adeiladwyr.

 

Oherwydd yr angen i greu amgylchedd gwaith diogel, bu'n rhaid defnyddio cerbydau oedd yn symud yn araf i amddiffyn rhag ardrawiad a bu'n rhaid cau rhannau o'r llwybr ar dreigl yn lôn sengl, oedd yn golygu bod cost y glanhau yn fwy na £6,000 o bunnoedd.

 

Gallai’r arian hwn fod wedi cael ei wario’n well ar ddarparu gwasanaethau eraill pe bai pobl wedi dewis mynd â’u sbwriel adref a chael gwared arno mewn ffordd gyfrifol.

 

O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi defnyddio'r ymarferiad fel cyfle i roi cyhoeddusrwydd i oferedd gollwng sbwriel, gan fod y bobl sy'n gwneud hyn, yn y pen draw, yn eu taro hwy eu hunain a threthdalwyr eraill yn eu pocedi.

 

Ar adeg pan mae cyllidebau’n cael eu gwasgu a’r argyfwng costau byw yn pwyso’n galed, ein neges yw i bobl gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain a’i ailgylchu a pheidio â gadael i drethdalwyr godi’r bil am ddelio â’u llanast.

 

Mae hwn yn fater y byddwn yn ceisio rhoi mwy o gyhoeddusrwydd iddo yn y dyfodol, a byddaf yn dod â mwy o fanylion ichi yn fuan.

 

 

Aelod o’r Cabinet – Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Mae sylw diweddar yn y cyfryngau wedi rhoi amlygrwydd i waith sy'n cael ei wneud i wella cymunedau lleol drwy wneud mannau problemus ar gyfer fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwy deniadol.

 

Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy gomisiynu artistiaid graffiti proffesiynol i beintio golygfeydd a delweddau dyrchafol ym mhob lleoliad, i gyd wedi eu bwriadu i godi ysbryd ac annog mwy o ymdeimlad o falchder cymunedol.

 

Hyd yn hyn mae wedi gwella ymddangosiad isffyrdd sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd fel Merthyr Mawr, Bracla a Broadlands, ac er bod y sylw yn y cyfryngau hyd yma wedi canolbwyntio’n bennaf ar yr agwedd hon, rwy’n credu bod gan yr Aelodau efallai ddiddordeb mewn gwybod bod rheswm pwysicach y tu ôl i'r gwaith.

 

Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch Negeseuon Cadarnhaol, prosiect sy’n ceisio mynd i’r afael â fandaliaeth atgas a sloganeiddio sy’n creu rhwygiadau drwy ei droi’n gelf syfrdanol y gall y gymuned gyfan ei mwynhau.

 

Wedi cael ei drefnu gan ein Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ein hunain a thîm Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin, mae'r prosiect wedi cynnwys gweithio gyda staff y Cyngor i nodi mannau problemus.

 

Mae gwrth-hanesion addas wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â grwpiau lleol fel Cylch Awduron Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae gwaith celf newydd wedi cael ei ddylunio gan artistiaid graffiti fel Another Day, Another Spray a THEW Creative.

 

Er enghraifft, dewiswyd neges ganolog ‘Gobaith’ ar gyfer isffordd Merthyr Mawr, a dewiswyd ‘natur’ ar gyfer isffordd ym Mracla.

 

Mae’r ddau wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned leol ac wedi tynnu llawer iawn o ganmoliaeth a sylw am yr effaith gadarnhaol, drawsnewidiol y maent yn ei chael.

 

Nid oes lle i gasineb ac ymrannu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, nac yn unman arall.

 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i wneud y prosiect ysbrydoledig hwn yn llwyddiant ac anogaf unrhyw Aelod nad yw eisoes wedi gwneud hynny i edrych yn fanylach.

 

 

Aelod o’r Cabinet – Adnoddau

 

Hoffwn ofyn unwaith eto i’r Aelodau annog eu hetholwyr i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag y sgamiau diweddaraf sy’n ceisio darbwyllo deiliaid tai i roi arian neu drosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol.

 

Gwelodd cyfnod clo’r pandemig y troseddwyr sydd y tu ôl i’r sgamiau hyn yn dod yn fwyfwy creadigol ac mae’n ddrwg gennyf adrodd ein bod yn parhau i dderbyn cwynion ac adroddiadau gan breswylwyr pryderus.

 

Mae'r sgam mwyaf cyffredin yn parhau i gynnwys galwad ffôn ffug yn hysbysu deiliaid tai bod ad-daliad yn ddyledus iddynt ar eu taliadau treth gyngor.

 

Mae'r sgamwyr yn gofyn am fanylion cyfrif banc cyfrinachol er mwyn trefnu i ad-daliad gael ei dalu, ond mae dioddefwyr y sgam hwn yn canfod yn ddiweddarach bod eu cyfrifon banc wedi cael eu hysbeilio.

 

Rydym hefyd yn derbyn cwynion gan bobl sydd wedi cael cynnig ad-daliad ffug ar eu biliau d?r, trydan neu nwy.

 

Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr byth yn ffonio deiliad t? i ofyn iddo ddarparu manylion cyfrif banc dros y ffôn.

 

Dylai unrhyw un sy’n teimlo eu bod wedi dioddef sgam o’r fath gysylltu â’i fanc ar unwaith a rhoi gwybod i’r Heddlu drwy ffonio 101.

 

Fel bob amser, mae mwy o gyngor ar sut y gall pobl amddiffyn eu hunain rhag sgamiau ar gael ar wefan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

 

Y Prif Weithredwr

 

Bydd yr Aelodau’n cofio ichi gymeradwyo’r Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer y cyfnod 2023 i 2028 yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor llawn.

 

Yn dilyn hynny, aethpwyd â’r cynllun i ffwrdd ar gyfer gwaith dylunio a chyfieithu pellach, a'i baratoi ar gyfer lansiad cyhoeddus.

 

Mae’n bleser gennyf eich hysbysu bod hyn bellach wedi’i gwblhau, a’n bod yn paratoi i lansio’r cynllun corfforaethol newydd yn gyhoeddus yr wythnos nesaf.

 

Gan ddwyn yr enw ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’, mae’r cynllun yn arddangos dull newydd ffres o amlinellu sut rydym yn bwriadu darparu gwasanaethau hanfodol, gweithio ochr yn ochr â phobl leol a phartneriaid, a chynnal busnes dros y bum mlynedd nesaf.

 

Wedi ei gynllunio'n benodol i fod yn fwy hygyrch ac yn haws i bobl ymgysylltu ag ef, cafodd ei gynhyrchu gan ddefnyddio adborth gan drigolion o bob oed a chefndir, defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau'r cyngor, aelodau etholedig, sefydliadau partner, awdurdodau lleol eraill a mwy.

 

Rhydd y Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2023-28 sail glir, wybodus a pherthnasol i ni ar gyfer sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol tra’n cwrdd â’r heriau niferus sydd o’n blaenau.

 

Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd pellach i dynnu sylw at wahanol agweddau o'r cynllun, gan gynnwys ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol, a bydd aelodau'n derbyn e-bost yn cynnwys mwy o wybodaeth a hyperddolen i'r cynllun ei hun.

 

Gobeithiaf y bydd yr aelodau’n cefnogi’r ymgyrch gyhoeddusrwydd hon, ac y byddwch yn annog eich etholwyr i gael mynediad at y cynllun a’i ddarllen, ac ystyried sut y gallant hwythau hefyd gynnig adborth a helpu i lunio’r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol.