Cwestiwn gan y Cyng Tim Wood i Aelod y Cabinet dros Adfywio
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn gyntaf yn cynnal ymgynghoriad ac yna'n llunio adroddiad ac wedyn cynnal proses ymchwilio i’r posibilrwydd o agor rhan fechan o Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i draffig unwaith eto.
Yr ymgynghoriad hwn, yn ôl yn 2016, ysgogodd yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf yn hanes y cyngor hwn ac roedd y cyhoedd yn frwd eu cefnogaeth i ail-agor canol y dref yn rhannol.
Fel y cyfryw, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio gytuno ein bod ni fel cyngor yma i wasanaethu’r cyhoedd, i fod yn stiwardiaid da o’r pwrs cyhoeddus a’n bod yma i galonogi a chynnal canol ein trefi, nid eu rhwystro?
Felly, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi manylion i mi am eu cynlluniau i wneud Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hygyrch i bawb?
Cwestiwn gan y Cyng Alex Williams i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau
A wnaiff Aelod y Cabinet dros y Cymunedau ddatganiad am y cymorthdaliadau y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu rhoi ar hyn o bryd i gefnogi'r llwybrau bysiau hynny a gafodd eu hystyried yn fasnachol anhyfyw; a wnaiff amlinellu pa ystyriaeth a roddwyd i leihau'r cymorthdaliadau hyn neu eu tynnu'n ôl yn llwyr; a pha ddadansoddiad gafodd ei wneud o’r hyn y byddai gostyngiad o'r fath, neu dynnu'r cymorthdaliadau yn ôl, yn ei olygu o bosibl i’r bobl yn y cymunedau oedd yn arfer derbyn llwybrau cymorthdaledig o’r blaen?
Cwestiwn gan y Cyng Tim Thomas i Aelod y Cabinet dros y Cymunedau
Beth mae Aelod y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod ffyrdd a phriffyrdd CBSP yn hygyrch i’r henoed a’r anabl?
Cwestiwn gan y Cyng Ian Williams i Aelod y Cabinet dros Adfywio
A wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ba fesurau sy’n cael eu cymryd i adfer yr adeiladau adfeiliedig niferus yng nghanol ein tref a beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith adfer hwn?
Cofnodion:
Y Cynghorydd Tim Wood i Aelod y Cabinet – Adfywio
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwario swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn gyntaf yn cynnal ymgynghoriad ac yna'n adrodd ac yn ymchwilio i ailagor rhan fechan o Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr i draffig.
Yr ymgynghoriad hwn yn ôl yn 2016 ddenodd yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf yn hanes y cyngor hwn ac roedd y cyhoedd yn frwd eu cefnogaeth i ailagor canol y dref yn y modd hwn.
O’r herwydd, a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio gytuno ein bod ni fel cyngor yma i wasanaethu’r cyhoedd, i fod yn stiwardiaid da ar y pwrs cyhoeddus ac yma i galonogi a chynnal canol ein trefi nid eu rhwystro.
Felly a wnaiff Aelod y Cabinet dros Adfywio roi gwybodaeth i mi am eu cynlluniau i wneud Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn hygyrch i bawb?
Ymateb
Yn dilyn ymlaen o Brif Gynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr 2021, mae ffocws parhaus ar gyflawni rôl Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan a chanolfan ar gyfer manwerthu, byw, cyflogaeth, addysg a threftadaeth. Er mwyn gwneud hyn yn bosibl, gofynnwyd i’r Cyngor, dros nifer o flynyddoedd, ystyried dad-bedestreiddio fel ateb posibl i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref, cefnogi’r economi leol a chreu canol tref mwy bywiog a chynhwysol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Rydym yn wir wedi cwblhau ymarferiadau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn gweld sut y gellid gwella mynediad ond, heb os nac oni bai, rydym wedi wynebu rhwystrau ar hyd y ffordd, nid lleiaf y newid ym mholisïau Llywodraeth Cymru ar Gynllunio a Theithio Llesol, ond hefyd moratoriwm Llywodraeth y DU ar Ddadbedestreiddio. a chynlluniau teithio llesol i ganiatáu adolygiad o bolisi cenedlaethol.
Mae’r Gwerthusiad o Ddewisiadau Hygyrchedd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar well mynediad i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cynnig tri dewis posibl i fynd i'r afael â'r mater, gan anelu at gydbwyso blaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd ar gyfer yr ystod amrywiol o randdeiliaid yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Er bod astudiaethau o’r blaen wedi awgrymu dewisiadau ar gyfer dadbedestreiddio, mae’r gwaith hwn yn ailedrych ar hygyrchedd canol y dref gan gynnwys adolygiad o bolisïau cynllunio cyfredol megis Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11, Chwefror 2021) a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd, ynghyd ag adolygiad o'r astudiaethau mynediad a gynhaliwyd o’r blaen.
Mae gwerthusiad wedi ei gynnal hefyd o’r gorchymyn rheoleiddio traffig presennol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r dull gweithredu sydd ei angen i wella mynediad i ganol y dref, gan gynnwys rheoli bolardiau electronig, darpariaeth parcio ac ymchwilio i ddewis clicio a chasglu a chlicio a danfon.
Rydym yn awr yn gweithio gydag arbenigwyr yn Atkins i brofi a chwestiynu hyfywedd y tri dewis yn drylwyr a phenderfynu ar y dewis gorau y gellir ei symud ymlaen i’r cam cyflawni, gan sicrhau bod prosiectau yn gyfreithiol ac yn dechnegol ymarferol, yn ogystal â bod modd eu cyfiawnhau yn economaidd a’u bod yn werth buddsoddiad pellach. Er mwyn penderfynu ar y dewis gorau, cynhelir ymgynghoriad helaeth pellach gydag adrannau perthnasol CBSP, cyrff statudol ac aelodau etholedig.
Caiff y dewisiadau hefyd eu gwerthuso gan ddefnyddio fframwaith asesu gyda meini prawf yn erbyn polisi a deddfwriaeth allweddol, fydd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
· Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
· Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
· Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021
· Cynllun Datblygu Lleol a Chynllun Trafnidiaeth Lleol CBSP
· Cynllun Lles Corfforaethol CBSP
· Cynllun Lles Bwrdd Iechyd y Cyhoedd
Fel rhan o'r cam hwn, caiff ystyriaethau dylunio cynhwysol eu nodi a’u gwerthuso, dylunio trefol a thir cyhoeddus, dadansoddiad o alw'r farchnad, cynllun priffyrdd gan gynnwys rhediadau traciau a gofynion gwelededd, ystyriaethau gweithredu, gofynion GRhT a chofrestr risg.
Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried cynllun y gall yr awdurdod ei gyflawni'n ariannol a chydnabod bod y tirwedd ariannu wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf ac, fel y mae gwaith blaenorol ar y prosiect hwn wedi nodi, y byddai angen cyllid grant allanol sylweddol ar gynllun cynhwysfawr i sicrhau y gellid ei gyflawni.
Rhagwelir y bydd yr adroddiad hwn wedi’i gwblhau erbyn Haf 2023, gan ganiatáu i’r Awdurdod symud ymlaen a chyflawni cynnig y cytunwyd arno, fydd yn bodloni anghenion a dyheadau defnyddwyr allweddol ac a fydd yn galluogi canol y dref i ffynnu a chyflawni ei botensial llawn.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Wood
Dywedwyd wrth fasnachwyr am y wybodaeth hon mewn cyfarfod Masnachwyr nifer o wythnosau yn ôl, ac eto dim ond yn awr y mae Aelodau etholedig sy'n ymwneud â'r maes hwn yn cael gwybod, ar ôl cwestiwn ysgrifenedig i'r Cyngor. Mae 7 mlynedd wedi mynd heibio ers yr ymgynghoriad, felly onid yw’n hen bryd yn awr gwneud yr hyn y mae trigolion ei eisiau a’r hyn y mae trefi eraill wedi’i wneud mewn mannau eraill yng Nghymru. Felly, pa sicrwydd roddwch chi i mi y bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, o ystyried faint o bobl sydd wedi gofyn am hyn ac a oes modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynghorwyr am ddigwyddiadau, wrth i faterion fynd rhagddynt.
Ymateb
Mae’r ymateb cynhwysfawr yn nodi’r sefyllfa bresennol, er y byddwn yn ailadrodd bod nifer o bethau wedi newid ers 2016, ac nid lleiaf Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi ei gwneud yn fwy anodd ond nid yn amhosibl gwneud yr hyn a arolygwyd yn wreiddiol. Mae'r ymrwymiad yn dal i fodoli i archwilio dewisiadau posibl, er bod hefyd yr un pryd faterion yn ymwneud â fforddiadwyedd. Felly, yn ddi-os, ar sail sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru, mae hi bellach yn llawer mwy anodd sicrhau cyllid allanol ar gyfer y math hwn o gynnig nag yr oedd 7 mlynedd yn ôl. Mae'r dewisiadau felly'n ymwneud â'r hyn y mae modd ei gyflawni a’r hyn sy’n fforddiadwy. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau wrth i faterion symud ymlaen mewn perthynas â'r tri phrif ddewis yn ogystal â cheisio sicrhau ein bod yn cynnal amgylchedd diogel hefyd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal.
Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Steven Bletsoe
Hoffwn ddweud wrth y Cabinet bod person oedrannus wedi mynd yn sâl y penwythnos hwn tra mewn bwyty yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Ffoniwyd am ambiwlans a chadarnhawyd y byddai hyn yn cymryd 8 awr i gyrraedd, felly awgrymwyd y dylai aelod o'r teulu neu ffrind fynd ag ef i'r ysbyty. Wedi hynny, methodd gweithredwyr y bolardiau â chaniatáu mynediad i'r cludiant i ganol y dref i nôl yr unigolyn, oedd yn amlwg yn rhoi iechyd y person mewn perygl difrifol. Gan mai dyma’r eildro i hyn ddigwydd yn y 3 mis diwethaf yng nghanol y dref, a gaf ymrwymiad gan arweinwyr gwleidyddol yr awdurdod yr ymdrinnir â’r mater hwn cyn i sefyllfa ddifrifol fel hon droi’n un drychinebus.
Ymateb (gan yr Arweinydd)
Ni chefais wybod am hyn, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn unol â hynny ac yna'n ei godi gyda'r adran berthnasol yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru, fel mater o ddiogelwch cymunedol.
Y Cynghorydd Alex Williams i Aelod y Cabinet - Cymunedau
A wnaiff Aelod y Cabinet - Cymunedau ddatganiad ynghylch y cymorthdaliadau y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn eu darparu ar hyn o bryd i gefnogi'r llwybrau bysiau hynny yr ystyriwyd eu bod yn fasnachol anhyfyw; amlinellu pa ystyriaeth a roddwyd i leihau'r cymorthdaliadau hyn neu eu tynnu'n ôl yn llwyr; a pha ddadansoddiad sydd wedi cael ei wneud o ganlyniadau posibl gostyngiad o'r fath neu dynnu cymorthdaliadau’n ôl i bobl o fewn y cymunedau oedd gynt yn derbyn llwybrau cymorthdaledig?
Ymateb
Mae’r cyllid presennol ar gyfer gwasanaethau bysiau y bernir nad ydynt yn fasnachol hyfyw yn dod drwy’r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau (BSSG), a ddyrennir ar gyfer gwasanaethau rhanbarthol a chludiant cymunedol gan Lywodraeth Cymru. Yn achos CBSP, y gwasanaethau bws a gefnogir ar hyn o bryd yw:
Gwasanaeth 65 – Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau drwy Heol y Cyw (dydd Llun – dydd Sadwrn)
Gwasanaeth 70 – Pen-y-bont ar Ogwr i’r Cymer drwy Faesteg (nos Lun – Nos Sadwrn)
Gwasanaeth X2 – Caerdydd i Borthcawl drwy Ben-y-bont ar Ogwr (nos Lun – nos Sadwrn)
Y dyraniad a ddarparwyd i CBS Pen-y-bont ar Ogwr gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 oedd £399,464, a dyfarnwyd £95,000 ohono i Gludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr gyda’r gweddill i’w wario ar rwydwaith bysiau strategol craidd y rhanbarth a gwasanaethau cysylltiedig gan gynnwys taliadau trawsffiniol i awdurdodau eraill.
Roedd dewis arall a nodwyd yn ymwneud â Chludiant Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â darpariaeth ‘Town Rider’ cofrestredig sy’n gweithredu drwy Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfan, sydd yn ei dro yn darparu gwasanaeth gwahanol i’r trigolion hynny nad oedd ganddynt fynediad at wasanaeth bws rheolaidd mwyach.
Er bod y cyllid BSSG a ddisgrifir uchod yn parhau yn ei le, mae cyllid y Cynllun Brys ar gyfer Sector y Bysiau (BES) hefyd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru fel cynllun cymorth ôl-bandemig ar gyfer y diwydiant. Cafwyd nifer o fersiynau o gyllid BES ac ni fwriedir iddo barhau am gyfnod diddiwedd. Mae swyddogion ac aelodau’n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Gweithredwyr Bysiau i ddeall y goblygiadau a’r ffordd bosibl ymlaen i’r holl wasanaethau (nid yn unig y rhai oedd yn derbyn cymhorthdal yn flaenorol) ar ôl y fformat presennol o gyllid BES.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Williams
Diolch i Aelod y Cabinet am ei ymateb pan soniodd am gefnogaeth i Lwybr 65, sy’n gweithredu o Ben-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau drwy Heol-y-Cyw, y Ward yr wyf i yn ei chynrychioli. Soniodd yr Arweinydd yn ei gyhoeddiadau am y Cynllun Brys ar gyfer Sector y Bysiau a bydd yr Aelodau’n gwybod bod Arweinwyr y Cyngor wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Lywodraeth Cymru yn nodi bod gwasanaethau bysiau lleol yn bwysig i bobl h?n ac iau, pobl ag anableddau, a rhai o aelwydydd incwm isel ac y byddai colli gwasanaethau bws yn effeithio ar les unigolion drwy gyfyngu ar fynediad at addysg, gwasanaethau economaidd, iechyd a hamdden, yn ogystal â chysylltiadau teuluol a chymdeithasol. Fodd bynnag, dechreuodd y weinyddiaeth bresennol y broses hon a elwir yn rhesymoli gwasanaethau bysiau drwy dynnu grwpiau â chymhorthdal yn ôl yn ystod eu tymor diwethaf yn y swydd, yn 2017 a 2019. Mae hyn wedi arwain at effaith araf, gyson o dynnu cymorthdaliadau yn ôl o gefnogi gwasanaethau bysiau craidd, sy’n cysylltu cymunedau ynysig. Yn ddiweddar buom yn trafod ein Strategaeth Net 2030 a chyfeiriwyd at system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol fel ffactor a fyddai â rôl hanfodol i’w chwarae. Yn ddiweddar, rhoddodd y Cabinet ganiatâd i Metrolink a therfynfa fysiau gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer Porthcawl ac yn awr maent mewn perygl o fod heb fysiau i fynd yno. Mewn cymunedau anghysbell fel Heol-y-Cyw a’n lleoliadau yn y cymoedd heb unrhyw lwybrau Teithio Llesol, mae pobl yn dibynnu ar wasanaethau bysiau i aros yn gysylltiedig â chymunedau eraill. At hynny, os ydym am annog pobl i ddod allan o’u ceir, mae angen inni gynnal gwasanaeth bysiau lleol rheolaidd a dibynadwy i gyfrannu at ein nod o ddod yn awdurdod lleol sero net. Felly a all Aelod y Cabinet ymrwymo heddiw i CBS Pen-y-bont ar Ogwr ddod o hyd i’r cyllid trosiannol er mwyn rhoi cymhorthdal i’r rhwydwaith bysiau craidd sy’n gwasanaethu ein trigolion mwyaf ynysig.
Ymateb
Roedd y toriadau y mae’r Cynghorydd yn cyfeirio atynt uchod yn ganlyniad i doriadau llymder y Llywodraeth Ganolog a osodwyd ar awdurdodau lleol megis CBSP, a barodd i’r Awdurdod orfod dod o hyd i £70 miliwn ar y cyd mewn toriadau cyllidebol yn y blynyddoedd diwethaf. Felly gorfodwyd toriadau i wasanaethau bysiau ar y Cyngor fel rhan o'r arbedion ehangach hyn. Bu'n rhaid gwneud y rhain flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys. Mae’n amhosibl felly gwneud ymrwymiad ariannol cywir i weithrediad gwasanaethau bysiau yn y dyfodol ar hyn o bryd, gan na wyddom y gost fydd yn ymwneud â llwybrau â chymhorthdal yn dilyn y cymorthdaliadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd.
Ni all pob gwasanaeth yn y Fwrdeistref Sirol weithredu'n fasnachol, felly ar y sail honno, mae angen cymhorthdal i ryw raddau ar bob gwasanaeth. Rydym yn trafod dewisiadau posibl yn y dyfodol o ran gwasanaethau bysiau gyda'r cwmnïau gweithredu amrywiol a Llywodraeth Cymru/Gweinidogion hefyd. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i gyflawni ymrwymiad o'r fath. Fodd bynnag, bydd hyn yn gofyn am gyllid parhaus gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a chyllid Llywodraeth Cymru, nad yw ar gael ar hyn o bryd ar ôl mis Gorffennaf eleni. Felly, ni allwn roi ymrwymiad ariannol tebyg i gais yr Aelod ar hyn o bryd, er y gallwn roi sicrwydd o ran parhad gwasanaethau bysiau o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Heidi Bennett
Ategaf rai o’r sylwadau a fynegwyd gan y siaradwr blaenorol. Mae fy Ward i ym Mhen-y-fai wedi bod heb wasanaeth bws ers mis Gorffennaf 2022 ac mae hynny wedi cael effaith negyddol ar les rhai preswylwyr, gan adael llawer yn teimlo’n unig ac yn methu â chael mynediad at wasanaethau allweddol, sy’n effeithio’n arbennig ar ein poblogaeth oedrannus. A all Aelod y Cabinet egluro beth yw ymateb yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â darparu trafnidiaeth gyhoeddus a beth sy’n cael ei wneud yn awr i geisio darparu ateb cynaliadwy.
Ymateb
Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn wasanaeth statudol y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdod lleol ei ddarparu. Yr hyn sydd gennym yw rhwydwaith o gwmnïau preifat sy’n gweithredu gwasanaethau bysiau. Er y gellid dadlau dros i CBS Pen-y-bont ar Ogwr ddarparu gwasanaethau o'r fath, nid oes ganddynt y grym i'w darparu. Fodd bynnag, gellid dadlau hefyd y dylai’r Cyngor gefnogi darparu’r gwasanaethau hyn am resymau moesol ac economaidd, er mwyn cefnogi cymunedau lleol a hybu busnes yn ein trefi. Gwaethygodd materion yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus lawer iawn o flynyddoedd yn ôl pan ddadreoleiddiwyd bysiau. Serch hynny, rydym yn parhau i wneud ein gorau i gyfrannu at wasanaethau bws lleol i gynorthwyo trigolion ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol, er mwyn sicrhau, hyd eithaf ein gallu, fod gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn y dyfodol.
Cwestiwn gan y Cynghorydd Tim Thomas i Aelod y Cabinet
Beth mae Aelod y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod ffyrdd a phriffyrdd CBSP yn hygyrch i’r henoed a’r anabl?
Ymateb
Mae mynediad a diogelwch ar gyfer holl ddefnyddwyr y priffyrdd yn bwysig, ac felly mae’n cael ei ystyried ar gyfer pob datblygiad newydd yn y safonau dylunio sy’n cael eu cymhwyso o’r cychwyn cyntaf, gyda’r awdurdod priffyrdd fel ymgynghorai yn y broses gynllunio, yn gwneud argymhellion mewn perthynas ag amodau i’w gosod ar ddatblygiadau, gan gynnwys gwelliannau/cynnwys seilwaith cerddwyr.
Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn gweld buddsoddiad sylweddol yn y rhwydwaith priffyrdd presennol yn ogystal â dod â datblygiadau newydd fydd yn canolbwyntio ar ddarparu llwybrau teithio llesol diogel sydd wedi’u dylunio’n dda a hygyrchedd hawdd at wasanaethau yn unol ag egwyddorion cadarn creu lleoedd.
Unwaith y bydd cais wedi cael ei gymeradwyo a datblygwyr wedi cytuno ar gytundeb ar gyfer mabwysiadu eu datblygiad, caiff dyluniadau eu gwirio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amodau a safonau dylunio; gall hyn gynnwys palmentydd cyffyrddol ar gyfer cyfeirio’r rhai â nam ar eu golwg, croesfannau dan reolaeth golau gyda nodweddion fel dangosyddion clywadwy/cyffyrddadwy, croesfannau is i gerddwyr, llochesi i gerddwyr, gan gynnwys mynediad â ramp. Gellir archwilio diogelwch dyluniadau fel ystyriaeth bellach o gydymffurfio â safonau perthnasol.
Ar gyfer seilwaith priffyrdd presennol, lle mae gwaith cynnal a chadw cyfalaf megis adnewyddu llwybrau troed neu gynhwysiant llwybrau teithio llesol, mae ystyriaeth i gyflwyno cyrbau isel a allai fod o fudd nid yn unig i bobl â phroblemau symudedd ond hefyd i ddefnyddwyr eraill (cadeiriau gwthio). Yn achos teithio llesol, efallai y bydd modd lledu’r llwybr troed presennol, neu greu llwybr troed/llwybr beicio newydd a allai eto fod o fudd i bob defnyddiwr. Mae gwelliannau o'r fath yn cysylltu â mentrau eraill megis cyrbau uwch mewn arosfannau bysiau sydd wedi cael eu gosod i ganiatáu mynediad haws i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â phroblemau symudedd. Darperir cymorth hefyd trwy deithio rhatach i bobl dros 60 oed ac ymgeiswyr sy’n gymwys ar sail anabledd.
I’r rhai sy’n derbyn ‘bathodyn glas’, mae yna leoedd a ddarperir ar y stryd ac oddi arni sydd wedi’u cadw/gorfodi ar gyfer y defnyddwyr penodol hynny, yn ogystal â chaniatáu parcio mewn lleoliadau eraill yn amodol ar yr arwyddion a’r canllawiau cyffredinol.
Er bod llawer wedi cael ei gyflawni, mae llawer o'r rhwydwaith yn parhau i gael ei wella, ac mae gwella a chynnal a chadw i gyd yn amodol ar y cyllidebau a'r adnoddau presennol sydd ar gael.
Rhestrir isod enghraifft o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig:
Rhif 201 Lleoliadau lle mae cyrbau wedi cael eu newid i hwyluso gwell mynediad i gerddwyr (a ariannwyd gan Teithio Llesol LlC);
Rhif 50 Lleoliadau lle mae cyrbau wedi cael eu newid i hwyluso gwell mynediad i gerddwyr (a ariannwyd fel rhan o adnewyddu llwybr troed stryd gyfan a ariannwyd gan gyfalaf CBSP);
Rhif 11 Lleoliadau lle mae cyrbau isel newydd wedi cael eu cyflwyno ar eu pen eu hunain (a ariannwyd gan Gyfalaf BCBC);
Rhif 2 Lleoliadau lle mae cyrbau isel wedi cael eu cyflwyno fel rhan o ddatblygiadau newydd
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Thomas
Aeth cyd-aelod Ward a minnau am dro yn ein hardal gydag etholwyr lleol, un ohonynt yn ddefnyddiwr cadair olwyn, i ddysgu am rai o’i phrofiadau. Yn codi o hyn, ysgrifennais adroddiad byr a’i gopïo i rai o’r Uwch Swyddogion a’r Aelodau perthnasol, nad wyf wedi cael ymateb ganddynt eto ond gobeithio y gwnaf yn fuan. Roedd yn braf gweld bod hygyrchedd wedi cael ei ystyried ar gyfer adeiladau newydd drwy’r system gynllunio ac mewn perthynas â Llwybrau Teithio Llesol hefyd. Mae fy nghwestiwn yn eithaf addas, o ystyried datganiad yr Arweinydd am yr ymgynghoriad ynghylch parcio ar balmentydd. Mae gennyf gryn ddiddordeb mewn gwybod, pa archwiliadau y mae’r awdurdod lleol wedi eu cynnal, er mwyn edrych ar briodoldeb dodrefn stryd presennol, i weld a yw’n briodol a heb fod wedi darfod, i ddibenion hygyrchedd i’r anabl a’r henoed, gan fod yr Arweinydd wedi dyfynnu cerdded ar strydoedd yn yr ymgynghoriad a chredaf fod hon hefyd yn un o nodau ymgyrch Strydoedd Cerdded, yn ogystal â sicrhau bod dodrefn stryd o’r fath ar ein priffyrdd yn briodol.
Ymateb
Bydd yn rhaid i mi ddod yn ôl at y Cynghorydd o ran cynnal archwiliadau ar ddodrefn stryd. Fodd bynnag, mae Arolygwyr Priffyrdd yn cynnal archwiliadau o'r rhwydwaith priffyrdd yn rheolaidd. Dof yn ôl at yr Aelodau ar y pwynt cyntaf uchod.
Gofynnodd Aelod y Cabinet – Cymunedau i’r Aelod a allai ailanfon ei adroddiad drwodd ato ef fel y gallai fynd i’r afael â’r pwyntiau oedd ynddo. Os oedd unrhyw faterion neu bryderon penodol yn debyg i'r hyn a gynhwyswyd yn ei gwestiwn o fewn ei Ward, yna gofynnodd iddo rannu manylion y rhain gan gynnwys mewn perthynas â darparu mannau parcio hygyrch i'r anabl, ac yn y blaen, er y byddai materion ehangach hefyd yn cael eu hystyried o fewn y Fwrdeistref Sirol yn ei chyfanrwydd. Rwy’n gobeithio, pan ddarperir dodrefn stryd, y caiff y rhain eu hasesu ar gyfer yr ardal benodol y cânt eu darparu ynddi, er mwyn peidio â datrys un broblem yn unig tra’n creu un arall o bosibl. Pwysleisiodd fod CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i'r henoed a'r anabl o ran hygyrchedd i barcio ceir ar y priffyrdd. Ychwanegodd ein bod yn ymwybodol o geisiadau am ddodrefn stryd oedd wedi cael eu gwrthod, oherwydd y gallai darparu'r rhain mewn mannau penodol arwain at broblem arall o natur wahanol.
Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd Melanie Evans
Rwyf yn nodi yn yr ymateb uchod fod yna 264 o leoliadau y cyfeiriwyd atynt lle bu newidiadau i'r cwrbyn. A wnewch chi ymhelaethu ar ble mae'r rhain, gan gynnwys cyfeiriad at y cyrbau isel hynny
Ymateb
Mae 201 o leoliadau ar gyfer gwaith cyrbau drwy Fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac mae’r mwyafrif o’r rhain yn ardal Porthcawl. Mae yna 50 o leoliadau mewn 4 ardal lle bu gweithrediadau/addasiadau cyrbau, a wnaed er mwyn gwella mynediad i gerddwyr ac 11 lleoliad lle gwnaed gwelliannau drwy Gyllid Cyfalaf CBSP. Rhoddodd enghreifftiau o ble roedd y gwaith hwn wedi digwydd yn y Fwrdeistref Sirol, er budd yr Aelodau.
Cwestiwn gan y Cynghorydd Ian Williams i Aelod y Cabinet – Adfywio
A all Aelod y Cabinet - Adfywio, os gwelwch yn dda, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am ba fesurau sy’n cael eu cymryd i adfer yr adeiladau adfeiliedig niferus yng nghanol ein tref a beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith adfer hwn?
Ymateb
Mae amrywiaeth o resymau pam mae adeiladau’n dadfeilio, a thros y blynyddoedd mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi pwyslais ac adnoddau sylweddol i raglenni sydd wedi cynnig cymorth a chyllid i adnewyddu ac adfywio adeiladau gwag a rhai sy’n cael eu tanddefnyddio yng nghanol ein trefi.
Bu cynllun y Fenter Treftadaeth Treflun ar waith rhwng 2002 a 2020 a thros yr amser hwnnw dyfarnwyd mwy na £5 miliwn i 66 eiddo ar gyfer gwneud gwaith adfer mawr. Drwy’r cynllun hwn cafodd rhai o’n prosiectau canol tref mwyaf llwyddiannus eu cwblhau, gan gynnwys cynllun Elder Yard, 2 Stryd Caroline a hen Dafarndy’r Victoria, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, adeilad yr Harlequin, adeiladau Jennings a, bron wedi ei gwblhau, 37 The Esplanade (yr Apollo gynt) ym Mhorthcawl, i enwi dim ond rhai, lle mae gan bob un ohonynt fusnesau llewyrchus yn gweithredu ohonynt, ar sail buddsoddiad cyfalaf mawr gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw.
Yn yr un modd, mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi buddsoddi cyllid mewn cynlluniau fel 11 Stryd Nolton Maesteg, ac yn fwy diweddar Marble Steak House, oedd i gyd yn eiddo gwag oedd wedi dirywio o'r blaen ac sydd wedi cael eu trawsnewid drwy gymorth a chyllid. Dyfarnodd y rhaglen Trawsnewid Trefi £2,275 miliwn mewn grant yn ystod y tair blynedd diwethaf a bydd yn parhau i weithio gyda pherchnogion eiddo a busnesau i gynnig cymorth a chyllid sylweddol i eiddo eraill ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg yn y dyfodol.
Deallwn fod yna nifer o adeiladau heriol ar draws ein trefi lle mae amrywiaeth o anawsterau yn rhwystro galluogi gwaith adnewyddu cynhwysfawr, ac mae cael partner parod yn hanfodol i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Mae rhai o'n heiddo mwyaf heriol yn dod o fewn ein cynllun gweithredu Eiddo Gwag diweddar. Mae'r cynllun, a ddatblygwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn defnyddio dull mwy manwl o ddod o hyd i atebion i symud ymlaen â gwaith ar eiddo penodol. Y llynedd, cynhaliodd y Cabinet sesiwn hyfforddi gyda LlC i ddeall sut y gellid symud ymlaen â’r agenda hon, gan dderbyn bod y cynllun yn cynrychioli rhai o’r adeiladau mwyaf heriol, nad oes unrhyw ennill cyflym iddynt, a lle mae’r awdurdod wedi gwneud sawl ymgais o’r blaen i ymgysylltu â’r perchnogion.
O fewn y cynllun, mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau a gafodd flaenoriaeth yng nghanol ein trefi, ond nid yn gyfan gwbl ac maent yn cwmpasu eiddo masnachol/cymdeithasol a phreswyl.
Mae i’r cynllun 3 blaenoriaeth a chyfres o gamau gweithredu.
Yn gyntaf, nodi maint a lleoliad adeiladau masnachol a phreswyl a/neu eiddo gwag hirdymor sy'n cael effaith andwyol ar ardal neu gymuned leol.
Mae hyn yn cynnwys;
• Adolygu'r wybodaeth gyfredol sydd ar gael i CBS Pen-y-bont ar Ogwr o ffynonellau mewnol ac allanol er mwyn canfod data cefndir.
• Cynnal arolwg gweledol o ardaloedd canol trefi allweddol, gan nodi eiddo sydd ag effaith negyddol ar y strydlun neu’n cynnig cyfle ar gyfer prosiect adfywio.
• Blaenoriaethu cronfa ddata o adeiladau gan ddefnyddio meini prawf asesu risg sefydledig a ddefnyddir ar gyfer cartrefi gwag.
Yn ail, ein nod yw codi ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion adeiladau, busnesau lleol a gwerthwyr tai, aelodau lleol. Mae hyn yn golygu;
• Cadw mynegai o eiddo gwag yng nghanol trefi i ddibenion marchnata.
• Cyfeirio perchnogion eiddo gwag ac adfeiliedig at benseiri / contractwyr lleol a all eu cynorthwyo gyda'r gwaith.
• Darparu cyngor ar y cymorth ariannol sydd ar gael i berchnogion a thrwy werthwyr tai.
• Ymgysylltu â pherchnogion eiddo preswyl i'w hannog i adfer defnydd eu heiddo drwy roi cyngor, cefnogaeth ac anogaeth.
• Edrych i mewn i'r cynnig o gyngor cwmpasu cychwynnol am ddim cyn ymgeisio, paratoi nodyn cyngor datblygu ar gyfer adeiladau gwag.
Yn drydydd, mae angen inni ystyried defnyddio camau gorfodi gan ddefnyddio’r ystod lawn o ddewisiadau deddfwriaethol i ymdrin ag eiddo sydd wedi adfeilio neu mewn cyflwr gwael lle na ellir cael canlyniad drwy gydweithredu. Ni chymerir camau gorfodi yn ysgafn, ac mae angen ystyried y broses gyfreithiol yn ofalus, yn ddelfrydol, fel rhan o ddull perswâd ynghyd â bygythiad.
Cefnogir yr adeiladau anoddaf gan Weithgor Eiddo Gwag. Mae angen ymagwedd awdurdod cyfan at yr adeiladau hyn, ac ymrwymiad ariannol i'w dilyn. Mae'r gr?p hwn wedi edrych yn bennaf ar eiddo preswyl ond yn fwy diweddar wedi ystyried gweithredu ar eiddo masnachol. Ar gyfer yr adeiladau domestig y mae llawer ohonynt yn ein trefi, rydym yn parhau i weithio gyda pherchnogion yr eiddo hyn ac mae nifer o adeiladau gwag hirdymor bellach wedi cael eu gwerthu i berchnogion newydd neu maent i gael eu marchnata ar gyfer eu gwerthu. Lle bo angen, cymerir camau gorfodi i fynd i’r afael â materion iechyd cyhoeddus yn yr eiddo. Mae'r Gweithgor yn cynnwys cynghorwyr o feysydd Cynllunio, Adfywio, Cadwraeth, Gwasanaethau Rheoleiddio Tai a Rennir, Cyfreithiol a Chyllid.
Ar hyn o bryd mae 20 o adeiladau ar y Rhestr ac mae camau gweithredu gan gynnwys trafodaethau gyda pherchnogion, a chamau gorfodi lle bo angen, wedi symud ymlaen yn erbyn 8 o'r rhain.
Yn ogystal â’r gwaith ar eiddo a nodwyd, rydym hefyd wedi cynnal arolwg diweddar o eglwysi a chapeli gwag sydd mewn perygl. Roedd y rhain wedi’u lleoli’n bennaf ar draws ardaloedd masnachol y cymoedd, ond rydym yn gobeithio ymestyn hynny i drefi eraill i edrych ar ddefnyddwyr terfynol a phartneriaid yn y dyfodol pan fydd cyllid ar gael.
Rydym hefyd yn bwriadu cwblhau adolygiad o’r holl eiddo gwag ar draws canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i nodi’r hyn y mae perchnogion a deiliaid yn ei weld fel yr hyn sy’n rhwystro’r eiddo rhag cael ei feddiannu, er mwyn ein galluogi i edrych ar ddull o ymgysylltu a chynnig cymorth mwy pwrpasol. Lle mae adnewyddu a buddsoddi cyfalaf yn brif rwystr, gallwn sicrhau bod y cymorth a’r cyllid cywir ar gael.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Williams
Rwyf yn meddwl bod rhywfaint o'r ymateb yn deillio o gyfathrebiad cyffredinol oherwydd mai â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn benodol yr oedd fy nghwestiwn yn ymwneud a chyflwr adfeiliedig llawer gormod o’r adeiladau yng nghanol y dref. Rwyf yn cyfeirio’n benodol at y Ranch yn Stryd Nolton, sy’n beryglus ac yn ddolur i’r llygad ac sydd wedi golygu bod ffens o gwmpas y palmant yno ers bron i 3 blynedd. Mae hefyd wedi cael effaith sylweddol ar drigolion cyfagos, nad ydynt yn gallu gwerthu eu cartrefi oherwydd cyflwr gwarthus yr adeilad hwn. Yr eiddo arall dan sylw yw Rhif 2 Heol Ewenni sef un o'r adeiladau cyntaf y mae pobl yn eu gweld wrth gyrraedd canol ein tref o Heol Ewenni. Mae'r eiddo hwn wedi bod yn wag ers 35 mlynedd ac nid oes dim wedi cael ei wneud gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr i'w wneud yn bosibl byw ynddo. Gallwn hefyd grybwyll yr York and Monroes, sef yr adeiladau cyntaf a welir gan bobl wrth ddod i mewn i'r dref o'r Orsaf Fysiau. Pryd bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol (GPG), i gymryd meddiant o’r adeiladau hyn, dull gweithredu sydd wedi cael ei ddefnyddio ym Mhorthcawl.
Ymateb
Mae materion cyfreithiol ar y gweill gyda pherchennog safle’r Ranch, sy'n ein hatal rhag trafod y safle hwn mewn Fforwm agored. Rwyf yn gwybod bod nifer o adeiladau ar draws y Fwrdeistref Sirol y mae angen eu hadnewyddu a’u hadfer i safon byw ac, i gefnogi hyn, mae gennym Gynllun Gweithredu ar Eiddo Gwag a ddatblygwyd gennym y llynedd gyda Llywodraeth Cymru a bydd hwn yn cael ei ddiweddaru a'i adolygu yn ystod cyfnod yr haf sydd i ddod. Ychwanegodd y Swyddog Monitro, lle'r oedd achosion cyfreithiol yn mynd rhagddynt mewn perthynas ag eiddo, gan gynnwys y rhai y cyfeiriodd y Cynghorydd Williams atynt, na ellid trafod manylion y rhain mewn Fforwm agored fel y Cyngor. Fodd bynnag, pe bai unrhyw aelod yn dymuno cael gwybodaeth am eiddo penodol, er enghraifft, y rhai sydd wedi eu lleoli yn ei Ward, yna gallai fynd at y Swyddog perthnasol y tu allan i'r cyfarfod, lle byddai modd rhannu rhywfaint o wybodaeth fanwl mewn perthynas â'r rhain ar sail gyfrinachol.
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd F Bletsoe
Mae’n dda clywed bod prosesau ar waith y gellir eu defnyddio fel yn yr enghreifftiau heddiw. Fodd bynnag, rwyf yn ymwybodol bod nifer sylweddol o adeiladau sydd angen eu hatgyweirio yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr, nad ydynt wedi bod yn destun prosesau o’r fath ac, oherwydd hyn, mae problem gyda'r dref yn edrych fel pe bai’n dirywio, yn enwedig o ystyried bod yr adeiladau hyn yn aml yn cael eu gadael i waethygu dros nifer o flynyddoedd. Felly, a fyddech cystal â gwneud rhywfaint o gynnydd yma gyda gwaith adfer o ryw fath neu’i gilydd, er mwyn i Ben-y-bont ar Ogwr fedru edrych yn well.
Ymateb
Rwyf yn cytuno â’r hyn sydd wedi cael ei ddweud a gallwn weithio gyda Swyddogion i symud ymlaen â gwaith gwella ar rai o’r adeiladau hyn, lle mae’r perchennog neu’r landlord ac yn y blaen yn fodlon gweithio gyda’r Cyngor i’r diben hwn. Mae'r Cyngor yn cynnig grantiau lle bo'n berthnasol, i gynorthwyo perchnogion eiddo i wella'r adeiladau adfeiliedig hyn drwy wneud gwaith adnewyddu. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, mewn perthynas â Gorchmynion Prynu Gorfodol (GPG), er y gallai'r Cyngor mewn rhai sefyllfaoedd fynd ar drywydd y rhain, byddai hyn yn gostus ac felly roedd angen i'r aelodau benderfynu o ble y byddai'r gyllideb yn dod i gefnogi gwneud y Gorchmynion hyn. Dylid cadw mewn cof hefyd y gallai proses GPG gymryd nifer o flynyddoedd i’w chwblhau o’r dechrau i’r diwedd, yn enwedig os nad oedd perchennog yr eiddo yn hysbys neu os nad oedd yn dymuno cytuno i orchymyn prynu gorfodol gael ei wneud.