Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Gynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Cwm Taf Morgannwg.
Cadarnhaodd fod newidiadau i ôl troed y bwrdd iechyd wedi creu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Cytunwyd y dylai’r ddau BGC oedd yn cwmpasu’r ardal honno, uno i ddod yn un BGC er mwyn lleihau dyblygu a galluogi cydweithio mwy effeithiol i wella llesiant pobl yn yr ardal.
Ychwanegodd, yn dilyn cyhoeddi’r Cynllun Llesiant, y bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr yn uno i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.
Dywedodd y Prif Weithredwr mai thema gyffredinol y Cynllun Llesiant yw ‘Cwm Taf Morgannwg Mwy Cyfartal’ sy’n dylanwadu ar bob agwedd ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dangosodd yr Asesiad Llesiant fod gan gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf lawer i fod yn falch ohono. Fodd bynnag, nid yw pob cymuned yn cael mynediad teg at gyfleoedd ac maent yn wynebu heriau gwahanol sy’n effeithio ar lesiant.
Mae gan y Cynllun Llesiant sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad ddau amcan ac amlinellwyd y rhain ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.
Mae’r Cynllun Llesiant yn gwneud pump ymrwymiad ar gyfer y ffordd y bydd y BGC sengl yn gweithio a’r rhain fydd yr egwyddorion craidd ar gyfer y BGC, fydd yn arwain ac yn herio gweithgaredd ar draws strwythur y BGC. Dangoswyd yr ymrwymiadau hyn ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.
Yna cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr ymgynghoriad 12 wythnos a gynhaliwyd yngl?n â’r Cynllun drafft terfynol, oedd yn cynnwys arolwg ar-lein, a ddenodd 238 o ymatebion.
Daeth y Prif Weithredwr â’i gyflwyniad i ben, drwy gadarnhau yn ogystal â’r ffaith fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo eu cynllun llesiant ar y cyd fod yn rhaid i’r chwe phartner statudol hefyd gymeradwyo’r cynllun i’w gyhoeddi.
Y partneriaid statudol yw:
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
• Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru
• Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
• Cyfoeth Naturiol Cymru
Gofynnodd aelod a oedd bwriad i'r Cynllun fod yn gwbl hygyrch i bawb, gan nad oedd y copi oedd gerbron y Cyngor yn cyfarfod â'r holl ofynion hygyrchedd angenrheidiol.
Cadarnhaodd Swyddog y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) mai dyma fyddai’r copi, trwy Dîm Dylunio’r Cyngor.
Dywedodd aelod, gan gyfeirio at sylfaen dystiolaeth yr AEA fod y ddogfen yn nodi bod 238 o ymatebion i'r arolwg ar-lein mewn perthynas â'r broses ymgynghori. Roedd sesiynau ymgysylltu pellach hefyd wedi cael eu cynnal mewn rhai sefydliadau yr ymwelwyd â hwy gan y cyhoedd yn y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys yn Llyfrgell Sarn. Gofynnodd faint oedd wedi mynychu mewn perthynas â'r olaf.
Cadarnhaodd Swyddog y BGC nad oedd ganddi’r lefelau presenoldeb penodol ym mhob un o’r safleoedd ymgynghori. Fodd bynnag, roedd canlyniadau’r holl sesiynau ymgysylltu wedi cael eu bwydo i mewn i’r arolwg ar-lein. Ychwanegodd mai’r bwriad oedd paratoi adroddiad manylach mewn perthynas â'r sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd fel rhan o'r ymgynghoriad ehangach cyffredinol.
Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am i rai manylion pellach gael eu rhannu mewn perthynas â threfniadau llywodraethu’r BGC, i gynnwys manylion yngl?n ag atebolrwydd a threfniadau cyllid. Pe bai'r wybodaeth hon ar gael i'r aelodau, byddai ganddynt well dealltwriaeth o bwy sy'n gyfrifol am beth yn y drefn gyffredinol.
Cytunai’r Prif Weithredwr y byddai’n ddefnyddiol cylchredeg rhagor o wybodaeth am y BGC i’r holl aelodau, gan gynnwys pwy sy’n cael ei gynrychioli ar y corff hwn o ran sefydliadau, rhanddeiliaid a phartneriaid statudol ac yn y blaen, gan gynnwys ei gylch gorchwyl a’i nodau ac amcanion.
Cyfeiriodd aelod at Safonau’r Gymraeg a gofynnodd am rywfaint o sicrwydd y byddai’r Cynllun sy’n cefnogi’r BGC ar gael mewn fformat dwyieithog.
Dywedodd yr Arweinydd y câi hwn, yn unol â holl brif ddogfennau strategol CBS Pen-y-bont ar Ogwr, ei gynhyrchu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg hefyd.
Gofynnodd aelod am sicrwydd y byddai’r BGC yn cyd-fynd â rhai o gynlluniau a pholisïau mawr eraill y Cyngor/ei bartneriaid, megis er enghraifft, y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai felly y byddai.
Am drafodaeth bellach ynghylch yr eitem hon, cliciwch yma
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Llesiant yn Atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.
Dogfennau ategol: