Agenda item

Fy Nhîm Cymorth ac Adolygiad Gwasanaethau Preswyl a Therapiwtig

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant, a’i ddiben oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol ynghylch:

 

  • Cyllid grant a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru, o dan y Rhaglen Genedlaethol Gwella Canlyniadau i Blant, Dileu Elw Preifat, er mwyn datblygu a gweithredu gwasanaeth Fy Nhîm Cymorth (MyST).
  • Adolygu gwasanaethau preswyl a therapiwtig o’r top i’r gwaelod.
  • Y gwasanaeth preswyl newydd sydd wrthi'n cael ei ddatblygu ar gyfer plant.

 

Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am ddatblygiadau pellach yn y gwasanaeth lleoli, yn enwedig o fewn y ddarpariaeth breswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a'r cymorth therapiwtig oedd yn cael ei gynnig i’r Plant â Phrofiad o Ofal fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y gwasanaeth wedi cyflwyno bid i Lywodraeth Cymru yn ystod hydref 2022 dan agenda dileu elw er mwyn gwella eu darpariaeth a’u datblygiad presennol ymhellach, sef y modelau yr oeddent yn gobeithio ymhelaethu arnynt, a ddisgrifiwyd yn fanwl yn yr adroddiad.

Dywedodd eu bod wedi sicrhau cyllid i ehangu'r staff a'r sefydliad ar draws y ddarpariaeth breswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel y gallent gael set sgiliau fwy amrywiol o brofiad yng ngharfan y staff i gartrefi sy'n darparu ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal ar hyn o bryd.

Ymhelaethodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant ar rôl gwasanaeth “Fy Nhîm Cymorth (MyST)” gan nodi ei fod yn ymwneud â chreu tîm o amgylch y plentyn, fydd yn asesu ei anghenion ac yn nodi'r dewis gorau ar gyfer sefydlogrwydd a’r cymorth cofleidiol i sicrhau hynny. Cyn cwblhau’r rôl, comisiynwyd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus i adolygu’r dulliau gweithredu presennol a gyflwynwyd hyd yma a gofynnwyd am argymhellion ynghylch y ffordd orau i wneud y gorau o’r cyllid i adeiladu ar brosesau presennol er mwyn darparu mwy o gymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, y mae arnynt angen ymyriadau dwys i oresgyn trawma. Dywedodd mai’r nod oedd cofrestru’r ddarpariaeth newydd “Meadows View” erbyn Mehefin 2023 a’r gobaith oedd y byddai’n barod i agor gyda’r tîm newydd yn ei le. Daeth â'i chyflwyniad i ben a gwahoddodd gwestiynau iddi hi ei hun a/neu'r Swyddog oedd yn Unigolyn Cyfrifol - Gofal Cymdeithasol Plant.

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn teimlo bod y model wedi'i lywio gan drawma yn fodel ardderchog o arfer da. Dywedodd ei bod yn teimlo ei fod yn hyblyg iawn ar gyfer gweithio gyda'r galwadau cynyddol a chymhlethdod yr achosion oedd yn cael eu derbyn. Cafodd Meadows View ei enwi gan blant Pen-y-bont ar Ogwr a’i barn hi oedd ei bod yn bwysig bod ganddynt berchnogaeth dros eu cartref eu hunain oherwydd mai dyna oedd hwn yn mynd i fod iddynt.

Mynegodd y Cadeirydd bryderon bod y gwasanaeth yn cynnig cytundebau cyflogaeth i'r staff newydd am ddwy flynedd tra roedd hi’n teimlo bod angen iddo fod yn barhaol gan na allai ddychmygu na fyddai angen y staff ar ôl y cyfnod hwnnw o ddwy flynedd.

Ymatebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant drwy ddweud, fel rhan o’r broses gofrestru, gyda golwg ar y ffordd y câi staff eu cyflogi, y câi pwysau cyllidebol eu rhoi gerbron, ac y byddai’r Cyngor yn eu cymeradwyo yn ôl y gyllideb oedd yn cael ei phennu ar gyfer blwyddyn 2023. Roedd hyn yn ei gwneud yn bosibl sefydlu'r gweithlu parhaol gorau posibl. Fodd bynnag, defnyddid hyblygrwydd hefyd gan ddileu arian elw gan Lywodraeth Cymru, sef cyllid grant 2 flynedd ar hyn o bryd. Roedd heriau yn wynebu nid yn unig y gwasanaeth hwn ond llawer o wasanaethau yn y fwrdeistref sirol oedd yn dibynnu ar arian grant, nad oedd yn para y tu hwnt i’r dyraniad cychwynnol. Roedd yn hanfodol i'r gwasanaeth gael cynllun cynaladwyedd ariannol. Fel gwasanaeth, rhagwelid y byddai gostyngiad yn nifer y plant oedd yn gorfod symud allan o'r sir i gartrefi gofal preswyl drud yn y sector annibynnol o ganlyniad i'r ddarpariaeth hon.

Dywedodd y byddent yn rhagweld y byddent mewn ffordd gynaliadwy yn lleihau nifer y plant yr oedd arnynt angen cymorth gofal preswyl hirdymor, oherwydd drwy’r dull asesu dwys a’r dull therapiwtig hwnnw, y gobaith oedd y byddent yn medru byw mewn teuluoedd maeth yn y fwrdeistref sirol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ei bod yn hollbwysig defnyddio'r gyllideb honno'n fwyaf effeithiol dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn cyrraedd sefyllfa lle y cyflawnid contractau hirdymor cynaliadwy ar gyfer y gweithlu tra'n lleihau costau mewn rhannau eraill o'r system.

Holodd yr Arweinydd am y berthynas a’r bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o ran y cymorth y disgwylid fyddai’n cael ei ddarparu am fod angen iddo fod yn ddi-dor. Dywedodd fod ateb anghenion iechyd y plant a'r bobl ifanc hyn yn hanfodol ac y byddai angen cydweithio â'r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod y cymorth yn ddiwnïad.

Atebodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, er nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gwneud ymrwymiad pendant o ran y gwasanaethau y byddent yn eu darparu, y byddent yn cymryd rhan yn yr adolygiad gydag argymhellion i’r gwasanaeth eu cyrraedd.

Awgrymodd yr Arweinydd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd i gyfarfod a thrafod y ffordd orau o gyflawni cyfrifoldebau.

Ymatebodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Arweinydd gan ddweud, o ran yr adroddiad blaenorol, fod ganddynt ymrwymiadau gydag eglurder gan yr holl bartneriaid, ac y cafwyd cynrychiolaeth dda ar lefel uwch o'r holl bartneriaid hynny ar y bwrdd a gadeirir gan y Dirprwy Arweinydd. Dywedodd y byddai'n rhagweld, wrth symud ymlaen, y byddai'r holl bartneriaid hynny yn dod yn eu tro i mewn i Bwyllgor ffurfiol y Cabinet i esbonio sut y maent yn cyflawni yn erbyn eu hymrwymiadau o ran y manylion yn yr adroddiad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn bwysig bod ymgysylltu â'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus (IPC) yn arwain at ganlyniad lle roeddent yn glir bod eu cyfraniad hwy yn nhermau arweinyddiaeth broffesiynol a goruchwyliaeth glinigol dros y gwasanaethau a ddarperid.

Aeth ymlaen i ddweud y treuliwyd llawer o amser gyda Llywodraeth Cymru yngl?n â’r agenda hon a’u bod wedi tynnu sylw at enghreifftiau o arfer da o fannau eraill yng Nghymru, lle roedd mewnbwn y Byrddau Iechyd yn gryf mewn termau ymarferol iawn o ran materion darpariaethau preswyl tebyg oedd yn cael eu datblygu.

Dywedodd fod yna nifer o fecanweithiau yn ychwanegol at adolygiad y  Sefydliad Gofal Cyhoeddus; roedd yna Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yr oedd y Dirprwy Arweinydd yn ei gadeirio, oedd wedi derbyn partneriaeth plant fel rhan o hynny a bod datblygu darpariaeth breswyl yn un o'r blaenoriaethau allweddol drwy’r partneriaethau preswyl. Roedd cyfarfodydd ar lefel uchel iawn ar ddod gyda’r Bwrdd Iechyd lle y disgwylid trafodaethau ynghylch blaenoriaethau CBSP a’u blaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Unigolyn Cyfrifol - Gofal Cymdeithasol Plant i rannu gwybodaeth bellach a dywedodd y byddai rhan nesaf adolygiad y Sefydliad Gofal Cyhoeddus yn weithdy neu'n sesiwn adborth gyda CAMS ac roedd Addysg yn cael eu gwahodd hefyd.

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd y model newydd yn cael ei weithredu yn y ddarpariaeth newydd ym Mrynmenyn ac atebodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig defnyddio un model o ymarfer fel bod staff a phlant, pwy bynnag oedd yn eu rheoli, yn eu cefnogi ac yn byw gyda hwy, i gyd yn cael eu rheoli a'u cefnogi yn yr un ffordd.

Ategwyd hyn gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant.

Gofynnodd yr Arweinydd hefyd a oedd cynlluniau yn eu lle i weithio gyda darpariaeth addysgol arbenigol gydag Ysgol Bryn Castell, Heronsbridge a’r Bont er mwyn sicrhau bod y model a gâi ei fabwysiadu yn gyson ar draws bywyd y person ifanc hwnnw, gan y cydnabyddir bod rhan fawr o fywyd plentyn yn yr ysgol ac mewn addysg ac felly ei bod yn ofynnol i’r dull fod yn ategol ac yn gyson.

Atebodd y Dirprwy Arweinydd mai un o'r pethau a wnaed fel rhan o'r strategaeth Rhianta Corfforaethol oedd cyflwyno arwyddion diogelwch. Byddai'r model ymarfer yn mynd i bob sefydliad i gyfrannu lefel sylfaenol o ddealltwriaeth am y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithio.

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant, pan luniwyd y cais am grant yn ystod hydref 2022, fod cydweithwyr o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedi gweithio arno gyda'r gwasanaeth a’u bod wedi edrych i mewn i’r angen i ddatblygu darpariaeth addysg yn Meadows View.

Fe’i hawgrymwyd fel dewis ond nid oedd digon o arian. Roedd yn well gan y Gwasanaeth i'r plant â Phrofiad o Ofal fynychu’r lleoliadau presennol yn ogystal â threulio amser gyda'r plant y tu allan i'r cartref yr oeddent yn byw ynddo hefyd.

Cadarnhaodd fod y gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedi chwarae rhan a dywedodd, er nad oedd darpariaeth addysg yn cael ei datblygu, y bu sgyrsiau am ddatblygu gwasanaeth Fy Nhîm Cymorth.

Hysbysodd y pwyllgor ei bod wedi cael ei gwahodd i'r digwyddiad i randdeiliaid y cyfeiriwyd ato'n gynharach a'i bod yn hyderus y byddai cydweithwyr eraill o'r ysgolion y cyfeiriwyd atynt hefyd yn cael eu gwahodd oherwydd mai'r ysgolion a enwyd oedd y rhai yr oeddent mewn cysylltiad â hwy yn bennaf.

PENDERFYNWYD:   Argymell bod Pwyllgor y Cabinet - Rhianta                           Corfforaethol yn nodi cynnwys yr adroddiad.

Dogfennau ategol: