Agenda item

Gweithredu Panel Atal Camfanteisio Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr y Gr?p Peripatetig, a’i ddiben oedd hysbysu’r Pwyllgor am y cynnydd hyd yma o ran datblygu a gweithredu Panel Atal Camfanteisio gweithredol amlasiantaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhannodd gyflwyniad gyda'r pwyllgor a gwahoddodd gwestiynau.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn falch o weld cynnydd yn digwydd a gofynnodd am rywfaint o eglurder. Gofynnodd a oedd yr offer a grybwyllwyd yn y cyflwyniad yn cael eu defnyddio mewn Cymorth Cynnar ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys oherwydd bod y strategaeth yn un ranbarthol. Dywedodd fod yr arolygiad wedi nodi ei fod yn rhywbeth i'r holl bartneriaid ac mai edrych am sicrwydd yr oedd hi.

 

Atebodd Rheolwr y Gr?p Peripatetig drwy gadarnhau bod Cymorth Cynnar yn rhan o ddefnyddio'r offer a grybwyllwyd ond rhoddodd sicrwydd i'r pwyllgor y byddai'n estyn allan i'r Ysbytai hefyd.

 

Gofynnodd aelod sut yr oedd yn bwriadu ymgysylltu â rhieni er mwyn sicrhau nad yw plant yn cael eu hecsbloetio.

 

Atebodd Rheolwr y Gr?p Peripatetig gan gyfeirio at waith a wnaed yn ei rôl mewn Awdurdod Lleol blaenorol, a dywedodd y byddai’n hapus i rannu’r adnoddau a ddefnyddid a thrwy hynny eu rhannu â chynulleidfa ehangach, ond dywedodd hefyd, fodd bynnag, mai gwaith yn datblygu ydoedd o fewn y lleoliad presennol.

 

Gofynnodd aelod a fu ystyriaeth i ymestyn ymgysylltiad cymunedol tuag at economi’r nos, sef tafarndai, clybiau nos a goruchwylwyr drysau.

 

Atebodd Rheolwr y Gr?p Peripatetig gan ddweud bod datblygu eu perthynas â'r gymuned ehangach yn hanfodol i'r strategaeth ac er ei bod yn broses araf, ei fod yn waith oedd yn mynd yn ei flaen.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod camfanteisio o'r fath yn cael ei gelu a'i guddio lle ’roedd y bobl ifanc eu hunain yn cael eu gweld fel troseddwyr oherwydd bod rhai wedi camfanteisio arnynt i gyflawni troseddau. Holodd beth oedd rôl Heddlu De Cymru, oherwydd, er bod rôl hollbwysig gan yr awdurdod o ran diogelu a gwasanaethau cymdeithasol, bod rôl yr un mor bwysig gan Heddlu De Cymru i wneud y gyfraith yn glir i bobl/i’r cyflawnwyr, am mai plant a phobl ifanc y fwrdeistref oedd yn cael eu hecsbloetio. Fel y cyfryw, dylid ei ystyried yn drosedd ac felly roedd angen gwaith gyda Heddlu De Cymru i sicrhau bod y troseddau hynny'n cael eu canfod a’r troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llys.

 

Dywedodd y byddai'n croesawu diweddariad yn y dyfodol gan Heddlu De Cymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gan Heddlu De Cymru eu strwythur a'u bod yn cefnogi'r gwaith a wnaed i atal ac i fynd i'r afael â chamfanteisio. Roeddent wedi creu adnodd canolog yn BCU oedd yn gysylltiedig â Heddlu De Cymru. Mae yna hefyd Uned Atal Trais (VPU) yr oedd y bwrdd diogelu wedi gwneud cais iddi, yr oeddent wedi'i nodi yn yr adnoddau ar gyfer CBSP. Dywedodd fod disgwyl i CBS Pen-y-bont ar Ogwr gael mwy o adnoddau strategol ar lefel ranbarthol i symud ymlaen a datblygu'r strategaeth ar draws CTM. At hynny, roedd Rheolwr y Gr?p Peripatetig wedi bod yn arwain partneriaethau ar lefel arbenigol i wneud yn si?r, yn weithredol, bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr lle y mae angen iddo fod. Awgrymodd efallai, ymhen chwe mis i flwyddyn, y byddai Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ailymweld â'r pwyllgor gyda'i phartneriaid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd oedd wedi cael ei wneud. 

 

Croesawodd yr Arweinydd hyn gyda phwynt gweithredu ychwanegol sef bod y pwyllgor yn derbyn adroddiad gan bartneriaid. O ystyried difrifoldeb a maint yr her, credai y byddai chwe mis yn bwynt amserol i fesur y cynnydd a wnaed.

 

PENDERFYNWYD:  

·        Argymell bod y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar y cynnydd presennol yn y gwaith ynghylch                           camfanteisio ac yn cefnogi'r cynnig i sefydlu                                  Panel Atal Camfanteisio amlasiantaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bod y Pwyllgor i dderbyn adroddiad gan bartneriaid ymhen 6 mis.

Dogfennau ategol: