Agenda item

Polisi Atal Osgoi Trethi

Cofnodion:

Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno’r Polisi Atal Osgoi Trethi wedi ei ddiweddaru i’r pwyllgor cyn cyflwyno’r Polisi i’r Cabinet i’w gymeradwyo ym mis Mehefin 2023.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol i atal a chanfod achosion o lwgrwobrwyo, llygredd ac osgoi trethi mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor. Mae'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i bob Aelod a gweithiwr ddangos y safonau uchaf o onestrwydd ac uniondeb, ac mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Mae gan y Cyngor bolisïau Gwrth-dwyll a Llwgrwobrwyo a Gwrth-wyngalchu Arian i gefnogi trefniadau effeithiol i atal a chanfod achosion o lwgrwobrwyo a llygredd, sy'n cael eu monitro a'u hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Mae’r llywodraeth yn credu y dylai cyrff perthnasol fod yn atebol yn droseddol os ydynt yn methu ag atal y rhai sy’n gweithredu dros neu ar eu rhan rhag hwyluso osgoi talu trethi yn droseddol. Felly, mae’r polisi hwn ar osgoi trethi yn mynd i’r afael yn benodol ag atal osgoi trethi ac yn darparu dull cydlynol a chyson ar gyfer yr holl weithwyr ac unrhyw berson sy’n cyflawni gwasanaethau ar gyfer neu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r polisi’n amlinellu cyfrifoldebau staff, a'r ymrwymiad sydd ei angen ar lefel uwch o fewn y Cyngor i weithredu'r mesurau sydd eu hangen i gyfyngu ar y graddau yr ydym yn agored i'r risg hon. Mae hefyd yn mynd i'r afael â’r ffordd y dylid rhoi gwybod am bryderon, yr hyfforddiant a'r wybodaeth a fydd ar gael i staff yn hyn o beth a hefyd sut y caiff y polisi ei adolygu.

 

Cymeradwyodd y Cabinet y polisi yn erbyn osgoi talu trethi ym mis Chwefror 2021. Mae’r ddogfen a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn bolisi sydd wedi cael ei ddiweddaru. Mae'r adolygiad hwn yn diweddaru'r polisi ac yn gwneud nifer o fân newidiadau. Mae’r rhain yn cynnwys nodi bod y Polisi’n berthnasol i Aelodau a Swyddogion, diweddaru rôl y Dirprwy Bennaeth Cyllid, nad yw bellach yn un interim, ei gwneud yn glir bod y polisi i’w adolygu bob dwy flynedd, a mân newidiadau i’r cyflwyniad a’r fformat.

 

Gofynnir i aelodau’r pwyllgor ystyried y polisi fel rhan o’u rôl i gael sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu corfforaethol a rheoli risg y Cyngor. Caiff y polisi ei ystyried gan y Cabinet ym mis Mehefin.

 

Holodd Aelod faint o bobl oedd wedi cael eu herlyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am beidio â thalu Treth y Cyngor. Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y ffigwr ganddi gyda hi ond y gallai ei roi i'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod.

 

Trafododd Aelod arall yr her o adnabod pobl ‘gysylltiedig’ â’r Cyngor sy’n darparu gwasanaethau ar ei gyfer neu ar ei ran ac a oes unrhyw rai ohonynt yn ceisio osgoi talu trethi ai peidio.

 

Mewn ymateb, atgoffodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau fod gan y Cyngor brosesau tynn iawn yn eu lle o ran y ffordd y caiff pobl eu talu. Mae'n ymwneud â bod staff yn ymwybodol pan fyddant yn delio â rhywbeth sydd y tu allan i'n prosesau arferol. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gofyn am arian parod mewn llaw yn hytrach na mynd drwy ein prosesau talu arferol, mae gennym brosesau ar waith i wirio a yw hynny'n digwydd, a hefyd mae ein staff wedi cael eu hyfforddi'n dda ac yn gallu codi unrhyw faterion sy'n peri pryder. Aeth ymlaen i ddweud nad oedd yn meddwl bod y Cyngor wedi cael unrhyw achosion mewn perthynas â'r mater penodol hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a fyddai'n awgrymu bod y prosesau'n eithaf tynn.

 

Awgrymodd Aelod arall mai’r argraff a gafodd ef oedd bod y polisi yn gynhwysfawr iawn. Roedd yn cynnwys rhai sefyllfaoedd ac enghreifftiau arbennig o ddefnyddiol. Roedd hefyd yn galonogol bod adran ar gontractio allanol wedi cael ei chynnwys oherwydd gweithgareddau a gyflawnir gan sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Halo.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn croesawu’r adroddiad hwn yn llwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor y Polisi Atal Osgoi Trethi oedd wedi ei ddiweddaru sydd ynghlwm yn Atodiad A ac argymhellodd ei fod yn cael ei anfon ymlaen i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: