Agenda item

Adroddiadau ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gan Archwilio Cymru

Cofnodion:

Pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno i'r Pwyllgor adroddiadau gan Archwilio Cymru, gan gynnwys diweddariad ar y gwaith archwilio ariannol ac archwilio pherfformiad a wnaed, ac sydd i'w wneud, gan Archwilio Cymru, ynghyd ag ymateb y rheolwyr i'r Adolygiad Rheoli Perfformiad.

 

Darparodd Archwilio Cymru nifer o adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu hystyried. Y rhain oedd:

 

Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru (Atodiad A)

o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae’n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol lunio diweddariad i’r rhaglen waith ar gyfer pob blwyddyn ariannol i bob prif gyngor yn cwmpasu ei swyddogaethau ef a swyddogaethau’r ‘rheoleiddwyr perthnasol’ (Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn). Yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf 2021, adroddodd Archwilio Cymru y byddant yn darparu fersiwn wedi'i diweddaru o'r adroddiad hwn i'r Cyngor yn chwarterol. Rhydd Atodiad A y sefyllfa ddiweddaraf fel ar 31 Mawrth 2023.

 

Crynodeb o Archwiliad Blynyddol 2022 (Atodiad B) – dengys yr adroddiad hwn y gwaith a gwblhawyd ers Crynodeb yr Archwiliad Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022. Mae’r crynodeb o’r archwiliad yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Adolygiad Rheoli Perfformiad (Atodiad C) – mae'r adroddiad yn ymdrin â’r adolygiad o drefniadau rheoli perfformiad y Cyngor, sy’n cael ei gynnal

er mwyn gweld pa mor dda y maent yn hysbysu'r Cyngor am gynnydd o ran cwrdd â’i flaenoriaethau, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023. Ceir

ymateb y rheolwyr i’r adroddiad hwn ynghlwm fel Atodiad D.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio o Archwilio Cymru yr adran archwilio ariannol yn yr adroddiad cyntaf yn fyr, gan nodi bod eu harchwiliad o ddatganiadau ariannol 2021-22 a gwaith grantiau 2021-22 bellach wedi cael ei gwblhau.

 

Cydnabu eu bod yn hwyr yn llofnodi cyfrifon y llynedd oherwydd nifer o faterion cenedlaethol a bod gwaith cynllunio yn mynd rhagddo yn awr ar gyfer archwiliad ariannol 2022-23.

 

O ran datganiadau ariannol 2022-23, nododd eu bod yn gobeithio dod â chynllun archwilio amlinellol i gyfarfod nesaf y pwyllgor ac y bydd cynllun manylach yn dilyn hynny ar ddiwedd y gwaith cynllunio. Oherwydd dull diwygiedig o archwilio eleni, bu'n rhaid mynd drwy'r camau a gweithio allan yn fanwl beth oedd y risgiau archwilio cyn cwblhau cynllun cyflawn.

 

Darparodd y Rheolwr Archwilio Perfformiad yn Archwilio Cymru drosolwg byr ar agweddau’r adroddiad oedd yn ymdrin ag archwilio perfformiad.

 

O ran proses sicrwydd ac asesu risg Archwilio Cymru, mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud ar draws y ddau Gyngor ar hugain i edrych ar amrywiaeth o wasanaethau a threfniadau. Mae hyn yn galluogi Archwilio Cymru i benderfynu a oes gan gynghorau drefniadau priodol ac a ydynt yn cwrdd â’u hegwyddor datblygu cynaliadwy, ond mae hefyd yn gymorth i lywio gwaith yn y dyfodol.

 

Mae sefyllfa ariannol y ddau gyngor ar hugain yn ddarn parhaus o waith.

 

O ran rheoli’r rhaglen gyfalaf, mae Archwilio Cymru yn gobeithio y bydd briff prosiect yn mynd allan i’r Cyngor yn weddol fuan, yn nodi cwmpas y gwaith hwnnw. Byddai hwnnw’n ddarn o waith fyddai’n cael ei wneud ar draws pob un o’r ddau gyngor ar hugain. Bwriedir cael adroddiad lleol yn ogystal ag allbwn cenedlaethol.

 

Ceir darn o waith thematig hefyd yn ymwneud â defnyddio gwybodaeth perfformiad. Unwaith eto, gwneir hynny ar draws pob un o’r ddau gyngor ar hugain. Bydd iddo ffocws penodol. Edrych ar y wybodaeth ynghylch gwasanaeth, safbwynt y defnyddiwr, a’r canlyniadau. Mae Archwilio Cymru wrthi'n sefydlu'r gwaith hwnnw ar hyn o bryd.

 

Dywedodd hefyd fod Archwilio Cymru wedi bwriadu gwneud darn o waith yn ymwneud â gosod amcanion llesiant. O ganlyniad i ganolbwyntio ar feysydd gwaith eraill, penderfynwyd gohirio’r gwaith hwnnw tan 2023-24, ac mae Swyddogion wedi cael gwybod am hynny.

 

O ran darnau eraill o waith, mae adolygiad thematig o ofal na chafodd ei drefnu. Mae hwn yn cael ei wneud ar y cyd â chydweithwyr iechyd. Eto, mae hyn yn cael ei wneud ledled Cymru, ac er eu bod i fod i gyflwyno adroddiad ym mis Ebrill, ym mis Mai y gwneir hynny’n awr.

 

Mae darn o waith hefyd yngl?n â strategaeth ddigidol ar draws pob un o’r ddau gyngor ar hugain. Y nod yw cwblhau’r gwaith hwnnw dros yr haf.

 

Roedd gweddill yr adroddiad yn ymdrin â rheoli perfformiad ac yn rhoi trosolwg ar rai o astudiaethau llywodraeth leol a lle rydym gyda'r rheiny, yn ogystal â gwaith y rheoleiddwyr eraill.

 

Tynnodd Aelod sylw at y rhan o’r adroddiad (yn Atodiad B) sy’n ymdrin â Bwrdd Rhaglen Arweinyddiaeth Trawsnewid rhanbarth Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, tynnodd yr Aelod sylw at beth oedd y pwyntiau gweithredu o ran sicrhau bod gwaith cynllunio’r Bwrdd yn fwy integredig ac yn fwy hirdymor, cryfhau agweddau ar ei drefniadau llywodraethu, a bod yn fwy uchelgeisiol wrth ddefnyddio ei adnoddau craidd cyfunol i gael mwy o effaith ar y rhanbarth.

 

Awgrymodd y Cadeirydd mai cwestiwn i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd hwn ac y gallai Swyddogion ymgynghori â'r Aelod i edrych i mewn ymhellach i’r mater hwn.

 

Symudodd y pwyllgor ymlaen i ystyried Atodiad C, Adolygiad Rheoli Perfformiad – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Awgrymodd y Cadeirydd mai lle'r Swyddogion oedd ymateb i'r adroddiad hwn gan ei bod yn amlwg fod Archwilio Cymru wedi gwneud ei waith a bod cynllun gweithredu wedi cael ei baratoi.

 

O safbwynt swyddog ac o safbwynt y pwyllgor, byddai’n werthfawr cael adroddiad diweddaru yn y dyfodol am y camau sydd wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argymhellion. Roedd yn bwysig i’r pwyllgor weld beth oedd wedi digwydd hyd yma, pwy oedd wedi gwneud beth a beth oedd y camau nesaf oherwydd, o leiaf, byddai gan yr Aelodau wedyn ddarlun cyflawn o’r cynllun a’r hyn oedd yn cael ei wneud.

 

Awgrymodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus y gellid gwahodd Swyddogion oedd yn gyfrifol am unrhyw argymhellion rheoleiddiol, chwe mis ar ôl adroddiad, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd. Awgrymodd ymhellach y byddai hyn yn sail i argymhelliad i’r Aelodau pan gâi’r traciwr rheoleiddio ei ystyried gan y pwyllgor ym mis Gorffennaf 2023.

 

O ran yr argymhelliad (A4) i wneud gwell defnydd o’r wybodaeth am berfformiad drwy roi blaenoriaeth i fwy o ddadansoddi data ynghyd ag ystod ehangach o wybodaeth er mwyn deall perfformiad, tynnodd Aelod sylw at waith Data Cymru.

 

Dywedodd ei fod wedi bod yn dilyn gwaith y sefydliad, a gychwynnwyd er mwyn cynorthwyo cynghorau lleol ynghylch defnyddio data. Dywedodd fod Data Cymru yn hapus i osod pobl ac adnoddau ychwanegol, yn ogystal â rhannu arfer gorau, i gefnogi gweithgareddau fel y rhai a awgrymid yn Atodiad D.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod am gysylltu â Data Cymru. Credai y byddai'n arbennig o ddefnyddiol pe bai rhywfaint o adnoddau ar gael y gellid eu defnyddio. O ran arfer da, gallai'r Cyngor weld a oedd yn dymuno ei fabwysiadu ai peidio.

 

Gan ddychwelyd at Atodiad B, tynnodd Aelod sylw at yr adroddiad ‘Amser i Newid’ – Tlodi yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022. Roedd yr Aelod yn croesawu’r adroddiad ac roedd yn falch bod sylw wedi cael ei roi ynddo i ddwy agwedd ar waith ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gofynnodd beth oedd barn Archwilio Cymru yngl?n ag ymateb y Cyngor i’r adroddiad.

 

Awgrymodd Rheolwr Archwilio Perfformiad Archwilio Cymru nad oedd Archwilio Cymru wedi gwneud unrhyw waith pellach ar y mater hwn ers cyhoeddi'r adroddiad. Gan mai dim ond yn yr hydref yr oedd yr adroddiad wedi cael ei gyhoeddi, bu'n rhaid rhoi ychydig o amser i gynghorau edrych arno ac ystyried eu hymateb. Awgrymwyd y byddai Swyddogion mewn gwell sefyllfa i ymateb o ran camau gweithredu penodol.

 

Fel rhan o waith dilynol Archwilio Cymru, yr hyn y maent yn ei wneud yw mynd yn ôl at gynghorau i ofyn iddynt sut y maent wedi ystyried eu hadroddiadau. Ysgrifennodd Archwilio Cymru at Gadeiryddion y pwyllgorau llywodraethu ac archwilio oddeutu 18 mis yn ôl i bwysleisio'r angen i roi ystyriaeth weithredol i adroddiadau. Ymhen amser, bydd Archwilio Cymru yn ceisio gwirio y bu rhyw fath o ystyriaeth ac ymateb. Caiff hyn ei wneud drwy edrych drwy'r olrheinwyr rheoleiddiol y mae cynghorau yn eu cynhyrchu. Efallai y bydd Archwilio Cymru hefyd yn dod yn ôl i ofyn i Gyngor pa gamau gweithredu a chynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

 

Ymatebodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus hefyd drwy nodi na fyddai'r materion hyn yn cael eu nodi yn ein holrheiniwr rheoleiddio oherwydd bod hwnnw'n nodi argymhellion penodol i'r Cyngor. Fodd bynnag, mae gan y cynllun corfforaethol nod benodol o gwmpas trechu tlodi a chefnogi pobl mewn angen, a bydd ymrwymiadau a dangosyddion perfformiad yn erbyn hyn am y pum mlynedd nesaf.

 

Daeth yr Aelod yn ôl i awgrymu ei fod yn anghytuno â bron bopeth a ysgrifennwyd yn y paragraff oedd yn crynhoi’r adroddiad yn Atodiad B, ac yn enwedig yr adran oedd yn honni, “oherwydd cymhlethdod a natur y materion, nid yw cyfanswm y gwariant yn hysbys, ac nid oes yr un cyngor yn gwybod faint mae'n ei wario ar liniaru a threchu tlodi”. Tynnodd yr Aelod sylw at yr holl grantiau a gwariant dewisol o ffynonellau lluosog oedd yn cefnogi pobl yn y sir a’i bod yn glir y gellid defnyddio’r rhain i ddechrau’r broses o ddefnyddio data i ddeall yr hyn sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â thlodi yn lleol ac ar draws Cymru.

 

Ymatebodd y Cadeirydd drwy ddweud mai mater i bwyllgorau eraill, gan gynnwys y pwyllgorau craffu, oedd mynd i'r afael â'r materion hyn. Rôl y pwyllgor oedd edrych ar y mecanweithiau sicrwydd oedd ar waith o ran cyflawni ar y materion hyn. Nododd ei fod yn sicr y byddai Swyddogion yn codi hyn gyda'u cydweithwyr eraill mewn perthynas â'r pwyntiau hynny.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid drwy ddatgan bod yr Aelod yn gywir wrth honni y gellid llunio rhestr o'r grantiau hynny sy'n mynd i'r afael â thlodi er nad yw'r cymorth a ddarperir i gyd yn cael ei ariannu gan grantiau. Nododd fod ganddi rywfaint o gydymdeimlad â'r sylw ynghylch pa mor gymhleth ydyw ac anodd ei olrhain. Ond o ystyried bod hwn yn faes sy'n peri pryder, efallai y byddai’r pwyllgor yn dymuno ei gyfeirio ymlaen i'w ystyried gan bwyllgorau eraill.

 

Gan gyfeirio at adroddiad Archwilio Cymru ar Gydweithio rhwng Gwasanaethau Brys (Ionawr 2022), nododd Aelod ei fod yn un o ddau gynrychiolydd y Cyngor i Awdurdod Tân De Cymru. Roedd gweithio ar y cyd ar frig yr agenda ac roedd llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o ran TG a'r swyddfa gefn. Er mwyn dangos gwerth cydweithio, tynnodd sylw hefyd at enghraifft lwyddiannus yn ymwneud â’r gwasanaethau ambiwlans a thân ym Maesteg, sy’n rhannu safle.

 

Tynnodd yr Aelod sylw hefyd at adroddiad y Taliadau Uniongyrchol (Ebrill 2022) oedd yn edrych ar ddewis gwahanol i ofal neu gymorth a drefnir gan awdurdodau lleol. Dywedodd fod y system yn gymaint o newid, o ran sicrhau ein bod yn rheoli a'n bod yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ein sir. Ychwanegodd ei fod yn deall bod y system yn dod ar gost sylweddol o ran adnoddau ac o ran staff a’n bod ni i raddau helaeth iawn mewn proses drosiannol. Gofynnodd a oedd unrhyw arwydd o faint o adnoddau ychwanegol oedd yn mynd i mewn i'r broses hon yng Nghymru.

 

Atebodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid drwy nodi y byddai'n hapus i drafod hyn ymhellach gyda'r Aelod all-lein.

 

Gan gyfeirio’n ôl at sylwadau am ddiogelwch data yn gynharach yn y cyfarfod, roedd ar Aelod eisiau tynnu sylw at waith arall oedd yn edrych ar arfer gorau mewn cynghorau eraill ynghylch ansawdd data a rheoli data. Credai fod y cyngor yng nghanol y criw cyn belled ag yr oedd y materion hyn yn y cwestiwn ymhlith y ddau gyngor ar hugain. O ran arfer gorau, mae rhai cynghorau wedi sefydlu timau data arbenigol, sydd wedyn yn meddiannu pwnc llywodraethu data, ansawdd data ar draws yr awdurdod cyfan, nid mewn maes penodol yn unig. Awgrymodd y dylai'r cyngor ystyried sefydlu tîm data pwrpasol. Credai fod achos busnes cadarnhaol dros wneud hyn, oherwydd eu bod yn dod o hyd i broblemau o fewn y data sydd wedyn yn adlewyrchu refeniw a gollwyd neu wariant sy'n wariant diangen.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid ystyried sôn am hyn wrth y tîm rheoli i'w ystyried ymhellach. Awgrymodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Aelod wedi codi mater allweddol, ond roedd arni eisiau sicrhau'r Aelodau fod hyn ar radar y Cyngor eisoes. Trafodaethau yngl?n â’r holl ddata sydd gan y Cyngor a sut y gellid ei dynnu ynghyd fel y gallwn yn gyntaf ei wirio, ei ddadansoddi, gweld beth mae'n ei ddweud wrthym, a gweithredu arno. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yngl?n â’r ffordd yr ydym yn rheoli data ar draws yr awdurdod, a beth yw’r fan orau i’w leoli, a beth yw’r ffordd orau o wneud hynny.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurder ynghylch pa bwyllgor fyddai'n edrych ar y materion hyn wrth i gynlluniau yn y maes hwn ddod at ei gilydd. Awgrymodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai hynny'n fater i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

Rhoddodd Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus drosolwg o ymateb y Cyngor i’r Adolygiad Rheoli Perfformiad (Atodiad C).

 

Cydnabu fod problemau yr oedd angen mynd i'r afael â hwy ond ychwanegodd fod rhai ffactorau lliniarol i'w cadw mewn cof.

 

Yn gyntaf, cynhaliwyd yr adolygiad ddiwedd yr haf pan oedd y tîm perfformiad i lawr i un person. Yn ail, nid oedd yr un testun syndod yn yr adroddiad. Roedd yn adleisio’n union yr hyn a godwyd yn hunanasesiad y Cyngor ei hun. Ac yna yn drydydd, ar ôl i’r tîm symud i dîm y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus ym mis Tachwedd, mae cynllun gwella rheoli perfformiad wedi cael ei ddatblygu, sydd wedi cael ei ystyried gan CMB a CCMB. Mae'r prif flaenoriaethau wedi cael eu hamlinellu fel capasiti rheoli perfformiad, yn y tîm perfformiad corfforaethol a gweithio ar berfformiad ar draws y Cyngor, a hefyd y Fframwaith Rheoli perfformiad.

 

Mae hefyd yn cynnwys materion a godwyd gan Archwilio Cymru fel dangosyddion perfformiad nad ydynt yn cwmpasu ehangder ein hamcanion llesiant, dangosyddion perfformiad sy’n canolbwyntio ar ymrwymiadau yn hytrach na’r hyn yr ydym mewn gwirionedd yn ceisio ei gyflawni a diffyg canolbwyntio ar ddata canlyniadau. Mae'n ymdrin ag ansawdd a chywirdeb data, gan gynnwys datblygu dogfennau yn diffinio dangosyddion perfformiad a thystiolaeth a data meincnodi gwell, yn ogystal â gwella diwylliant ein perfformiad, a diffinio rolau a chyfrifoldebau yn gliriach. Yn olaf, mae’n ymdrin â’r system rheoli perfformiad, sy’n hen system nad yw’n cael ei defnyddio i’w llawn botensial. 

 

Mae yna rai enillion cyflym a phethau sydd eisoes ar y gweill.

 

O ran meithrin gallu yn y tîm, mae pedwar o raddedigion wedi cael eu penodi yn lle’r Swyddog ar secondiad. Mae adroddiadau CPA wedi newid, ac felly adroddir crynodeb o’r argymhellion yn ogystal â’r wybodaeth fanwl am berfformiad ac rydym wedi ychwanegu cyfarfod yn ôl i’r calendr ar gyfer Chwarter 3.

 

Gofynnwyd i Archwilio Mewnol gynnal archwiliad o ddangosyddion perfformiad, ac adroddodd yn ôl ar ffurf drafft yr wythnos hon. Rhoddodd hyn sicrwydd rhesymol mewn nifer o feysydd gan gynnwys cywirdeb ac adrodd synhwyrol.

 

Cafodd yr olrheiniwr rheoleiddio ei greu fel bod holl adborth archwilio a rheoleiddio’r Cyngor yn un lle ac yn cael ei oruchwylio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Cesglir gwybodaeth ychwanegol yn chwarterol fel rhan o’r mesur perfformiad chwarterol arferol i wella ein proses hunanasesu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn ogystal, ceir dull gwahanol o gynllunio corfforaethol ac mae cynllun cyflawni’r cynllun corfforaethol wrthi’n cael ei ddatblygu, sy'n cynnwys craffu cyn penderfynu a llawer o ymwneud ac ymgysylltu ag Aelodau a rhanddeiliaid eraill.

 

Yn ogystal â hynny, y bwriad yw llenwi’r swydd sy’n dal yn wag yn y tîm, a dod o hyd i gartref parhaol i’r tîm perfformio.

 

Bydd y tîm hefyd yn datblygu fframwaith perfformiad newydd wedi ei ddiweddaru ar gyfer y Cyngor ac yn darparu canllawiau wedi eu diweddaru ar rolau, cyfrifoldebau, a dyddiadau a gofynion adrodd. Mae ar y tîm hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth o'r cynllun corfforaethol a chynllun cyflawni'r cynllun corfforaethol drwy sesiynau sefydlu, e-ddysgu a briffio staff.

 

Mae camau gweithredu hefyd ar gyfer timau cymorth busnes a pherfformiad mewn cyfarwyddiaethau, fydd yn y tymor byr yn ymwneud ag amserlenni a chywirdeb data a sylwadau, ymatebion i heriau a hefyd cefnogi datblygiad y dangosyddion newydd ar gyfer cynllun cyflawni'r cynllun corfforaethol.


Yn y tymor hwy, mae’r gwelliannau sydd eu hangen yn fwy sylweddol ac yn fwy strategol, ac felly mae mwy o ganolbwyntio ar bethau fel diwylliant ac fel y cyfryw bydd angen iddynt gael eu harwain o’r brig gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol. Mae’r rheiny’n bethau fel datblygu diwylliant herio cryfach, gwella’r modd y mae Aelodau’n craffu ar berfformiad, ac ystyried system i gymryd lle’r system TG rheoli perfformiad.

 

Nododd Aelod fod hwn yn bwnc pwysig oherwydd na ellir mesur perfformiad y Cyngor oni bai bod y data craidd gennym, a chyfrifoldeb y Prif Weithredwr yw hyn. Aeth ymlaen i ddweud bod hon yn rhaglen waith enfawr, heriol dros ben, hynod o eang ac yn ymwneud â diwylliant y Cyngor, sy’n dod oddi wrth y Prif Weithredwr. O’r herwydd, gofynnodd yr Aelod i’r rhai sy’n gosod ac yn adolygu amcanion y Prif Weithredwr gynnwys un penodol ynghylch dangosyddion perfformiad ar gyfer y rhaglen waith hon.

 

Mewn ymateb awgrymodd y Cadeirydd, er nad oedd yn fater uniongyrchol i'r pwyllgor hwn, y gallent yn sicr ofyn i'r Cabinet ystyried y mater hwn ac a ellid ei gynnwys mewn unrhyw arfarniad o'r Prif Weithredwr yn y dyfodol.

 

Nododd Aelod arall y wybodaeth bryderus iawn yn adroddiad Archwilio Cymru, yn enwedig sut aeth y Cyngor i sefyllfa lle nad oedd ond un aelod o staff yn y Tîm. Credai mai rhan o rôl y Pwyllgor oedd gwneud yn si?r nad oedd hynny'n digwydd eto, a'i bod yn hanfodol bod adrannau'n cael eu staffio'n briodol. Gwnaeth yn glir ei fod yn cefnogi'n llwyr y camau gweithredu a'r argymhellion a gyflwynwyd gan y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus.

 

Nododd y Cadeirydd fod Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi codi'r mater hwn gyda'r Prif Weithredwr ac mai'r Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Cyhoeddus oedd y Swyddog cyfrifol. Roedd yn gobeithio bod Aelodau o’r Pwyllgorau wedi cael sicrwydd bod hyn yn derbyn sylw ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno maes o law ar y cynnydd oedd yn cael ei wneud.

 

Ychwanegodd y gallai'r gwaith hwn, ochr yn ochr â'r awgrymiadau a wnaed gan Aelod arall, ar werth data a pherfformiad, alluogi Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i arddangos arfer da a chael ei weld fel esiampl unwaith y deuid i  ddiwedd y gwaith hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd y Pwyllgor Adroddiadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gan Archwilio Cymru yn Atodiadau A, B ac C, ac ymateb y rheolwyr i'r Adolygiad Rheoli Perfformiad yn Atodiad D.

 

Argymhellodd y pwyllgor fod Swyddogion yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf fel y bo’n briodol i bwyllgorau ar y ffordd y mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i’r afael ag agenda tlodi ac yn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru, ‘Amser i Newid’ – Tlodi yng Nghymru (Tachwedd 2022).

 

Dogfennau ategol: