Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Canlyniad Proses Ymgynghori Ysgol Gynradd Coety

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad oedd yn gwneud y canlynol:

 

       hysbysu'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ynghylch ehangu Ysgol Gynradd Coety;

 

       cyflwyno canfyddiadau'r ymgynghoriad mewn adroddiad ymgynghori manwl (Atodiad A);

 

       gofyn am benderfyniad ynghylch y canlynol mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Coety:

 

       gofyn am gymeradwyaeth i naill ai cyhoeddi'r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt a chyhoeddi hysbysiad cyhoeddus fel y nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018;

 

       rhoi'r gorau i'r cynigion; neu

 

       ailwampio'r cynigion yn sylweddol ac ail-ymgynghori ar y dewisiadau canlynol:

 

  • newid categori iaith yr Ysgol i gyfrwng Cymraeg; neu
  • newid categori iaith yr Ysgol i ddwyieithog.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Coety, oedd yn ysgol gyda dau ddosbarth mynediad wedi ei lleoli ar Barc Derwen, wedi cael ei hadeiladu yn ystod Band A y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a'i hagor ym mis Tachwedd 2015. Ers hynny, adeiladwyd datblygiadau tai ym Mharc Derwen oedd yn golygu bod angen estyniad i Ysgol Gynradd Coety.

 

Ar 15 Mehefin 2022, cafwyd cymeradwyaeth y Cyngor i gynnwys y cynllun yn y rhaglen gyfalaf a defnyddio adnoddau cyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) i ariannu’r estyniad. Unwaith y byddai’r cyfraniad adran 106 wedi dod i law (tua £300 mil i gyd), byddai’r cyllid hwn yn disodli rhywfaint o gyllid CBSP. Roedd cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Esboniodd fod y ddarpariaeth feithrin wedi cael ei hadolygu cyn dechrau'r ymgynghoriad a bod y wybodaeth am hyn wedi cael ei nodi yn 4.1 o'r adroddiad. Mae'r cynnig i ehangu'r ysgol yn rhan o strategaeth ehangach i gynyddu nifer y lleoedd i ddisgyblion i wasanaethu ardal gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr ac mae strategaeth fesul cam wedi cael ei mabwysiadu i ehangu'r ddarpariaeth gynradd fel y nodir yn 4.2 yr adroddiad. Roedd rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd i’w gweld yn adran 4 yr adroddiad. Ychwanegodd fod angen ystyried yn neilltuol hefyd p’un ai am addysg gyfrwng Cymraeg ynteu am addysg Saesneg yr oedd y galw yng Ngogledd Ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr fel yr amlinellwyd yn 4.6 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod crynodeb o’r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion yr awdurdod lleol wedi cael eu darparu yn yr adroddiad ymgynghori fel y manylir arno yn Atodiad A yr adroddiad hwn. Byddai angen i'r Cabinet ystyried yr adroddiad ymgynghori a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Pe bai'r Cabinet yn dymuno symud ymlaen â'r cynnig, cam nesaf y broses fyddai cyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu'r cynnig, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 diwrnod. Câi gwrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol eu gwahodd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Croesawodd Aelod y Cabinet dros Addysg yr adroddiad a diolchodd i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn ogystal â Chynrychiolwyr Fforwm y Gymraeg mewn Addysg oedd yn gweithio gyda CBSP yn ein hymrwymiad i Addysg Gyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref. Rydym hefyd wedi ystyried yr asesiad effaith ar y Gymraeg yn ofalus i sicrhau ein bod yn cynnig darpariaeth ragorol i blant yn y lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Adfywio, ar ôl darllen yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg, a allai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol amlinellu'r hyn yr ydym yn ei wneud i gynnig dewis cyfartal o addysg gyfrwng Cymraeg a Saesneg yn rhanbarth Coety a Gorllewin Bracla.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod ar ddisgyblion o ardal Coety yn draddodiadol eisiau addysg gyfrwng Cymraeg a’u bod yn mynychu Ysgol Bro Ogwr. Fel rhan o Raglen Moderneiddio Ysgolion Band B, rhoddwyd cymeradwyaeth y Cabinet i wneud newid rheoledig i Ysgol Bro Ogwr yn ffurf ehangu. Bydd yr ysgol newydd yn derbyn 2.5 dosbarth y flwyddyn gyda 225 o leoedd i ddisgyblion yn ogystal â dosbarth meithrin a dosbarth arsylwi ac asesu. Caiff yr ysgol ei hadeiladu wrth dir Ffordd Cadfan sydd yn nalgylch Ysgol Gynradd Coety.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd mewn perthynas ag agweddau eraill ar fywyd ysgol a oeddem yn ôl-osod yn unrhyw le. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ein bod yn gwneud hyn ac mai un nod oedd edrych ar y ffordd i wneud gwell defnydd o adnoddau yn yr ysgol gan gynnwys y Cae 4G a newidiadau i neuadd yr ysgol er mwyn darparu’n well ar gyfer mentrau sydd wedi cael eu cynllunio yno.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a ymgynghorwyd ag ESTYN ynghylch y broses hon. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr ymgynghorwyd â hwy ac nad oeddent wedi codi unrhyw faterion na phryderon ynghylch y cynigion.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gadarnhad yngl?n â'r camau y mae Ysgol Gynradd Coety wedi eu cymryd i hyrwyddo'r Gymraeg. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Ysgol Gynradd Coety, ymhlith dros 15 o ysgolion eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi ennill gwobr Cymraeg Campus a roddir i ysgolion sy'n dangos ymdrech arbennig o gadarnhaol i hyrwyddo'r Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y  Cabinet:

 

  • yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad ynghylch ehangu arfaethedig Ysgol Gynradd Coety;
  • yn cymeradwyo cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad (Atodiad A).

Dogfennau ategol: