Agenda item

Penodiadau i Bwyllgorau a Chyrff Eraill y Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, a’i ddiben oedd gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer penodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r cyfryw Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill ag yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi eu cadw i’r Cyngor llawn nac ychwaith yn swyddogaethau gweithredol.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yr oedd yr Atodiadau ategol canlynol:-

 

       Rôl, cylch gwaith a swyddogaethau Pwyllgorau a Chyrff eraill y Cyngor - Atodiad 1;

       Cydbwysedd gwleidyddol arfaethedig Pwyllgorau, ac yn y blaen - Atodiad 2

       Strwythur Arfaethedig Pwyllgorau - Atodiad 3

 

Roedd paragraff 4.11 yr adroddiad yn argymell rhai newidiadau i Dempled yr Adroddiad Corfforaethol yr oedd ei angen bellach ar gyfer pob adroddiad Pwyllgor. Roedd y newidiadau hyn yn ymwneud ag ymgorffori dyletswydd economaidd-gymdeithasol a’r goblygiadau ar gyfer y Gymraeg, cysylltiadau â’r newid yn yr hinsawdd, diogelu a rhianta corfforaethol, yn ogystal â chynnwys crynodeb gweithredol, er mwyn i’r sawl fyddai’n darllen yr adroddiad a’r sawl fyddai’n gwneud penderfyniadau allu ymgyfarwyddo’n gyflym â chynnwys yr adroddiad. Cynigiwyd bod y templed newydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adroddiadau Pwyllgorau o 18 Mai 2023, yn dilyn cyfarfod heddiw.

 

PENDERFYNWYD:                         Bod y Cyngor :-

 

(1)            wedi penodi'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a’r cyfryw Bwyllgorau eraill ag yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn briodol i ymdrin â materion nad ydynt wedi cael eu cadw i'r Cyngor llawn nac yn swyddogaethau gweithredol;

 

(2)            wedi pennu maint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(3)            wedi penderfynu ar ddyraniad y seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad;

 

(4)            wedi penderfynu pa grwpiau gwleidyddol a gynrychiolid yn y Cyngor oedd â'r hawl i wneud pa benodiadau Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu;

 

(5)            wedi derbyn enwebiadau ac wedi penodi Cynghorwyr i wasanaethu ar bob un o’r Pwyllgorau, Paneli a chyrff eraill (fel y nodwyd), fel sydd ynghlwm fel Atodiad i’r cofnodion hyn:-

 

·       Panel Apeliadau

·      Pwyllgor Penodiadau

·       Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

·       Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

·       Pwyllgor Rheoli Datblygu

·       Pwyllgor Trwyddedu

·       Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003

·       Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned

·       Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1

·       Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2

·       Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3

·       Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol 

 

(6)   Wedi derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau, Paneli a chyrff eraill a ganlyn (fel y nodwyd), gan nodi y bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf a drefnir yn penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd, o blith ei Aelodau Lleyg:

 

Ar gyfer penodi Cadeirydd y Panel Apeliadau, derbyniwyd dau enwebiad, a gynigiwyd ac a eiliwyd yn briodol, sef Y Cynghorydd H Bennett a'r Cynghorydd N Clarke.

 

Felly cynhaliwyd pleidlais, a’r canlyniad oedd:-

 

Y Cynghorydd Bennett – 29 pleidlais

Y Cynghorydd Clarke   – 18 pleidlais

Nid oedd neb yn ymatal

 

PENDERFYNWYD:    Penodi’r Cynghorydd H Bennett yn Gadeirydd y Panel Apeliadau am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2024.

 

Derbyniwyd yr enwebiadau pellach canlynol:

 

Panel Apeliadau – Is-Gadeirydd – y Cynghorydd E Caparros (heb wrthwynebiad)

Pwyllgor Penodiadau – Cadeirydd – y Cynghorydd HJ David a’r

     Is-Gadeirydd – y Cynghorydd J Gebbie – (y ddau heb wrthwynebiad)                                                                         

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Cadeirydd – y Cynghorydd T Thomas (heb wrthwynebiad)

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Cadeirydd (a ymleddir) a’r

     Is-Gadeirydd – y Cynghorydd S Griffiths (heb wrthwynebiad)

Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 – Cadeirydd – y Cynghorydd M Lewis a’r   

     Is-Gadeirydd Y Cynghorydd R Williams (y ddau heb wrthwynebiad)

Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned – Cadeirydd – y Cynghorydd HJ David a'r

     Is-Gadeirydd - y Cynghorydd J Gebbie (y ddau heb wrthwynebiad).

Derbyniwyd dau enwebiad ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu, a gafodd eu cynnig a'u heilio, sef y Cynghorydd RM Granville a'r Cynghorydd D Hughes.

 

Felly cynhaliwyd pleidlais, a’r canlyniad oedd:-

 

Y Cynghorydd RM Granville – 29 pleidlais

Y Cynghorydd D Hughes – 21 pleidlais

Nid oedd neb yn ymatal

 

PENDERFYNWYD:         Penodi'r Cynghorydd RM Granville yn Gadeirydd y

Pwyllgor Rheoli Datblygu am y flwyddyn ddilynol, hyd at fis Mai 2024.          

 

(7)  Wedi derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu canlynol yn unol â darpariaethau paragraff 4.3 yr adroddiad, fel a ganlyn:

 

               Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1 – Y Cynghorydd Alex Williams (heb wrthwynebiad)

               Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 2 – Y Cynghorydd F Bletsoe (heb wrthwynebiad)

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 3 – Y Cynghorydd P Davies (heb wrthwynebiad).

Dogfennau ategol: