Cofnodion:
Traddododd y Maer yr araith ymadawol a ganlyn.
‘Mae’n sicr wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd cyflawni rôl Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyn imi grynhoi’r daith nodedig hon, hoffwn ddweud wrthych am ddigwyddiad anhygoel a gynhaliwyd yma yn Siambr y Cyngor.
Ar 14 Ebrill cynhaliwyd seremoni fabwysiadu gennym yn y Swyddfeydd Dinesig. Digwyddiad oedd yn dod â phroses fabwysiadu ar gyfer pobl ifanc arbennig i ben.
Gall pob un ohonom gydnabod bod Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar, efallai am rai rhesymau anghywir, ond mae'r digwyddiad hwn yn darlunio’r gwaith anhygoel parhaus sy'n cael ei wneud i gefnogi plant ifanc nad ydynt efallai wedi cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Ymwelodd saith teulu gwahanol â Siambr y Cyngor. Teuluoedd estynedig balch yr oedd yn bleser eu cyfarfod. Roedd y cariad a’r edmygedd a ddangosid tuag at y plant i’w deimlo ac roedd eu gwylio’n rhedeg o amgylch y Siambr, rhai ohonynt yn eistedd yng nghadair y Maer yn gwisgo cadwyn y Maer gyda balchder ac yn gwneud defnydd da o’r morthwyl graean pren hwn, yn bleser i’w wylio.
Nid wyf yn petruso o gwbl cyfaddef fy mod ar rai adegau, wrth gynnal busnes swyddogol y digwyddiad, wedi cael anhawster i reoli fy emosiynau fy hun.
Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad anhygoel hwn, yn enwedig ein Cyfarwyddwr Clare Marchant ac Aelod y Cabinet/y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Jane Gebbie, rydych yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth, ac felly llongyfarchiadau i chi i gyd.
Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel. Mae cael mynychu cymaint o ddigwyddiadau yn y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt wedi bod yn wych. Gaf i ddiolch i bawb am fy ngwahodd i’ch achlysuron arbennig?
O ddigwyddiadau cymunedol i ysgolion a cholegau, digwyddiadau elusennol, i gyngherddau gyda'r nos a llawer o seremonïau gwobrwyo. Roeddwn yn cael fy nghyfarch â chwrteisi a gwerthfawrogiad bob tro.
Os oes yna un neges, y gallaf ei chyfleu i eraill, honno yw bod y Fwrdeistref Sirol hon yn gyfoethog o bobl anhygoel sy'n Falch ac yn Gadarnhaol. Yn rhy aml mae'r newyddion / cyfryngau yn canolbwyntio ar agweddau negyddol bywyd modern.
Efallai, efallai, y gallent fynd allan i gymunedau a chyfarfod â'r bobl anhygoel yma sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas. Pobl nad ydynt yn edrych am wobr na chydnabyddiaeth ond yn mynd ymlaen â bywyd bob dydd i gefnogi eraill.
Mae ein proses Gwobrau Blynyddol y Maer yn nodi'r positifrwydd hwn yn glir.
Felly, mae Aelodau yn parhau i wneud yr enwebiadau hynny, mae gan bob ward, pob tref yr hyrwyddwr cymunedol hwnnw.
Roedd marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn sydyn ac annisgwyl. Cyfnod trist a difrifol i ni i gyd.
Roedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel pob ardal arall ar draws y Gymanwlad mewn cyflwr o alar. Mynychais lawer o wasanaethau mewn eglwysi ac yn yr eglwys gadeiriol a gwelais â'm llygaid fy hun y parch cymunedol a ddangoswyd tuag at y ddiweddar frenhines.
Roedd darllen y datganiad i gyhoeddi marwolaeth y Frenhines a deyrnasodd hiraf a chychwyn dechreuad teyrnasiad Brenin newydd, y Brenin Charles III, yn anrhydedd.
Roedd y gynrychiolaeth o Gynghorau Tref a Chymuned y tu allan i’r Swyddfeydd Dinesig ar gyfer y seremoni gyhoeddi yn dangos y bartneriaeth unigryw a'r undod sy'n bodoli yn y Fwrdeistref Sirol ardderchog hon.
Gaf i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r Cynghorydd Andrew James, Maer Tref Maesteg, am ei gyfeillgarwch a’i wahoddiad i lawer o ddigwyddiadau yng Nghwm Llynfi.
Yn yr un modd, i’r Cynghorydd Leanne Lewis yng Nghyngor Tref Pencoed ac i’r Cynghorydd Mark Chegwen yng Nghyngor Tref Porthcawl. Yn olaf, hefyd i'r Cynghorydd Tim Wood, Maer Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a'i gydymaith Clare.
Llwyddodd y Cynghorydd Wood a minnau i fynychu llawer o ddigwyddiadau gyda’n gilydd lle roedd gan y ddau ohonom yr un awydd i hybu nid yn unig Tref Pen-y-bont ar Ogwr ond y Fwrdeistref Sirol gyfan. Roedd yn amlwg i mi fod y Cynghorydd Wood yn ymfalchïo’n fawr yn y Dref a’r Fwrdeistref. Er fy mod yn arswydo rhag gweld unrhyw ffilm fideo a allai fod ar gael o'n hymdrechion mewn dawnsio gwerin yn gwisgo Cadwyni ein Swyddi priodol.
Penderfynais beidio â hyrwyddo Elusen y Maer yn rhagweithiol eleni. Gyda’r argyfwng costau byw sy’n cynyddu drwy’r amser a rhai teuluoedd yn ymdrechu i roi bwyd ar y bwrdd, nid oedd yn teimlo'n iawn i wneud hynny. Dechreuais yn bwrpasol fynychu cymaint o ddigwyddiadau elusennol lleol ag y gallwn er mwyn bod o gymorth i hyrwyddo Elusennau sy'n cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed.
Fodd bynnag, fe wnaethom godi swm o dros £2,500.00, fydd yn cael ei ddyrannu i elusen yn yr Wcráin.
Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd, gan gynnwys i Ddraig y Cyngor lle casglwyd £130 at elusen yn dilyn dyfalu ei henw, sef ‘Dewi’, fel y’i dewiswyd yn gywir gan Y Cynghorydd H Griffiths.
Hefyd, diolch yn fawr i’r holl dîm a wnaeth fy nghefnogi yn ystod y flwyddyn aeth heibio.
Rachel, Ruth, Nimi a Mark Galvin, sef Benjamin Button yr Awdurdod. Ymddiheuriadau os ydw i wedi gadael unrhyw un allan.
Mae yna un aelod o'r tîm sy’n ddarn hanfodol o’r peiriant sy’n fy nghefnogi i fy hun.
Roger Harrison, sydd nid yn unig yn Yrrwr Car y Maer ond yn Gynorthwyydd Personol, yn Drefnydd, yn Gynghorydd Areithio a'r person y mae arnoch ei angen wrth eich ymyl beth bynnag fo'r digwyddiad.
Mae Mr Harrison yn ased i'r Awdurdod hwn, a chydnabyddir ei broffesiynoldeb a'i sylw i fanylion ymhell y tu draw i ffiniau'r Fwrdeistref Sirol.
I bob aelod yn y Siambr, boed yn rhithiol neu fel arall, a’m cefnogodd ac a ganiataodd i mi fod yn Faer i chi, gobeithio fy mod wedi medru eich cynrychioli gydag uniondeb, balchder ac angerdd.
Mae llawer o swyddogaethau yn perthyn i Swydd y Maer ar wahân i gyfrifoldebau Dinesig. I mi mae’r angen i gynnal uniondeb y siambr hon yn hollbwysig, er mwyn sicrhau y gall pob aelod gynrychioli ei ward beth bynnag fo’i safbwynt gwleidyddol a chyfrannu at ddadl.
Holl bwrpas y siambr hon yn sicr yw cydweithio, darparu cynrychiolaeth gyhoeddus a rhoi’r dinesydd yn gyntaf pan fyddwn yn ceisio gwneud y gorau oll ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Hyderaf fy mod wedi gallu hwyluso hyn yn ystod fy nghyfnod yn y swydd. Felly unwaith eto diolch. Mae wedi bod yn bleser o’r mwyaf ac yn fraint i fod yn Faer i chi am 2022/2023.