Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jon-Paul Blundell – Aelod Cabinet Addysg
Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Susan Roberts - Rheolwr Gr?p (Cymorth i Ysgolion)
Michelle Hatcher - Rheolwr Grwp Cynhwysiant a Gwella Ysgolion
Gaynor Thomas - Rheolwr Rhaglen Ysgolion
Robin Davies – Rheolwr Gr?p Cymorth Busnes
Mark Lewis - Rheolwr Gr?p Cymorth i Deuluoedd
Clara Seery - Rheolwr Gyfarwyddwr - Consortiwm Canolbarth y De
Natalie Gould - Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cwricwlwm a Dysgu Proffesiynol
Darren Jones – Prif Bartner Gwella - Consortiwm Canolbarth y De
Nicole Goggin-Jones – Prifathro – Ysgol Gynradd Nantyfyllon
Mike Street – Prifathro – Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-Fai
Ravi Pawar - Prifathro - Ysgol Gyfun Bryntirion – Cadeirydd BASH
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi cyfle i’r Pwyllgor weld a chynnig sylwadau ynghylch y fersiwn drafft o Gynllun Strategol 2023-2026 y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd a’r Gwahoddedigion a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:
· Y 15 thema strategol a nodwyd sy’n sail i’r cynllun strategol tair blynedd, gan drafod:
- Naratifau'r themâu hynny
- Y dangosyddion llwyddiant: sut y cawsant eu mesur yn gywir, a safoni prosesau ar gyfer ysgolion
- Y manylion yn y cynllun a sut y cyflawnwyd themâu, a'r cymorth a gynyddwyd
- Dealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd
- Data wedi’u cydgrynhoi er mwyn cymharu
- Hyfforddi Swyddogion
· Presenoldeb disgyblion, lefelau absenoldeb, perchnogaeth presenoldeb a chyfrifoldeb.
· Modiwlau hyfforddi statudol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion a hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael a pha un ai a ddylai mwy o hyfforddiant fod yn orfodol.
· Ôl-groniad o waith cynnal a chadw mewn rhai adeiladau ysgol h?n, cynnydd mewn biliau cyfleustodau a pha gymorth oedd ar gael.
· Cynnydd o ran hyfedredd yn y Gymraeg ymhlith pobl iau ac oedolion, ystyried cyflwyno dalgylchoedd cyfrwng Cymraeg, dyhead yr Awdurdod Lleol i gynyddu nifer y dysgwyr yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg a darpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol.
· Canllawiau hunanwerthuso CAMG a sut y gallai statws pob thema wella dros gyfnod y cynllun strategol.
· Y galw am wasanaethau cwnsela i blant a rhieni a’r amseroedd aros, cymorth arbenigol i’r dysgwyr hyn a’r dadansoddiad mapio a chanfod bylchau a gynhaliwyd i weld pa gymorth a oedd ar gael ac i nodi unrhyw fylchau.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd rhagor o gwestiynau gwahoddedigion i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd y gallent adael y cyfarfod
PENDERFYNWYD: Ar ôl ystyried yn fanwl a thrafod ag Aelodau’r Cabinet a Swyddogion, cynigiodd y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
1.
Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch cadw staff ysgolion a'u
llesiant. Fe wnaethant drafod pwysigrwydd y cymorth a gâi
disgyblion ar gyfer eu llesiant ac roeddent yn credu y dylai
llesiant staff fod yn flaenoriaeth gyfartal. Argymhellodd yr
aelodau y dylid cryfhau'r naratif ynghylch y cymorth ar gyfer staff
yn T1 Lles disgyblion a staff i adlewyrchu
hyn.
2.
Yn
ystod trafodaethau ynghylch presenoldeb disgyblion a lefelau
absenoldeb, gofynnodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r rhesymau dros
absenoldeb a nifer yr absenoldebau ac fe wnaethant argymell y dylid
cynnyws y rhain yn y Cynllun.
3.
Fe wnaeth yr aelodau
ystyried y dangosyddion llwyddiant yn ymwneud â T2
Cymorth ar gyfer ymddygiad, presenoldeb a gwaharddiadau
disgyblion a phwysleisiwyd na fyddai asesu cynnydd tuag at
gyflawni'r amcan 'gostyngiad mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a
pharhaol' yn ystyrlon oni byddai pob ysgol yn cadw at y Polisi
Presenoldeb Ysgolion i sicrhau cysondeb. Argymhellodd yr Aelodau y
dylid cyfeirio at Bolisi safonol ynghylch Gwaharddiadau yn y
Cynllun i gynnig sicrwydd o ran y data a ddarperid a sicrhau y
gellid mesur y gwelliannau yn gywir.
4.
Argymhellodd yr aelodau y dylid cynnws mwy o fanylion penodol
yn y Cynllun ynghylch sut y gellid mynd ati’n flynyddol i
fesur yr uchelgais ar gyfer cwblhau’r modiwlau hyfforddi
statudol gan Lywodraethwyr Ysgol a darparu gwaelodlin yn y Cynllun
i amlygu’r targed i’w
gyflawni.
5.
Nododd yr aelodau'r cynllun i gynyddu'r gefnogaeth i rieni
sydd â phlant bregus o dan T3 Cymorth i blant a phobl
ifanc bregus ac argymhellwyd y dylid cynnwys rhagor o
fanylion yn y Cynllun ynghylch sut i gyflawni hyn, sut y gellid
mesur y cymorth presennol a sut i sicrhau bod y cymorth yn cynyddu
yn y dyfodol.
6.
Trafododd yr Aelodau sut oedd fideo a gynhyrchwyd gan Ysgol
Gyfun Brynteg mewn perthynas â T5 Y Cwricwlwm i Gymru
ac asesu yn cynnig dealltwriaeth well o'r cwricwlwm newydd
ac fe wnaethant argymell y dylai fod gael i ysgolion eraill ac i'r
Aelodau eu hunain.
7. Trafododd yr aelodau bwysigrwydd y modiwl hyfforddiant diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion ac fe wnaethant gynnig argymhelliad i gynorthwyo’r Gyfarwyddiaeth i annog Llywodraeth Cymru i ystyried ei wneud yn ofyniad statudol.
8.
Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch cynnydd posibl mewn biliau
cyfleustodau a'r effaith ar ddisgyblion, oherwydd cyfleusterau hen
ffasiwn mewn ysgolion h?n presennol. Er bod yr Aelodau'n nodi bod
adnewyddu a chynnal a chadw ysgolion h?n o fewn cylch gorchwyl y
Tîm Eiddo ac nid y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau i
Deuluoedd, argymhellwyd y dylid parhau i gyfeirio at hyn yn y
Cynllun.
9. Trafododd yr aelodau T14 Cynllun Strategol Effeithiol ynghylch y Cymraeg mewn Addysg i hyrwyddo'r Gymraeg ac addysg Gymraeg ac roeddent yn credu ei bod yn ymddangos bod yr amcan wedi'i deilwra ar gyfer dysgwyr iau ac i wella siaradwyr Cymraeg ac argymhellwyd y dylid ehangu'r amcan gan gynnwys yr hyn sy'n cael ei wneud i hyrwyddo a gwella’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd.
10.Mynegodd yr aelodau bryder y byddai, heb ddiffiniadau o’r tair rhan wedi’u rhifo ym mhob cam o’r statws CAMG ((Coch (anfoddhaol), Ambr (digonol), Melyn (da) a Gwyrdd (ardderchog)), yn anodd deall y meini prawf ar gyfer y sgorau uchaf, canol ac isaf ym mhob statws CAMG. Argymhellodd yr aelodau y dylid ailystyried y canllawiau hunanwerthuso CAMG ac y dylid cynnal trafodaeth â phartneriaid i sicrhau bod y targedau a osodwyd yn gyflawnadwy, er enghraifft, uchelgais i gyflawni sgôr o 8 erbyn Awst 2026 gan gychwyn â sgôr cyfredol o 4 yn T2 Cymorth ar gyfer ymddygiad, presenoldeb a gwaharddiadau disgyblion a 9 erbyn Awst 2026 gan gychwyn â sgôr cyfredol o 6 yn T5 Y Cwricwlwm i Gymru ac asesu ac enghreifftiau eraill yn y Cynllun.
Gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
11.Dadansoddiad manwl o'r grantiau unigol pan fyddai’r holl grantiau wedi'u cyfuno ac ar gael, ac fe wnaeth y Swyddogion gynnig gwneud hynny, gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau ynghylch goblygiadau ariannol yr adroddiad yn cynnwys y grantiau allanol a chyllid cyfalaf a ddisgwylid ar gyfer 2023-24.
12.Y data dienw ar gyfer y Rhaglen Bwyd am Hwyl a gasglwyd o’r flwyddyn flaenorol a’r data a oedd ar gael o’r flwyddyn, pan fyddent ar gael, i alluogi Aelodau’r Pwyllgor eu cymharu, ac fe wnaeth y Swyddogion gynnig darparu hynny i Aelodau mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau ynghylch pa un ai a oedd cofnodion wedi’u cadw ynghylch cyfranogwyr y rhaglen Bwyd a Hwyl o dan 'Llwyddiannau hyd yn hyn' ac 'Amcanion Gwella' T1 Llesiant Disgyblion a Staff, a beth oedd y cynlluniau at y dyfodol.
13.Ffigurau a data ynghylch hyd amseroedd aros i weld cwnselwyr mewn ysgolion, ac fe wnaeth Swyddogion gynnig darparu hynny mewn ymateb i bryderon Aelodau ynghylch hyd amseroedd rhestrau aros i weld cwnselwyr mewn ysgolion, er nad oedd Swyddogion yn ymwybodol bod y rhestrau aros yn rhai sylweddol.
14.Data diweddar o’r monitro blynyddol a wnaed gan y
Gwasanaeth Seicoleg Addysg, ac fe wnaeth y Swyddogion gynnig
darparu hynny mewn ymateb i sylwadau’r Aelodau ynghylch
T1 Llesiant disgyblion a staff yn yr adroddiad a oedd
yn amlinellu’r cymorth a oedd wedi’i sefydlu ers tro
gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg ac yn amlygu rôl cymorth
â llesiant emosiynol a chymdeithasol y Cynorthwywyr Cymorth
Dysgu a’u hyfforddiant parhaus, gan ofyn a oedd y
rolau’n cael eu cyflawni gan staff penodedig a pha un ai a
oedd staff o’r fath ym mhob ysgol.
15.Cysylltiadau gan Gonsortiwm Canolbarth y De ynghylch y gwasanaeth llesiant staff a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
16.Mwy o wybodaeth ynghylch pryd roedd Swyddogion yn disgwyl cyflawni’r amcan yn T4 Cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a oedd yn nodi y byddai 60 o Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael hyfforddiant pwrpasol i ddiwallu anghenion disgyblion.
17.Mewn perthynas â T11 Cynnig gofal plant a blynyddoedd cynnar effeithiol, manylion amserlen mewn perthynas â sefydlu Dechrau’n Deg a pha ddarparwyr gofal plant a oedd wedi’u cynnwys ledled y Fwrdeistref Sirol.
18.Diweddariad ynghylch recriwtio staff i weithio mewn clybiau brecwast a cheginau ysgolion.
Cynigion ynghylch Rhaglen Waith y Dyfodol
Gofynnodd yr aelodau am gael cynnwys y canlynol yn Rhaglen Waith y Dyfodol ac y dylid ystyried eu hamserlenni.
- Diweddariad ynghylch proses y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol ar ôl cynnal y gwerthusiad.
- Diweddariad ynghylch uwchraddio adeiladau ysgolion presennol - rhestr o opsiynau a fyddai’n cael ei llunio ar ôl cwblhau adolygiadau ardal i'w hadrodd i'r Bwrdd Strategol Moderneiddio Ysgolion a'u hasesu.
- Adroddiad ynghylch T13 Cynnig dysgu oedolion yn y gymuned ystyrlon - gan nodi y dylai’r Pwyllgor archwilio’r adroddiad yn fanylach ac archwilio adroddiad y Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned a fyddai ar gael, yn dilyn arolygiad, ym Mehefin 2023.
- Byddai adroddiadau arolygu rheoleiddio a adroddid i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu priodol chwe mis yn ddiweddarach er mwyn monitro gweithredu’r argymhellion o'r adroddiadau a chynnydd y cynlluniau gweithredu dilynol.
Adroddiad gwybodaeth
Dogfennau ategol: