Agenda item

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd – Pwyllgorau - yr adroddiad, gan nodi mai ei ddiben oedd rhoi diweddariad i'r Aelodau am Gofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at yr eitem ar Gwynion Corfforaethol o 15 Mawrth 2022. Gofynnodd am ddiweddariad ar fater penodol y ffordd y câi cwynion ysgol eu cofnodi.

 

Dywedodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd – Pwyllgorau ei fod wedi siarad â’r Cyfarwyddwr Addysg yngl?n â’r mater hwn, ac nad oedd yna lawer, os dim o gwbl, o gwynion yn cael eu gwneud am ysgolion. Cynigiodd y gellid anfon e-bost at yr Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y sefyllfa bresennol yn hytrach na dod ag adroddiad i'r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i hyn, tynnodd Aelod sylw at bryderon a fynegwyd mewn cyfarfod cyhoeddus ynghylch cludiant ysgol yng Nghorneli ac awgrymodd mai dyma’r math o beth y dylid ei ystyried yn g?yn ynghylch ysgolion.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gellid ystyried yr holl faterion hyn fel rhan o'r eitem benodol ar yr agenda ynghylch Cwynion Corfforaethol.

 

Tynnodd Aelod Lleyg sylw at yr angen i fod yn glir ynghylch yr hyn sy’n ‘weithgarwch parhaus’ ac yn ‘weithred’ a’r hyn nad yw. Dim ond unwaith y gellir cyflawni gweithred ac ni all fod yn weithgaredd parhaus nac yn fusnes fel arfer.

 

Dywedodd Aelod Lleyg arall nad oedd yn si?r a oedd yr olrheiniwr yn nodi’r holl gamau a drafodwyd mewn cyfarfodydd, a bod risg bod camau gweithredu’n cael eu colli.

 

Roedd yn falch bod trafodaethau y tro diwethaf ynghylch blaenoriaethu’r cynllun archwilio wedi cael eu dilyn ond, unwaith eto, roedd yn meddwl ei bod yn bwysig tynnu sylw at y cam gweithredu, gan nodi sut y cafodd y mater ei ddatrys ac a yw wedi ei gau. Ychwanegodd y siaradwyd am gysoni’r dyddiau yn y cynllun archwilio y tro diwethaf, a bod hwnnw’n gam gweithredu posibl, ond nad oedd wedi cael ei nodi yn y Cofnod Gweithredu. Gallai fod manteision mewn cael mwy o fanylion yn y Cofnod Gweithredu wrth fynd ymlaen.

 

Dywedodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid fod swyddogion yn mynd drwy'r cofnodion ar ôl pob cyfarfod o'r Pwyllgor ac yna'n gwneud yn si?r eu bod yn mynd drwodd i'r Cofnod Gweithredu. Ceisiodd swyddogion roi pethau ar yr olrheiniwr oedd yn ymestyn dros fwy nag un cyfarfod fel nad oeddent yn colli golwg arnynt, ond roedd hi’n hapus i gael ei chynghori gan yr Aelodau ynghylch y ffordd orau ymlaen.

 

Daeth yr Aelod Lleyg yn ôl i awgrymu, pe bai gwaith craffu’n cael ei gynnal ar waith y Pwyllgor, y byddai’n ofynnol dangos sut yr oedd Aelodau’n olrhain ac yn dwyn i gyfrif y rheiny oedd â chyfrifoldeb am faterion o fewn maes y Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Pwyllgorau a swyddogion eraill ystyried y materion a godwyd a gwneud newidiadau i'r Cofnod Gweithredu ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Pwyllgor wedi nodi’r Cofnod Gweithredu a

gwneud sylwadau arno, fel oedd yn briodol.

Dogfennau ategol: