Cofnodion:
Cyflwynodd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (GAMRh) yr adroddiad a dywedodd mai ei bwrpas oedd rhoi’r Strategaeth Archwilio Mewnol Flynyddol a’r Cynllun Seiliedig ar Risg ar gyfer 2023-24 i Aelodau’r Pwyllgor i’w cymeradwyo.
Gofynnodd Aelod Lleyg a oedd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yn hapus gyda'r cynllun. Atebodd hithau drwy nodi bod y ddau gynrychiolydd o GAMRh wedi mynychu dau gyfarfod o’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol (BRhC) pan oeddent yn rhoi’r cynllun at ei gilydd a’u bod wedi dod eto’n ddiweddar i wirio mai’r meysydd sydd wedi cael eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol yw’r meysydd risg allweddol. O'r herwydd, mae'r BRhC yn fodlon ar y cynllun fel y mae. Caiff cyfarfodydd rheolaidd pellach eu cynnal ac os bydd angen newid y cynllun, yna caiff gwaith ei ailgyfeirio i'r meysydd risg hynny sy’n flaenoriaeth.
Tynnodd Aelod Lleyg arall sylw at y tri deg pedwar o archwiliadau ynghyd â barn a gofynnodd a oedd hynny'n cynnwys y swm a gariwyd drosodd o'r llynedd. Cadarnhaodd Dirprwy Bennaeth GAMRh eu bod wedi eu cynnwys yn y tri deg pedwar.
Ychwanegodd, er ei fod yn deall yr angen i fod yn hyblyg, y byddai’n ddefnyddiol gweld cynllun manylach, yn tynnu sylw at faterion megis pryd y caiff gwaith ei wneud a sawl diwrnod o adnoddau’r tîm sy’n cael eu dyrannu i rai eitemau llinell.
Mewn ymateb i hyn, dywedodd Pennaeth GAMRh mai’r cam nesaf yn natblygiad y cynllun, unwaith y byddai wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor, fyddai ymgysylltu â Chyfarwyddiaethau ynghylch y gofynion ar gyfer pob darn o waith. Unwaith y byddai'r cam hwnnw wedi ei gwblhau byddai'n bosibl rhoi syniad llawer cliriach i'r Aelodau o'r materion y tynnodd yr Aelod Lleyg sylw atynt.
Ychwanegodd Pennaeth GAMRh y byddai'r Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ynghylch y cynnydd yn erbyn y cynllun archwilio. Byddai hynny'n digwydd bob chwarter a byddai diweddariad ar gynnydd ar bob llinell pob swydd a archebwyd. O ran nifer y diwrnodau a neilltuwyd fesul archwiliad, gwelai hynny fel mater gweithredol a'r mater allweddol oedd sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni a gwneud yn si?r bod y rheolaethau allweddol wedi eu cynnwys yn y maes adolygu penodol hwnnw. Câi'r materion hynny eu trafod yn fanylach gyda'r rheolwr perthnasol pan fyddai cwmpas swydd archwilio benodol wedi cael ei benderfynu.
Daeth y Cadeirydd â'r eitem hon i ben drwy ganmol y tîm am gynhyrchu cynllun gwaith realistig ar gyfer y flwyddyn. Nododd, gan gyfeirio at rannau o’r adroddiad nesaf, y bu ymrwymiad i gynnal chwe deg un o archwiliadau y llynedd a bod un ar ddeg heb gael eu cynnal. Eleni, byddai tri deg pedwar o archwiliadau gyda barn a thri ar ddeg heb ddim. Nododd ei fod yn falch o hynny oherwydd ei fod yn bryderus o'r blaen bod tuedd i or-ymrwymo a than-ddarparu, ac y gallai hynny fod yn ddigalon i’r tîm. Credai fod yr adroddiad bellach yn adlewyrchu gallu'r tîm yn eithaf clir ac yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd pe bai unrhyw beth newydd yn dod i mewn.
Ychwanegodd, gan adeiladu ar sylwadau Aelod Lleyg, y byddai'n ddefnyddiol ychwanegu colofn at y tabl ynghylch yr amser yr oedd archwiliadau'n debygol o gael eu cynnal.
PENDERFYNWYD: Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r Strategaeth Archwilio Mewnol ddrafft (Atodiad A) a'r Cynllun Archwilio Blynyddol Seiliedig ar Risg drafft ar gyfer 2023-24 (Atodiad B).
Dogfennau ategol: