Agenda item

Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan Bennaeth GAMRh a’i bwrpas oedd rhoi Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheoli’r Cyngor mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol a hysbysu’r Pwyllgor am waith a pherfformiad Archwilio Mewnol am Flwyddyn Ariannol 2022-23.

 

O’r gwaith a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 ac o ystyried ffynonellau eraill o sicrwydd, barn flynyddol Pennaeth Archwilio Mewnol yngl?n â digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cyngor ar gyfer 2022-23 yw sicrwydd rhesymol.

 

Dangosai Tabl 2 yr adroddiad fod un adolygiad archwilio wedi canfod materion rheoli oedd yn golygu mai dim ond sicrwydd cyfyngedig y gellid ei roi. Roedd hyn yn ymwneud ag Ysgol Gynradd Abercerdin, a chaiff y rhesymau eu trafod yn yr adroddiad.

 

Tynnodd Aelod sylw at y rhan o’r adroddiad ar argymhellion, ac un yn benodol lle, ar ôl derbyn y risg a nodwyd, nad oedd yr argymhelliad wedi cael ei dderbyn. Mewn ymateb i’r drafodaeth ar y mater hwn, cytunwyd y byddai Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid yn gweithio gyda Phennaeth GAMRh ar broses uwchgyfeirio’r Cyngor o dan yr amgylchiadau hyn, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfeirio materion penodol i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i drafodaeth ynghylch hyfforddiant y tîm archwilio rhanbarthol, awgrymodd y Cadeirydd y gallai fod yn ddefnyddiol cael rhai ystadegau ar yr hyn a gyflawnwyd. Ychwanegodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid fod yna fodiwlau oedd yn berthnasol i waith y Pwyllgor, ac y gallai fod yn ddefnyddiol derbyn gwybodaeth amdanynt i werthuso unrhyw risgiau a allai godi o hyfforddiant.

 

Tynnodd Aelod arall sylw at fater gwaith adweithiol neu atgyfeiriadau a’r effaith y mae’n ei gael ar waith a gynlluniwyd. Dywedodd y cynrychiolwyr o GAMRh eu bod yn adeiladu elfen o amser i mewn i’r cynllun archwilio ar gyfer atgyfeiriadau felly, a'u bod yn barod i ddiwygio neu ailystyried cwmpas y gwaith a gynlluniwyd i wneud amser i waith o'r fath. Dylid nodi mai dim ond dau ddarn penodol o waith a ddaeth o dan y pennawd hwnnw y llynedd.

 

Gofynnodd Aelod Lleyg am nifer y dyddiau rhwng cyhoeddi adroddiadau drafft a’r adroddiadau terfynol. Mae’r adroddiad yn nodi iddi gymryd 32.5 diwrnod, ac roedd arno eisiau gwybod ai diwrnodau calendr ynteu diwrnodau gwaith oedd y rheiny. Eglurodd Dirprwy Bennaeth GAMRh mai dyddiau calendr oeddent ond eu bod yn mynd i newid hynny i ddiwrnodau gwaith yn y dyfodol.

 

Daeth y Cadeirydd â’r eitem hon i ben drwy drafod dau fater:

 

  1. Ysgol Gynradd Abercerdin. Gofynnodd am i'r adolygiad dilynol arfaethedig gael ei gynnal cyn gynted â phosibl, gyda'r bwriad i'r Pwyllgor dderbyn yr adroddiad ym mis Medi. Dywedodd, pe bai’r canlyniad yr un fath, ei bod yn ddyletswydd ar y Pwyllgor, o ystyried y pryderon difrifol, i alw'r ysgol i mewn gan na all y sefyllfa barhau.
  2. Argymhellion a Dyddiadau Targed heb eu penderfynu. Nododd fod 16 o argymhellion heb eu gweithredu a 66 o ddyddiadau targed yn y dyfodol ac y byddai'n ddefnyddiol gwybod, yn ddelfrydol ar gyfer y cyfarfod nesaf, faint sy'n llithro. Ni ellid caniatáu i'r sefyllfa hon barhau. Tynnodd ar yr enghraifft o Daliadau Uniongyrchol, lle roedd yr adroddiad terfynol wedi’i gyhoeddi ym mis Mehefin 2022 ond bod un argymhelliad yn dal heb ei benderfynu. Cytunai Dirprwy Bennaeth GAMRh fod oedi gyda rhai o’r argymhellion ac awgrymodd y gellid mynd i’r afael â’r rhain yn yr adroddiad monitro argymhellion a ddaw gerbron y Pwyllgor. Ychwanegodd Pennaeth GAMRh allan o'r 156 o argymhellion a wnaed yn 2022-23 mai un oedd heb ei gytuno. Gobeithiai y byddai hynny'n rhoi sicrwydd i'r Aelodau nad oes angen uwchgyfeirio'n rheolaidd achosion o beidio â derbyn argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:         Nododd a chytunodd Aelodau’r Pwyllgor â’r Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022-23 gan gynnwys Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol y Cyngor.

Dogfennau ategol: