Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd
Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd
Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd
Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Mark Shephard - Prif Weithredwr
Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid
Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau
Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Cyllid Perfformiad a Newid yr adroddiad, a diben hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor yn y flwyddyn yn diweddu yr 31ain o Fawrth 2023.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog, Cyllid Perfformiad a Newid a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:
Ar draws y Cyngor
· Amrywiadau yn y gyllideb a chadernid proses gosod y gyllideb.
· Pwysau adnoddau a phwysau cyllidebol a'r angen am gyllid, newid a mewnbwn gan y Llywodraeth ganolog er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol.
· Rheoli perfformiad a data, cywirdeb gwybodaeth a chraffu ar gyfrifon gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
· Y posibilrwydd o fenthyca a thynnu i lawr o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd er mwyn sicrhau bod rhai prosiectau yn y Rhaglen Gyfalaf yn mynd yn eu blaen.
Y Gweithlu, Recriwtio a Chadw
· Effaith nifer y swyddi gwag ar Adnoddau Dynol (AD) a’r effaith debygol ar y Gyllideb pe bai’r Cyngor wedi ei staffio’n llawn.
· Y dulliau o hysbysebu swyddi gwag a dulliau recriwtio eraill gan gynnwys datblygu perthynas gydag ysgolion a phrifysgolion.
· Yr amser yr oedd yn ei gymryd i recriwtio ymgeisydd llwyddiannus i swydd a model y partner busnes o ran cydweithio rhwng Adnoddau Dynol a’r Cyfarwyddiaethau.
· Telerau ac amodau cenedlaethol, cyfraddau tâl, gallu’r Awdurdod i gystadlu ag awdurdodau lleol eraill a’r sector preifat a’r potensial ar gyfer trefniadau cydweithredol yn y dyfodol.
Addysg a Chymorth i Deuluoedd
· Nifer yr ysgolion sy’n rhagweld diffyg yn eu cyllidebau, cyfraniad yr Awdurdod Lleol tuag at gostau ynni cynyddol, y posibilrwydd o ddiswyddiadau staff ac effaith nifer y disgyblion ar y gofrestr.
· Pwysau chwyddiant a her recriwtio i'r Gwasanaethau Arlwyo a'r effaith ar ddarparu clybiau brecwast a phrydau ysgol.
· Y ffactorau sy'n cyfrannu at y tanwariant yn y Gr?p Cefnogi Teuluoedd.
· Y lleoedd gwag yn yr Uned Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, yr effaith ar gyflawni a'r hyn y mae'r Awdurdod yn ei wneud i liniaru eu heffaith.
·
Cynnig hael yr Awdurdod o gludiant o’r cartref
i’r ysgol a’r amserlen debygol ar gyfer
cyhoeddi’r Canllawiau gan Lywodraeth
Cymru.
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
· Dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth i gyflawni dyletswyddau statudol a chost hynny a'r effaith ar barhad i deuluoedd.
· Rôl Swyddogion Cefnogi Gwaith Cymdeithasol.
· Gorwariant ac amseroedd aros am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, cost gynyddol offer a gwaith a'i effaith ar y gallu i gynorthwyo pobl i fyw'n ddiogel gartref.
· Lle mewn cartrefi gofal a chost y gofal am breswylwyr oedrannus.
· Y ddemograffeg a'r effaith ar y galw a'r angen i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn ddigonol.
· Amcangyfrif o bwysau cyllidebol yn y dyfodol a phwysigrwydd cost-effeithiolrwydd, arloesi a gwasanaethau ataliol.
· Ailfodelu Gwasanaethau Dydd i bobl h?n a Gwasanaethau Anabledd Dysgu a'r posibilrwydd o ailfodelu gwasanaethau eraill yn y dyfodol.
Cymunedau
· Heriau recriwtio.
· Cefnogaeth i Atgyfeiriadau Aelodau a ffyrdd o wella effeithlonrwydd Porth yr Aelodau.
· Pwysau cyllidebol a staffio yn yr adran Gynllunio a Datblygu.
· Y cynnig parcio am ddim a chynnal a thrawsnewid trefi.
· Rhesymau dros yr oedi cyn agor Canolfan Ailgylchu Gymunedol y Pîl.
· Diweddariad ynghylch gosod Ravenscourt yn fasnachol.
· Effaith y tanwariant yn y gyllideb Meysydd Chwarae.
· Y rhesymau dros yr oedi yn y Cynllun Caniatáu ar gyfer gwaith ffordd.
Y Prif Weithredwr
· Effaith y peiriannau argraffu a llungopïo ar y gorwariant ar y gyllideb TGCh.
· Risg a chost bosibl ymosodiad seiber posibl.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
Ar draws y Cyngor
1. Bod angen i’r holl ymrwymiadau deddfwriaethol cenedlaethol a gwasanaethau statudol gael eu hariannu’n llawn gan y Llywodraeth ganolog a bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cabinet yn llwyr wrth lobïo San Steffan a Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i sicrhau model ariannu cynaliadwy yn y dyfodol.
2. Er mwyn rheoli disgwyliadau’r cyhoedd o ran y gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol, bod strategaeth gyfathrebu gorfforaethol ragweithiol yn nodi’n glir y pwysau o fewn y gwasanaethau, yr hyn y gellir ac na ellir ei gyflawni/ei gynnal a’r hyn a ariennir gan y Dreth Gyngor a’r hyn a ariennir gan gronfeydd canolog y DU drwy'r Grant Cynnal Refeniw.
3. Ystyried sut i gyfleu'r wybodaeth yn Argymhelliad 2 uchod yn effeithiol i'r cyhoedd, gan gynnwys ystyried rhoi'r wybodaeth ar wefan y Cyngor ac mewn cylchlythyr gyda’r llythyrau yn Galw am Dalu’r Dreth Gyngor.
Addysg a Chymorth i Deuluoedd
4. Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi eu pryderon y byddai unrhyw doriadau pellach i’r gyllideb addysg yn annerbyniol, o ystyried yr arbediad effeithlonrwydd o 2% yn 2023-24 a’r gostyngiadau blynyddol pellach o 1% a ragwelir ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
5. Bod y Pwyllgor yn cydnabod anawsterau recriwtio o fewn y gwasanaethau arlwyo a’r effaith ar ddarparu clybiau brecwast ac yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn oedd yn cael ei wneud i sicrhau bod plant agored i niwed yn cael brecwast cyn yr ysgol.
a gofynnodd y Pwyllgor:
6. Am diweddariad yngl?n â phryd y câi adolygiad Llywodraeth Cymru o gludiant o’r cartref i’r ysgol yn cael ei gyhoeddi’n realistig, o ystyried na châi unrhyw newidiadau eu hystyried nes i’r adolygiad gael ei gwblhau.
Cymunedau
Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhelliad canlynol:
7.
Ystyried cael adnodd pwrpasol i gefnogi'r
Gyfarwyddiaeth Cymunedau i brosesu ac ymateb i Atgyfeiriadau
Aelodau ac ystyried ffyrdd o wneud Porth yr Aelodau yn fwy
effeithiol ac effeithlon ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Aelodau ynghylch statws atgyfeiriadau.
Recriwtio
Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch mater recriwtio a chadw ar draws y Cyngor cyfan ac roedd yn cydnabod, er bod Cyfarwyddiaethau yn gweithio ar hyn ar eu pen eu hunain, ei fod yn teimlo bod angen ymagwedd gorfforaethol oedd yn canolbwyntio ar y 7 Egwyddor yn y Cynllun Corfforaethol.
Felly, argymhellodd y Pwyllgor:
8. Bod angen cynllun gweithlu trosfwaol i fynd i'r afael â'r rhesymau pam nad yw'r Cyngor yn gystadleuol yn fasnachol a beth sydd i gyfrif am ei anallu i recriwtio a chadw staff yn llwyddiannus.
9.
10. Ystyried gweithio mwy integredig rhwng Adnoddau Dynol a’r Cyfarwyddiaethau er mwyn atal Cyfarwyddiaethau rhag ceisio mynd i'r afael â'r mater o recriwtio ar wahân/mewn seilos, a chryfhau swyddogaethau AD yn gyfannol a chyflawni amcanion y Cynllun Corfforaethol trosfwaol.
11. Bod y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i hysbysu myfyrwyr, cyn iddynt ddewis eu pynciau TGAU a Lefel A, ynghylch y rhagolygon gyrfa o weithio i’r Awdurdod Lleol, ar draws ystod eang o broffesiynau ac arbenigeddau ac yn yr un modd gweithio gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg, o ystyried y prinder staff sy'n siarad Cymraeg yn yr Awdurdod. Argymhellwyd hefyd fod y Cyngor yn sefydlu cysylltiadau â phrifysgolion er mwyn sicrhau gweithwyr graddedig a gyrru recriwtio ymlaen yn yr Awdurdod.
12. Dylid cytuno ar lefel genedlaethol o gyflogau a thelerau ac amodau ar gyfer pob swydd mewn llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn yr un sefyllfa ag awdurdodau lleol eraill a'r sector preifat o ran bod yn gystadleuol.
13. Cynnal
adolygiad o'r angen i hysbysebu swyddi dros raddfa benodol mewn
papurau newydd cenedlaethol ac a fyddai'r rolau hyn yn denu mwy o
ymgeiswyr pe caent eu hysbysebu’n wahanol ac yn fwy lleol, o
bosibl.
Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch colli ymgeiswyr llwyddiannus oherwydd yr oedi cyn cael gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gofynnai beth oedd y rheswm dros yr oedi ac a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i leihau'r amser aros er mwyn atal ymgeiswyr rhag dod o hyd i waith yn rhywle arall.
Dogfennau ategol: