Agenda item

Cronfeydd Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i sefydlu a chyflwyno cyfres o gronfeydd grant fel rhan o'r rhaglen gyflawni ar gyfer Cynllun Buddsoddi Lleol Pen-y-bont ar Ogwr trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ac i wneud diwygiadau i Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor i hwyluso dyfarnu cyllid grant.

 

Eglurodd fod Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) yn rhan allweddol o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, gan ffurfio rhan o gyllid cyflenwol, yn cynnwys Cronfa Codi'r Gwastad a'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Ym mis Gorffennaf 2022 dirprwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyflwyno Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Pen-y-bont ar Ogwr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'w gynnwys yng nghyflwyniad cyffredinol Cynllun Buddsoddi Lleol De-ddwyrain Cymru i Lywodraeth y DU. Fel rhan o'r broses gyllido roedd angen penodi un awdurdod lleol i ymgymryd â rôl yr 'Awdurdod Lleol Arweiniol' ar gyfer y rhanbarth ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n cyflawni'r rôl hon. Roedd cefndir pellach yn adran 2 yr adroddiad.

 

Cynigiodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol fod yr arian grant fel yr amlinellwyd yn adran 3.5 yr adroddiad wedi'i sefydlu a'i ddarparu. Er mwyn hwyluso'r rhain, roedd angen gwneud nifer o newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau. Nodwyd y rhain yn adran 3.11 yr adroddiad.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Lles Cymunedol pryd y byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiad diweddaru yn adolygu'r broses ariannu grantiau. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai angen i'r adrodd yn ôl i'r Cabinet fod yn rheolaidd oherwydd yr amserlen gyflwyno gaeth.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu a Lles Cymunedol y byddai panel yn cael ei sefydlu. A yw aelodaeth y panel hwn wedi'i benderfynu?. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol nad oedd hyn wedi cael ei benderfynu eto ond bydd aelodau cabinet a swyddogion perthnasol yn cael eu neilltuo i hyn pan fydd trafodaethau wedi digwydd.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod yn siomedig bod Llywodraeth y DU wedi cymryd cyhyd i ddarparu'r cyllid ar gyfer hyn ac roedd disgwyliad i Lywodraethau Lleol ddarparu'r cyllid hwn mewn byr amser.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio yr adroddiad gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwneud canol tref Pen-y-bont ar Ogwr mor ddeniadol i fusnesau ag y gall fod. Ychwanegodd, wrth edrych ar straeon llwyddiant am adfywio canol trefi, mai'r busnesau crefft ac unigryw mae pobl yn chwilio amdanyn nhw. Gofynnodd sut yr oeddem yn mynd i gefnogi'r rhai sy'n gwneud cais am y grant hwn a sicrhau eu bod yn gallu marchnata eu hunain. 

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol mai bwriad rhan o'r arian yw rhoi'r datblygiad yr oedd ei angen arnynt i fusnesau i'w symud ymlaen i'r camau pellach sydd eu hangen ar gyfer dilyniant ac ehangu. Ychwanegodd Rheolwr y Gr?p – yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd, drwy'r gwaith gyda Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig hyfforddiant a gweithdai yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio. Roedd cyfleoedd o fewn Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y gall busnesau eu defnyddio hefyd.

 

Cafwyd trafodaethau pellach ar yr eitem hon sydd i'w gweld yma.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau i sefydlu, cyflwyno a dyfarnu'r cronfeydd grant a nodir yn adran 3 yr adroddiad fel rhan o gyflawni Cynllun Buddsoddi Lleol Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig;

 

  • yn cymeradwyo'r diwygiadau i Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau'r Cyngor fel y nodir ym mharagraff 3.11.

 

Dogfennau ategol: