Nidoedd y adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion:
Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor a fyddent yn clywed y mater fel eitem eithriedig o dan Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Derbyniwyd ceisiadau gan y Cynghorydd Sean Aspey a swyddogion Ombwdsmon Sector Cyhoeddus Cymru (OSCC).
Gofynnodd y Cynghorydd Aspey am gynnal y cyfarfod yn breifat, gan nodi natur wirioneddol y g?yn a'r achwynydd. Dadleuodd fod y pwnc wedi achosi cryn bryder yn y gymuned leol ac os byddai dogfennau cyhoeddus yn cael eu rhyddhau, nid oedd am i unrhyw beth o ran achwynydd wedi’i olygu neu rywun ddyfalu pwy allai fod. Nid oedd am gael unrhyw ôl-effeithiau iddo ef na'r person a wnaeth y g?yn.
Nododd y cynrychiolydd o OSCC ei fod er budd didwylledd a thryloywder i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus. Roedd hyn er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd yn y drefn safonau moesegol yng Nghymru. Nododd fod yr wybodaeth a arweiniodd at yr ymchwiliad ar gael ar fforymau cyhoeddus fel Facebook a sylwedd y g?yn yn ymwneud â llythyr a oedd yn cael ei rannu'n gyhoeddus. Nododd fod y Cynghorydd Aspey wedi gofyn i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn breifat ac i ddogfennau perthnasol gael eu dal yn ôl o’r cyhoedd oherwydd pryder y bydd preswylwyr yn ceisio sefydlu tarddiad y g?yn wreiddiol, er bod y pryder hwn am ymddygiad posibl rhai preswylwyr yn aneglur.
Nododd fod canllawiau Panel Dyfarnu Cymru (PDC) sy'n nodi y dylid
cynnal gwrandawiadau yn gyhoeddus, ac eithrio pan fo'r Tribiwnlys
o'r farn y byddai cyhoeddusrwydd yn niweidio'r buddiannau neu'n
bygwth diogelwch personol unrhyw bartïon sy'n rhan o'r achos.
Mae'n nodi y bydd y Tribiwnlys yn gofyn am dystiolaeth
argyhoeddiadol o niwed sylweddol i'r unigolion dan sylw neu'r
gwrandawiad neu er budd y cyhoedd yn gyffredinol cyn cynnal
gwrandawiad yn breifat.
Roedd y cynrychiolydd o OSCC yn cydnabod bod y penderfyniad ynghylch cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus yn fater i'r Pwyllgor Safonau ei benderfynu arno yn gyfan gwbl ond nid oedd yn ystyried bod y Cynghorydd Aspey wedi dangos tystiolaeth o risg sylweddol i ddiogelwch personol yr aelod o'r cyhoedd neu wedi dangos risg o niwed sylweddol i aelod o'r cyhoedd. Fodd bynnag, fe wnaeth gydnabod y dylid cymryd gofal i ddiogelu hunaniaeth yr achwynydd gwreiddiol os bydd unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r ymchwiliad yn cael eu datgelu.
Fe’i gwnaed yn glir bod Pwyllgor Safonau yn gallu cynnal
gwrandawiad yn gyhoeddus heb gyhoeddi adroddiad ac atodiadau'r
Ombwdsmon tan ar ôl i'r achos ddod i ben. Mae hefyd yn agored
i'r Pwyllgor Safonau symud i sesiwn breifat os oes angen trafod
unrhyw wybodaeth sensitif a allai fod yn ymwneud â'r
achwynydd ar unrhyw adeg. Nododd y cynrychiolydd o OSCC nad oedd
o'r farn y byddai hyn yn angenrheidiol oherwydd bod ffeithiau'r
achos wedi eu tynnu o’r dogfennau.
Roedd holl aelodau'r panel o'r farn y dylid cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Penderfynodd y Pwyllgor glywed y mater yn gyhoeddus.