Gwahoddwyr:
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
Sophie Moore - Rheolwr Lles - Byw'n Iach
Sarah Rossington Harris - Rheolwr Lles – Cymunedau Cysylltiedig
Karen Winch - Rheolwr Lles – Pobl Ifanc Egnïol
Halo Leisure
Scott Rolfe - Prif Weithredwr
Simon Gwynne - Partnership Manager
Awen
Richard Hughes - Prif Weithredwr
BAVO
Kay Baker – Rheolwr Gweithrediadau a Phartneriaeth
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i ddiben oedd rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y ffordd y mae gwasanaethau a chyfleoedd sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Hamdden Halo ac Awen yn cefnogi lles unigolion a chymunedau ac yn cyfrannu at amcanion llesiant y Cyngor, a rhoi gwybodaeth am y gwaith partneriaeth sy'n cael ei ddatblygu gyda BAVO a'r trydydd sector ehangach i gefnogi pobl yn eu cymunedau a datblygu cymunedau iach a hapus.
Cyflwynodd y gwahoddedigion o sefydliadau partner, Hamdden Halo, Awen a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) eu hunain a rhoi crynodebau byr am ymwneud eu sefydliad â’r Cyngor.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Gwahoddedigion a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
· Pwysigrwydd cyfleusterau hamdden a diwylliannol mewn cymunedau, sut y gellid hyrwyddo llyfrgelloedd yn well a'r adnoddau sydd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol gan gynnwys llyfrau, DVDs, gwybodaeth hanesyddol ac archifau a chyfleusterau TGCh.
· Yr ardaloedd a gwmpesir gan y gwasanaeth llyfrgell symudol ‘Llyfrau ar Glud’ ac ymweliad posibl Aelodau â’r cyfleuster.
· Manteision, o ran iechyd ac arian, darparu gwasanaethau hamdden a diwylliannol anstatudol, y graddau y mae gwasanaethau atal a llesiant yn atal rhag gwaethygu i ddibynnu ar wasanaethau statudol, a gwerthfawrogiad Llywodraeth Cymru o’r rhaglen ymyrraeth gynnar.
· Pwysigrwydd cynaladwyedd gwasanaethau a’u darparu’n lleol, elw cymdeithasol ar fuddsoddiad a dealltwriaeth o'r agenda 15 munud a gwybodaeth anghywir yn ei chylch.
· Lefelau’r rhai sy’n ymweld â chyfleusterau hamdden a hybiau cymunedol cyn ac ôl-bandemig, manteision aelodaeth am ddim neu ostyngol sydd ar gael a’r awydd i gynyddu cyfranogaeth.
· Sicrhau hygyrchedd, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw, pwysau costau ynni uwch a chwyddiant, a sicrhau bod gwasanaethau gwerthfawr yn cael eu cynnal ag arian grant a buddsoddiad, gan gynnwys buddsoddiad i sicrhau effeithlonrwydd ynni.
· Adroddiadau bod canolfannau penodol yn cau a pha mor aml y caiff boddhad cwsmeriaid ei fesur.
· Y Cyllid Lefelu i sicrhau dyfodol Pafiliwn y Grand a maint y gwaith adnewyddu arfaethedig.
· Manteision cynlluniau atgyfeirio a’u hysbysebu’n effeithiol a rhaglenni penodol fel Pobl Ifanc Egnïol Pen-y-bont ar Ogwr, Partneriaeth Byw'n Iach, Henoed Gwych, Esgyniad a Pharth Teuluoedd Egnïol.
· Pwysigrwydd grwpiau a gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau elusennol a gwirfoddol, sy’n cynorthwyo cymunedau i wneud mwy drostynt eu hunain a rolau BAVO a Chydlynwyr Cymunedol Lleol.
· Cynaladwyedd hirdymor ac adnoddau a phwysigrwydd cydweithio llwyddiannus a gweithio mewn partneriaeth i gyfrannu at amcanion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chyfrifoldebau rhianta corfforaethol.
· Her Ddarllen yr Haf a lansiwyd yn ddiweddar a mentrau eraill i annog a chefnogi llythrennedd.
· Gwersi a ddysgwyd o ganolfannau cynnes.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am fod yn bresennol a dywedodd, os nad oedd eu hangen ar gyfer yr eitem nesaf, eu bod yn rhydd i adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gofynnodd y Pwyllgor am gael:
1. Trefnu ymweliad i Aelodau'r Pwyllgor â gwasanaeth llyfrgell deithiol Llyfrau ar Glud i roi dealltwriaeth iddynt o'r meysydd y mae'n eu cwmpasu a'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
2. Dadansoddiad yn ôl nodwedd o nifer y cyfranogwyr sy'n defnyddio cyfleusterau hamdden sy'n derbyn aelodaeth/mynediad am ddim neu â chymhorthdal.
3. Copi o'r cyflwyniad i'w rannu gyda'r holl Aelodau, yn dangos y weledigaeth a'r gwaith sydd i'w wneud ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, gan ddefnyddio'r Cyllid Lefelu.
O ran y gwaith partneriaeth gyda Hamdden Halo ac Awen, a oes cynlluniau i gysoni’r llinellau amser, gan fod y Bartneriaeth Byw’n Iach gyda Hamdden Halo wedi cael ei sefydlu am gyfnod o 15 mlynedd yn 2012 a’r cytundeb partneriaeth ag Awen yn rhedeg tan 2035.
Dogfennau ategol: