Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd y Cyngor
Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Cynghorydd Hywel Williams – Aelod Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol - y Cynghorydd
Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd
Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet dros Addysg - y Cynghorydd
Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Mark Shephard - Prif Weithredwr
Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid
Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau
Kelly Watson - Prif Swyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Cyllid Perfformiad a Newid yr adroddiad, a diben hwn oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar berfformiad ariannol refeniw y Cyngor ar y 30ain o Fehefin 2023.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog, Cyllid, Perfformiad a Newid a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:
Ar draws y Cyngor
· Cywirdeb disgwyliedig y rhagamcanion ariannol a heriau lefelau chwyddiant digynsail.
· Y posibilrwydd o fodelu senarios ar gyfer casglu’r dreth gyngor a chyfraddau llog, a dulliau gwahanol a heriol o fynd i’r afael â’r gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb.
· Y posibilrwydd o rewi recriwtio, rheoli cyllidebau ar lefel y Gyfarwyddiaeth a’r Gorfforaeth a gwerthuso Gwasanaethau.
· Y gobaith o feincnodi yn erbyn profiad awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
· Adolygu a defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
· Mewn perthynas â gofal cymdeithasol plant, diweddariad ynghylch gofal preswyl annibynnol a’r cynnydd anghyffredin yng nghyfanswm a chymhlethdod y galw.
· Mewn perthynas â gofal cymdeithasol i oedolion, effaith achosion mwy cymhleth a phwysigrwydd gwasanaethau atal ac ailalluogi.
Cymunedau
· Diweddariad yngl?n â’r ymgynghoriad ynghylch codi tâl ar ddeiliaid Bathodynnau Glas am barcio, a gweithredu'r terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr.
· Eglurder ynghylch yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y bwriad i gau pob un o safleoedd y Ganolfan Ailgylchu Gymunedol am un diwrnod gwaith yr wythnos.
· Effaith y gostyngiadau arfaethedig yn y gyllideb ar feysydd eraill o'r Gwasanaeth.
Addysg a Chymorth i Deuluoedd
· Rheoli cyllidebau ysgolion sy'n rhagweld diffyg yn eu cyllidebau a'r rhai sy'n rhagweld gwarged ar hyn o bryd.
· Effaith ddisgwyliedig Ysgol newydd Heronsbridge ac adolygiad capasiti Ysgol Bryn Castell ar gyllideb y cymorth i ddysgwyr y tu allan i'r sir.
· Effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 ar y gallu i ddarparu lleoedd â thâl ar fysiau ysgol.
· Cymhwysedd ar gyfer cynnig hael yr Awdurdod o gludiant o’r cartref i’r ysgol, yr oedi cyn cyhoeddi’r Canllawiau gan Lywodraeth Cymru a her y cynnydd yng nghostau tanwydd a darparwyr.
· Y gorwariant ym maes arlwyo, anwadalrwydd y costau sy’n ymwneud â darparu Prydau Ysgol Gynradd i bawb, a pha gostau sy’n cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.
Y Prif Weithredwr
· A fyddai'r tanwariant presennol yn cael ei glustnodi ar gyfer tai a digartrefedd a'r cynnydd a ragwelir yn y galw.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth a thrafodaethau manwl gyda’r Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion a ganlyn:
a gofynnodd y Pwyllgor am y canlynol:
2. Graff yn dangos y cynnydd anghyffredin yn y galw am ofal cymdeithasol plant dros gyfnod o 3 blynedd.
3. Copïau o'r astudiaethau achos sy'n dangos y cymhlethdod a welir ym maes gofal cymdeithasol oedolion.
4. Er ei fod yn cydnabod ei bod yn rhy gynnar yn y flwyddyn i ddarparu rhagamcaniad realistig o incwm y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gofynnodd y Pwyllgor a ellid darparu model o’r achos gorau, yr achos gwaethaf a’r senario a ragwelir, er mwyn rhoi syniad o’r incwm tebygol a ddaw o gasglu’r dreth gyngor.
Cydnabu'r Pwyllgor mai un o'r cynigion mwyaf sylweddol ar gyfer lleihau'r gyllideb, oedd yn annhebygol o gael ei gyflawni'n llawn yng Nghyfarwyddiaeth y Cymunedau, oedd codi tâl ar Ddeiliaid Bathodynnau Glas am barcio (COM 2), oherwydd bod y tîm rheoli traffig ar hyn o bryd yn brysur yn cyflwyno'r cyfyngiad cyflymder cenedlaethol mewn ardaloedd adeiledig. Gofynnodd y Pwyllgor am i neges gael ei dosbarthu ymhlith yr Aelodau yn rhoi gwybod am yr amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol ynghylch Cynllun y Bathodyn Glas.
Dogfennau ategol: