Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol 2022- 2023

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) a Diogelu adroddiad oedd yn disgrifio’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, yn unol â Chanllawiau Swyddogion Adolygu Annibynnol (Cymru) 2004.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r fframwaith deddfwriaethol sy'n rheoli'r gwaith a wneir gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

 

Eglurodd mai rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) yn bennaf yw sicrhau bod cynllun gofal y plentyn yn addas ac yn cwrdd â’i anghenion datblygol a herio unrhyw faterion o oedi wrth gyflawni amcanion y cynllun gofal a/neu unrhyw broblemau oedi. Rhydd y rôl bwyslais cryf ar sicrhau ansawdd a herio'r awdurdod lleol pan na fydd yn fodlon mewn meysydd gwneud penderfyniadau.

 

Mae’r Swyddogion Adolygu Annibynnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant, a’u rôl yn y fan honno yw sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gwneud penderfyniadau pwysig ar sail tystiolaeth a gweithdrefnau diogelu. Yn bwysicaf oll, esboniodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu, mae’n rhaid i Wasanaeth yr IRO sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog wrth wneud penderfyniadau a’i fod yn cael gwybod am ei hawliau a’i amgylchiadau.

 

Mae pwyslais cryf ar ddata ansoddol yn yr adroddiad blynyddol a chyfraddau cydymffurfio, ond hefyd, prosesau cryfach a’r ffordd y mae'r gwasanaeth wedi cwrdd ag amcanion y cynllun blynyddol.

 

Mae'r adroddiad yn ystyried ymhellach sut mae'r gwasanaeth wedi ymateb i’r cynnydd yn y galw a’r niferoedd cynyddol o blant sy'n destun cofrestriad Amddiffyn Plant, a’r hyn sy'n cael ei wneud i leihau'r ffigwr hwn.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r gwelliannau a wnaed o ran sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i wneud penderfyniadau a’r ffordd y mae’r cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau at y gwasanaeth eiriol yn cefnogi hyn.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu y gellid darllen y Cynllun Blynyddol wedi'i ddiweddaru yn adran olaf yr adroddiad yn Atodiad 1 i'r adroddiad eglurhaol, a bod hwn yn tynnu sylw at y nodau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf.

 

Felly, roedd Atodiad 1 yn ymdrin â gwaith gwasanaeth yr IRO rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad o ran adolygiad statudol plant sydd wedi cael Profiad o Ofal, gan gynnwys plant â chynlluniau ar gyfer Mabwysiadu a Phobl Ifanc â Chynlluniau Llwybr Gadael Gofal (dan 18 oed) gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blant oedd yn destun cynllun amddiffyn plant ac adolygiadau o'r cynlluniau hyn mewn Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant.

 

Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth oedd yn ymwneud â gofynion rheoleiddiol o ran datrys anghydfod mewn achosion, llwythi achosion yr IRO, cyfranogiad pobl ifanc yn eu Hadolygiadau ac ymgynghori â hwy, yr heriau a’r cyflawniadau yn ystod y cyfnod adrodd, a blaenoriaethau’r gwasanaeth ar gyfer 2023-2024.

 

Amlinellodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu fod y Swyddogion Adolygu Annibynnol, fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad, wedi cadeirio/adolygu 406 (cynnydd o 51%) o Gynadleddau Achos Amddiffyn Plant Cychwynnol rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 o gymharu â 200 y flwyddyn flaenorol. Cynullwyd cyfanswm o 659 o Gynadleddau Achos Adolygu Amddiffyn Plant (RCPC) rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 o gymharu â 508 (cynnydd o 23%) yn y cyfnod adrodd blaenorol. Cynhaliwyd pob RCPC o fewn yr amserlen statudol. Yn y cyfnod adrodd hwn, cynhaliwyd 1,125 o gyfarfodydd adolygu Profiad o Ofal rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 o gymharu â 1,159 y flwyddyn flaenorol. Mae'r gostyngiad hwn yn bennaf o ganlyniad i fwy o sefydlogrwydd lleoliadau.

 

Eglurodd fod yr IRO, ar ôl pob cyfarfod, yn cwblhau archwiliad sicrwydd ansawdd. Mae'r Archwiliad ar gael i'r Gweithiwr Cymdeithasol a'r Rheolwr Tîm i'w hysbysu am waith/camau gweithredu sy'n weddill. Mae'r archwiliad yn cefnogi'r IRO wrth olrhain yr achos ac yn cefnogi nodi arfer da a meysydd i'w gwella. Mae'r archwiliad hefyd yn cefnogi'r Rheolwr Tîm wrth oruchwylio'r Gweithiwr Cymdeithasol.

 

Roedd gwaith blaenorol wedi cael ei wneud i wella'r ddogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, roedd y cyfraddau ymateb yn dal yn isel iawn o hyd. Mae cyflwyno Timau Microsoft wedi galluogi mwy o bobl ifanc i fynychu eu cyfarfodydd, yn enwedig eu cyfarfodydd Adolygu Profiad o Ofal. Bydd cyflwyno Arwyddion Diogelwch yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gyfranogiad a disgwylir y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at gynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau ar gyfer eiriolaeth sy’n cefnogi ac yn cyfleu llais, dymuniadau a theimladau’r plant a’r bobl ifanc y gweithiwyd â hwy.

 

Mae gwasanaeth yr IRO yn parhau i weithio gyda'r timau diogelu, addysg, y gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol a Gwasanaethau Bydwreigiaeth i wella ymarfer o amgylch cynadleddau amddiffyn plant. Y cam nesaf yw gweithio ar wella ansawdd adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal ar sail aml-asiantaeth. Mae Rheolwr Gwasanaeth yr IRO yn y cyfnod hwn wedi hwyluso hyfforddiant ar Weithdrefnau Diogelu Cymru ac mae asiantaethau partner wedi eu cynnwys yn y broses o gyflwyno’r model ymarfer Arwyddion Diogelwch a’r hyfforddiant ar gyfer hyn.

 

Sicrhaodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu eu bod yn ceisio gwella’r gwasanaeth yn barhaus drwy’r amser ac fel y cyfryw mae Gwasanaeth yr IRO yn anelu at barhau i gael mwy o effaith o ran gwella ansawdd bywydau plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

 

Rhoddodd hefyd gyflwyniad PowerPoint ar Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol am y cyfnod uchod, gan roi crynodeb er budd yr Aelodau, o'r pwyntiau allweddol a ddeilliodd o hyn, y tynnwyd sylw at rai ohonynt uchod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu am yr adroddiad, a theimlai fod hwn yn ddeunydd darllen ardderchog. Wedyn agorodd y cyfarfod i gwestiynau a gellir gweld y rhain ynghyd ag atebion y Swyddogion drwy’r ddolen ganlynol link

 

PENDERFYNWYD:         Bod Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet yn nodi’r adroddiad a Chynllun Gweithredu Gwasanaeth y Swyddogion Adolygu Annibynnol.

Dogfennau ategol: