Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Eiriol Rhanbarthol 2022- 2023

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu adroddiad, a’i ddiben oedd tynnu sylw at agweddau allweddol ar y gwasanaeth a ddarperid gan Tros Gynnal Plant, sef darparwr rhanbarthol CBSP. Roedd Rheolwr Tîm Tros Gynnal Plant gyda hi yn y cyfarfod.

 

Roedd adroddiadau perfformiad manwl wedi eu cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad eglurhaol fel a ganlyn:

 

Atodiad 1:      Adroddiad Eiriolaeth Blynyddol Pen-y-bont ar Ogwr 2022- 2023

Atodiad 2:      Adroddiad Eiriolaeth Blynyddol Rhanbarthol CTM  2022- 2023

 

Mae Tros Gynnal Plant (TGP) yn darparu gwasanaeth eiriol rhanbarthol yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM). Mae TGP wedi darparu gwasanaethau eiriol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers blynyddoedd lawer ac mae’n ddarparwr sefydledig yn lleol, yn ogystal â bod y darparwr eiriolaeth mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

 

Roedd gwybodaeth gefndir yr adroddiad yn cadarnhau bod Tros Gynnal Plant (TGP) yn darparu gwasanaeth eiriol rhanbarthol yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM). Mae TGP wedi darparu gwasanaethau eiriol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers blynyddoedd lawer ac roedd yn ddarparwr sefydledig yn lleol, yn ogystal â bod y darparwr eiriolaeth mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

 

Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu fod TGP yn darparu adroddiadau perfformiad chwarterol manwl, yn ogystal â bod y darparwr hwn hefyd yn darparu adroddiad blynyddol ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr a rhanbarth CTM. Roeddent yn ymdrin ag agweddau gwasanaeth allweddol Eiriolaeth Seiliedig ar Faterion, a’r Cynnig Rhagweithiol o eiriolaeth.

 

Roedd Atodiad 1 i'r adroddiad yn gweld bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl oedd wedi defnyddio gwasanaeth yr IBA eleni o gymharu â'r llynedd, gan gynnwys rhai unigolion oedd wedi ei ddefnyddio am y tro cyntaf. Y dulliau mwyaf poblogaidd o ddefnyddio’r gwasanaeth oedd drwy’r llwybr ‘hunangyfeirio’, ac yna atgyfeiriadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd ‘Cynnig Rhagweithiol’ (AO) o eiriolaeth yn elfen graidd o’r gwasanaeth statudol, ac roedd mwyafrif y bobl ifanc a atgyfeiriwyd ar gyfer AO ym Mhen-y-bont ar Ogwr y llynedd, rhwng blynyddoedd 6 ac 11.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod TGP yn parhau i fod yn gyfrifol am hwyluso cyfranogiad pobl ifanc a grwpiau ymgynghori ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a elwir bellach yn Fforwm Llais Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, neu Fforwm ‘BYV’. Nod y gr?p oedd galluogi pobl ifanc â phrofiad o ofal a’r rhai sy’n gadael gofal i gael llais mewn fforymau ehangach ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Bwrdd Rhianta Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Pwysleisiodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth IAA a Diogelu fod TGP yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol i bobl ifanc ddarparu adborth i fod o gymorth i wella’r gwasanaeth eiriol, er enghraifft, drwy ddefnyddio cod QR y gallant ei sganio o’u ffonau symudol ac sy'n cysylltu â holiadur byr.

 

Roedd TGP wedi nodi nad yw gweithwyr cymdeithasol bob amser yn gallu ymateb i rai cyfathrebiadau achos, gan olygu bod achosion eiriolaeth rhai pobl ifanc yn aros ar agor yn hwy nag y mae angen iddynt fod. Nodir hyn yn adroddiad lleol Pen-y-bont ar Ogwr (Atodiad 1 yr adroddiad) a'r adroddiad rhanbarthol (Atodiad 2). Bydd maint y gwaith sy’n cael ei reoli mewn gwasanaethau plant statudol wedi cael effaith ac wedi canolbwyntio gwaith i leihau llwythi achosion yn ddiogel, fydd yn ei dro yn gymorth i wella ymatebolrwydd.

 

Yn dilyn newidiadau diweddar yng Ngwasanaethau Plant CBSP, gan gynnwys penodi Unigolyn Cyfrifol newydd (i hyrwyddo, monitro a gwella ansawdd y gwasanaeth), roedd TGP wedi cyfarfod ac ymgysylltu â CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar nifer o lefelau i ddatblygu perthnasoedd gwaith ymhellach a gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brosesau atgyfeirio ar gyfer eiriolaeth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurder ynghylch y dulliau yr oeddem yn eu defnyddio i hyrwyddo ffyrdd o annog gwirfoddolwyr ar gyfer cymorth TGP mewn perthynas â'r Gwasanaeth Ymweld Annibynnol, yn enwedig o ran hyrwyddo/hysbysebu cyfleoedd o'r fath.

 

Dywedodd Rheolwr Tîm y TGP fod swydd Cydgysylltydd Annibynnol wedi cael ei chreu i’r pwrpas o hyrwyddo recriwtio ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y blaen ar gyfer yr uchod. Ychwanegodd y byddai'r nifer cynyddol o wirfoddolwyr yn cael eu paru â phobl ifanc oedd yn destun atgyfeiriadau, yn eu tro, i leihau'r amser yr oedd yr unigolion hyn yn ei dreulio ar y rhestr aros. Ychwanegodd Rheolwr Tîm y TGP fod hyfforddiant hanfodol yn cael ei roi i wirfoddolwyr, er mwyn iddynt fedru cyflawni'r gwaith, sy'n rhan o'u rôl, yn llwyddiannus.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn falch o nodi'r gwelliant yn nifer y plant sy'n manteisio ar wasanaethau eiriol. Teimlai fod hyn yn hanfodol er mwyn i'w lleisiau gael eu clywed. Teimlai hefyd fod hyn yn hanfodol i blant h?n, yn enwedig y rhai oedd â heriau eraill i'w goresgyn.

 

Sicrhaodd Rheolwr Tîm y TGP yr Aelodau fod yna Eiriolwyr profiadol yn eu lle, oedd yn rheoli sefyllfaoedd plant iau drwy nifer o fentrau, a bod hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw un ag anabledd, er enghraifft, oedd yn defnyddio gwasanaethau eiriol. Ychwanegodd ymhellach fod yna ymagwedd aml-asiantaeth tuag at wasanaethau o'r fath.

 

Yn olaf, dywedodd Rheolwr Tîm y TGP fod yna hefyd wasanaeth Eiriol heb gyfarwyddyd, yn ogystal â'r gwasanaeth prif ffrwd. 

 

PENDERFYNWYD:         Bod Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet yn nodi'r adroddiad.

Dogfennau ategol: