(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)
(ii) Aelodau’r Cabinet
(iii) Prif Weithredwr
Cofnodion:
Y Maer
Croesawodd y Maer Ellie O’Connell, sef Maer yr Ifanc, oedd yn bresennol i arsylwi’r cyfarfod.
Cyfeiriodd y Maer at ddigwyddiadau yr oedd wedi bod ynddynt yn ddiweddar, yn cynnwys:
· Agor Gorymdaith Diwrnod y Lluoedd Arfog gan Arglwydd Raglaw Canol Morgannwg.
· Digwyddiad Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
· Gerddi agored Cefn Cribwr.
· “First Give” yn Ysgol yr Archesgob McGrath lle bu’n rhan o’r panel oedd yn penderfynu ar y tîm a enillodd y grant o £1000 gan First Give.
· Ras 10 cilometr Porthcawl lle y cychwynnodd Heriau’r Dyfodol a Ras y Teulu.
· Noswaith Gyraeddiadau CCYD lle y dathlwyd llwyddiannau ardderchog y dysgwyr.
· Cynhyrchiad Ysgol Brynteg o ‘Grease’ ym Mhafiliwn y Grand ym Mhorthcawl.
· Yr Orymdaith Heddwch Ryng-ffydd, cyfle unigryw i ymweld ag Eglwys, Synagog a Mosg i gyd yn yr un diwrnod. Trefnwyd hyn gan yr elusen Cofio Srebrenica, ac roedd yn cael ei noddi gan Gydraddoldeb Hiliol.
· Sioe Fawr Pen-y-bont ar Ogwr, lle’r ymunodd â’r Gwasanaeth Atal a Lles i ddathlu llwyddiannau’r arweinwyr a’r llysgenhadon ifanc ffantastig.
Y Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd
Fe wnaeth y Dirprwy arweinydd hefyd fynd i'r Sioe Fawr, digwyddiad a ddatblygwyd i ddathlu ymdrechion gwirfoddoli a sgiliau arwain pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol. Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd gyflwyniad arbennig i gydnabod gwaith yr oedd llysgenhadon y gofalwyr ifanc wedi bod yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.
Esboniodd y Dirprwy Arweinydd gynllun y cerdyn adnabod, oedd yn cael ei gydnabod gan ysgolion, meddygfeydd, fferyllwyr ac archfarchnadoedd. Roedd mwy na 300 o gardiau gofalwyr ifanc bellach yn cael eu defnyddio, ac roedd eu potensial yn cael ei ehangu ymhellach i ddarparu mynediad am bris gostyngol a manteision eraill gyda busnesau lleol. Ar y cyd â’r Cyngor a phartneriaid y 3ydd sector roeddent wedi datblygu digwyddiadau megis diwrnodau “Rydym yn cael ein gwerthfawrogi” oedd yn gyfleoedd i wneud gweithgareddau gyda’u hysgolion na fyddent yn eu cael fel arall. Bu llysgenhadon gofalwyr ifanc hefyd yn helpu i ddatblygu'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc lle gallai pobl ifanc leisio'u barn, tra’n cynnig mewnwelediad a barn ar ystod eang o faterion oedd yn effeithio arnynt.
Aelod y Cabinet - Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol
Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol y wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor, yn dilyn yr aflonyddwch sylweddol yn gynharach yn yr wythnos pan aeth y systemau TGCh i lawr a chyfyngu ar fynediad at systemau cyfrifiadurol, y wefan gorfforaethol, y system ffôn a nifer o wasanaethau rhyngweithiol. Esboniodd fod y tîm TGCh wedi gweithio'n ddiflino i ganfod a chywiro'r broblem, ac wrth i faint y mater ddod i'r amlwg, cychwynnwyd y cynllun parhad busnes.
Anfonwyd negeseuon a diweddariadau drwy’r cyfryngau
cymdeithasol a throsglwyddwyd pob cyswllt ffôn i’r
system wrth gefn. Gweithiodd staff rownd y cloc i sicrhau bod yr
holl systemau'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl. Byddai
adolygiad yn cael ei gynnal yn awr ac yn y cyfamser, diolchodd i'r
tîm TGCh, a chydnabod eu hymdrechion a'u harbenigedd wrth
fynd i'r afael â'r mater.
Roedd Aelod y Cabinet yn falch iawn o hysbysu'r Aelodau bod y Cyngor wedi derbyn statws lefel arian yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Cyflwynwyd hwn gan Gymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru ac roedd yn cydnabod yr ymdrechion parhaus i gefnogi aelodau presennol a chyn-aelodau cymuned y Lluoedd Arfog. Byddai'r Cyngor yn derbyn ardystiad ffurfiol o’i statws newydd drwy’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Arian yng Ngwobrau Arian ERS Amddiffyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Aelod y Cabinet - Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
Rhoddodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd ddiweddariad byr ynghylch y paratoadau ar gyfer y terfyn cyflymder newydd o 20 milltir yr awr fyddai’n cael ei gyflwyno yn y mwyafrif o ffyrdd preswyl ar yr 17eg o Fedi 2023. Roedd y cynigion yn rhan allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau llygredd, cynyddu diogelwch ar y ffyrdd ac annog pobl i ddefnyddio dulliau eraill o fynd ar deithiau byrion. I gefnogi'r cynnydd disgwyliedig mewn cyhoeddusrwydd cenedlaethol drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst, roedd cyfres o atebion i gwestiynau cyffredin yn cael eu datblygu a byddent ar gael yn fuan i'w rhannu gyda'r Aelodau. Byddai'r newid yn y terfyn cyflymder yn effeithio'n bennaf ar ffyrdd cyfyngedig oedd fel arfer wedi eu lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig. Roedd tua 90 o ffyrdd lleol yn cwrdd â’r canllawiau i’w hystyried fel rhai oedd wedi eu heithrio o’r terfyn cyflymder diofyn newydd a chafwyd cyfanswm o 2,684 o ymatebion i’r ymgysylltiad â’r cyhoedd yn ystod cam cyntaf y broses hon, gyda’r mwyafrif helaeth ohonynt yn cefnogi’r eithriadau arfaethedig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £1 filiwn i'r Cyngor i gefnogi gosod tua 600 o byst ac arwyddion newydd. Roedd trefniadau wrth gefn ar gael pe na bai prosesau wedi cael eu cwblhau'n llawn ar gyfer unrhyw un o'r eithriadau arfaethedig. Roedd mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan datamap.gov.wales.
Roedd Aelod y Cabinet yn falch o adrodd bod wyth o fannau gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn Baneri Gwyrdd eleni. Roedd Gorsaf Dân ac Achub Cwm Ogwr, Gardd Farchnad Caerau, Coetiroedd Ysbryd Llynfi, Coed Tremain ym Mracla, Amlosgfa Llangrallo, Parc Gwledig Bryngarw, Parc Slip a Pharc Lles Maesteg i gyd wedi derbyn statws Baner Werdd lawn.
Aelod y Cabinet - Tai, Cynllunio ac Adfywio
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio y byddai Pencampwriaeth Agored Chwaraewyr H?n yn dychwelyd i Royal Porthcawl cyn bo hir a bod trefniadau ar waith i groesawu miloedd o gefnogwyr golff fyddai’n teithio i'r Fwrdeistref Sirol ar gyfer y digwyddiad. Gyda phwyslais cryf ar deithio llesol, anogodd y gwylwyr i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus leol i’r digwyddiad ac oddi yno. Byddai mannau parcio cyhoeddus hefyd ar gael mewn cae ger Gwesty Royal Porthcawl. Mynychodd mwy na 43,000 o bobl y digwyddiad yn 2014, a chynhyrchodd hyn effaith economaidd amcangyfrifedig o fwy na £2 filiwn. Cyfrifwyd bod gwerth yr hysbysebu drwy’r sylw cynhwysfawr ar y teledu, a ddangosodd Borthcawl a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r byd, yn werth £5.2 miliwn pellach, a neidiodd hynny wedyn i £7.8 miliwn pan ddychwelodd y digwyddiad yn 2017. Gobeithiai y byddai'n fwy na £10 miliwn eleni. Byddai'r twrnamaint unwaith eto yn cael ei ddarlledu ar Sky Sports, a byddai llawer o enwau adnabyddus yn cystadlu, gan gynnwys Ian Woosnam ac enwogion Cwpan Ryder, Darren Clarke a Padraig Harrington. Croesawodd yr Aelodau i ymuno ag ef i longyfarch yr holl staff oedd wedi gweithio'n galed i gefnogi'r digwyddiad mawreddog hwn a dymunodd y gorau i'r cystadleuwyr.
Aelod y Cabinet dros Addysg
Eglurodd Aelod y Cabinet dros Addysg, gan ddiolch i bartneriaeth y Cyngor gydag Awen, Hamdden Halo, yr Urdd, Menter Bro Ogwr a Chynghorau Tref a Chymuned, bod y rhaglen ‘Ysgol Allan’ yn barod i ddarparu ystod enfawr o weithgareddau hwyliog i blant a phobl ifanc. Byddai cynlluniau gwyliau ‘Heini am Oes’ ar gyfer plant wyth i un ar ddeg oed yn dychwelyd i leoliadau cymunedol yn y Betws, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerau, Cwm Garw, Maesteg, Cwm Ogwr, Pencoed a Phorthcawl, ac roedd plant hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn her ddarllen yr haf “Barod, Cychwyn, Darllen”. Byddai’r fenter nofio am ddim yn dychwelyd i ganolfannau hamdden a phyllau nofio lle byddai sesiynau’n cynnwys cyrsiau cyflym i ddechreuwyr, gwersi gwella strôc a mwy, a byddai’r rhaglen Cymorth Ieuenctid a Strydoedd Mwy Diogel hefyd yn cynnig sesiynau i bobl ifanc drwy gydol gwyliau’r haf. Byddai llyfrgelloedd lleol hefyd yn cynnig digwyddiadau hwyliog yn amrywio o weithdai Symud a Dawns i sesiynau animeiddio. Byddai Parc Gwledig Bryngarw yn cynnal perfformiadau theatr awyr agored a byddai darpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg ifanc gyda chynlluniau chwarae Cymraeg rhad ac am ddim yn ystod y gwyliau yn cael eu cynnal ym Maesteg, Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr, ac mewn gwersylloedd chwaraeon Cymraeg eu hiaith a drefnir gan yr Urdd.
Gofynnodd i’r Aelodau helpu i ledaenu’r gair am y rhaglen Ysgolion Allan oedd ar gael, a dywedodd y gellid cael manylion am hyn ar wefan y Cyngor.
Aelod y Cabinet - Diogelwch Cymunedol a Lles
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles wrth yr Aelodau fod y Cynllun Grant Digonolrwydd Bwyd newydd yn cael ei gyflwyno. Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a CBSP, roedd y cynllun yn cael ei reoli gan BAVO, ac fe'i cynlluniwyd i fynd i'r afael â thlodi bwyd ar draws y Fwrdeistref Sirol drwy gydol misoedd yr haf, drwy sicrhau bod cyllid ar gael i ddechrau mewn dau gam. Roedd y cyntaf o'r rhain yn mynd ymlaen a byddai'r ail yn ei le rhwng 24 Gorffennaf a 4 Awst. Gallai sefydliadau cymunedol wneud cais i'r cynllun a defnyddio'r cyllid i gefnogi eu gwaith.
Diolchodd Aelod y Cabinet i Lywodraeth Cymru a BAVO, y sefydliadau oedd yn ceisio helpu pobl leol, a’r holl wirfoddolwyr oedd yn gweithio i wneud gwahaniaeth o fewn cymunedau lleol i sicrhau nad oedd pobl yn mynd heb fwyd yr haf hwn.
Y Prif Weithredwr
Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau am yr argymhellion terfynol gan Gomisiwn y Ffiniau i Gymru ynghylch y ffordd y câi ffiniau seneddol eu cyflunio yn y dyfodol. Roedd y newidiadau wedi cael eu gwneud i ddod â maint pob ardal yn unol ag argymhellion Llywodraeth y DU, sef y dylai pob sedd gwmpasu rhwng chwe deg naw mil a saith deg saith mil o bleidleiswyr. Byddai'r newid hefyd yn torri nifer y seddi Cymreig o 40 i 32. Roedd yr argymhellion hyn bellach yn derfynol a byddai ASau’r dyfodol yn cael eu hethol o’r etholaethau newydd hyn yn hytrach nag o hen seddi Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr.