Agenda item

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Cyng Freya Bletsoe i Aelod y Cabinet dros Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Mae adroddiadau dros y penwythnos ym mhapur newydd y Times wedi tynnu sylw at y ffaith y ceir o hyd mewn adeiladu cyhoeddus fel ysgolion, swyddfeydd, llyfrgelloedd ac yn y blaen, flynyddoedd yn ddiweddarach, lefelau sylweddol o asbestos yng ngwneuthuriad yr adeiladau hynny. Mae'r adroddiad yn datgan, er gwaethaf gwybod am y materion hyn, mai ychydig neu ddim y mae awdurdodau'n ei wneud i gael gwared ar yr asbestos ac felly liniaru'r risg i iechyd pobl.

 

Oherwydd y dylid yn gyfreithiol gadw cofrestr asbestos fesul ystafell o bob adeilad yr effeithiwyd arno, ac mae’n ddiamau y bydd asbestos yn nifer sylweddol o adeiladau y mae CBSP yn eu rheoli neu'n eu cynnal, hoffwn ofyn beth mae'r awdurdod hwn yn ei wneud i liniaru niwed yn y gweithle i athrawon, llyfrgellwyr a staff swyddfeydd oddi wrth effeithiau tymor hir asbestos a beth mae'r awdurdod hwn yn ei wneud i ddiogelu plant sy'n cael eu haddysgu mewn ystafelloedd sydd ag asbestos ynddynt - yn unol â'n rhwymedigaethau statudol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

 

Hoffwn ofyn hefyd, fel aelod etholedig a Chadeirydd Craffu, am gael gweld y gofrestr risg ddiweddaraf ac adroddiadau cysylltiedig am yr asbestos sydd yn yr adeiladau yr ydym yn eu goruchwylio.

 

Cyng Ian Williams i Aelody Cabinet dros Cyllid, Adnoddau a Chyfreithiol

 

Gyda nifer yr ymwelwyr yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ei chael yn anodd cyrraedd y lefelau cyn y pandemig, a gaf i ofyn i Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfraith pa gamau sy'n cael eu cymryd i weithio gyda chwmnïau bysiau er mwyn diogelu llwybrau presennol y bysiau (gweler ynghlwm) a lliniaru unrhyw doriadau pellach i’r gwasanaethau sy’n lleihau o hyd?

 

Ydy Aelod y Cabinet yn fodlon gwneud ymrwymiad i’r cyngor yma y bydd yn sicrhau na chaiff cymorthdaliadau eu torri ac na fydd yr achubiaeth i lawer o drigolion, sef y gwasanaethau bysiau lleol, yn gweld toriadau pellach yn ystod tymor y cyngor presennol hwn.

 

Cyng Martin Williams i'r Arweinydd

 

Mae Comin Walia Coety yn dirwedd unigryw sy'n cynnwys dros 1,000 hectar o'n bwrdeistref sirol, yn ymestyn o Bencoed i Sarn, Coety i Fryncethin a thu hwnt. Mae'r comin yn gynefin amrywiol ac yn nodwedd y dylem fod yn falch ohoni. Fodd bynnag, mae’n gornel o'n sir sydd wedi cael ei hanghofio i raddau helaeth ac wedi ei gadael i’w chynnal gan wirfoddolwyr ar gyllideb bitw. A all yr arweinydd ddweud wrthyf, os gwelwch yn dda, sut mae CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn cefnogi Walia Coety a pha gynlluniau sydd gan yr awdurdod i amddiffyn y cynefin hanfodol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

CyngTim Thomas i Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

A wnaiff Aelod y Cabinet ddatganiad ar ansawdd y d?r sy’n dod o’n hafonydd a'n moroedd o fewn y Fwrdeistref Sirol?