Agenda item

Diweddariad ar Chwarter 1 o Raglen Gyfalaf 2023-24

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid y Diweddariad ar Chwarter 1 o Raglen Gyfalaf 2023-24, oedd yn cynnwys diweddariad ar y cyllidebau cyfalaf a gwariant fel ar 30 Mehefin 2023, fersiwn ddiwygiedig y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023-24 i 2032-33 a'r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24. Dangosai Atodiad A y cyllidebau a'r gwariant hyd at 30 Mehefin 2023 ar gyfer y cynlluniau unigol yn 2023-24. Rhoddai Atodiad B fanylion y rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023-24 i 2032-33 ac roedd atodiad C yn rhoi manylion y Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelir ar gyfer 2023-24.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y rhaglen gyfalaf wedi newid ers mis Mawrth, a'i bod ar hyn o bryd yn dod i gyfanswm o £96.9 miliwn. Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd yn y rhaglen honno yn ganlyniad i lithriad o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf i mewn i raglen eleni. Roedd Tabl Un yr adroddiad yn egluro sut y rhannwyd y rhaglen gyfalaf rhwng y gwahanol gyfarwyddiaethau. Dangoswyd manylion ariannu'r rhaglen yn nhabl dau o'r adroddiad. Adroddwyd am y newidiadau allweddol ym mharagraff 3.15 o'r adroddiad. Cadarnhaodd fod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r dangosyddion cymeradwy.

 

Ymddiheurodd Aelod y Cabinet dros Gyllid, Adnoddau a Chyfreithiol nad oedd y papur briffio ar y gyllideb wedi mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd ac anogodd yr holl aelodau i geisio mynychu'r cyfarfod briffio oedd wedi cael ei aildrefnu oherwydd yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Croesawodd yr arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ond cydnabu'r pwysau refeniw ac ychwanegodd y byddai’r swyddogion yn ymchwilio i hyn ymhellach. 

 

Gofynnodd Aelod faint o'r rhaglen gyfalaf a neilltuwyd i risg. Atebodd y Prif Swyddog fod y rhaglen gyfalaf yn cael ei dyrannu ar sail blaenoriaethau ac y byddai llawer o'r blaenoriaethau hynny’n ymwneud â risg i'r Cyngor. Ni welwyd risg o fewn y rhaglen gyfalaf, ond roedd llawer o'r cynlluniau unigol yn ymwneud â naill ai uwchraddio, amnewid neu wella'r asedau oedd ganddynt i wneud yn si?r eu bod yn addas i'r diben.

 

Atebodd yr Aelod ei fod yn cyfeirio at arian wrth gefn a gofynnodd faint oedd yn gost adeiladu a faint oedd yn cael ei gadw ar gyfer arian wrth gefn? 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod elfen wrth gefn yn y contract o fewn pob prosiect, sef amcangyfrif fel arfer o'r hyn a allai dalu am gost annisgwyl yn ystod unrhyw brosiect penodol. O fewn y rhaglen gyfalaf, anaml y byddent yn gwario'r balans cyfan oedd ar gael ar gynlluniau ac felly roedd rhywfaint o arian wrth gefn ar gael o fewn y rhaglen. Ni fyddai pob eitem yn y rhaglen gyfalaf yn digwydd ar yr un pryd, felly pe bai angen cyllid ychwanegol ar bethau yn gynnar yn y rhaglen gyfalaf, byddai effaith ar bethau a nodwyd yn ddiweddarach yn y rhaglen. Roedd yn rhaid iddynt reoli'r risg honno yn y ffordd honno yn hytrach na dim ond nodi un swm ar gyfer risg. Roeddent yn ymwybodol iawn o risg ar hyn o bryd gan eu bod hefyd yn wynebu cynnydd digynsail mewn gwariant cyfalaf. Roedd eu ffocws ar y rhaglen gyfalaf yn fwy nag y bu erioed, ac roeddent yn cynnig creu Bwrdd Cyfalaf gyda mwy o oruchwyliaeth ar yr hyn oedd yn digwydd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y trosglwyddiad a awgrymwyd o £460,000 o gyfalaf heb ei ddyrannu ar gyfer cerbydau fflyd yn ymwneud â rheoli gwastraff. Holodd a oedd hwn yn ddull oedd yn rhoi'r gwerth gorau am arian, o ystyried y sefyllfa ariannol ansicr yr oeddent ynddi. Byddai hwn yn gontract interim dwy flynedd ar gyfer rheoli gwastraff o fis Mawrth 2024, ac ar ôl hynny cymerai y byddai'r cerbydau'n segur. Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol wedi argymell yn unfrydol bod Gwasanaethau Fflyd yn ystyried prydlesu cerbydau a pheiriannau yn hytrach na'u prynu'n llwyr er mwyn penderfynu a allai hyn greu arbedion, o ystyried bod y cerbydau hyn yn saith mlwydd oed ac nad oedd ganddynt ond naw i 10 mlynedd yn unig o oes. Gofynnodd i Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd warantu bod yr holl ddewisiadau wedi cael eu hystyried a bod y cynnig hwn yn cynrychioli gwerth am arian yn hytrach na phrydlesu cerbydau mwy ecogyfeillgar hyd nes y byddai'r contract rheoli gwastraff newydd wedi cael ei ddyfarnu.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd mai contract 2 flynedd oedd y contract gwastraff oedd allan i dendr ar hyn o bryd. Nid oeddent wedi cyrraedd y pwynt i benderfynu ble y byddent yn mynd yn y dyfodol gyda’r mathau o gerbydau fyddai eu hangen a gallai targedau Llywodraeth Cymru newid sut y byddent yn symud ymlaen o 2026 a thu hwnt. Roedd penderfyniad wedi cael ei wneud i fynd am gontract interim 2 flynedd ar gyfer gwastraff ac roedd y dull casglu'n aros yr un fath. Y gost ar gyfer yr holl offer gan gynnwys y cerbydau oedd £460 mil o'i gymharu â'r gost am offer newydd a fyddai'n filiynau. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Cymunedau fod penderfyniad wedi cael ei wneud i gael contract gwastraff interim dwy flynedd yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr o fis Ebrill 2024 hyd at fis Mawrth 2026 ac y byddent wedyn yn edrych ar fodel gwasanaeth newydd ar gyfer y Cyngor. Roedd ansicrwydd ynghylch targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, roeddent yn defnyddio 5 cerbyd casglu sbwriel mawr iawn oedd yn cario gwastraff gweddilliol a 14 o gerbydau ailgylchu oedd yn benodol i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer eu methodoleg casglu ac ni fyddent yn gallu prydlesu na phrynu’r rheiny, felly roedd yn bwysig iawn eu bod wedi eu cael fel rhan o'r contract hwn. Pe bai'r targed ailgylchu’n newid, byddai'n rhaid iddynt gael fflyd wahanol a chyfluniad gwahanol. O 2030 ymlaen byddai datgarboneiddio, ac angen iddynt ystyried cerbydau allyriadau isel iawn ac felly byddai’n anghyfrifol gwario’r arian hwnnw’n awr, gan wybod y gallai’r newidynnau hyn newid.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Cymunedau fwy o fanylion ynghylch yr offer presennol y byddent yn ei gael am y £460 mil, yr oedd rhan sylweddol ohono yn llai na saith mlwydd oed. Roedd o leiaf dair blynedd yn fwy o fywyd yn yr ased a rhan bwysig o agenda 2030 oedd cael y defnydd mwyaf ohono. Byddai'r gost o gael yr holl eitemau o'r newydd yn fwy na £10 miliwn. Roedd hwn yn ddewis doeth oedd yn rhoi gwerth am arian ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y gorwariant a'r cynlluniau wrth gefn a holodd pa mor aml y câi’r rhain eu hadolygu. Cyfeiriodd at Uwchraddiad Waterton oedd â chyllideb o £8.144 miliwn o hyd, er bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Cymunedau wedi dweud nad oedd arnynt eisiau aros yn safle’r depo hwnnw. Cyfaddefodd hefyd fod £3.5 miliwn o'r £8.144 miliwn hwnnw yn ddibynnol ar dderbyniad annhebygol gan Barc Afon Ewenni. Gofynnodd faint o ffydd y gallent ei gael yn y rhaglen gyfalaf pan oedd yn cynnwys prosiectau nad oeddent yn mynd i ddod ar-lein ac â chyllidebau a oedd yn amodol ar eitemau oedd yn annhebygol iawn o gael eu gwireddu.

 

Atebodd y Prif Weithredwr fod byrddau prosiect unigol yn edrych ar risgiau a chynnydd mewn costau ac yn uwchgyfeirio materion i'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn rheolaidd iawn. Roedd yn awgrymu bod angen iddynt wneud mwy na hynny o ran llywodraethu ac felly roeddent yn cynnig Bwrdd Cyfalaf a allai gyfarfod bob yn ail fis o bosibl ac yna adrodd i Fwrdd Rheoli Corfforaethol y Cabinet. Roeddent yn byw mewn cymdeithas chwyddiannol lle roedd angen i’r ffocws ar y rhaglen gyfalaf fod yn fwy mae’n debyg oherwydd ei bod yn amlwg yn risg ariannol i’r sefydliad o ran y costau cynyddol.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cymunedau nad oeddent yn dymuno bod yn Nepo Waterton ond mai realiti'r sefyllfa ariannol oedd na fyddent yn gallu fforddio symud o'r ardal honno yn y dyfodol agos. I gael depo newydd gallai fod angen o leiaf £14 i £15 miliwn ac roedd dyraniad cyllideb o ychydig dros £8 miliwn. Fel y dywedwyd, roedd £3 miliwn o hwnnw'n amodol ar dderbyn cyfalaf o werthu'r tir hwnnw, oedd ers hynny wedi cael ei ddynodi fel mewn parth llifogydd ac felly na allent godi tai preswyl arno. Roedd y dyraniad hwnnw wedi bod yn y rhaglen gyfalaf ers peth amser a byddai'n aros yn £8,000,000. Roedd ganddynt Fwrdd Prosiect oedd yn gweithio ar yr hyn oedd yn bosibl yn y depo hwnnw a ffyrdd o fod yn fwy arloesol. 

 

Nododd Aelod fod dyraniad o £430 mil yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu, yn ychwanegol at yr hanner miliwn a ddyrannwyd y flwyddyn flaenorol. Gofynnodd am eglurder ynghylch sut y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio eleni ac a fyddai asesiad cronnus o ba mor effeithiol y defnyddiwyd yr arian wrth fabwysiadu ffyrdd. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Cymunedau fod yr arian yr oedd yn cyfeirio ato yn ddyraniad unwaith ac am byth o £500,000 ac mai dim ond £70,000 a wariwyd o'r dyraniad hwnnw. Ni allent fabwysiadu llawer o ffyrdd am y £430,000 a chronfa untro o arian ydoedd hon. Roeddent ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd a lonydd heb eu mabwysiadu i ddarganfod pa rai fyddai'n elwa fwyaf er mwyn gwario'r arian yn ddoeth. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelod y byddai’r arian yn cael ei wario ar y gwaith cyfalaf fyddai angen ei wneud ar y ffyrdd hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at Bafiliwn y Grand a’r newid yn y gwariant gwreiddiol o 2022/23 i 2023/24 a gofynnodd a fyddai cau’r Pafiliwn yn cael ei ohirio o ganlyniad i hyn. Gofynnodd hefyd a oedd y penderfyniad wedi cael ei wneud ar leoliad y cyrtiau tennis ym Mharc Griffin.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai Pafiliwn y Grand yn cau rywbryd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn galendr nesaf. Y llinell amser a ragwelwyd oedd y byddent yn gobeithio cyflogi contractwr i ddechrau ar y safle yn chwarter cyntaf y flwyddyn nesaf i gyd-fynd â chau'r safle. Ychwanegodd fod amserlen dynn iawn ar gyfer cyflawni’r prosiect ac ynghyd â nifer o awdurdodau eraill, eu bod yn lobïo am estyniad o flwyddyn o ran cyflawni’r prosiect tan 2026.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd fod gwaith yn dal i gael ei wneud ynghylch lleoliad y cyrtiau tennis ym Mharc Griffin. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i benderfynu ar safle ar gyfer y cyrtiau heb effeithio ar y ffordd, ac roedd y gwaith i ddechrau yn yr hydref. 

 

Cyfeiriodd Aelod at yr addewid a wnaed ym maniffesto Llafur, sef y byddai Llafur a Phen-y-bont ar Ogwr, drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru, yn darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn mis Medi 2023 a gofynnodd a fyddent yn cyflawni’r addewid hwnnw ac os na fyddent, erbyn pryd y gellid ddisgwyl i bob ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod yn darparu prydau ysgol am ddim.

 

Atebodd Aelod y Cabinet dros Addysg fod yr addewid wedi ei rhoi yn wreiddiol yn ôl yn ystod yr etholiad. Yn anffodus, pan ysgrifennwyd yr addewid hwnnw, roedd ar adeg wahanol iawn cyn goresgyniad yr Wcráin ac roedd yr holl broses wedi cymylu. Roedd costau wedi cynyddu, chwyddiant wedi mynd drwy'r to ac roedd wedi golygu eu bod wedi gorfod gohirio eu cynlluniau. Roeddent bellach yn ehangu’r cynnig i blant blwyddyn tri o fis Medi, plant meithrin erbyn Ionawr 24, blwyddyn pedwar yn nhymor yr haf ac wedyn blwyddyn pump a blwyddyn chwech ar gyfer Medi 2024. Roedd yn cymryd ychydig yn hirach na'r disgwyl ac yn hirach na'r gobaith yn wreiddiol.

 

Nododd Aelod y byddai £33.8 miliwn yn dod o arian grant allanol a chroesawodd hyn ac ychwanegodd ei fod yn arwydd da eu bod yn estyn allan i weld pa gyllid oedd ar gael. Gofynnodd sut roedd cronfa Fuddsoddi Bargen Ddinesig Caerdydd yn cyd-fynd â’r tabl hwnnw. Yn Atodiad B roedd sôn am Fargen Ddinesig Caerdydd a £4.9 miliwn ond gofynnodd am ragor o wybodaeth i weld sut y byddai'n cael ei ddyrannu a'r broses o ymgeisio am arian.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid y câi holl arian y brifddinas ei ddangos o fewn cyfanswm y grantiau hynny o £33.8 miliwn. Nid arian Prifddinas-Ranbarth Caerdydd oedd hynny i gyd gan y byddai hefyd yn cynnwys arian gan Lywodraeth Cymru a ffrydiau ariannu eraill. Byddai'n darparu dadansoddiad i'r Aelodau pe bai angen.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Cymunedau fod y grantiau hyn yn eistedd yn bennaf yng Nghyfarwyddiaeth y Cymunedau. Roedd y £33 miliwn yn cynnwys nifer sylweddol o grantiau a gafwyd drwy'r Tîm Adfywio a Datblygu Economaidd, gan gynnwys y cyllid lefelu ar gyfer y pafiliwn. Roeddent wedi derbyn £23 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a dyraniad o £3 miliwn ar gyfer y cynllun Metro ym Mhorthcawl. Cawsant ddyraniad o £3.5 miliwn ar gyfer Heol Ewenni, Maesteg a bron i £800,000 ar gyfer codi tâl am gerbydau allyriadau isel iawn. Roedd tynnu'r £4.9 a grybwyllwyd yn benodol i lawr yn ymwneud â'r grantiau hynny.

 

Dywedwyd wrth Aelod na allai gyflwyno cwestiwn gan ei fod wedi gadael y Siambr pan oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.

 

Gofynnodd Aelod am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Bu’r aelodau’n trafod mynychu cyfarfodydd o bell, sicrwydd eu bod wedi bod yn bresennol ar gyfer y ddadl gyfan, ymddiriedaeth a thryloywder a gofyniad LlC i ddarparu cyfarfodydd hybrid. Gofynnodd yr Aelodau i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adolygu gweithdrefnau wrth symud ymlaen ac adrodd yn ôl i'r Cyngor.

 

Cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi, a’r canlyniad oedd:

 

Dros: Y Cynghorwyr H Bennett, A Berrow, JP Blundell, E Caparros, N Clarke, Chris Davies, HJ David, N Farr, P Ford, J Gebbie, R Goode, H Griffiths, S Griffiths, D Hughes, M Hughes, RM James, P Jenkins, M Jones, M Kearn, W Kendall, J Llewellyn-Hopkins, J Pratt, R Smith, JC Spanswick, R Penhale Thomas, J Tildesley, G Walter, H Williams, R Williams, E Winstanley = 30 pleidlais

 

Yn erbyn: Y Cynghorwyr F Bletsoe, S Bletsoe, S Easterbrook, D Harrison, M John, I Spiller, T Thomas, A Wathan, Amanda Williams, M Williams, T

Wood, E Richards = 12 pleidlais

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i adolygu gweithdrefnau wrth symud ymlaen gyda golwg ar bresenoldeb o bell a phleidleisio mewn cyfarfodydd, ac adrodd yn ôl mewn cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol.

·        Bod y Cyngor yn nodi diweddariad Chwarter 1 o Raglen Gyfalaf y Cyngor 2023-24 hyd 30 Mehefin 2023 (Atodiad A)

·          Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B)

Bod y Cyngor yn nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill a ragwelid ar gyfer 2023-24 (Atodiad C) 

Dogfennau ategol: