Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn cynnig Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol (CPDP) blwyddyn i gefnogi Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor a Fframwaith Perfformiad Corfforaethol wedi’i ddiweddaru i gynorthwyo’r Cyngor i fesur cynnydd arno. Esboniodd fod yr adroddiad yn seiliedig ar lawer o ymgysylltu, ymgynghori ac adborth o amrywiaeth o ffynonellau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan gynnwys gan Aelodau o ran sesiwn briffio aelodau. Roedd yn adlewyrchu rhai o'r awgrymiadau a'r argymhellion gan Aelodau a rhai o'r argymhellion gan Archwilio Cymru ynghylch sut yr oedd yr awdurdod yn rheoli perfformiad wrth symud ymlaen.
Eglurodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad eu bod wedi symud i ddull cynllun cyflawni blynyddol. Ers y sesiwn briffio ddiweddar i'r holl Aelodau, roeddent wedi treulio amser gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i barhau i wneud gwelliannau fel yn y cynllun oedd o'u blaenau. Roedd Cynllun Cyflawni newydd y Cynllun Corfforaethol yn cynrychioli casgliad llawer gwell o wybodaeth ar gyfer llywio'r broses o wneud penderfyniadau a dylai roi darlun cynhwysfawr o gynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol. Amlinellodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad y prif welliannau gan ychwanegu bod y Graddedigion yn ei thîm wedi dechrau ar y gwaith cefndirol ac y ceid diweddariad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gobeithiai fod hon yn ddogfen ddefnyddiol oedd yn esbonio rhai pethau oedd wedi bod yn aneglur yn y gorffennol ac yn amlinellu'n ddefnyddiol rolau a chyfrifoldebau swyddogion ac Aelodau a'r berthynas a'r ddibyniaeth rhyngddynt.
Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i'r Prif Weithredwr, y Rheolwr Polisi a Pherfformiad a'i thîm am ymgysylltu â'r Pwyllgor ac am yr holl waith yr oeddent wedi ei wneud ar y Cynllun Cyflawni a'r Fframwaith Perfformiad. Roedd hwn yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir wrth fynd i'r afael â rhai o'r gwendidau yn ymwneud â rheoli perfformiad, a godwyd gan Archwilio Cymru. Roedd yn ymwybodol mai dyma ddechrau'r broses ac y byddai'r dogfennau'n esblygu, yn hyblyg ac yn rhwydd wrth i'r Cynllun Cyflawni a'r Fframwaith symud i'r cam nesaf. Ychwanegodd, yn hytrach na monitro meysydd gwasanaeth o fewn eu seilos unigol eu hunain, bod angen iddynt fabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol a chysoni gwaith craffu yn fanwl i ganolbwyntio mwy ar berfformiad. Roedd y Tîm Craffu yn gweithio ar fodel arfaethedig ar gyfer hyn, a châi'r dewisiadau eu cyflwyno maes o law.
Diolchodd Aelod i'r swyddogion am yr asesiad gonest o ble yr oedd yr awdurdod a ble yr oedd yn mynd. Cyfeiriodd at y modd yr oeddent wedi defnyddio'r adborth a ddarparwyd gan Archwilio Cymru yn benodol i egluro'n well sut byddai llwyddiant yn edrych i gael ei rannu fel Cyngor, fel trigolion a rhanddeiliaid.
Eglurodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad sut y byddai Cynllun Datblygu'r Cynllun Corfforaethol yn mynd i'r afael â pheth beirniadaeth a rhoddodd nifer o enghreifftiau.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod rhai elfennau yr oeddent yn dal i fod mewn deialog yn eu cylch gydag Archwilio Cymru, lle nad oeddent yn cytuno'n llwyr. Roedd enghreifftiau da iawn o fewn y Cyngor o ddefnyddio data i lywio penderfyniadau strategol, yn enwedig ym maes addysg a chymorth i deuluoedd ac o fewn gofal cymdeithasol, ac roeddent yn credu nad oedd hynny wedi cael ei gydnabod yn ddigonol. Roedd rhai elfennau eraill lle yr oeddent wedi ystyried y sylwadau a lle roedd angen gwella.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Tîm oedd wedi gweithio ar hyn ac i'r Pwyllgorau Craffu, Aelodau'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol am eu mewnbwn. Roedd yn cydnabod y byddent yn parhau i weithio ar ddata meintiol a dangosyddion ac y byddai'r cynllun yn parhau i esblygu gyda blaenoriaethau newydd.
Gofynnodd Aelod pa fecanweithiau oedd ar waith i wneud yn si?r bod data’n gywir. Amlinellodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad y ddwy brif ffordd y byddent yn gwneud hynny yn y blynyddoedd i ddod.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:
· wedi ystyried a chytuno ar ddrafft cyntaf Cynllun Cyflawni Cynllun Corfforaethol 2023/24 yn Atodiad 1
wedi ystyried a chytuno ar y Fframwaith Perfformiad Corfforaethol wedi'i ddiweddaru yn Atodiad 2 a’r ffordd orau i ddefnyddio'r ddogfen ar draws y Cyngor.
Dogfennau ategol: