Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol adroddiad ar y trefniadau craffu arfaethedig ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg. Esboniodd, er mwyn lleihau dyblygu a’i gwneud yn bosibl cydweithio’n fwy effeithiol, fod y ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd yn eu lle ar y pryd o fewn yr ôl troed wedi symud ymlaen i uno er mwyn creu BGC newydd ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg. Byddai’r uno hwn yn galluogi’r BGC i alinio ag ôl troed y bwrdd iechyd wrth symud ymlaen.
Eglurodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol, er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd y BGC, fod gofyniad statudol wedi cael ei nodi yn y ddeddfwriaeth a chanllawiau i Bwyllgor Craffu dynodedig Llywodraeth Leol yr awdurdod perthnasol graffu ar waith y BGC.
Amlinellodd y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol yr aelodaeth a’r trefniadau arfaethedig ar gyfer Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwm Taf Morgannwg a chyfeiriodd sylw’r Aelodau at y Cylch Gorchwyl Drafft, a fyddai, unwaith y cytunwyd arno, yn cael ei adolygu o bryd i’w gilydd, er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r diben. Awgrymwyd y dylid symud ymlaen i benodi’r Cadeirydd yn flynyddol, ond er mwyn cael mwy o gysondeb cynigiwyd nad oedd angen cylchdroi penodiadau rhwng awdurdodau yn flynyddol ac y gellid ailbenodi cadeirydd presennol. Cynigiwyd symud y trefniant hwn yn ei flaen am gyfnod o ddwy flynedd cyn cynnal adolygiad o'r trefniant.
Cyfeiriodd Aelod at bwynt 3.12 yn yr adroddiad ynghylch penodi’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ac awgrymodd ei bod yn bwysig i awdurdodau cyfansoddol gael cyfran o berchnogaeth yn y corff newydd hwn ac y dylid dod â chylchdroi i mewn, o leiaf bob 3 blynedd, i fod o gymorth i roi aeddfedrwydd ychwanegol i'r corff. Derbyniai’r ddadl y byddai arbenigedd yn cael ei ennill ond roedd yna wrthddadl, ac awgrymodd welliant.
Eglurodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol y gofynnwyd i'r Cyngor gymeradwyo'r Cylch Gorchwyl Drafft a gwneud unrhyw sylwadau pellach fel y teimlent yn briodol ac felly nad oedd angen newid ar hyn o bryd gan y byddai unrhyw sylwadau'n cael eu cymryd i fyny gan y BGC a chraffu. Byddai'n cael ei adolygu o bryd i'w gilydd i sicrhau ei fod yn addas i'r diben.
Gofynnodd Aelod pa gymorth y gallai aelodau etholedig ddisgwyl ei gael i sicrhau y gallent graffu’n briodol ar waith y BGC. Atebodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol, Adnoddau Dynol a Pholisi Corfforaethol y byddent yn trefnu hyfforddiant fel y nodir yn y Cylch Gorchwyl ac y byddent yn cysylltu â'r Comisiynydd Llesiant i weld beth oedd ar gael.
Atebodd Aelod y Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio ei fod ef a’r Arweinydd wedi cael cyfarfod cynhyrchiol iawn gyda Chomisiynydd newydd Cenedlaethau’r Dyfodol ychydig wythnosau ynghynt lle buont yn trafod y cymorth a gynigir i awdurdodau lleol ac i Aelodau etholedig gan Swyddfa’r Comisiynydd. Cytunasant i drefnu hyfforddiant ynghylch y ffordd y dylai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gael ei hymgorffori mewn awdurdodau lleol. Roedd yn bwysig sicrhau bod yr Aelodau, fyddai’n cymryd rhan yn y craffu hwn, yn meddu ar y ddealltwriaeth hon o nodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:
· wedi cytuno i greu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cynnwys Aelodau Etholedig o Gynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg;
· yn cymeradwyo Cylch Gorchwyl Drafft Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, fel y nodir yn Atodiad 1 ac wedi gwneud sylwadau pellach.
· wedi penderfynu ar aelodau Statudol y BGC (anweithredol) a ‘chyfranogwyr gwadd’ i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig ar Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf fel yr amlygwyd yn adran 3 yr adroddiad.
· yn cytuno i symud ymlaen â threfniadau'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd, a amlygwyd yn adran 3 yr adroddiad, gan gychwyn o ddechrau Blwyddyn Gyngor 2023/24.
· wedi cytuno y byddai'r cymorth a'r trefniadau gweinyddol, a amlygwyd yn adran 3 yr adroddiad, yn cael eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, am gyfnod o 2
flynedd, yn cychwyn o ddechrau Blwyddyn Gyngor 2023/24 cyn cynnal adolygiad o’r trefniadau.
wedi cytuno y dylid darparu hyfforddiant ar gyfer pob Aelod o Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu BGC Cwm Taf Morgannwg i'w cynorthwyo i gyflawni eu rôl newydd.
Dogfennau ategol: