Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn hysbysu’r Aelodau bod lleoedd gwag ar gyfer Aelodau Annibynnol ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor a bod angen penodiadau i lenwi’r swyddi gwag hyn. Hefyd yn dilyn adborth o gyfarfod o'r Pwyllgor Safonau, fe argymhellwyd cyflwyno adroddiad i'r Aelodau i gadarnhau cylch gorchwyl y Pwyllgor a'r cefndir deddfwriaethol.
Amlinellodd y Swyddog Monitro rôl a swyddogaethau'r Pwyllgor fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd y Cyngor eisoes wedi cymeradwyo cynyddu aelodaeth y Pwyllgor i 8 aelod, oedd yn ychwanegu Aelod annibynnol ychwanegol at y cyfansoddiad. Roeddent wedi cael gwybod yn ddiweddar am farwolaeth drist Mr Jeff Baker, oedd yn aelod annibynnol ac yn fwy diweddar, roeddent wedi derbyn ymddiswyddiadau Mrs Judith Keeley a Mr Cliff Jones, y ddau yn aelodau annibynnol. Roedd gan y Pwyllgor, felly, 4 lle gwag ar gyfer aelodau annibynnol.
Eglurodd y Swyddog Monitro fod y panel, yn dilyn proses gyfweld drylwyr, wedi argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r penodiadau canlynol: Mr Peter Baker, Miss Sue Maughan, Mr Roy Lynch a Mr Shawn Cullen. Eisteddodd y Cyng Graham Walters ar y panel cyfweld a chadarnhaodd fod y rhain yn ymgeiswyr addas.
Gofynnodd Aelod a oedd yn gywir mai dim ond un ferch oedd yn cael ei phenodi a gofynnodd pa gamau oedd yn cael eu cymryd i ddenu mwy o ferched pan fyddai swyddi gwag yn codi yn y dyfodol.
Atebodd y Swyddog Monitro fod 3 neu 4 ymgeisydd wedi bod ar y dechrau ond mai 1 oedd wedi aros i'r cam cyfweld gan fod y lleill wedi tynnu'n ôl o'r broses.
Eglurodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn eithaf pryderus oherwydd y byddai'r Pwyllgor hwn yn edrych ar safonau ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer pob rhyw ac mai dim ond un ferch oedd yna. Roedd y penodiadau hyn am bedair blynedd ac roedd angen iddynt annog gwell cynrychiolaeth o blith y trigolion.
Atebodd y Swyddog Monitro fod yna reoliadau yr oedd angen iddynt eu dilyn wrth hysbysebu, a dywedai’r rhain pwy oedd yn gymwys ac wedyn roeddent wedi gosod yr hysbysebion priodol a'u cylchredeg i awdurdodau lleol eraill. Ni chawsant ymateb gwych i'r pedair swydd wag ond teimlai fod yr ymgeiswyr yn fwy amrywiol o ran eu proffil oedran, y ddemograffeg, eu gyrfaoedd a’r lle yr oeddent yn byw ac felly bod yna well cydbwysedd yn awr.
Cytunodd Aelod gyda'r Dirprwy Arweinydd a thynnodd sylw at y ffaith, o ran penodiadau gwleidyddol, fod hynny o fewn gallu Arweinwyr Grwpiau. Ychwanegodd nad oedd gan ei gr?p ef gynrychiolaeth ar y Pwyllgor hwnnw.
Nododd Aelod y gallai fod diffyg amrywiaeth ar draws cyfansoddiad y panel ac awgrymodd yn y dyfodol, wrth edrych ar hyrwyddo'r cyfleoedd hyn, eu bod hefyd yn cysylltu â sefydliadau fel Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru, Stonewall a Chyngor Hiliaeth Cymru i gael mwy o amrywiaeth.
Gofynnodd aelod i Aelodau'r Pwyllgor Safonau, ar wahân i ryw, ai'r bobl a benodwyd oedd y bobl orau yn eu barn hwy i gyflawni'r rôl y gofynnwyd iddynt ei chyflawni. Cadarnhaodd y Cynghorydd Walter mai dyna oedd y gwir. Roedd pedwar ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf allan o'r bobl y gwnaethant eu cyfweld.
Cadarnhaodd y Cyng M Williams ei fod ef wedi gorfod tynnu'n ôl o'r broses ddethol oherwydd bod ganddo fuddiant rhagfarnus ond rhoddodd sicrwydd i'r holl Aelodau fod y rownd gyntaf wedi bod yn eithaf cryf ac y byddai pwy bynnag a ddeilliai o hynny yn mynd i fod yn dda. Roedd yn siomedig bod yr ymgeiswyr benywaidd wedi tynnu'n ôl am ba reswm bynnag a chefnogai amrywiaeth cyn belled â bod y bobl yn gymwys i wneud y swydd.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:
§ yn nodi cylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau a'r cefndir deddfwriaethol yr oedd y Pwyllgor yn gweithredu ynddo;
§ wedi penodi'r Aelodau Annibynnol a amlinellwyd ym mharagraff 3.2 o'r adroddiad i ddod i rym ar unwaith am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd;
yn nodi y câi'r Cadeirydd ei benodi yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau.
Dogfennau ategol: